Themâu a gwersi a ddysgwyd o'n gwaith cydymffurfio

Mae cyhoeddi canlyniadau a'r gwersi cyffredinol a ddysgwyd o'n gwaith cydymffurfio yn ffordd bwysig o annog ymddiriedolwyr i sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol a'u helpu i warchod eu helusennau rhag cael eu camddefnyddio.

Byddwn yn rhoi pwyslais mawr ar waith ataliol, gan geisio egluro gofynion cyfreithiol a helpu i ledaenu ac adeiladu arferion da trwy gydweithio a gweithio mewn partneriaeth â'r sector. Gwnawn hyn er mwyn:

  • codi ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n wynebu elusennau a chyhoeddi rhybuddion
  • hyrwyddo canllawiau cydymffurfio a chyngor arfer da cyffredinol trwy waith allgymorth cydymffurfio a chyfathrebu
  • ymgynghori a chydweithredu â'r sector ar ddatblygu polisi ac arweiniad cydymffurfio
  • cyhoeddi Pecyn Cymorth Cydymffurfio i ymddiriedolwyr: Diogelu Elusennau rhag Niwed
  • cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arall gan grwpiau sector, asiantaethau'r llywodraeth neu sefydliadau eraill
  • cyhoeddi adroddiadau ar ein gwaith ymchwilio, canlyniadau ein hymchwiliadau statudol ac, os yw hynny er budd y cyhoedd, achosion cydymffurfio rheoleiddio
Elusennau yn ôl ar y Trywydd Iawn:

Mae adroddiad blynyddol y Comisiwn Elusennau yn ôl ar y Trywydd Iawn yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymysg ymddiriedolwyr elusennau i'w helpu i osgoi'r problemau sydd wedi creu anawsterau difrifol i elusennau. Mae'n cynnwys astudiaethau achos go iawn o ymchwiliadau y mae'r Comisiwn wedi'u cynnal yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae hefyd yn cynnwys rhai manylion am fathau eraill o waith achos rheoleiddio'r Comisiwn sydd o natur lai difrifol ond a allai achosi problemau mewn elusennau serch. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn darparu gwybodaeth ystadegol sylfaenol ar ein gwaith achos a'n perfformiad.

Gallwch lawrlwytho'r adroddiadau yma:

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis