Comisiwn Elusennau

Rheoleiddiwr elusennau Cymru Lloegr

  • A (change text size to small)
  • A (change text size to medium)
  • A (change text size to large)
  • White
  • Black
  • Default
  • Neidio i'r cynnwys
  • Gwrando ar ein gwefan
  • Hygyrchedd
  • English
  • Map safle
Chwiliad manwl
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Am y Comisiwn Elusennau
      • Cynllun Strategol 2012 - 2015
      • Ein statws
      • Aelodau Bwrdd a Grŵp Cyfarwyddwyr
      • Cyfarfodydd cyhoeddus y Comisiwn
      • Areithiau uwch aelodau staff y Comisiwn
      • Ein hymrwymiad at dryloywder a bod yn agored
      • Ein gwaith gyda rheoleiddwyr a sefydliadau eraill
      • Adroddiadau, ymgynghoriadau a'r cylchlythyr
      • Cynllun laith Gymraeg
      • Swyddfa'r Wasg
      • Materion Cyhoeddus
    • Am elusennau
      • Swydd ymddiriedolwr
      • Ffeithiau a ffigurau'r sector
      • Gweithdai budd cyhoeddus
    • Sut ydym yn rheoleiddio elusennau
      • Cofrestru elusennau
      • Darparu gwybodaeth, cyngor a chydsyniadau cyfreithiol
    • Cwyno
      • Cwyno am elusen
      • Herio penderfyniad rydym wedi'i wneud
      • Cwyno am wasanaeth rydym wedi'i ddarparu
    • Cysylltu â ni
    • Gyrfaoedd
    • Arweiniad Gweithredol
  • Ein gwaith rheoleiddio
    • Ein hymagwedd at reoleiddio
    • Sut a phryd i roi gwybod i ni am bryder
      • Canllawiau i ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr
      • Canllawiau i archwilwyr ariannol ac annibynnol
      • Canllawiau i'r cyhoedd
    • Pryd y byddwn yn darparu cydsyniadau cyfreithiol
    • Sut rydym yn sicrhau bod elusennau'n cydymffurfio â'u gofynion cyfreithiol
      • Pryd y byddwn yn ymchwilio i elusennau
      • Pryd y byddwn yn cymryd camau gorfodi
      • Ein gwaith gwrthderfysgaeth
      • Pryd y byddwn yn monitro elusennau
      • Pryd y byddwn yn penodi rheolwyr dros dro
      • Pryd y gallwn helpu i ddatrys gwrthdaro mewnol
    • Canlyniadau ein gwaith cydymffurfio â'r gyfraith
      • Alerts and warnings
      • Adroddiadau Ymchwiliadau
      • Adroddiadau Achos Rheoleiddio
      • Penderfyniadau diweddar
      • Elusennau yn ôl ar y trywydd iawn: themâu a'r gwersi a ddysgwyd
  • Rheoli eich elusen
    • Anfon ffurflen flynyddol
    • Diweddaru manylion elusen
    • Newid enw elusen
    • Cau/uno elusen
    • Prynu, gwerthu neu freinio tir
    • Wedi anghofio eich cyfrinair?
  • Dechrau elusen
    • Ai sefydlu elusen yw'r peth iawn i'w wneud?
      • Pethau i'w hystyried cyn sefydlu elusen newydd
    • Oes angen i mi gofrestru?
      • Mathau o elusennau nad oes rhaid iddynt gofrestru
      • Adnoddau i elusennau bach iawn
      • Elusennau a eithrir
    • Cofrestru SEC
    • Canllawiau ar gofrestru elusen newydd
      • Cymorth i sefydlu elusen
      • Y broses gofrestru
      • Cael hyd i ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr
      • Dangos budd cyhoeddus
      • Dewis dibenion a dogfen lywodraethol eich elusen
    • Cofrestru elusen newydd
  • Gofynion a chanllawiau elusennau
    • Pa wybodaeth mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ei hanfon atom eleni?
      • Incwm blynyddol hyd at £10000
      • Incwm dros £10,000 ond llai na £25,000
      • Incwm dros £25,000 ond llai na £500,000
      • Incwm dros £500,000 ond llai na £1,000,000
      • Incwm blynyddol dros £1 miliwn
    • Hanfodion elusennau
      • Yr ymddiriedolwr hanfodol
      • Nodweddion elusen effeithiol
      • Rheoli asedau ac adnoddau elusennau
      • Dibenion elusennol a Budd Cyhoeddus
    • Cyfrifon ac adroddiadau elusennau
      • Darparu gwybodaeth a chyngor
      • Paratoi eich Ffurflen Flynyddol
      • Paratoi eich Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr
      • Paratoi cyfrifon eich elusen
      • Archwilio eich cyfrifon
    • Llywodraethu elusennau
      • Llywodraethu da i elusennau
      • Rheoli adnoddau elusennau
      • Rheoli risg
      • Cyfrifoldeb amgylcheddol
    • Gweithgareddau elusennau
      • Cydweithio ag elusennau eraill
      • Codi arian
      • Ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol
      • Elusennau sy'n darparu gwasanaethau
      • Elusennau sy'n Gweithio'n Rhyngwladol
    • Canllawiau arbenigol
      • Elusennau bach
      • Canllawiau i elusennau'r celfyddydau
      • Canllaw i Sefydliadau Corfforaethol
      • Elusennau ffydd
      • Ysgolion a sefydliadau Addysg Uwch
      • Elusennau sy'n darparu tai
      • Awdurdodau lleol fel ymddiriedolwyr
      • Elusennau GIG
      • Recreation Ground Charities
      • Elusennau Siarter Frenhinol
      • Ewyllysiau a chymynroddion elusennol
    • Cyhoeddiadau - Cysylltiadau Cyflym

Yn yr adran hon...

  • Am y Comisiwn Elusennau
  • Am elusennau
  • Sut ydym yn rheoleiddio elusennau
  • Cwyno
  • Cysylltu â ni
  • Gyrfaoedd
  • Arweiniad Gweithredol

Beth sy'n newdd?

  • Diweddariadau Diweddar
  • Newyddion
Hafan >  Amdanom ni > Cysylltu ni

Cysylltu â ni

Os yw ffurflen flynyddol eich elusen yn hwyr, bydd rhaid i chi ei chwblhau cyn y gallwn ymateb i unrhyw ymholiadau neu geisiadau eraill.

Cawn geisiadau cyson am wybodaeth sydd heb ei chynnwys o fewn ein cylch gwaith a'n maes arbenigedd, neu y gellir ei chael hyd iddi ar ein gwefan. Os hoffech gysylltu â ni am un o'r materion canlynol, dilynwch y canllawiau a'r ddolen gysylltiedig:

Dechrau arni

Dechrau elusen a chofrestru elusen

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cofrestru elusennau sy'n bod. Ni allwn ddweud wrthych ai dechrau elusen newydd yw'r peth iawn i'w wneud neu eich cynghori a yw'ch sefydliad neu'ch prosiect yn gallu cael ei chofrestru hyd nes eich bod yn cyflwyno cais ffurfiol.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol gan GOV.UK ar ddechrau elusen:

  • Sefydlu elusen (gwefan GOV.UK)

Darllenwch ein canllawiau cyffredinol ar ddechrau elusen a'n canllawiau penodol ar gofrestru elusen.

  • Dechrau elusen
Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE)

I weld ein holl wybodaeth ar Sefydliadau Corfforedig Elusennol:

  • Sefydliad Corfforedig Elusennol
Cae hyd i elusen

Os hoffech gael hyd i elusen arbennig, defnyddiwch ein hofferyn chwilio manwl:

  • Cael hyd i elusen

Rheoli eich elusen

Ffeilio'r ffurflen flynyddol a chyfrifon

Mae'r ffurflen flynyddol ar-lein yn unig; nid oes dewis papur arall. Cewch wybod beth y mae angen i chi ei wneud a phryd yn ein canllawiau a thiwtorialau ar ffurflenni blynyddol. Ni allwn roi estyniad i ddyddiadau cau ffeilio o dan unrhyw amgylchiadau.

  • Pa wybodaeth fydd rhaid i ymddiriedolwyr ei hanfon atom eleni?

Os oes rhaid i chi anfon cyfrifon atom, dylent fod mewn fformat PDF a'u lanlwytho drwy ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein. Gweler:

  • Anfon cyfrifon (mewngofnodi i wasanaethau ar-lein)
  • Cymorth gyda ffeiliau PDF
Diweddaru manylion eich elusen

Defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein i newid manylion gohebydd eich elusen, cofnodi newid i'r ymddiriedolwyr neu i ddiwedd blwyddyn ariannol. Ni fyddwn yn gwneud hyn i chi â llaw (oni bai nad yw'ch cyfrinair ar gael mwyach ac ni ellir cysylltu â'ch gohebydd). Mae'n rhaid i chi ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein:

  • Newid manylion eich elusen
Dehongli eich dogfen lywodraethol

Rydych chi a'r ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol am ddarllen a deall dogfen lywodraethol eich elusen. Os yw sefydliad arall (megis corff mantell) wedi drafftio eich dogfen lywodraethol, gofynnwch iddynt am gyngor. Os yw'ch dogfen lywodraethol yn un o'n dogfennau enghreifftiol, darllenwch y canllaw ynghlwm.

I gael rhagor o arweiniad ar yr adrannau mwyaf cyffredin mewn dogfen lywodraethol, gweler:

  • Dewis a pharatoi dogfen lywodraethol (CC22)
Newid enw neu ddogfen lywodraethol eich elusen

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i ddweud wrthym neu i gael ein hawdurdod ar gyfer newid i'ch dogfen lywodraethol.

  • Newid eich dogfen lywodraethol (ffurflen ar-lein)
Talu ymddiriedolwyr

Defnyddiwch hwn i benderfynu a oes angen ein hawdurdod ni arnoch neu beidio i wneud taliadau i ymddiriedolwr neu i berson cysylltiedig:

  • Talu ymddiriedolwyr (ffurflen ar-lein)
Cau eich elusen

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni fod eich elusen wedi cau ac mae angen ei dileu o'r gofrestr elusennau:

  • Cau elusen (ffurflen ar-lein)
Gwasanaethau ar-lein eraill

I gael gwybod beth arall y gallwch ei wneud ar-lein:

  • Rheoli eich elusen

Cwynion

Cwynion am elusennau

Cyn cwyno wrth y Comisiwn Elusennau, dylech ddarllen canllawiau GOV.UK. Mae'n esbonio’r math o gwynion y gallwn ac ni allwn eu hystyried:

  • Cwyn am elusen (gwefan GOV.UK)
Codi arian

Os ydych am wneud cwyn am y ffordd y mae elusen yn codi arian, i gychwyn dylech godi eich pryderon gyda'r ymddiriedolwyr elusen. Mae'n rhaid iddynt wybod bod y cyhoedd yn pryderu am y dull codi arian y maent wedi'i ddewis. Ni allwn ystyried cwynion am ddulliau codi arian elusen os yw'r ymddiriedolwyr elusen yn gweithredu o fewn y gyfraith a darpariaethau dogfen lywodraethol eu helusen. Os ydych yn meddwl bod elusen yn codi arian mewn ffordd gyfreithiol ond amhriodol, mae canllawiau GOV.UK yn esbonio’r hyn i'w wneud:

  • Cwyn am elusen (gwefan GOV.UK)
Galwadau digymell

Os ydych i elusen roi'r gorau i'ch ffonio chi a gwneud galwadau marchnata digymell dylech gofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn.

  • Gwefan Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn
Sut i gwyno i ni

Os ydych yn pryderu bod perygl o niwed difrifol i elusen, ei hasedau neu i'r bobl y cafodd ei sefydlu i gynnig budd iddynt, dylech ddweud wrthym am y broblem. Bydd rhaid i chi roi unrhyw dystiolaeth sydd gennych.

  • Mynegi pryderon am elusen (ffurflen ar-lein)

Cyffredinol

Angen data?

Gallwn ddarparu copi o'r gofrestr elusennau lawn ar ffurf electronig. Fodd bynnag, mae'n amodol ar hawlfraint cronfa ddata'r Gorom a byddwn yn ei darparu dim ond os ydym yn hapus bod rhai amodau wedi cael eu bodloni. Darllenwch ein polisi hawlfraint - dylech gysylltu â ni dim ond os ydych yn teimlo y gallwch fodloni'r amodau ar gyfer darparu'r wybodaeth hon:

  • Polisi hawlfraint - cofrestr elusennau
Prawf o statws elusennol

Gall ymddiriedolwyr ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein i weld ac argraffu tystysgrif elusen:

  • Cael tystysgrif elusen
TAW, cymorth rhodd, gostyngiad treth

Mae pob mater cysylltiedig â threth sy'n ymwneud ag elusennau yn cael ei drin gan HMRC:

  • TAW, cymorth rhodd a chanllawiau treth i elusennau (gwefan HMRC)
Gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol

Ni all y Comisiwn Elusennau ddelio ag ymholiadau sy'n ymwneud â gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol. Cysylltwch â'r Swyddfa Cofnodion Troseddol:

  • Cysylltwch â'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (gwefan y Swyddfa Gartref)
Angen cyllid?

Nid yw'r Comisiwn Elusennau yn rhoi cyllid i elusennau. Fodd bynnag, gall fod rhai elusennau sy'n gallu eich helpu chi. Gallwch chwilio'r gofrestr elusennau i gael hyd i elusennau sy'n darparu cyllid i sefydliadau neu unigolion. Defnyddiwch y cwymplenni yn 'Dosbarthiad' i gulhau eich chwiliad.

  • Chwilio'r gofrestr elusennau

Ar yr amod nad yw'ch ymholiad wedi'i gynnwys o fewn un o'r categorïau hyn, gallwch gysylltu â ni:

  • ar-lein (dewis a argymhellir) - gallwch atodi dogfennau wedi'u sganio hefyd (gweler Cymorth gyda ffeiliau PDF )
  • dros y ffôn
  • BrowseAloud
  • Diweddariadau e-bost
  • Twitter
  • Youtube
  • Cymorth arall i elusennau

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis