Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Concordat Rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr


1. Llunnir y concordat hwn rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru ("y Cynulliad") a'r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr ("y Comisiwn"). Mae cyfeiriadau at y Cynulliad yn cynnwys Gweinidogion y Cynulliad a'i swyddogion; yn yr un modd, mae cyfeiriadau at y Comisiwn yn cynnwys y Comisiynwyr Elusennau a'u swyddogion.

2. Nid oes gan y concordat hwn unrhyw sail mewn statud ac ni fwriedir iddo fod yn gyfreithiol-rwym. Fodd bynnag, mae'r Cynulliad a'r Comisiwn yn cytuno i ddilyn y darpariaethau a'r rhwymedigaethau a nodir ynddo lle bynnag y bo'n ymarferol.

3. Mae Memorandwm Dealltwriaeth (MD) canolog yn amlinellu'r darpariaethau cyffredin ar gyfer y berthynas weithio rhwng Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth a ddatganolwyd ac mae'n darparu sylfaen ar gyfer y concordat hwn. Yr egwyddorion sy'n sail i'r MD yw:

  • bydd cytundebau dwyblaid, a elwir yn goncordatiau, yn llywodraethu'r berthynas rhwng y Cynulliad ac adrannau unigol y Llywodraeth;
  • dylai'r rhan fwyaf o faterion sy'n gofyn am gyfathrebu allu cael eu trin fel arfer gan swyddogion neu Weinidogion;
  • os nad oes modd i fater gael ei drin gan y ddwy ochr, caiff y mater ei gyfeirio at y Cyd-bwyllgor Gweinidogol, fel a ddisgrifir yn y MD.

4. Mae perthynas weithio da rhwng y Cynulliad ac adrannau'r Llywodraeth yn hanfodol er budd y cyhoedd ac effeithiolrwydd llywodraeth yng Nghymru. Mae'r concordat hwn yn pennu'r trefniadau ar gyfer ymgynghori, cyfnewid gwybodaeth (gan gynnwys ar ba delerau y rhennir gwybodaeth), cyllid, mynediad i wasanaethau, datrys anghydfodau ac adolygu cysylltiadau. Nod y trefniadau hyn yw sicrhau bod busnes y llywodraeth yng Nghymru yn parhau i fynd rhagddo'n ddidrafferth ac yn effeithlon. Felly bydd y Cynulliad a'r Comisiwn yn cydweithredu i'r eithaf er mwyn cyflawni'r nod hwn; yn arbennig, trwy gydnabod ac ystyried cyfrifoldebau a buddiannau ei gilydd.

Trefniadau ymgynghori

5. Mae'r Cynulliad a'r Comisiwn yn ymrwymo i ymgynghori â'i gilydd ar y materion a grybwyllir yn yr Atodiad, a bydd natur ac amseriad ymgynghori o'r fath yn unol â'r darpariaethau a nodir yn y MD.

Cyfnewid gwybodaeth

6. Mae'r MD yn pennu'r egwyddorion ar gyfer rhannu gwybodaeth. Mae'r Cynulliad a'r Comisiwn yn ymrwymo i gydymffurfio â'r egwyddorion hyn er mwyn sicrhau bod pob un ym ymwybodol o fuddiannau ei gilydd, ac yn ystyried y buddiannau hyn. Gall y wybodaeth sydd i'w rhannu gynnwys papurau polisi, dadansoddiad ac ystadegau a gwybodaeth ffeithiol arall. Mae'r Atodiad yn rhoi rhai enghreifftiau penodol o wybodaeth a gaiff ei rhannu.

7. Bydd cyfnewid gwybodaeth yn amodol ar gyfyngiadau cyfrinachedd a bennir yn y MD ac unrhyw ofynion statudol gor-redol. Yn arbennig, bydd mynediad i ddeunydd a farciwyd yn amddiffynnol Llywodraeth y DU yn cael ei roi i Weinidogion y Cynulliad a swyddogion sydd â'r caniatâd diogelwch priodol. Os yw'n berthnasol, bydd darpariaethau'r Deddf Cyfrinachau Swyddogol yn gymwys.

Cyllid

8. Mae Datganiad Polisi Cyllido Trysorlys EM, dyddiedig 31 Mawrth 1999, yn amlinellu'r polisïau'r a'r gweithdrefnau a fydd yn ffurfio'r sail ar gyfer trefniadau cyllido ar gyfer y Cynulliad a'r gweinyddiaethau eraill a ddatganolwyd. Os yw'r Comisiwn neu'r Cynulliad yn cynnig mentrau polisi newydd a/neu newid i bolisi cyfredol, a all gael canlyniadau ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol i'w gilydd, bydd yn hysbysu ac yn ymgynghori â'i gilydd ymlaen llaw. Os yw costau ychwanegol yn codi o newidiadau polisi o'r fath, ymdrinnir â'r rhain yn unol â'r Datganiad Cyllido.

Trefniadau asiantaeth

9. Gall y Cynulliad a'r Comisiwn roi gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol i'w gilydd dan gytundebau sy'n cael eu llunio dan adran 41 Deddf Llywodraeth Cymru 1998 "Deddf 1998". Gall pob un godi tâl ar y llall am wasanaethau ond cytunir na fydd hyn yn cael ei wneud ar gyfer gwasanaethau sydd wedi cael eu darparu yn rhad ac am ddim yn y gorffennol.

Materion lle mae'n ofynnol ymgynghori

10. Mae'r Atodiad yn rhestru'r mannau cyswllt ar gyfer pob un o'r materion a grybwyllir ynddo.

11. Os yw'r Comisiwn yn bwriadu cychwyn gweithdrefnau sy'n cynnwys mater datganoli (fel a ddiffinnir yn Atodlen 8 Deddf 1998), dylai, lle bynnag y bo'n bosib, (pan fydd y mater hwnnw yn ymwneud â swyddogaethau'r Cynulliad, neu'n debygol o ymwneud â swyddogaethau'r Cynulliad), hysbysu'r Cynulliad o'i fwriad a'r sail ar gyfer ei benderfyniad. Os yw'r Cynulliad yn bwriadu cychwyn gweithdrefnau sy'n cynnwys mater datganoli sy'n ymwneud â swyddogaethau craidd corff cyhoeddus sy'n ymwneud ag elusennau dylai, lle bynnag y bo'n bosib, hysbysu'r Comisiwn o'i fwriad a'r sail ar gyfer ei benderfyniad.

Adolygiad

12. Bydd swyddogion y Cynulliad a'r Comisiwn yn cynnal cyfarfod cyswllt blynyddol i adolygu’r concordat. Gall yr adolygiad gael ei gyfeirio at Weinidogion y Cynulliad / Comisiynwyr os yw'n briodol. Bydd unrhyw newidiadau i'r concordat hwn yn weithredol dim ond os ydynt wedi'u cytuno yn ysgrifenedig gan y Cynulliad a'r Comisiwn. Bydd y cyfarfod cyswllt hefyd yn adolygu'r berthynas rhwng y Cynulliad a'r Comisiwn, yn mynd i'r afael ag unrhyw bwyntiau arbennig sydd i'w trafod ac yn edrych ymlaen at eu rhaglenni ar gyfer deddfwriaeth a gweithredu.

Atodiad - Materion Pan Fydd Gofyn Ymgynghori, Cyfnewid Gwybodaeth Ac Ati

 

Cyswllt y Cynulliad

Cyswllt y Comisiwn Elusennau

Polisi ar y sector elusennol

Datblygu a gweithredu polisi mewn perthynas â gweithgaredd elusennol. Bydd y Comisiwn yn sicrhau bod cyfle i gael cynrychiolaeth briodol o Gymru ar unrhyw grwpiau y mae'n eu harwain gyda chylch gorchwyl sy'n effeithio ar Gymru, gan ymgynghori â'r Cynulliad pan fydd y Comisiwn o'r farn bod hyn yn angenrheidiol. Yn yr un modd, bydd y Cynulliad yn sicrhau bod cyfle i'r Comisiwn gael ei gynrychioli'n briodol ar unrhyw grwpiau y mae'n eu harwain gyda chylch gorchwyl sy'n effeithio ar elusennau.

Cangen Sector Gwirfoddol

Is-adran Bolisi

Rhannu ystadegau

Bydd y Comisiwn yn rhoi data i'r Cynulliad sydd eisoes wedi'i gasglu am weithgaredd elusennol yng Nghymru, ac ar unrhyw bwnc arall os yw'r Comisiwn yn gyfrifol neu'n dod yn gyfrifol am gasglu neu baratoi data sy'n ymdrin â Chymru. Bydd y Comisiwn yn ymgynghori â'r Cynulliad ar yr ardaloedd daearyddol y mae'n eu defnyddio ar gyfer casglu a dadansoddi data am Gymru.

Cangen Sector Gwirfoddol

Tîm Cynnal y Bwrdd

Materion amrywiol

Holl gyfrifoldebau eraill y Comisiwn sy'n effeithio ar Gymru sydd heb gael eu crybwyll uchod ac mae'r Cynulliad yn derbyn ymholiadau, cynrychiolaethau, ac ati yn eu gylch. Bydd angen gwybodaeth ar y materion hyn yn aml er mwyn ateb gohebiaeth, briffio Aelodau'r Cynulliad ac ati.

Cangen Sector Gwirfoddol

Tîm Cynnal y Bwrdd

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd