Aelodau Bwrdd a'r Uwch Dîm Rheoli

Rheoli'r Comisiwn heddiw

Bwrdd aelodau anweithredol y Comisiwn sy'n gyfrifol am lywodraethu, strategaeth a chyfeiriad y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'r gwaith o wneud penderfyniadau corfforaethol sy'n effeithio ar weithrediad y Comisiwn o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i'r Uwch Dîm Rheoli. Mae'r grŵp hwn yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr ac mae'n cynnwys un ar ddeg o Benaethiaid Gweithredol.

Mae'r Bwrdd yn cael ei gefnogi gan Bwyllgor Archwilio a Phwyllgor Tâl y Gwasanaeth Sifil. Mae'r Cyfarwyddwyr yn cael eu cynorthwyo gan bwyllgorau sy'n cynnwys eu huwch aelodau staff eu hunain ynghyd â chynrychiolwyr o adrannau allweddol eraill o'r sefydliad.

Aelodau Bwrdd

Cadeirydd
Y Fonesig Suzi Leather

Mae'r Fonesig Suzi LeatherFonesig Suzi wedi bod yn Gadeirydd y Comisiwn Elusennau ers Awst 2006. Roedd ei rolau blaenorol fel cadeirydd yn cynnwys yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg, yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgolion, Ymddiriedolaeth GIG a phrosiect cymunedol. Roedd y Fonesig Suzi hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd cyntaf yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae hi wedi gwirfoddoli gydag Age Concern, y Gwasanaeth Prawf, cylch chwarae cymunedol, prosiect bwyd cymunedol a phrosiect ar lawr gwlad i gefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.

Mae cefndir academaidd Suzi ym maes gwleidyddiaeth, gwaith cymdeithasol a phrawf. Mae ei diddordebau arbennig yn cynnwys polisi bwyd, maeth a thlodi, anghenion defnyddwyr incwm isel ac effaith polisïau Ewrop ar ddefnyddwyr y DU.

Simon Jones

Ymunodd Simon JonesSimon Jones fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Gyda'i wybodaeth a'i brofiad helaeth o'r sector elusennol yng Nghymru, roedd Simon yn bodloni gofyniad Deddf Elusennau 2006 a fynnai fod gwybodaeth o'r fath yn cael ei chynrychioli ar Fwrdd y Comisiwn. Mae Simon yn Bennaeth y Sector Cyhoeddus, Cymru ar gyfer y cwmni chwilio gweithredol, Odgers Berndtson. Tan ddiwedd 2008 roedd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro. Roedd yn Brif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru am 10 mlynedd. Mae'n gyn Gadeirydd y Comisiwn Annibynnol a fu'n adolygu Cynllun Sector Gwirfoddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Hefyd bu'n gadeirydd Rhwydwaith Cymorth Cymunedau yn Gyntaf ac mae ganddo brofiad eang o'r cyfryngau, gan gynnwys bod yn gyflwynydd ar Radio Wales.

John Knight CBE

Mae John KnightJohn Knight CBE yn ddadansoddwr polisi ac yn ymgyrchwr proffil uchel, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector statudol a gwirfoddol. Roedd yn Gyfarwyddwr Polisi ac Ymgyrchoedd am dros 16 o flynyddoedd yn Leonard Cheshire Disability. Mae'n un o'r aelodau a sefydlodd Grŵp Anabledd Mudiadau Gwirfoddol. Bu'n Ymddiriedolwr Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), ac mae wedi dal swyddi lefel Bwrdd yn y gorffennol ar asiantaethau rheoleiddio cenedlaethol - Comisiwn Gofal Cymdeithasol a'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol. Mae John yn cynnig dealltwriaeth gadarn o faterion cydraddoldeb, rheoleiddio, ymgyrchu a chyflenwi gwasanaeth cyhoeddus.

Sharmila Nebhrajani

Ymunodd Sharmila NebhrajaniSharmila Nebhrajani fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007. Mae'n Gyfarwyddwr Cyllid a Buddsoddi yn nwy Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Dwyrain Sussex - NHS East Sussex Downs and Weald a NHS Hastings and Rother. Cafodd nifer o swyddi anweithredol mewn iechyd, y cyfryngau a sectorau eraill ac mae'n aelod o bwyllgor Archwilio'r Royal Shakespeare Company. Mae hefyd yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac yn aelod o ICAEW.

Theo Sowa CBE

Ymunodd Theo SowaTheo Sowa CBE fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007.

Mae Theo yn ymgynghorydd annibynnol sy'n gweithio ar ystod eang o faterion rhyngwladol gyda ffocws ar ddatblygiad cymdeithasol a materion plant a phobl ifanc.

Mae ei gwaith yn cynnwys gwerthuso, hwyluso, polisi a datblygiad sefydliadol gydag ystod o sefydliadau rhyngwladol a rhynglywodraethol a sefydliadau rhoi grantiau, gan gynnwys UNICEF, Sefydliad Stephen Lewis, Cronfa Datblygu Menywod Affrica, DFlD, UNDP, ymysg eraill.

Simon Wethered

Ymunodd Simon WetheredSimon Wethered fel Aelod o'r Comisiwn yng Ngorffennaf 2007 ac mae'n un o'r ddau Aelod o'r Comisiwn sydd â chymhwyster cyfreithiol. Mae Simon yn ymgynghorydd cyfreithiol sy'n arbenigo mewn elusennau gyda Charles Russell LLP ac roedd yn gyn bartner yno. Mae ganddo 37 o flynyddoedd o brofiad fel cyfreithiwr, naw yn arbenigo mewn gwaith elusennau. Mae'n aelod o Gymdeithas y Gyfraith Elusennau, aelod cyswllt o Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Elusennau ac yn gyd-olygydd y llawlyfr Charity Law gan Butterworth.

John Wood

YmunoddJohn Wood John Wood â'r Comisiwn ar 1 Chwefror 2008 ac mae'n un o'r ddau Aelod o'r Comisiwn sydd â chymhwyster cyfreithiol. Mae John yn ymgynghorydd gyda Herbert Smith LLP.

Roedd yn bartner gyda'r cwmni am 25 o flynyddoedd ac yn bennaeth ei bractis Ymddiriedolaeth ac Elusennau.

Mae'n aelod o Gymdeithas y Gyfraith Elusennau a Chymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaeth ac Ystadau (STEP). Mae'n sylfaenydd ac yn aelod pwyllgor o Gymdeithas Ymddiriedolaeth Gynhennus ac Arbenigwyr Prawf (ACTAPS).

Mae hefyd yn aelod gweithredol o Bwyllgor y Gyfraith Ymddiriedolaeth ac yn gyfryngwr cymwysedig CEDR.

Aelod annibynnol o'r pwyllgor archwilio

Christopher Daws

Mae Christopher DawsChristopher Daws wedi bod yn aelod annibynnol o'r pwyllgor archwilio ers Awst 2009.

Tan 2007, roedd Christopher yn ysgrifennydd ariannol ac yn ddirprwy ysgrifennydd Comisiynwyr Eglwysig Lloegr. Bu'n drysorydd prif eglwys blwyf. Mae'n ymddiriedolwr Gweithredu dros Blant ac yn gadeirydd Cronfa Bensiwn Gweithredu dros Blant. Mae'n aelod o bwyllgor rheoli Grŵp Buddsoddwyr Elusennau. Mae hefyd yn aelod o'r Bwrdd Safonau Actiwaraidd, corff gweithredol y Cyngor Adrodd Ariannol.

Mae Christopher yn gyfrifydd siartredig ac yn aelod o Sefydliad Siartredig Trethi a Chymdeithas y Trysoryddion Corfforaethol.

Yr Uwch Dîm Rheoli

Prif Weithredwr
Sam Younger

Ymunodd Sam YoungerSam Younger â'r Comisiwn Elusennau fel Prif Weithredwr ym Medi 2010. Mae gan Sam brofiad helaeth fel arweinydd ym maes rheoleiddio, polisi cyhoeddus ac elusennau. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cadeirydd sefydlol y Comisiwn Etholiadau, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Groes Goch Brydeinig, a Rheolwr Gyfarwyddwr y BBC World Service. Ar ôl gadael y Comisiwn Etholiadol roedd yn Brif Weithredwr dros dro yr elusen dai, Shelter, ac mae wedi cael swyddi dros dro hefyd gyda'r elusen addysgiadol Bell Educational Trust a'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol.

Mae Sam yn aelod annibynnol o Bwyllgor Safonau Awdurdod Llundain Fwyaf. Mae ei rolau anweithredol blaenorol yn cynnwys Cadeirydd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch a Chadeirydd y Cyngor ym Mhrifysgol Sussex.

Penodwyd Sam yn Gadlywydd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2009. Mae'n Gydymaith Sefydliad Rheolwyr Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, ac mae ganddo nifer o rolau mygedol ac ymgynghorol mewn academïau.

  • Pennaeth Gwasanaethau Busnes
Nick Allaway
  • Pennaeth Gwybodaeth a Chyfathrebu
Sarah Atkinson
  • Pennaeth Ymchwiliadau a Gorfodi
Michelle Russell
  • Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Kenneth Dibble
  • Pennaeth Gweithrediadau, Lerpwl
Lynn Killoran
  • Pennaeth Gweithrediadau, Llundain
Beryl Hobson
  • Pennaeth Cyswllt Cyntaf
Neville Brownlee
  • Pennaeth Gweithrediadau, Taunton
Neil Robertson
  • Pennaeth Gweithrediadau, Cymru
Harry Iles
  • Pennaeth Polisi
Jane Hobson
  • Pennaeth Cofrestru
Alison Wells

Brig y dudalen


© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis