Newid enw neu ddogfen lywodraethol eich elusen

Mae dogfen lywodraethol eich elusen yn ddogfen gyhoeddus ac mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni os ydych wedi ei newid, gan gynnwys enw'r elusen.

Yn dibynnu ar y math o newid rydych yn ei wneud a natur eich dogfen lywodraethol mae'n bosib y bydd angen ein cymeradwyaeth ni arnoch. Mae ein ffurflen ar-lein yn nodi'r newidiadau y bydd angen i ni eu cymeradwyo ac mae hefyd yn rhoi'r cyfleuster i chi lanlwytho eich dogfen lywodraethol.

Os ydych yn elusen GIG (ddiffiniedig) nid yw'r llwybr hwn yn gymwys i chi: darllenwch y Canllawiau ar effaith newidiadau ymddiriedolwyr i elusennau GIG i gael gwybod sut i weithredu.

Gweler hefyd:

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis