Rheoli adnoddau elusennau

Mae angen adnoddau ar bob elusen - adnoddau ariannol, adnoddau dynol neu asedau eraill - er mwyn cyflawni eu nodau. Mae effeithiolrwydd elusen yn dibynnu ar y ffordd y mae eu hadnoddau'n cael eu rheoli a'u defnyddio.

Mae'r adran hon yn amlinellu ein cyngor a'n harweiniad a fydd yn helpu ymddiriedolwyr i ddeall arferion da a hyd a lled eu pwerau a'u dyletswyddau wrth fuddsoddi a rheoli adnoddau elusennau.

I gael cyflwyniad i'r pwnc, edrychwch ar ein canllaw cyflym Rheoli asedau ac adnoddau elusennau: trosolwg i ymddiriedolwyr (CC25)

Rheoli cyllid
Elusennau yn ystod dirywiad economaidd
Tir ac eiddo
  • Prynu, gwerthu neu freinio tir - trosolwg o'r prif faterion sy'n ymwneud â thrafodion tir elusennau, gyda dolenni i'n canllawiau a'n ffurflenni ar-lein
  • Prynu tir - ein canllaw manwl i ymddiriedolwyr elusen sy'n ystyried prynu tir at ddefnydd eu helusen nhw neu fel buddsoddiad
  • Gwerthu tir - mae'n esbonio'n fanwl beth mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ei wybod am werthu, prydlesu, trosglwyddo neu forgeisio tir elusen.
  • Ceidwaid ac enwebeion - mae'n esbonio'n fanwl sut y gall unigolion gael eu penodi i ddal teitl i eiddo neu asedau ymddiriedolaeth elusennol.
  • Gwasanaeth Dal Tir y Ceidwad Swyddogol i elusennau - mae'n helpu elusennau i osgoi'r problemau cyfreithiol a all godi pan fydd elusen yn berchen ar dir yn enwedig os nad oes statws cwmni gan yr elusen
Pensiynau
Buddsoddi cronfeydd elusennol
Cronfeydd cysylltiedig
  • Taliadau ex gratia gan elusennau - mae'n disgrifio'r drefn y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ei dilyn pan fyddant yn dymuno defnyddio arian yr elusen i wneud taliad ex gratia.
  • Cofrestru TAW - mae'n esbonio sut mae taliadau i gael mynediad i amgueddfeydd, orielau, arddangosfeydd celf, sŵau neu i berfformiadau theatraidd neu goreograffig o natur ddiwylliannol wedi'u heithrio rhag talu TAW os ydynt yn cael eu cyflenwi gan gorff cymwys.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis