Swyddfa'r Wasg

Mae swyddfa'r wasg yn darparu ystod o wasanaethau i newyddiadurwyr ac mae'n delio â holl feysydd gwaith cyfryngau'r Comisiwn Elusennau.

Sylwch ni all Swyddfa'r Wasg ddelio ag ymholiadau cyffredinol gan ymddiriedolwyr, elusennau neu aelodau'r cyhoedd - gweler ein tudalennau cysylltu â ni.

Sut i gysylltu â Swyddfa'r Wasg

Rydym ar agor o 08:30 tan 18:00, Llun - Gwener, ac eithrio gwyliau cenedlaethol.

  • Ar gyfer holl ymholiadau cyffredinol swyddfa'r wasg yn ystod oriau agor, ffoniwch 020 7674 2463
  • Ar gyfer ymholiadau brys i'r wasg y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch 07785 748 787
  • Fel arall gallwch e-bostio ni yn pressenquiries@charitycommission.gsi.gov.uk

Canolfan Wybodaeth y Cyfryngau

Mae Canolfan Wybodaeth y Cyfryngau ar ein gwefan yn rhoi gwybodaeth i newyddiadurwyr ynghylch sut mae'r Comisiwn Elusennau yn gweithio, yn enwedig o ran materion sy'n cael sylw rheolaidd yn y wasg. Hefyd cewch wybod sut i gael gafael ar ffeithiau a ffigurau am elusennau a sut i chwilio am wybodaeth am elusen arbennig, gan gynnwys ei hanes ariannol.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Sut i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yng ngwaith y Comisiwn

Os ydych am gael gwybod pryd rydym yn diweddaru ein gwefan, gan gynnwys datganiadau i'r wasg, adroddiadau a chyhoeddiadau, gallwch danysgrifio i'n cyflenwad newyddion.

Sut i drefnu cyfweliad â rhywun o'r Comisiwn Elusennau

Gall unrhyw geisiadau am gyfweliad gael eu trefnu drwy swyddfa'r wasg. Yn gyffredinol, fodd bynnag, ni allwn roi cyfweliadau ar achosion penodol ac ni allwn roi manylion am waith ymchwilio sy'n parhau.

Rydym yn barod i drafod cyfleoedd i ysgrifennu erthyglau am bynciau arbennig.

Rheoleiddio elusennau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig

Rydym yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr yn unig. Mae elusennau mewn rhannau eraill o'r DU yn cael eu rheoleiddio gan Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau'r Alban (OSCR) a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon (sefydlwyd yn 2010).

Cysylltiadau

Sarah Miller
Pennaeth Newyddion
020 7674 2366

Polly Kettenacker
Rheolwr Cyfathrebu
020 7674 2462

Christina Manicom
Swyddog y Wasg
020 7674 2342

Barbara Deuring
Swyddog Cymorth Cyfathrebu
020 7674 2463

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd