Sut a phryd i roi gwybod i ni am bryder

Canllawiau i ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr elusen

Rhaid i ni gael gwybod am faterion sydd wedi creu neu a allai greu colled ariannol sylweddol neu achosi risg arwyddocaol i eiddo, gwaith, buddiolwyr neu enw da elusen. Mae'r adran hon yn esbonio pryd a sut y mae angen i chi ddweud wrthym ac mae'n esbonio sut y byddwn yn ymateb.

Canllawiau i archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol

Mae dyletswydd statudol gyffredin ar archwilwyr ariannol ac archwilwyr annibynnol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i adrodd am faterion sydd o arwyddocâd sylweddol i reoleiddwyr elusennau. Mae'r adran hon yn esbonio pa faterion y dylech ddweud wrthym amdanynt ac mae'n esbonio sut y byddwn yn gweithredu.

Canllawiau i'r cyhoedd

Weithiau bydd gan bobl achos i gwyno am elusennau. Mewn rhai achosion, mater i ni ei ystyried yw hwn, ond mewn achosion eraill dylech drafod y mater â'r elusen ei hun neu gyda chorff arall. Mae'r adran hon yn esbonio pryd fyddwn a phryd na fyddwn yn gweithredu.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis