Mae'r Gofrestr Elusennau yn cadw manylion sefydliadau sydd wedi cael eu cydnabod fel rhai elusennol yn ôl y gyfraith; ac
Mae'r Gofrestr yn cael ei ffurfio drwy ddefnyddio'r wybodaeth y mae elusennau yn ei rhoi ac mae'n darparu ffeithiau a ffigurau allweddol am eu gwaith a'u cyllid. Mae'r cofnodion ar gyfer elusennau mwy gydag incwm dros £500,000 yn cynnwys proffil ariannol.
Mae hefyd yn dangos manylion y rhai sy'n gyfrifol am waith yr elusen yn y dyfodol (ymddiriedolwyr) ac mae'n cofnodi a yw'r elusennau sy'n uwch na'r trothwy adrodd wedi ffeilio eu Ffurflen Flynyddol, Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon neu beidio.
Elusennau nad yw'n ofynnol iddynt gofrestru
Mae rhai elusennau sy'n fach iawn neu nid yw'r Comisiwn Elusennau yn brif reoleiddiwr ar eu cyfer, wedi'u heithrio ar hyn o bryd o'r angen i gofrestru. I gael rhagor o wybodaeth am elusennau nad ydynt i'w gweld ar y Gofrestr gweler elusennau nad oes rhaid iddynt gofrestru.
Chwilio am elusennau. Defnyddiwch y chwiliad cyflym ar frig y sgrin os ydych chi'n gwybod enw neu rif yr elusen neu defnyddiwch chwiliad uwch gyda'r meini prawf eraill i gael hyd i'r elusen ac i weld ei phroffil.
Gweld ffigurau'r sector ar ffurf graff. Gweld y sector wedi'i ddadansoddi yn ôl maint incwm neu brif ffynhonnell incwm. Gallwch deilwra'r wybodaeth drwy ychwanegu a dileu categorïau.
10 uchaf. Gweld y deg elusen uchaf yn ôl incwm, gwariant a meini prawf eraill. Ychwanegu data ychwanegol at y rhestrau 10 uchaf.
© Hawlfraint y Goron 2012 Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd