Bydd nifer o bobl sy'n dechrau elusen yn cymryd yn ganiataol bod rhaid iddynt gofrestru gyda ni, neu'n meddwl bod rhaid cael rhif elusen gofrestredig er mwyn gwneud gwaith gwirfoddol. Fodd bynnag, yn y DU heddiw, mae'n debyg bod dros 500,000 o fudiadau gwirfoddol ond mae llai na 180,000 o'r rhain yn elusennau cofrestredig.
Mae gwneud cais i gofrestru elusen yn broses gymhleth, ac nid ydym am wastraffu eich amser os nad oes rhaid i chi wneud hynny. Mae'r adran hon yn esbonio:
Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar fathau penodol o elusennau nad oes rhaid iddynt gofrestru (elusennau a 'Eithrir' ac a 'Esgusodir') ac ar Sefydliadau Corfforedig Elusennol.