Mae'r Comisiwn yn gweithredu cynllun adolygu cwynion annibynnol. Mae'r cynllun ar gael mewn amgylchiadau arbennig i achwynwyr sy'n parhau i fod yn anfodlon gyda chanlyniad terfynol gweithdrefn gwyno fewnol y Comisiwn.
Nod ein cynllun yw cynnig cam terfynol o adolygu annibynnol ar gyfer y cwynion mwyaf difrifol a chymhleth. Nid yw'r cynllun hwn ar gael ar gyfer achosion sy'n cael eu trin gan y Comisiwn Elusennau Uniongyrchol neu ar gyfer mathau penodol o achosion sy'n cael sylw yn swyddfa Cymru.
Mae meini prawf mynediad penodol yn gymwys i'r cynllun a bydd achosion yn gymwys i'w hadolygu dim ond os yw'r ACA o'r farn bod y meini prawf wedi'u bodloni.
Gall cwynion fod yn gymwys ar gyfer adolygiad annibynnol os ydynt yn:
- gwynion am arferion systematig y Comisiwn yr honnir eu bod wedi achosi niwed neu anghyfiawnder sylweddol
- cwynion am ragfarn neu wahaniaethu sy'n achos-benodol - hynny yw, lle yr honnir bod y Comisiwn wedi dangos tuedd ac wedi bod yn annheg wrth weithredu ei bolisïau ac mae hyn wedi achosi niwed neu anghyfiawnder sylweddol
- cwynion bod gweithredu neu ddiffyg gweithredu'r Comisiwn wedi achosi niwed neu anghyfiawnder sylweddol
Mae'r ACA yn gallu ystyried y safonau gwasanaeth a gynigir gan y Comisiwn yn unig ac ni all ailystyried penderfyniadau'r Comisiwn, os cawsant eu gwneud o dan ei bwerau statudol neu ei ddisgresiwn gweithredol.
Yn ogystal, gall cwynion gael eu hystyried i'w hadolygu'n annibynnol dim ond os ydynt yn cael eu cyfeirio cyn pen 3 mis o ymateb terfynol y Comisiwn o dan ei drefniadau cwyno mewnol.
Mae'r Adolygwyr Cwynion Annibynnol yn gweithredu ar achosion am yn ail. Os hoffech chi fynd â'ch cwyn ymhellach ac rydych chi'n meddwl eich bod chi'n gymwys ar gyfer y cynllun, dylech chi gysylltu â ni gan farcio'ch e-bost/llythyr at sylw'r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid. Byddan nhw'n eich cynghori chi ynghylch pa ACA y dylech chi gysylltu ag ef/hi. Yna gallwch chi gysylltu'n uniongyrchol â'r ACA eich hun.
Bydd yr ACA yn ystyried eich cwyn ac yn rhoi gwybod i chi a yw'n bodloni'r meini prawf mynediad neu beidio ac a ellir ei adolygu. Mae penderfyniadau'r ACA ynghylch cymhwysedd yn derfynol.
Adolygwyr Cwynion Annibynnol y Comisiwn yw:
CEDR Services Ltd
Centre for Effective Dispute Resolution
|
ch&i associates ltd
complaint handling & investigation associates ltd
|
|
|
|