Mae rhyw 180,000 o elusennau cofrestredig, ac efallai yr un nifer eto o elusennau anghofrestredig llai. Mae'n dra phosib bod un neu ragor o'r rhain yn gwneud y math o waith elusennol y byddai'ch elusen newydd chi yn ei wneud, ac yn yr un ardal.
Yn aml iawn bydd nifer o elusennau yn ei chael hi'n anodd i gael y cyllid cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer y sector elusennol, a gall hyn fod yn broblem arbennig i elusennau newydd. Mae'n well gan awdurdodau lleol, y cyhoedd a sefydliadau sy'n rhoi arian i elusennau roi i elusennau y maen nhw eisoes yn gyfarwydd â hwy ac sydd â hanes profedig yn y maes.
Mae nifer o bobl, gan gynnwys noddwyr a rhoddwyr posibl, yn credu bod gormod o elusennau eisoes yn cystadlu am yr arian prin sydd ar gael ac y gallai swm sylweddol o adnoddau elusennol gael eu harbed pe byddai elusennau yn cyd-grynhoi eu hadnoddau ac yn gweithio gyda'i gilydd.
Ydych chi wedi ystyried ymuno ag elusen sy'n bod?
Mae manteision clir i gael cymysgedd da o elusennau, gydag elusennau newydd sy'n dilyn gweithgareddau newydd yn cael eu hychwanegu'n gyson. Ond mae elusennau hefyd yn gallu elwa ar fanteision mawr o gael ffydd a chefnogaeth gyhoeddus drwy gydweithredu, yn hytrach na chystadlu â'i gilydd.
Mae'r rhan fwyaf o elusennau yn sefydliadau bach lleol sy'n dibynnu ar gymorth di-dâl eu hymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr eraill. Mae'n bosib bod dibenion tebyg ganddynt ond maen nhw i gyd yn gwasanaethu gwahanol gymunedau. Mae'n llai tebygol y bydd meysydd o orgyffwrdd a dyblygu neu le i dorri costau ar gyfer yr elusennau hyn. Fodd bynnag, i nifer o elusennau, yn enwedig elusennau canolig a mawr, gall cydweithio neu uno olygu defnydd mwy effeithiol o adnoddau wrth ateb anghenion eu buddiolwyr.
Nid rôl y Comisiwn Elusennau yw gwthio elusennau arbennig tuag at y ffordd hon o weithio - mae'n rhaid iddynt benderfynu beth sydd er lles gorau eu defnyddwyr. Ond ni allwn wrthod cofrestru sefydliad sydd ag amcanion elusennol clir ac sy'n ateb y gofynion lleiaf ar gyfer cofrestru dim ond ar y sail bod elusen debyg arall eisoes yn bodoli. Fodd bynnag, rydym am i elusennau fod yn ymwybodol o'r posibiliadau o weithio'n well trwy weithio gyda'i gilydd.
- Mae ein canllaw Cydweithio a Chyfuniadau yn tynnu sylw at rai materion pwysig i ymddiriedolwyr elusen ac mae'n cynnwys rhai astudiaethau achos o gydweithio a chyfuniadau.
- Mae'r Adroddiad Rheoleiddio ar Gydweithio a Chyfuniadau yn cyfeirio ymddiriedolwyr at ffynonellau gwybodaeth ychwanegol.
- Hefyd, rydym yn cydweithio'n agos ag Uned Gydweithio'r Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, sydd newydd ei sefydlu, er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn ategu ei gilydd.
Felly, cyn sefydlu elusen newydd hoffem i chi ystyried cynnig eich gwasanaethau i elusen sy'n bod, neu gyfuno ag elusen sy'n bod ac a oes unrhyw bosibilrwydd o ddyblygu gwaith elusennol presennol.
Gallwch chwilio am elusennau sy'n bod sy'n gwneud gwaith elusennol tebyg yn eich ardal ar y Gofrestr Elusennau.
Os nad yw'r dull hwn yn addas i chi, dylech sicrhau eich bod chi'n deall sut mae'n rhaid i elusen weithredu a pha gyfyngiadau a rhwymedigaethau cyfreithiol y mae'n eu rhoi arnoch chi.