Mae'r Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) yn ffurf gyfreithiol newydd ar gyfer elusen. O'r dudalen hon gallwch gyrchu'r holl wybodaeth sydd gennym am SCEau. Mae'r ddwy set o reoliadau sy'n cwblhau'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer SCEau wedi cael eu cytuno bellach gan y Senedd a byddwn yn dechrau derbyn ceisiadau i gofrestru sefydliadau hollol newydd sydd am fod yn SCEau o 10 Rhagfyr 2012. Gwelwch yr amserlen weithredu am fanylion llawn ynghylch pryd y gallwch wneud cais i gofrestru eich SCE.
Mae rhestr isod o'r holl faterion sy'n cael sylw yn ein canllaw ar SCEau. Fodd bynnag, gan fod y SCE yn strwythur newydd gall fod meysydd ychwanegol y mae'n rhaid i ni gynhyrchu canllawiau arnynt. Os oes unrhyw gwestiynau neu faterion eraill gennych y teimlwch y mae angen i ni roi sylw iddynt, rhowch wybod i ni.
Mae'n rhaid i chi anfon yr wybodaeth hon atom yn electronig.
O dan reol 54(1)(e) o Reoliadau (Cyffredinol) Sefydliadau Corfforedig Elusennol 2012 (SI 2012/3012) gall y Comisiwn Elusennau bennu'r dull i'w ddefnyddio i anfon unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy'n ofynnol neu sydd wedi'i hawdurdodi i'w hanfon neu ei chyflenwi gan SCE i'r Comisiwn. Yn unol รข'r rheol hon mae'r Comisiwn yn pennu bod rhaid i unrhyw ddogfennau neu wybodaeth o'r fath gael eu hanfon atom drwy ddulliau electronig. Ni fyddwn yn delio ag unrhyw ddogfennau neu wybodaeth o'r fath sydd heb gael eu hanfon atom yn electronig.
Fe welwch fanylion llawn am yr offer electronig y gallwch eu defnyddio i wneud newidiadau i'ch SCE neu ffeilio'r newidiadau hyn yn ein llawlyfr ymddiriedolwyr.