Cyhoeddwn adroddiadau ar ein hymchwiliadau a gwaith achos rheoleiddio er mwyn i elusennau eraill allu dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd

Ein gwaith rheoleiddio

Nid yw'r rhan fwyaf o elusennau yn cael llawer o broblemau ac fel yr esboniwn yn ein Fframwaith Risg ein man cychwyn yw bod:

  • elusennau yn atebol yn gyhoeddus am yr arian a'r breintiau a gânt oherwydd eu statws elusennol
  • yr ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am weinyddu a rheoli elusennau
  • mae'r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn gwneud gwaith da wrth hyrwyddo a sicrhau bod gwaith eu helusen yn effeithiol, ac o ran ateb anghenion eu buddiolwyr
  • mae lefelau camddefnydd yn weddol isel

Fodd bynnag, bydd sefyllfaoedd yn codi pan fydd rhaid i ni gydweithio ag elusennau neu'r sector elusennol os ystyrir bod gweithredu gan ymddiriedolwyr yn creu risgiau difrifol neu risgiau sy'n effeithio ar y sector neu rannau o'r sector, neu os yw'n briodol i ni arfer ein pwerau cyfreithiol.

Mae'r adran hon yn amlinellu ein hymagwedd reoleiddio a phryd y dylech roi gwybod i ni am unrhyw bryderon. Mae'n esbonio pa gamau y byddwn yn eu cymryd os yw'r broblem yn ddifrifol, gan gynnwys pryd a sut i gynnal ymchwiliadau a pharatoi adroddiadau ar y camau rydym wedi'u cymryd mewn achosion o'r fath. Hefyd mae'n esbonio sut rydym yn helpu elusennau i ddiogelu eu hunain rhag troseddau a chamddefnydd gan derfysgwyr.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwcis