Mae llywodraethu da yn hanfodol i lwyddiant unrhyw elusen ac mae'n fwy pwysig nag erioed erbyn hyn. Mae aelodau byrddau yn chwarae rôl hanfodol o ran gwasanaethu eu hachosion a'u cymunedau drwy sicrhau bod gweithdrefnau a pholisïau priodol yn eu lle i reoli adnoddau eu helusen yn effeithiol. Maent yn darparu gweledigaeth hirdymor ac yn diogelu enw da a gwerthoedd eu helusen.
Mae'r adran hon yn esbonio egwyddorion llywodraethu da, ac mae'n rhoi canllawiau manwl ar reoli adnoddau elusennau a sut i reoli risg. Mae hefyd yn rhoi dolenni i adnoddau ar faterion amgylcheddol.