Rheoli risg

Mae ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr elusennau yn delio â risg fel rhan bob dydd o waith unrhyw elusen - gall fod mor syml â chynllunio wrth gefn sylfaenol ar gyfer digwyddiad codi arian fel garddwest.

Fodd bynnag, mae'r gofyniad i gynnwys datganiad rheoli risg mewn Adroddiadau Blynyddol Ymddiriedolwyr yn golygu bod rhaid i elusennau ystyried risg a rheoli risg mewn ffordd fwy strwythuredig os ydynt am gynnwys datganiad cadarnhaol yn eu Hadroddiad Blynyddol. Waeth beth fo maint yr elusen, dylai fabwysiadu dull systematig o ystyried a rheoli risg.

Agwedd arbennig o bwysig ar ystyried risg yw diogelu'r elusen a'i buddiolwyr rhag niwed. Fel y bobl sy'n rhedeg elusen, mae ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am:

  • eu hymddygiad eu hunain
  • ymddygiad pobl eraill y maent wedi'u hawdurdodi neu eu dilysu
  • ymddygiad sydd, er nad yw wedi'i awdurdodi na'i dilysu yn digwydd wrth drafod busnes a lle mae cysylltiad agos rhwng yr ymddygiad a'r hyn y cafodd y drwgweithredwr ei gyflogi i'w wneud (gelwir hyn yn atebolrwydd dros arall).

Mae'r adran hon yn cynnwys ein canllawiau ar reoli risgiau posibl i elusen a sut y gall elusennau ddiogelu eu hunain a buddiolwyr hyglwyf rhag niwed. Mae hefyd yn esbonio atebolrwydd dros arall.

  • Elusennau a Rheoli Risg - ein canllaw i ymddiriedolwyr a staff ar y mathau o risg y mae elusennau'n eu hwynebu a sut y gallant weithredu fframwaith ymarferol ar gyfer adnabod, rheoli ac adrodd am risg.
  • Pecyn Cymorth Cydymffurfio: Diogelu elusennau rhag niwed - mae'n rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar ymddiriedolwyr i reoli risgiau a diogelu eu helusen rhag niwed a rhag cael ei chamddefnyddio.
  • Diogelu plant - yr hyn y dylai ymddiriedolwyr ei wneud i sicrhau bod plant sy'n cael budd o'r elusen (neu sy'n gweithio gyda'r elusen) heb gael eu niweidio mewn unrhyw ffordd drwy gael cysylltiad â'r elusen.
  • Gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol - mae'n esbonio pa elusennau ddylai cynnal gwiriadau CRB ar ddarpar ymddiriedolwyr a pha fathau o wiriadau sy'n briodol.
  • Atebolrwydd dros ymddiriedolwyr - mae'n esbonio ym mha amgylchiadau y gall y gyfraith wneud ymddiriedolwyr yn atebol am gamymddygiad y rhai y maent yn eu rheoli hyd yn oed os nad yw wedi'i briodoli'n bennaf i'r elusen neu ei hymddiriedolwyr.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis