Mae ychydig o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir am Ffurflenni Blynyddol i'w gweld isod. I gael rhestr gyflawn o'r Cwestiynau Cyffredin am Ffurflenni Blynyddol, cliciwch yma.
C. Beth sy'n digwydd os nad yw ein helusen yn cyflwyno ei Ffurflen Flynyddol neu Ddiweddariad?
A. Mae gan y Comisiwn y drefn fwyaf cadarn erioed ar gyfer mynd i'r afael ag elusennau sydd heb ffeilio eu cyfrifon a'u ffurflenni mewn pryd. Mae pob elusen yn cael ei hatgoff o'i gofynion adrodd wrth i'w dyddiad cau ffeilio agosáu ac os yw'n colli ei dyddiad cau bydd yn cael rhybudd diffyg gweithredu. Bydd ei chofnod ar y Gofrestr hefyd yn dangos bod ei dogfennau yn hwyr yn cael eu cyflwyno.
Mae cyfres bellach o nodiadau atgoffa yn cael eu hanfon o bryd i'w gilydd yn ystod y chwe mis nesaf. Mae'r rhain yn esbonio os nad yw'r dogfennau hwyr yn cael eu ffeilio, gallai'r elusen wynebu cael ei dileu o'r Gofrestr. Ar ddiwedd y cyfnod hwn o chwe mis, os nad ydym wedi derbyn y dogfennau hwyr, byddwn naill ai'n dileu'r elusen o'r Gofrestr am fethu â rhoi tystiolaeth ei bod yn parhau i weithredu neu'n cymryd camau rheoleiddio pellach.
C. Rwyf wedi cyflwyno fy ffurflen ar-lein - beth ydw i'n ei wneud am fy Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon?
A. Pan fyddwch yn mewngofnodi i'n Gwasanaethau Ar-lein byddwch yn cael dewis i 'Anfon eich Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a Chyfrifon' yn electronig. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hynny rhaid i'r dogfennau hyn gael eu cyflwyno mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF). Mae'n bosibl eich bod eisoes wedi'u paratoi yn y fformat hwn. Os nad ydych, ond gallwch ddefnyddio sganiwr, gall y meddalwedd sganio gynnig modd i chi gadw'r cyfrifon wedi'u sganio fel dogfen PDF. Mae ffynonellau amrywiol o feddalwedd ar gael hefyd ar y rhyngrwyd i drosi dogfennau i chi, ac mae nifer ohonynt yn rhad ac am ddim.
Os na allwch anfon eich TAR a chyfrifon atom ar-lein fel PDF, gallwch eu postio atom i'r Comisiwn Elusennau, Blwch Post 1329, Lerpwl L69 3DY.
- I gael mwy o wybodaeth am Ran A - Gwybodaeth am yr elusen, cliciwch yma.
- I gael mwy o wybodaeth am Ran B - Gwybodaeth ariannol, cliciwch yma.
- I gael mwy o wybodaeth am Ran C - Ffurflen gwybodaeth gryno, cliciwch yma.
Fel arall, ceir cyswllt i'n tudalen Cysylltu â ni o frig a gwaelod pob tudalen we.
i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu anfon eich TAR a chyfrifon.