Gweithredu os aiff pethau o'i le

Mae nifer yr achosion o dwyll neu anonestrwydd bwriadol o fewn elusennau yn isel, ac mae'r rhan fwyaf o gamgymeriadau yn gamgymeriadau gonest y gellir eu datrys gydag ychydig o gymorth ac arweiniad gennym ni. Fodd bynnag, os oes achos o bryder difrifol gennym fod buddiolwyr, asedau neu enw da elusen mewn perygl, mae pwerau cyfreithiol cryf gennym i ymchwilio ac ymyrryd.

Ein nod cyffredinol yw adnabod a datrys problemau gydag elusen yn gyflym a'i rhoi yn ôl ar y trywydd iawn er mwyn iddi allu cyflawni ei gwaith yn y dyfodol. Cyhoeddwn adroddiadau ar ein gwaith rheoleiddio i helpu elusennau eraill i ddysgu gwersi.

Rydym yn annog elusennau i adrodd am ddigwyddiadau difrifol i ni, er mwyn i ni allu cynnig cymorth cyn bod problemau'n gwaethygu. Rydym hefyd yn darparu canllaw wedi'i deilwra ar gyfer cynghorwyr ariannol. Dylai aelodau'r cyhoedd sydd â chwyn am elusen ddarllen ein canllaw wedi'i deilwra i'w helpu i benderfynu at bwy i'w anfon - mewn rhai achosion efallai na fydd yn briodol i'w hanfon atom.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd