Ein gwaith gwrthderfysgaeth

Yn yr un modd â mathau eraill o sefydliadau, gall elusennau gael eu camddefnyddio gan derfysgwyr a throseddwyr. Yn ein profiad ni, mae achosion sicr o gyfranogiad terfysgwyr neu gysylltiad terfysgwyr â'r sector elusennol yn isel o'u cymharu â maint y sector. Fodd bynnag, mae unrhyw gamddefnydd o'r fath yn hollol annerbyniol ac yn erydu ffydd gyhoeddus mewn elusennau. Felly mae'n rhaid i elusennau sicrhau nad ydynt mewn perygl.

Mae Strategaeth Wrthderfysgaeth y Comisiwn sydd hefyd ar gael mewn ffurf gryno yn esbonio ein rôl a'n hymagwedd at ddelio â phryderon ynghylch camddefnyddio elusennau at ddibenion terfysgwyr a'i strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â chamddefnydd gan derfysgwyr yn y sector elusennol.

Rydym wedi newid y strategaeth i'w diweddaru ac i roi ystyriaeth i gasgliadau'r llywodraeth yn "Review of Prevent". Fodd bynnag, mae ymagwedd pedwar llinyn i'r strategaeth o hyd at ddiogelu elusennau rhag y risg o gael eu camddefnyddio gan derfysgwyr.

Cydweithio: cryfhau partneriaethau â rheoleiddwyr y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Goruchwylio ac arolygu: dull rhagweithiol o fonitro'r sector, dadansoddi tueddiadau a llunio proffil o risgiau a lle y mae'n agored i niwed

Ymwybyddiaeth: codi ymwybyddiaeth yn y sector er mwyn adeiladu ar fesurau diogelwch presennol elusennau

Ymyrryd: delio'n effeithiol ac yn gadarn pan fydd camddefnyddio, neu'r risg o gamddefnyddio, yn amlwg

Dolenni i rai o'n canllawiau allweddol ar wrthderfysgaeth

  • Diogelu elusennau rhag niwed - ein pecyn cymorth ar-lein i ymddiriedolwyr a staff ar y mathau o risg y mae elusennau'n eu hwynebu a sut y gallan nhw adnabod, rheoli ac adrodd am risg. Mae Pennod 1 'Elusennau a Therfysgaeth' yn delio â'r risgiau y mae elusennau'n eu hwynebu'n benodol gan derfysgwyr. Mae'n esbonio'r rhannau perthnasol o'r fframwaith cyfreithiol y mae'n rhaid i elusennau weithredu o'u mewn a dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol ymddiriedolwyr i ddiogelu eu helusen. Mae Pennod 2 'Diwydrwydd Dyladwy, Monitro a dilysu'r cronfeydd' yn darparu arweiniad ynghylch diwydrwydd dyladwy, monitro a dyletswyddau ymddiriedolwyr. Mae Pennod 3 'Twyll a Throseddau Ariannol' adrannau C2 a C3 yn rhoi gwybodaeth am wyngalchu arian a chyllido gan derfysgwyr. Mae Pennod 4 'Dal, symud a deryn cronfeydd yn ddiogel yn y DU ac yn rhyngwladol' yn cynnwys gwybodaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol ymddiriedolwyr o ran dal, symud a derbyn arian yn ddiogel ac mae'n rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i sicrhau eu bod yn cyflawni'r dyletswyddau hynny'n briodol.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis