Derbyniwn nifer o fathau gwahanol o gwynion am elusennau, ond gallwn ddelio â rhai mathau o gwynion yn unig. Dylai'r rhan fwyaf o'r cwynion a dderbyniwn gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r elusen (ee dulliau codi arian).
Mae'r adran hon yn esbonio'r materion rydym am wybod amdanynt a'r achosion pan na fyddwn ymyrryd.
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad rydym wedi'i wneud drwy ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol ffurfiol (ee diswyddo ymddiriedolwr neu wrthod cofrestru elusen). Mae'r adran hon yn esbonio ein proses adolygu penderfyniadau a'r llwybr apelio annibynnol sydd ar gael drwy'r Tribiwnlys Elusennau (rhan o'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd ac yn annibynnol ar y Comisiwn).
Gallwch apelio yn erbyn canlyniad achos hefyd os nad ydym wedi defnyddio ein pwerau cyfreithiol (ee rydym wedi penderfynu peidio ag ymyrryd mewn achos arbennig neu nid ydych yn cytuno â'r ffordd rydym wedi gweithredi). Mae'r adran hon yn esbonio ein proses adolygu canlyniadau hefyd.
Ceisiwn ddarparu'r gwasanaeth gorau y gallwn ond, os ydym yn gwneud camgymeriad, rydym am gael gwybod er mwyn i ni allu ei unioni.
Mae Sylwadau neu gwynion am ein gwasanaeth yn cael eu trin gan ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid, sy'n annibynnol ar rannau eraill o'r Comisiwn. Os nad oes modd i'r Comisiwn ddatrys cwyn gellir ei throsglwyddo i'r Adolygydd Cwynion Annibynnol allanol.