Rydym wedi ymrwymo i roi'r gwasanaeth gorau a allwn i chi. Os oes rhaid i chi gwyno am wasanaeth a ddarparwyd, byddwn yn sicrhau bod eich cwyn yn:
Byddwn yn parchu eich cyfrinachedd hefyd.
Os ydych chi'n anfodlon â'r gwasanaeth a gawsoch, dylech chi gysylltu â ni cyn pen tri mis o'r digwyddiad neu'r canlyniad rydych chi'n cwyno amdano gan nodi:
Mae ein trefn gwyno ar gael i:
Gall eiriolwyr neu gynrychiolwyr gwyno ar ran cwsmeriaid hefyd, ond bydd angen cadarnhad ysgrifenedig arnom sy'n datgan eich bod chi wedi cytuno y gallan nhw weithredu ar eich rhan.
Nid yw'r gwasanaeth hwn yn cynnwys cwynion am elusennau. Os oes gennych chi gŵyn am elusen dylech chi ddarllen ein canllaw Cwyno am elusen.
Cam 1 - Datrys yn Lleol:
I gychwyn, byddwn ni'n ceisio datrys eich cwyn yn yr adran o'r Comisiwn roeddech chi'n delio â hi. Yn y lle cyntaf, bydd rhywun sydd heb ddelio â'ch achos gwreiddiol yn ystyried eich pryderon mewn ffordd deg a diduedd. Lle bynnag y bo'n bosibl, byddan nhw ar lefel uwch na'r gweithiwr achos gwreiddiol.
Bydd yr adolygydd yn ystyried eich cwyn ac yn ceisio rhoi ymateb i chi cyn pen 20 diwrnod gwaith, gan esbonio:
Cam 2 - Ail Adolygiad:
Os ydych chi'n anhapus â chanlyniad y cam Datrys yn Lleol, mae gennych chi fis i ofyn i'ch cwyn gael ei adolygu. Bydd rhywun sy'n annibynnol ar y cam Datrys yn Lleol yn ystyried eich cwyn eto er mwyn asesu a oedd ein gwasanaeth yn is na safon dderbyniol. Bydd yn ceisio rhoi'r canlyniad i chi cyn pen 30 diwrnod gwaith.
Yn y ddau gam, byddwn bob amser yn asesu achosion yn unigol. Nid oes unrhyw atebion safonol neu awtomatig, yn ariannol neu fel arall.
Wrth benderfynu beth fydd yr atebion, byddwn yn:
Os ydym yn penderfynu ein bod ni wedi gwneud camgymeriad, neu heb ddelio â chi yn briodol, gwnawn bopeth posibl i unioni pethau.
Gall hyn olygu ein bod ni'n:
Pan fyddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad Cam 2, hwn fydd ein hymateb olaf i'ch cwyn.
Mae OSGI yn ystyried rhai cwynion am y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan amryw o gyrff, gan gynnwys y Comisiwn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan:
Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd Millbank Tower Millbank Llundain SW1P 4QP
0845 015 4033
E-bost: phso.enquiries@ombudsman.org.uk
© 2012 Hawlfraint y Goron Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis