Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i elusennau roi gwybod i ni am newidiadau i'w manylion cofrestredig gan gynnwys newidiadau i gyswllt yr elusen. Mae manylion y cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad, i'w gweld ar ein gwefan er mwyn i'r cyhoedd a'r Comisiwn allu cysylltu â'r elusen.
Mae dau fath o gyswllt elusen:
- Cyswllt unigolyn. Unigolyn a enwir yw hwn. Gall fod yn un o'r ymddiriedolwyr, megis yr ysgrifennydd, neu gallai fod yn rhywun sy'n gweithredu ar ran yr elusen ond nid yw'n ymddiriedolwr. Yr unigolyn hwn fydd y cyswllt ar gyfer y Comisiwn ac aelodau'r cyhoedd ac felly dylai wybod sut mae'r elusen yn gweithio. Nid oes rhaid i'r cyfeiriad fod yn gyfeiriad cartref yr unigolyn, ond rydym yn cofnodi un cyfeiriad cyswllt yn unig i bob unigolyn. Os yw unigolyn yn gweithredu fel cyswllt ar gyfer sawl elusen, dylid defnyddio'r un cyfeiriad ar gyfer pob un ohonynt.
- Cyswllt sefydliad. Gellir ei ddefnyddio os nad yw'r elusen am gael unigolyn a enwir fel ei chyswllt. Er enghraifft, gallai fod yn gwmni o gyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran yr elusen neu'r elusen ei hun yn ei chyfeiriad ei hun. Dylai'r cyfeiriad a ddefnyddir fod yn un lle mae'n hawdd derbyn y post a'i ddarllen yn gyson.
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw manylion cyswllt eich elusen wedi'u diweddaru. Dylid eu diwygio cyn gynted ag y bo newid yn digwydd oherwydd gallai cyfeiriad cyswllt anghywir gael effaith niweidiol ar elusen. Os yw dogfennau'n hwyr oherwydd nid yw llythyron atgoffa yn cael eu hanfon gallai hyn effeithio ar gyllid oherwydd bydd noddwyr yn gweld bod yr elusen heb gwrdd â'u dyddiadau cau. Os ydym yn colli cysylltiad â'r elusen yn llwyr, gallai gael ei dileu yn y pen draw oherwydd nid oes unrhyw dystiolaeth gennym ei bod yn parhau i weithredu.
Os oes modd dylai'r cyswllt sy'n gadael roi manylion y cyswllt newydd i ni. Hefyd dylech ystyried a oes angen diweddaru'r cyfeiriadau e-bost o ganlyniad i'r newid cyswllt (gweler ein canllaw ar Newid eich manylion e-bost).
Gallwch newid manylion cyswllt ac e-bost eich elusen ar-lein unrhyw bryd drwy ddefnyddio ein cyfleuster Gweld/Newid Manylion Elusen. Bydd angen cyfrinair yr elusen arnoch i wneud hyn. Dylai'r cyfrinair gael ei drosglwyddo pan fydd y cyswllt elusen yn newid.
i ddiweddaru manylion cyswllt eich elusen nawr.
Os nad yw'r cyfrinair gennych neu ni allwch gyrchu ein gwasanaeth ar-lein, gallwch cysylltu â ni i ofyn am ddiwygiad i fanylion cyswllt ac e-bost yr elusen.
Am resymau diogelwch, bydd unrhyw newid i fanylion cyswllt yn amodol ar drefn ddilysu. Fel rheol bydd unrhyw newidiadau i'r manylion cyswllt yn cael eu cynnwys ar gofnod Cofrestr yr elusen ar y we dros nos.