Pa wybodaeth fydd rhaid i ymddiriedolwyr ei hanfon atom eleni?

Pa ddogfennau fydd rhaid i mi eu hanfon?

Mae hynny'n dibynnu ar incwm eich elusen ym mhob cyfnod ariannol. Gallwch wirio'r gofynion penodol ar gyfer eich elusen drwy ddewis yr opsiwn sy'n disgrifio ei hincwm blynyddol:


Pam y mae angen i mi gwblhau Ffurflen Flynyddol neu Ddiweddariad Blynyddol?

Os yw incwm elusen yn fwy na £10,000, mae'n ofyniad cyfreithiol i ymddiriedolwyr anfon Ffurflen Flynyddol atom bob blwyddyn. Ar gyfer cyfnodau ariannol yn diweddu yn 2009, gelwir y ffurflen yn Ffurflen Flynyddol 2009 (AR 2009); ar gyfer 2008, fe'i gelwir yn Ffurflen Flynyddol 2008 (AR 2008) ac ati.

Os yw'r incwm yn £10,000 neu lai, mae dyletswydd gyfreithiol ar yr ymddiriedolwyr i roi gwybod i ni am newidiadau i fanylion yr elusen gan gynnwys incwm a gwariant bob blwyddyn. Y ffordd fwyaf cyfleus i wneud hyn yw trwy gwblhau Diweddariad Blynyddol, sydd yr un fath â Rhan A y Ffurflen Flynyddol.

Incwm eich elusen sy'n pennu sawl rhan o'r Ffurflen Flynyddol neu'r Diweddariad Blynyddol y mae angen i chi ei chwblhau.

Oes angen i mi anfon fy nghyfrifon?

Rhaid i bob elusen baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon a sicrhau eu bod ar gael ar gais. Incwm yr elusen sy'n pennu a oes rhaid i chi eu hanfon i'r Comisiwn neu beidio.

Sut dylwn i anfon fy nogfennau?

Y ffordd hawsaf, gyflymaf a mwyaf diogel yw anfon yr wybodaeth hon ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o elusennau yn defnyddio'r dull hwn erbyn hyn.

Mewngofnodi i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu gyflwyno eich TAR a chyfrifon.

 

Beth fydd y Comisiwn Elusennau yn ei wneud gyda'r wybodaeth hon?

Bydd llawer o'r wybodaeth a rowch yn cael ei chofnodi neu ei harddangos ar ein Cofrestru Elusennau gyhoeddus.

Fel rheol bydd cyfrifon elusennau ar gael i'r cyhoedd eu gweld a defnyddir gwybodaeth o'r Ffurflen Flynyddol i ddiweddaru cofnod yr elusen ar y Gofrestr. Byddwn yn egluro ar y ffurflen pa wybodaeth y gellid ei defnyddio i'w harddangos yn gyhoeddus. Nid yw manylion cyfrif banc, cyfeiriadau a rhifau ffôn ymddiriedolwyr, neu ddyddiadau geni ar gael i'r cyhoedd eu gweld.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd