Incwm dros £25,000 ond llai na £500,000

Incwm £25,001 i £500,000

Rhaid i elusennau yn yr ystod incwm hon anfon y canlynol atom:

Ffurflen Flynyddol
  • Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen
  • Adrodd am ddigwyddiadau difrifol
Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon

Mewngofnodi i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu gyflwyno eich TAR a chyfrifon.

Nodiadau

Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen

Mae'r wybodaeth hon yn ffurfio rhan o gofnod yr elusen ar y Gofrestr, ac mae'n cynnwys meysydd allweddol megis manylion cyswllt a manylion ymddiriedolwyr yn ogystal ag incwm a gwariant.

Adrodd am ddigwyddiadau difrifol

Wth gwblhau'r ffurflen, rhaid i ymddiriedolwyr gadarnhau nad oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol neu faterion eraill y dylent adrodd amdanynt ac nid ydynt wedi'u dwyn at ein sylw eisoes. Mae ein canllawiau ar Adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn rhoi mwy o wybodaeth.

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon

Pan fyddwch yn anfon y ffurflen ar-lein, gallwch atodi'r TAR a chyfrifon. Gellir eu cyfuno'n un ddogfen neu gallant fod yn ddogfennau ar wahân, ond rhaid iddynt fod mewn fformat PDF. Mae ein canllaw ar baratoi Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a cyfrifon yn rhoi mwy o wybodaeth.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis