Er mwyn bod yn elusen yng Nghymru a Lloegr rhaid i chi wneud cais i'r Comisiwn Elusennau am statws elusennol.
Er y byddwn yn ystyried ceisiadau wedi'u cwblhau ni allwn roi cyngor i chi am sefydlu eich elusen neu ai dyma'r penderfyniad iawn i'ch sefydliad chi.
Mae ein gwefan yn rhoi canllawiau penodol i'ch helpu i gwblhau eich cais. Mae'n cynnwys y broses gofrestru, cael hyd i ymddiriedolwyr, sut i ddangos budd cyhoeddus a dewis enw, dibenion a dogfen lywodraethol eich elusen.
Efallai y gallwch gael gwybodaeth ac arweiniad gan Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) neu gael hyd i sefydliad lleol i'ch helpu drwy Gymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA). Gallai Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) gynnig cymorth tebyg i elusennau yng Nghymru.
Efallai y bydd sefydliadau am ymgynghori ag ymgynghorydd proffesiynol hefyd os ydynt yn ystyried gwneud cais am statws elusennol. Efallai y bydd Cymdeithas y Gyfraith Elusennau (CLA) yn gallu'ch helpu i gael hyd i gwmni cyfreithiol sy'n arbenigo yn y gyfraith Elusennau yn eich ardal.