Mae fersiwn liw llawn pdf o Asesiad effaith cydraddoldeb i ymgynghori arno’r Comisiwn Elusennau ar wasanaethau ar-lein.
Cynnwys
1. Beth yw Asesiad Effaith Cydraddoldeb?
2. Pam ein bod ni’n ymgynghori?
3. At bwy yr anelwyd yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb hwn?
4. Pa effeithiau sydd wedi cael eu dynodi?
5. Sut mae’r broses ymgynghori yn gweithio?
6. Ynglyn â’r Comisiwn Elusennau
7. Datblygu ar-lein tu allan i’r Comisiwn Elusennau
8. Hanes yn y Comisiwn
9. Y cam nesaf
10. Ymrwymiadau statudol
11. Proses Asesiad Effaith Cydraddoldeb
12. Tystiolaeth a ystyriwyd, canfyddiadau cychwynnol, cwestiynau allweddol
13. Ffynonellau help cyffredinol
14. Iaith
15. Anabledd
16. Oedran
17. Materion ategol a ddynodwyd
18. Cwestiynau allweddol
19. Sut, ble a phryd i anfon sylwadau
20. Sut y byddwn yn trin y wybodaeth a roddir
21. Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori?
22. Rhagor o wybodaeth
ATODIAD A. DEDDFWRIAETH GYDRADDOLDEB BERTHNASOL
1. Beth yw Asesiad Effaith Cydraddoldeb?
Asesiad Effaith Cydraddoldeb yw un o’r ffyrdd y mae’r Comisiwn Elusennau yn sicrhau ei fod yn cyflawni ei ymrwymiadau statudol i ddarparu cydraddoldeb cyfle. Mae’n broses sy’n ein galluogi i ymgynghori ar faterion penodol i asesu eu heffaith ar ein cwsmeriaid. Mae’r Comisiwn yn ymroddedig i’r safonau uchaf o ran gwasanaeth cwsmeriaid, i’n holl gwsmeriaid, a rhaid i’n gwasanaethau esblygu gyda hyn mewn golwg.
2. Pam ein bod ni’n ymgynghori?
Mae’r Comisiwn Elusennau eisoes yn cynnig dewis ar-lein ar gyfer nifer o’i wasanaethau ac mae ystod a soffistigedigrwydd ein cynnig ar-lein yn parhau i gynyddu. Ar hyn o bryd mae dulliau mwy traddodiadol o ddefnyddio gwasanaeth penodol ar gael o hyd, er enghraifft ffurflen bapur.
Yn unol â safbwynt polisi1 cyhoeddedig y Llywodraeth, ac yn yr un modd ag adrannau eraill y llywodraeth, mae’r Comisiwn yn awr yn ceisio symud i sefyllfa lle bydd y rhan fwyaf o’n rhyngwyneb gyda chwsmeriaid yn digwydd ar-lein. Mae hyn yn golygu y bydd rhai dulliau copi caled traddodiadol o wneud busnes yn cael eu dirwyn i ben.
Mae nifer o fanteision i’r cwsmer, y Comisiwn a’r amgylchedd o symud tuag at wasanaethau ar-lein. Ond, bydd defnydd cynyddol o ddewisiadau ar-lein a dirwyn rhai o’r dulliau gweithredu cyfredol i ben yn cael effaith ar ein cwsmeriaid.
3. At bwy yr anelwyd yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb hwn?
Mae prif ffocws yr Asesiad Effaith hwn ar ymddiriedolwyr a gweithwyr elusennau sy’n defnyddio ein gwasanaethau a’u cynghorwyr proffesiynol.
4. Pa effeithiau sydd wedi cael eu dynodi?
Ni ddarganfu ein sgrinio cychwynnol unrhyw effeithiau negyddol o ran rhyw, hil, crefydd neu gred, tueddfryd rhywiol, nag ar ofalwyr.
Ond, rydym wedi dynodi rhai problemau ac effeithiau posibl o ran cyfathrebu, boed hyn yn gysylltiedig â’r ffaith nad Saesneg yw’r iaith gyntaf neu anawsterau cyfathrebu eraill yn ymwneud ag anabledd ag oedran.
Mae rhai problemau hefyd ynglyn â pherchenogaeth yr unigolyn ar dechnoleg neu fynediad ato; efallai na fydd ymddiriedolwr unigol neu ohebydd yn medru cael mynediad at y rhyngrwyd neu ei defnyddio oherwydd:
- Nid ydynt yn berchen ar gyfrifiadur
- Mae ganddynt fynediad at gyfrifiadur ond nid ydynt yn gwybod sut/nid ydynt erioed wedi defnyddio’r rhyngrwyd. Dynodwyd oedran fel problem arbennig yma gyda’r rhyngrwyd yn cael ei gweld fel rhywbeth sy’n fwy o her i ddefnyddwyr hyn.
Fe ddylid nodi, fodd bynnag, bod yr Asesiad Effaith hwn yn bennaf yn ymwneud ag effeithiau posibl ar grwpiau sydd â nodweddion cyffredin a ddiogelir dan y gyfraith ac y mae gennym ddyletswyddau penodol i’w cyflawni iddynt fel darparwr gwasanaeth sector preifat. Nid yw hyn yn golygu na fyddem yn chwilio am atebion o ran help a chyfarwyddyd pan fyddwn yn dynodi problemau yn ymwneud â diffyg offer yn y cartref ar gyfer cael mynediad at wasanaethau ar-lein er enghraifft. Ond ein prif ffocws yw dynodi effeithiau, a phan fydd yr effeithiau hynny yn debygol o fod yn negyddol i’r grwpiau a ddynodwyd, edrych ar ddulliau o leddfu’r broblem pan allwn ni wneud hynny.
Mae’r Asesiad Effaith hwn yn nodi'r effeithiau a ddynodwyd hyd yn hyn, ynghyd â’r trefniadau sydd wedi eu gweithredu, neu a gynllunnir, i’w lleddfu.
Byddem yn croesawu barn cwsmeriaid, gyda thystiolaeth i gefnogi, ar y materion hyn, i sefydlu:
- a ydym wedi dynodi’r holl broblemau cydraddoldeb allweddol, o ran darparu gwasanaethau ar-lein;
- a ydym wedi ymdrin yn llwyddiannus â lleddfu unrhyw effeithiau ar gydraddoldeb sy’n codi neu a oes gennym gynlluniau yn eu lle a fydd yn gwneud hynny yn effeithiol;
- a oes unrhyw broblemau eraill y dylem ymdrin â hwy eto, i sicrhau wrth i’r Comisiwn symud tuag at ragor o ddefnydd o wasanaethau ar-lein bod ein holl gwsmeriaid yn parhau i fedru defnyddio ein holl wasanaethau; a
- a oes unrhyw effeithiau cadarnhaol o ganlyniad i gynnydd mewn gwasanaethau ar-lein.
Gweler adran 18 am rai cwestiynau allweddol.
5. Sut mae’r broses ymgynghori yn gweithio?
Mae’r broses ymgynghori yr ydym yn ei dilyn yn unol â’r Meini Prawf Ymgynghori yn y Cod Ymarfer a weithredir gan yr Adran Busnes Blaengaredd a Sgiliau. Os ydych yn dymuno cael mynediad at y fersiwn lawn o’r Cod, gallwch ei gael yn:
http://www.bis.gov.uk/policies/better-regulation/consultation-guidance
Mae Adran 19 o’r ddogfen hon yn rhoi mwy o fanylion ar sut i gofrestru eich barn. Sylwer y gall gwybodaeth a ddarperir fel ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth. Rhoddir rhagor o wybodaeth yn adran 20.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn parhau am 12 wythnos. Y dyddiad olaf i sylwadau gael eu codi gyda’r Comisiwn Elusennau yw 29 Hydref. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau a dderbyniwyd.
Defnyddir yr adborth fel sail ar gyfer y ffordd y bydd y Comisiwn Elusennau yn gweithredu ein rhaglen gwasanaethau ar-lein.
6. Ynglyn â’r Comisiwn Elusennau
Y Comisiwn Elusennau sy’n cofrestru a rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn cynnig cyngor iddynt ac amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfarwyddyd i’w helpu i fodloni eu hymrwymiadau cyfreithiol a rhedeg mor effeithiol â phosibl. Rydym hefyd yn cadw’r Gofrestr elusennau ar-lein sy’n rhoi gwybodaeth am bob un o’r miloedd o elusennau cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.
Mae dros 180,000 o elusennau yng Nghymru a Lloegr ac maent yn amrywio o grwpiau bychain lleol i elusennau mawr iawn yn gweithredu ar raddfa ryngwladol. Nid yw’n ofynnol i elusennau bach iawn gydag incwm o lai na £5k y flwyddyn gofrestru ac mae graddfa symudol o ran gofynion cyfrifyddol ac adrodd lle disgwylir am ragor gan elusennau mwy.
7. Datblygu ar-lein tu allan i’r Comisiwn Elusennau
Mae nifer gynyddol o wasanaethau cyhoeddus a masnachol yn awr yn cael eu defnyddio naill ai yn gyfan gwbl neu yn rhannol ar-lein. Nid yw’r papur hwn yn ceisio darparu dadansoddiad manwl o’r duedd hon, sydd â digon wedi ei ysgrifennu amdani, er bod cipolwg cryno i roi cyd-destun yn berthnasol.
Yn y byd masnachol mae yswiriant, bancio, gwestai/trefnwyr teithiau, a chwmnïau’r cyfleustodau oll yn gweithredu ar-lein a gellir siopa bwyd sylfaenol hefyd gydag enwau amlwg ynghyd â chyflenwyr llai, mwy arbenigol. Mae’r dewis o fedru gweithredu ar-lein wedi symud o fod ar y cyrion i’r canol ac mae’n gynyddol yn cael ei weld yn ffordd arferol o gyflawni llawer iawn o drafodion. Mae 58% o oedolion y Deyrnas Unedig yn awr yn prynu nwyddau neu wasanaethau ar-lein2.
Mae disgwyl hefyd y bydd y dewis ar-lein yn rhoi rhai manteision i’r cwsmer – prisiau rhatach, cyfraddau llog mwy ffafriol, dewisiadau ‘ar y we yn unig’. Cymerir hefyd y bydd gwasanaeth cyflymach, sydd ar gael 24/7 ar gael.
Yn y byd cyhoeddus, gellir cael mynediad at basbortau, trwyddedau gyrru, ffurflenni treth a phob math o wasanaethau llywodraeth leol a chenedlaethol ar-lein. Dim ond ar-lein y mae rhai dewisiadau ar gael, ee llenwi ffurflenni treth corfforaethol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Mae’r e-isadeiledd yn y Deyrnas Unedig yn parhau i dyfu. Mae 38.8 miliwn yn defnyddio’r rhyngrwyd yn y Deyrnas Unedig yn awr3 ac mae 70% o aelwydydd ar-lein4 . Yn 2008 roedd hi’n cael ei hystyried yn hanfodol i aelwydydd gyda phlant o oedran ysgol gael cyfrifiadur, erbyn hyn mae’n cael ei hystyried yn hanfodol i’r rhan fwyaf o aelwydydd5. Ond mae tua 10 miliwn o oedolion sydd heb erioed gael mynediad ar y rhyngrwyd6.
8. Hanes yn y Comisiwn
Fe roddodd y Comisiwn Elusennau’r Gofrestr Elusennau ar-lein yn Ebrill 1996 ac ers hynny gwelwyd cynnydd blynyddol yn ystod y deunydd sydd ar gael i’w weld neu ei lawr lwytho.
Cynigiwyd dewisiadau rhyngweithiol ar-lein yn gynyddol gyda ffurflenni poblogaidd ar gael i’w hargraffu yn gyntaf ac yna i’w cyflwyno ar-lein.
Mae gennym yn awr ddewisiadau ar-lein ar gyfer Ffurflenni/Cyfrifon Blynyddol, ceisiadau cofrestru fel elusen, ac amrywiaeth o ddewisiadau a ddefnyddir yn aml, ee newidiadau i ddogfennau llywodraethol a diddymu.
Mae’r dewisiadau hyn yn boblogaidd ac mae nifer helaeth yn eu defnyddio. Er enghraifft, ar adeg ysgrifennu hwn mae 80% o’r ffurflenni blynyddol yn cael eu cyflwyno ar-lein ac mae 68% o’r ceisiadau am gofrestru elusen yn cael eu gwneud ar-lein; mae’r defnydd yn cynyddu trwy’r amser.
9. Y cam nesaf
Mae’r Comisiwn Elusennau yn awr yn dymuno gwneud y dewis ar-lein fel y prif gyfrwng o gynnal busnes gyda ni ac i symud oddi wrth y dewisiadau eraill traddodiadol.
Ar gyfer mwyafrif helaeth y cwsmeriaid, sydd eisoes yn defnyddio’r dewis ar-lein, ni fydd y dewis hwn yn cael unrhyw effaith. Ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn defnyddio’r dewis ar-lein bydd yn gofyn am newid arferion. Gall gallu rhai grwpiau, sydd â nodweddion cyffredin sy’n cael eu diogelu, i wneud y newid hwnnw gael ei atal a nod yr asesiad hwn yw ceisio dynodi’r anawsterau a chynnig atebion.
10. Ymrwymiadau statudol
Rhestrir y ddeddfwriaeth Cydraddoldeb berthnasol yn Atodiad A o’r ddogfen hon.
11. Proses Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Yn fuan ar ôl penderfynu symud rhagor o wasanaethau’r Comisiwn Elusennau ar-lein, cynhaliwyd sgrinio Asesiad Effaith Cydraddoldeb cychwynnol. Dynododd y sgrinio hwn yr angen am ymgynghori yn fwy eang.
12. Tystiolaeth a ystyriwyd, canfyddiadau cychwynnol, cwestiynau allweddol
Wrth gynnal yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb hwn, mae’r Comisiwn Elusennau wedi ystyried amrywiaeth o ddata a chanfyddiadau ymchwil o fewn y Comisiwn ac a gynhaliwyd gan adrannau eraill y llywodraeth a chyrff ymchwil/ystadegol.
O ganlyniad i hyn i gyd, y prif broblemau cydraddoldeb a ddynodwyd hyd yn hyn yw:
- Cyfathrebu /iaith (a all fod yn gysylltiedig ag anabledd neu ethnigrwydd)
- Anabledd
- Oedran
Mae materion ategol hefyd o ran perchenogaeth ar gyfrifiaduron a/neu ddiffyg sgiliau neu hyder.
13. Ffynonellau help cyffredinol
Cyn edrych ar bob problem yn ei thro, mae’n werth ystyried rhai o’r adnoddau sydd ar gael i helpu pob iunigolyn nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur, neu sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio’r rhyngrwyd am ba bynnag reswm. Mae’r rhain yn berthnasol ar draws yr holl ystod o broblemau.
Mae help ar gael i holl ddinasyddion y Deyrnas Unedig o nifer o ffynonellau, er enghraifft gall mynediad i’r rhyngrwyd yn aml fod ar gael mewn:
- Llyfrgelloedd lleol
- Canolfannau cymunedol
- Ysgolion
- Canolfannau UKOnline – mae 6000 o’r rhain yn awr.
Mae llawer o’r uchod yn rhoi cyngor a chefnogaeth yn ychwanegol at y mynediad sydd am ddim yn aml.
Mae rhai darparwyr masnachol yn cynnig mynediad i’r rhyngrwyd, ee caffi rhyngrwyd.
Mae’r fenter RaceOnline 2012 yn anelu at gael miliwn yn fwy o ddefnyddwyr ar-lein erbyn 2012 ac mae’n cael cyrff i fod yn bartneriaid iddynt i gyflawni hyn. Mae pecynnau offer ar gyfer cyrff cefnogi i helpu eraill i fynd ar-lein ac mae nifer gynyddol o raglenni a mentrau fel Everybody Online ac wythnos Get Online.
Mae natur gyfweithiol gwaith elusennol hefyd yn bwysig. Nid yw ymddiriedolwyr yn gweithio yn ynysig, y lleiafswm ar unrhyw gorff ymddiriedolwyr yw tri unigolyn ac mae’r rhan fwyaf o gyrff ymddiriedolwyr yn fwy. Os bydd un neu fwy o’r ymddiriedolwyr yn cael anawsterau yna gellir gofyn i ymddiriedolwyr eraill wneud cyflwyniadau ar-lein ar eu rhan i gyd. Mae’r holl ymddiriedolwyr yn gweithredu fel corff ac yn union fel y byddai un ymddiriedolwr, ar un adeg yn cael y dasg o ysgrifennu at y Comisiwn ar ran y lleill yna yn awr gellir gofyn iddo ef/hi ddefnyddio gwasanaeth ar-lein.
Mae llawer o elusennau eu hunain ar-lein ac mae gan y rhan fwyaf o elusennau sy’n cynnal swyddfa neu yn cyflogi staff ddigon o fynediad rhyngrwyd yn barod.
Mae’n cael ei gydnabod yn eang bod cefnogaeth ar y ffôn i unigolyn sy’n defnyddio’r dewis ar-lein yn rhan bwysig o unrhyw wasanaeth ar-lein. Bydd y Comisiwn Elusennau yn parhau i redeg canolfan gyswllt a darparu cefnogaeth ar y ffôn. Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth cyfieithu sy’n bodoli i gwsmeriaid nad ydynt yn medru siarad Saesneg a’r gwasanaeth Ffôn testun ar gyfer galwyr sy’n cael trafferth clywed a siarad.
14. Iaith
Ar hyn o bryd yr unig ofyn cyfreithiol o ran iaith yw y dylai’r Comisiwn Elusennau ddarparu gwasanaeth Cymraeg. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith ychwanegol at y Saesneg; ac mae cyfarwyddeb UE ar wahân yn annog (ond nid yn gorfodi) y defnydd o ieithoedd sy’n gynhenid i wladwriaethau unigol yr UE.
Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn Elusennau yn darparu cyfieithiadau Cymraeg o’n cyfarwyddyd craidd a deunydd arall sydd ag apêl eang (mae’r ystod lawn o gyfarwyddyd ‘CE’ ar gael yn Gymraeg). Mae rhai o’n staff yn siarad Cymraeg, gall ein canolfan gyswllt dderbyn galwadau yn Gymraeg, a gallwn ohebu yn Gymraeg. Sylwer bod gennym swyddfa Cymru hefyd yng Nghasnewydd.
Cyn belled ag y mae ieithoedd nad ydynt yn gynhenid i’r Deyrnas Unedig yn y cwestiwn, nid oes gwybodaeth ar y niferoedd o gwsmeriaid y Comisiwn y mae eu gafael ar y Saesneg yn annigonol iddynt ymwneud â ni. Mae ein canolfan gyswllt yn darparu gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn yn cynnwys 150 o ieithoedd lle gellir darparu cyfieithwyr yn gyflym iawn.
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl sy’n siarad Saesneg fel ail iaith, o angenrheidrwydd, yn ei siarad yn wael. Na chwaith y bydd yr angen i ymwneud â ni ar-lein yn creu problem, lle nad oedd un yn bodoli o’r blaen - mae cwsmer y bydd ei anawsterau yn deillio o Saesneg llafar neu ysgrifenedig gwael yn debygol o brofi'r un anhawster gyda chysylltiadau ar bapur ag y bydd ef/hi gyda’r dewis ar-lein.
Mae amrywiaeth o atebion ar gael i gwsmeriaid y mae eu gafael ar Saesneg ysgrifenedig a/neu lafar yn ei gwneud yn anodd iddynt, ee gweithio gyda chydweithiwr, ffrind neu aelod o’r teulu gyda gwell dealltwriaeth o’r Saesneg, i lenwi neu gyflwyno ffurflenni ar-lein.
Nid oes unrhyw gynlluniau i wneud gwasanaethau ar-lein ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd heblaw Saesneg a Chymraeg: byddai gwneud hynny yn ddefnydd anghymesur o arian cyhoeddus a byddai, beth bynnag, yn groes i bolisi’r Llywodraeth (lle mae’r pwyslais ar annog y rhai a ymfudodd yn ddiweddar i ddysgu a defnyddio Saesneg fel eu prif iaith wrth ymdrin â chyfrifoldebau yn y sector cyhoeddus).
15. Anabledd
Cododd y sgrinio Asesiad Effaith Cydraddoldeb cychwynnol rai cwestiynau pwysig ar effaith y symudiad tuag at wasanaethau ar-lein ar ein cwsmeriaid anabl. Mae’r ddeddfwriaeth Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn unigolyn anabl wrth ddarparu gwasanaethau, pan fydd yr effaith yn cyfateb i wneud defnyddio’r gwasanaeth hwnnw yn amhosibl neu yn afresymol o anodd. Mewn achosion o’r fath, mae dyletswydd i gymryd camau rhesymol i newid polisi, arfer neu weithdrefn fel na fydd bellach yn cael yr effaith hwnnw. Mae dyletswydd hefyd i wneud trefniadau dros dro, pan na fydd ein gwasanaethau ar gyfer pobl anabl ar gael. Mae’n anghyfreithlon hefyd gwahaniaethu yn erbyn y rhai sydd ag anabledd neu nad oes ganddynt anabledd.
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu Ar Sail Anabledd yn diffinio unigolyn anabl fel rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a thymor hir ar ei allu ef/hi i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Mae’n anodd cael ffigyrau pendant gan fod yr amcangyfrifon yn amrywio, ond mae’n ymddangos bod rhywle rhwng 15% a 20% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn anabl.
Ni fydd rhai anableddau, gan ddibynnu ar eu natur a’u difrifoldeb, yn cael dim neu fawr iawn o effaith ar allu’r cwsmer i gael mynediad at wasanaeth, boed ar bapur neu ar-lein. Mae’r symudiad tuag at wasanaethau ar-lein yn fwyaf tebygol o effeithio ar unigolion gyda’r anableddau canlynol:
- Nam Gweledol, a allai effeithio ar eu gallu i ddeall a llenwi ffurflenni yn gywir a rhwydd.
- Crydcymalau, a allai, os bydd y cyflwr wedi datblygu ac yn effeithio ar y breichiau, gael effaith ar y gallu i ddefnyddio beiro neu gyfrifiadur.
- Amrywiol ffurfiau ar anabledd dysgu, a allai gael effaith ar y gallu i ddeall a defnyddio cyfrifiaduron.
- Ac mae gan tua 4-10% o’r boblogaeth yn gyffredinol ddyslecsia/ ddyspracsia.
Mae anableddau eraill a all gael effaith ar werth yr help yr ydym yn ei ddarparu fel arfer – er enghraifft:
- Pobl sydd wedi colli rhywfaint o’u clyw – a all ei gwneud hi’n anos iddynt dderbyn help a chefnogaeth ar y ffôn.
- Pobl gydag amrywiaeth o namau corfforol sy’n ei gwneud yn anodd iddynt deithio neu i fynd i mewn i adeiladau neu o’u cwmpas, ac felly mae’n anos iddynt fynd i ganolfan ar-lein neu debyg am help.
Mae gan y Comisiwn Elusennau gyfleuster ‘typetalk’ sy’n rhoi mynediad at gynghorwyr y Comisiwn ar gyfer galwyr sydd â nam ar eu clyw neu eu lleferydd, ac mae’n cynnig dolen ar ein gwefan i ddefnyddwyr lawr lwytho Browsealoud, offeryn am ddim sy’n galluogi defnyddwyr i roi llais i’n gwefan.
Mae rhai cwsmeriaid anabl yn croesawu’r rhyngrwyd, fel eu cyfrwng i gyrraedd annibyniaeth ac, yn arbennig i’r rhai sydd â phroblemau symud, fel eu dolen gyswllt â’r byd tu allan. Awgryma’r adborth bod y problemau yn ymwneud â gwneud y rhyngrwyd mor rhwydd iddynt ei defnyddio â phosibl, gyda’r gwasanaeth yn medru cael ei addasu i sicrhau’r hygyrchedd mwyaf posibl a’r gallu i’w addasu ar gyfer eu hanghenion penodol.
Er bod rhai defnyddwyr anabl yn croesawu’r rhyngrwyd, maent yn cael anhawster i’w defnyddio, er gwaethaf y swyddogaethau mynediad ac eraill y mae darparwyr wedi sicrhau eu bod ar gael. Yn aml y rheswm am hyn (ond nid bob amser) yw offer y defnyddiwr ei hun, sydd weithiau yn hen, ac felly yn creu anawsterau i’r defnyddwyr hynny wrth ryngweithio gyda gwasanaethau ar-lein penodol.
Hyd yn oed gyda’r holl nodweddion hygyrchedd y gall cyflenwr gwasanaeth ar-lein eu darparu, a’r offer diweddaraf gan y defnyddiwr, fe ellir cael anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaeth ar-lein. Mae’r rhain yn codi yn bennaf oherwydd natur yr anabledd – er enghraifft, crydcymalau yn y dwylo, arddyrnau neu ysgwyddau, sy’n gwneud defnyddio llygoden neu fysell yn boenus i’r cwsmer. Mae cynnyrch ar gael ar y farchnad a all helpu, ond efallai na fydd y rhain yn addas i bob cwsmer sydd â’r anableddau hyn, fyddai’n gadael rhai fyddai’n dal i’w chael yn anodd. Mae’n debyg y byddai’r cwsmeriaid hyn yn cael problemau tebyg wrth ddefnyddio beiro i lenwi ffurflen bapur.
O safbwynt technegol, ychydig iawn allwn ni ei wneud pan fydd y brif broblem yn ymwneud ag offer y defnyddiwr anabl ei hun. Yma, efallai mai’r ateb fyddai gwneud trefniadau eraill i’r cwsmer anabl gyflwyno gwybodaeth ar-lein – naill ai trwy gyfrifiadur ffrind neu aelod o’r teulu (gyda’r ffrind neu aelod o’r teulu yn rhoi’r manylion i mewn, os nad yw’r cyfrifiadur wedi ei osod i’r cwsmer anabl ei ddefnyddio). Gallai’r un ystod o atebion a amlinellir ym Mhara 13 fod yn berthnasol i gwsmeriaid anabl nad oes ganddynt gyfrifiadur na mynediad rhwydd at un.
Dyluniwyd gwefan y Comisiwn Elusennau i gydymffurfio â W3C Double AA. Mae’r wefan yn cael ei gwella yn sylweddol, mewn cyfres o haenau, gyda phob fersiwn newydd a ryddheir yn cael ei dylunio i gydymffurfio â W3C Double AA, ac wedi ei ysgrifennu i fod yn hawdd ei ddefnyddio a’i ddeall. Bu’r Comisiwn Elusennau yn gweithio gydag Abilitynet i gynhyrchu cyfres o gyfeirlyfrau am wneud addasiadau i osodiadau ar gyfrifiaduron a bysellau y gellir eu defnyddio yn hytrach na llygoden a byddwn yn edrych ar ddichonolrwydd cynhyrchu’r rhain ar gyfer cynulleidfa allanol.
Rydym yn meddwl y bydd y nifer o gwsmeriaid gydag anabledd a fydd yn rhwystr iddynt gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein yn isel iawn. Bydd eu helusen bob amser yn cynnwys mwy nag un unigolyn, gall un ohonynt fod angen cefnogaeth ychwanegol neu wahanol, ond ni fydd y gweddill. Er hynny, dylai’r trefniadau sy’n cael eu gwneud i wneud i’r holl wasanaethau gydymffurfio â W3C Double AA alluogi mynediad ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid anabl.
Mae nifer o gyrff hefyd, llawer ohonynt yn elusennau, sy’n darparu cyngor arbenigol a chefnogaeth i ddefnyddwyr anabl.
16. Oedran
Mae rhai hyn yn llai tebygol o fod yn defnyddio’r rhyngrwyd tra bod 10% o rai 16 – 24 oed heb fod ar-lein mae’r ffigwr yn codi i 50% i rai 65-74 mlwydd oed7. Dengys data’r Comisiwn Elusennau bod ychydig dros 20% o ymddiriedolwyr dros 70 oed.
Mae rhai cwsmeriaid hyn wedi codi pryderon am fynediad at dechnoleg a diffyg sgiliau cyfrifiadurol neu ddiffyg cynefindra gyda’r Rhyngrwyd. Mae eraill yn gweld y rhyngrwyd fel ffordd o gynyddu eu gallu i gymryd rhan.
Mae nifer o atebion ar gael i’r defnyddiwr hyn nad yw ar-lein. Yn yr un modd â materion mynediad, mae natur gyfweithiol ymddiriedolaeth a gwaith elusennol yn helpu o ran y gellid gofyn i gydweithiwr lenwi ffurflen ar-lein neu ffurflen flynyddol (yn yr un modd ag y gofynnir iddynt lenwi ffurflen bapur yn awr).
Yn ychwanegol at y ffynonellau help cyffredinol sydd ar gael sy’n cael eu hamlygu uchod mae nifer o fentrau wedi eu hanelu yn benodol at ddefnyddwyr hyn, er enghraifft wythnos y ‘Silver Surfers’, mae Age UK yn rhedeg wythnosau ‘itea and biscuits’ ac yn rhoi llawlyfrau copi caled fel ‘How to be a silver surfer’. Mae cyrsiau hefyd wedi eu hanelu yn benodol at ddefnyddwyr hyn.
17. Materion ategol a ddynodwyd
Fel y nodwyd o’r blaen mae’r Asesiad Effaith Cydraddoldeb hwn yn ymwneud â’r effaith ar bobl sydd â nodweddion cyffredin a ddiogelir, ond wrth gynnal yr ymarfer hwn rydym wedi dynodi rhai problemau a all neu na all fod yn gysylltiedig â’r nodweddion hynny a ddiogelir. Y rhain yw perchenogaeth cyfrifiadur a diffyg sgiliau a hyder.
Yn amlwg mae’n amhosibl cael mynediad at wasanaeth ar-lein heb fynediad at gyfrifiadur y mae unigolyn yn gwybod sut i’w ddefnyddio. Ond, nid yw mynediad yn golygu perchenogaeth ac nid yw’n angenrheidiol prynu offer. Mae’r atebion gorau ar gyfer y grwp hwn yn y ffynonellau cyffredinol yn yr adran help.
Gall ymddiriedolwr arall, ffrind, neu deulu fedru darparu mynediad. Gall llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, ysgolion a chanolfannau UKOnline gynnig mannau eraill sy’n cynnig mynediad; mae help neu hyfforddiant ar gael yn aml hefyd.
18. Cwestiynau allweddol
Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ar ein cynigion ar gyfer gwasanaethau ar-lein ond mae pum cwestiwn yn y ddogfen y byddem yn gwirioneddol werthfawrogi eich mewnbwn ar eu cyfer.
- A ydym ni wedi dynodi effeithiau gweithio ar-lein ar ein cwsmeriaid yn gywir, naill ai yn bositif neu’n negyddol?
- A oes unrhyw effeithiau ychwanegol sy’n codi’n benodol o ganlyniad i roi gwasanaethau ar-lein, a fyddai yn ei gwneud yn anodd neu’n amhosibl i’r cwsmeriaid dan sylw gael mynediad at wasanaethau?
- Pa dystiolaeth sydd ar gael i’n helpu i asesu graddfa neu arwyddocâd yr effaith ar y grwpiau hyn o bobl?
- Sut gall y risgiau yn ymwneud â’r effeithiau hyn gael eu lleihau?
- A oes ffactorau lliniarol eraill nad ydym wedi eu dynodi?
19. Sut, ble a phryd i anfon sylwadau
Mae croeso i unrhyw un ymateb i’r ymgynghoriad hwn a byddem yn gwerthfawrogi pe gallech anfon eich ymateb trwy e-bost gyda’r testun, ‘Ymgynghoriad Gwasanaethau Ar-lein’.
Byddai o help hefyd os gallech roi’r wybodaeth safonol ganlynol i ni yn y drefn y gofynnir amdanynt fel rhan o’r cyflwyniad i’ch ymateb. Bydd hyn yn caniatáu i ni reoli’r ymatebion a defnyddio’r wybodaeth yn fwy effeithiol, yn ogystal â’n helpu i roi gwybodaeth i chi am unrhyw gynnydd:
- Enw’r Sefydliad/Elusen (os yn berthnasol)
- Rhif yr elusen (os yn berthnasol)
- Enw cyswllt
- Safle yn y sefydliad (os yn berthnasol)
- Rhif cyswllt
- Cyfeiriad cyswllt
- E-bost cyswllt
- Datganiad Cyfrinachedd (os yn berthnasol – gweler yr adrannau canlynol)
- Ymateb i’r ymgynghoriad /atebion i gwestiynau’r ymgynghoriad
12 wythnos yw’r cyfnod ymgynghori. Byddwn yn derbyn ymatebion hyd at 29 Hydref.
Pan fydd yn addas, rydym yn eich annog i ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich ymateb. Os ydych yn grwp cynrychioliadol, rhowch grynodeb o’r bobl a’r sefydliadau yr ydych yn eu cynrychioli fel rhan o’ch ymateb.
20. Sut y byddwn yn trin y wybodaeth a roddir
Gall yr holl wybodaeth sydd yn yr ymatebion (gan gynnwys gwybodaeth bersonol) gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth, a nodwyd yn bennaf yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, y Ddeddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Os ydych am i wybodaeth a roddir fel ymateb i’r ymgynghoriad gael ei chadw yn gyfrinachol, ni fydd yn bosibl gwneud hynny oni bai ei bod yn gyson â’n hymrwymiadau cyfreithiol. Mae Cod Ymarfer statudol dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef. Mae hwn yn nodi sut y dylid trin gwybodaeth gyfrinachol. Ni allwn roi sicrwydd y bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chadw yn gyfrinachol ond fe fyddwn yn ystyried unrhyw gyflwyniadau a wneir gennych chi.
Os byddwch yn gwrthwynebu i unrhyw wybodaeth (gan gynnwys eich manylion personol) yr ydych yn ei rhoi fel ymateb i’r ymgynghoriad gael ei chyhoeddi, dywedwch hynny. Byddai o gymorth i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath gael eu cefnogi ag esboniad pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth yn gyfrinachol fel y gellir gwneud penderfyniad a yw hyn yn sail ar gyfer peidio â chyhoeddi gwybodaeth o’r fath.
21. Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori?
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol, bydd y Comisiwn Elusennau yn ystyried yr ymatebion ac yn cyrraedd penderfyniad o ran sut i weithredu’r canfyddiadau orau i wella ein cynnig ar-lein. Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Comisiwn Elusennau a’r fewnrwyd, ac ar fformatau gwahanol os gofynnir amdanynt. Mae eich sylwadau yn bwysig i ni oherwydd ein pwyslais cynyddol ar ein cwsmeriaid allanol.
22. Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad hwn anfonwch e-bost atom.
ATODIAD A. DEDDFWRIAETH GYDRADDOLDEB BERTHNASOL
Diben yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb hwn yw sicrhau bod gweithredu’r argymhellion a wnaed yn Adolygiad yr Arglwydd Carter ar Wasanaethau Ar-lein HMRC yn cyrraedd yr ymrwymiadau statudol a roddir ar gyrff cyhoeddus y Deyrnas Unedig i hyrwyddo cydraddoldeb cyfle. Y Ddeddfwriaeth Gydraddoldeb berthnasol yw:
- Adran 71 o Ddeddf (Ddiwygiedig) Cysylltiadau Hiliol 2000
- Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (fel eu haddaswyd gan y Gorchymyn Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Gogledd Iwerddon) 2006)
- Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006
Yn ychwanegol mae’r Asesiad Effaith Cydraddoldeb hwn hefyd yn helpu i ddangos bod y Comisiwn Elusennau yn bodloni darpariaethau:
- Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Oedran 2006 a Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) (Gogledd Iwerddon) 2006
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Tueddfryd Rhywiol) 2003 a Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Tueddfryd Rhywiol) (Gogledd Iwerddon) 2003
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
- Rheoliadau Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw (Adlinio Rhyw) 1999
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006.
Ar ryw, rhaid i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni eu swyddogaethau, roi ystyriaeth ddyledus i’r angen i:
- • hyrwyddo cydraddoldeb cyfle rhwng dynion a menywod yn gyffredinol; a
- • ddiddymu gwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu ar ddynion a menywod yn gyffredinol (gan gynnwys rhai trawsrywiol).
Ar hil, rhaid i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni eu swyddogaethau, roi ystyriaeth ddyledus i’r angen i:
- hyrwyddo cydraddoldeb cyfle rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol;
- ddiddymu gwahaniaethu anghyfreithlon rhwng gwahanol grwpiau hiliol; a
- hyrwyddo cysylltiadau da i bobl o wahanol grwpiau hiliol.
Ar anabledd, rhaid i awdurdodau cyhoeddus, wrth gyflawni eu swyddogaethau, roi ystyriaeth ddyledus i ofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a’n dyletswyddau allweddol dan y Ddeddf. Yn arbennig:
- hyrwyddo cydraddoldeb cyfle i bobl anabl gan gymryd camau i ystyried anableddau pobl anabl hyd yn oed pan fydd hynny’n gofyn am driniaeth fwy ffafriol;
- dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail anabledd;
- annog cyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus gan bobl anabl;
- hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl, a
- dileu aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Siarteri Ewropeaidd
Daeth y Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol i rym ar 1 Gorffennaf 2001, ac mae’n rhwymol ar y Deyrnas Unedig (a’r aelod wladwriaethau eraill). Mae’n ymdrin ag ieithoedd a ddefnyddiwyd yn draddodiadol o fewn tiriogaeth gwladwriaeth gan breswylwyr y wladwriaeth sy’n ffurfio grwp llai na gweddill poblogaeth y wladwriaeth (ond nid ieithoedd lleiafrifoedd ethnig sy’n codi oherwydd ymfudo diweddar, tafodieithoedd o’r iaith swyddogol neu iaith arwyddion). Nod y Siarter yw diogelu a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol Ewrop, trwy alluogi siaradwyr yr ieithoedd hynny i gyfathrebu gydag awdurdodau cyhoeddus “cyn belled ag y mae hyn yn rhesymol o bosibl” yn eu dewis iaith (ar gyfer y Deyrnas Unedig, mae hyn yn golygu Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a’r Gymraeg). Ond, mae Adroddiad Esboniadol Cyngor Ewrop ar y Siarter yn nodi nad yw’r Siarter yn sefydlu unrhyw hawliau unigol neu ar y cyd i siaradwyr yr ieithoedd hynny - mewn geiriau eraill, nid oes dim yn y Siarter sy’n rhoi hawl i’r unigolion fynnu bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus gyfathrebu, na sicrhau bod dogfennau swyddogol, ffurflenni neu daflenni ar gael, na darparu gwasanaethau ar-lein, neu ymwneud mewn modd arall ag iaith leiafrifol o’r fath.
Troednodiadau
1. ee Adroddiad Digital Britain a Putting the Front Line First
2. Manifesto for a Networked Nation
3. Cwmni Mesur y Deyrnas Unedig Ar-lein
4. Arolwg ONS 2009
5. Gweler Safon Gofynnol ar gyfer y Deyrnas Unedig yn 2010-Sefydliad Joseph Rowntree
6. Manifesto for a Networked Nation
7. Manifesto for a Networked Nation
Brig y dudalen