Darparu gwybodaeth, cyngor a chydsyniadau cyfreithiol

Rydym yn helpu elusennau i ddefnyddio eu hadnoddau'n effeithlon a'u hannog i fabwysiadu arferion gorau i wella eu heffeithiolrwydd a hyder a ffydd y cyhoedd ynddynt.

Un o'r prif ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw trwy gyhoeddi adnoddau a chanllawiau i elusennau, eu cynghorwyr a'r cyhoedd mewn amryw o fformatau gwahanol. Roedd y tudalennau hyn ar ein gwefan wedi cael 10m o drawiadau yn 2009.

Rydym hefyd yn rhoi cyngor wedi'i deilwra i elusennau, eu hymddiriedolwyr, eu cynghorwyr a'r cyhoedd. Mewn rhai achosion, rydym hefyd yn rhoi cydsyniadau cyfreithiol lle y bo angen i helpu elusennau i barhau i weithredu'n effeithiol.

Mae'r gwaith hwn yn amrywio o ymholiadau ffôn ac e-bost niferus i waith achos manwl a chymhleth sy'n canolbwyntio ar helpu elusennau i ddatrys materion heriol neu ymgymryd â phrosiectau mawr. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2008/09 derbyniwyd 215,702 o alwadau ffôn, 50,651 o negeseuon e-bost a 52,757 o ddarnau o bost.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd