Beth yw cydsyniadau cyfreithiol?
Weithiau bydd angen i ymddiriedolwyr gael ein cydsyniad i roi'r pwer iddynt wneud rhywbeth, neu newid Dogfen Lywodraethol eu helusen er mwyn sicrhau bod eu helusen yn parhau i allu gweithredu'n effeithiol. Mewn rhai achosion ni all yr ymddiriedolwyr wneud y newidiadau hyn eu hunain, fel arfer oherwydd bod y newid arfaethedig i nodau'r elusen (ei 'hamcanion') neu oherwydd nid yw'r Ddogfen Lywodraethol ei hun yn caniatáu i'r newid arfaethedig gael ei wneud.
Yn yr achosion hyn bydd angen i ni ymwneud â'r broblem er mwyn sicrhau bod yr elusen yn gallu parhau i weithredu o fewn fframwaith cyfreithiol, cyfrifyddu a llywodraethu effeithiol. Fel rheol gallwn wneud Gorchymyn i roi'r pwerau y mae eu hangen ar ymddiriedolwyr iddynt. Mewn rhai sefyllfaoedd os nad yw'r Ddogfen Lywodraethol yn caniatáu ar gyfer newid o'r fath gallwn wneud hyn drwy 'Gynllun' - dogfen gyfreithiol sy'n rhoi cydsyniad ffurfiol i newid, disodli neu ehangu dogfen lywodraethol elusen.
Pryd y bydd y Comisiwn Elusennau yn gwneud cynlluniau?
Fel arfer, gwnawn gynlluniau ar gyfer un neu ragor o'r rhesymau canlynol:
- moderneiddio neu ehangu amcanion elusen;
- uno dwy elusen neu ragor;
- disodli dogfen lywodraethol sy'n annigonol neu heb fod yn gydnaws â dulliau gweinyddu modern; neu
- roi pwerau newydd i'r ymddiriedolwyr neu awdurdodi trafodion penodol (ee gwerthu tir) sydd er lles gorau'r elusen.
Dylai ymddiriedolwyr drafod eu hanghenion gyda ni a dim ond gwneud cais am Gynllun pan gytunir mai dyma yw'r ffordd orau o weithredu. Fel rheol bydd ceisiadau ffurfiol am Gynlluniau yn cael eu gwneud gan ymddiriedolwyr sy'n gweithredu fel corff. Byddwn yn penderfynu ar delerau'r Cynllun trwy ymgynghori â'r ymddiriedolwyr ac, os yw'n briodol, pobl eraill a allai gael eu heffeithio ganddo.
Rhoddir mwy o wybodaeth am gynlluniau yn adran Ch Diwygio dogfennau llywodraethol elusennau (CC36), gan gynnwys canllaw ar y broses o wneud cais am Gynllun a sut y daw Cynlluniau i rym.
Alla i weld pa Gynlluniau sy'n cael eu cynnig?
Gallwch - gallwch weld pob un o'n Cynlluniau arfaethedig oherwydd gwahoddwn sylwadau gan y cyhoedd. Rhaid i ni ystyried unrhyw sylwadau a gawn o fewn y cyfnod hysbysu statudol a gallwn benderfynu o ganlyniad bod angen newid y cynnig. Hefyd gallwch weld pob Cynllun caeedig ('wedi'i selio').
Sut ydw i'n gwneud sylwadau am Gynllun?
Mae ein canllaw Gwneud sylwadau am gynllun yn esbonio'r hyn y mae angen i chi ei wneud. Os ydych am gwyno am elusen, dylech ddarllen ein canllaw ar sut a phryd i ddweud wrthym am broblem.