Mathau o elusennau nad oes rhaid iddynt gofrestru

Efallai eich bod chi'n meddwl bod rhaid i bob elusen neu sefydliad gwirfoddol gofrestru gyda ni. Y gwir amdani yw nad yw pob mudiad gwirfoddol yn elusen, ac nid oes rhaid i rai elusennau gofrestru. Mae cannoedd ar filoedd o gyrff gwirfoddol yn y DU, ond mae llai na 180,000 ohonynt yn elusennau sydd wedi cofrestru gyda ni. Y rheswm am hyn yw:

  • gall sefydliad fod yn elusen dim ond os oes ganddo nodau sydd er budd y cyhoedd
  • nid yw cofrestru yn golygu bod sefydliad yn elusen - rhaid iddo fod yn elusen eisoes
  • nid oes rhaid i rai sefydliadau sy'n elusennau, neu nid oes hawl ganddynt, gofrestru

Gall gwneud cais i gofrestru elusen olygu llawer o waith. Nid ydym am wastraffu'ch amser os nad oes rhaid i'ch elusen gofrestru, neu ni all gofrestru. Cliciwch ar y dolenni os yw unrhyw un o'r datganiadau hyn yn gymwys i'ch elusen chi.

Sut galla i brofi bod fy elusen yn elusen go iawn os nad yw wedi cofrestru?

Gallwch wneud cais uniongyrchol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i gael gostyngiad treth. Yn yr un modd â rhif elusen gofrestredig, gallwch ddefnyddio rhif elusen HMRC fel tystiolaeth o'ch statws elusennol.

Gallwch hefyd gyfeirio pobl at ein canllawiau i esbonio pam nad oes rhaid i'ch elusen gofrestru.


Mae incwm blynyddol fy elusen yn llai na £5,000

Nid ydym yn cofrestru elusennau sydd ag incwm o lai na £5,000. Mae hyn yn helpu i osgoi costau gweinyddol ac ymdrech ddiangen i elusennau llai ac i ni. Nid oes rhaid i elusennau bach gofrestru i brofi eu bod nhw'n elusennau neu gael budd o statws elusennol.

Mae gennym ni ragor o adnoddau a gwybodaeth i elusennau sydd ag incwm o lai na £5,000.

Brig y dudalen

Nid yw pencadlys fy elusen yng Nghymru neu Loegr

Gallwn gofrestru elusennau sydd wedi'u llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr yn unig. Fel arfer mae hyn yn golygu cael eich lleoli yng Nghymru a Lloegr.

Mae rheoleiddwyr elusennau eu hunain gan yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Office of the Scottish Charity Regulator (OSCR) yn cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yn yr Alban:

OSCR, 2nd Floor, Quadrant House, 9 Riverside Drive, Dundee, DD1 4NY
Ffôn 01382 220446
Gwefan www.oscr.org.uk

Mae'r Charity Commission for Northern Ireland (CCNI) yn rheoleiddio elusennau yng Ngogledd Iwerddon:

Charity Commission for Northern Ireland, 4th Floor, 24-26 Arthur Street, Belfast, Gogledd Iwerddon, BT1 4GF

Ffôn 028 90 515490

E-bost admin@charitycommissionni.org.uk

Gwefan www.charitycommissionni.org.uk/

Mae cyfreithiau gwahanol gan wledydd eraill, felly ni allwn eich cynghori chi ar eu gofynion nhw.

Brig y dudalen

Mae fy elusen yn rhan o sefydliad mwy

Mae canghennau lleol gan rai elusennau. Mae canghennau lleol o elusennau yn cofrestru gyda ni dim ond os ydynt yn annibynnol (er enghraifft, maent yn rheoli eu cronfeydd eu hunain).

Gofynnwch i'ch rhiant sefydliad i weld a oes angen i chi gofrestru.

Mae elusennau sy'n aelodau o sefydliadau neu fudiadau cenedlaethol (megis y Sgowtiaid, Geidiaid a rhai enwadau Cristnogol) 'wedi'u 'heithrio' rhag cofrestru

Brig y dudalen

Efallai fod fy elusen wedi'i 'hesgusodi' neu ei 'heithrio' rhag cofrestru

Nid oes rhaid i Elusennau a 'eithrir' gofrestru, ond rydym yn parhau i'w rheoleiddio. Gallwn ofyn am wybodaeth am eu gweithgareddau neu ymchwilio iddynt os oes unrhyw achos o bryder gennym.

Ni all elusennau a 'esgusodir' gofrestru gyda ni ac nid ydym yn eu rheoleiddio oherwydd cânt eu harolygu gan sefydliad neu gorff arall.

Gweler ein canllaw ar elusennau a eithrir ac a esgusodir i gael rhagor o fanylion.

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd