Incwm blynyddol hyd at £10000

Incwm hyd at £10,000

Gofynnir i elusennau yn yr ystod incwm hon anfon y canlynol atom:

Diweddariad Blynyddol
  • Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen

Mewngofnodii gwblhau eich Diweddariad Blynyddol

Nodiadau

Rhan A - Gwybodaeth am yr elusen

Mae'r wybodaeth hon yn ffurfio rhan o gofnod yr elusen ar y Gofrestr, ac mae'n cynnwys meysydd allweddol megis manylion cyswllt a manylion ymddiriedolwyr yn ogystal ag incwm a gwariant. Mae ein canllaw ar baratoi Rhan A yn rhoi mwy o wybodaeth.

Nid oes rhaid i elusennau gydag incwm blynyddol heb fod yn fwy na £5,000 gofrestru gyda ni. Fodd bynnag, gofynnir i elusennau bach sydd wedi cofrestru gyda ni i gwblhau Diweddariad Blynyddol i fodloni'r rhwymedigaeth gyfreithiol i ddiweddaru eu manylion ar y Gofrestr a chadarnhau eu bod yn parhau i weithredu.

Rhaid i bob elusen gofrestredig baratoi Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr (TAR) a chyfrifon a sicrhau bod copïau ar gael i'r cyhoedd, ond mae deddfwriaeth a gafodd ei gweithredu i leihau'r baich gweinyddol ar elusennau bach yn golygu nad oes rhaid i elusennau yn yr ystod incwm hyd at £10,000 eu hanfon atom.

Mae ein canllaw ar baratoi Adroddiadau Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a cyfrifon yn rhoi mwy o wybodaeth.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd