Pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol fel rheoleiddiwr, gwnawn ystod eang o benderfyniadau. Gall y penderfyniadau hyn amrywio o gofrestru sefydliad fel elusen neu beidio, i benderfyniadau ynghylch gwneud Cynlluniau cyfreithiol ac ymarfer ein pwerau adfer ac amddiffyn wrth ddelio ag achosion o gamddefnydd neu gamreoli honedig mewn elusennau.
Gellir herio nifer o'n penderfyniadau trwy ein gweithdrefn Adolygu Penderfyniad. Gallant gael eu herio'n uniongyrchol hefyd trwy'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Elusen).
Cyhoeddwn benderfyniadau ac adolygiadau o benderfyniadau pan fyddant yn ymwneud â phwyntiau o'r gyfraith, yn arwyddocaol neu o ddiddordeb cyffredinol fel arall. Mae nifer yn ymwneud â phroblemau ynghylch statws elusennol lle mae'n rhaid i'r Comisiwn ystyried beth sy'n elusennol yn ôl y gyfraith a chymhwyso hyn i'r amgylchiadau arbennig. Os yw'n briodol, gallwn, wrth wneud penderfyniad, dderbyn diben elusennol newydd sbon fel un sydd wedi'i gynnwys o fewn y fframwaith cyfreithiol hwnnw.
Gallwch weld crynodebau o achosion a mynegai o Benderfyniadau Terfynol:
Rydym hefyd yn cyhoeddi manylion Penderfyniadau Allweddol. Fe welwch benderfyniadau a wnaed cyn Awst 2001 yn adroddiadau blynyddol amrywiol y Comisiwn a Phenderfyniadau'r Comisiynwyr Elusennau Cyfrol 1-6 sydd ar gael o Swyddfa'r Llyfrfa ac mewn rhai llyfrgelloedd lleol.