Ein hymagwedd at reoleiddio

Rôl graidd y Comisiwn Elusennau yw diogelu budd y cyhoedd mewn elusennau.

Rydym yn mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar risg at reoleiddio elusennau. Rydym hefyd yn dilyn egwyddorion arferion rheoleiddio gorau yn ein gwaith, gan sicrhau bod ein gweithgareddau yn:

  • gymesur
  • atebol
  • cyson
  • tryloyw
  • wedi'u targedu

Gall ein gwaith rheoleiddio effeithio ar:

  • bob elusen
  • grŵp arbennig o elusennau
  • elusen unigol

Mae ein Fframwaith Risg yn esbonio ein dull rheoleiddio yn fwy manwl, gan gynnwys sut rydym yn asesu risg. Defnyddiwn y Fframwaith i bennu pryd a sut i gymryd rhan mewn rhaglenni gwaith rhagweithiol neu ymateb i achosion unigol.

  • Fframwaith Risg y Comisiwn Elusennau HTML | PDF

Gweler hefyd:

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis