Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni mewn sawl ffordd. Os ydych chi am gysylltu â ni ynghylch elusen arbennig rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, gan gynnwys enw a rhif cofrestru'r elusen (gweler y Gofrestr Elusennau).

Mae'r rhan fwyaf o'r ymholiadau cyffredin a dderbyniwn wedi'u cynnwys o fewn cwestiynau cyffredin yn ein Sylfaen Wybodaeth Cwestiynau Cyffredin.

E-bost

Y ffordd orau i gysylltu â ni yw drwy anfon e-bost at enquiries@charitycommission.gov.uk.

Ffôn

Gallwch ffonio ein canolfan gyswllt hefyd ar 0845 300 0218.

Mae llinellau ar agor rhwng 09:00 a 17:00, Llun - Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.

Os hoffech siarad â ni mewn iaith heblaw Saesneg, mae ein gwasanaeth cyfieithu dros y ffôn yn cynnig mwy na 150 o ieithoedd. Dywedwch wrthym ym mha iaith yr hoffech ei siarad a byddwn yn cynnig gwasanaeth cyfieithydd i chi.

Ffôn testun

Cynigiwn wasanaeth ffôn testun ar gyfer galwyr sydd â nam ar y clyw a'r lleferydd - ffoniwch 0845 300 0219. Os nad ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth o'r blaen dylech ddarllen ein gwybodaeth a chyfarwyddiadau ar y ffôn testun.

Post

E-bost yw'r ffordd hawsaf, rhataf a chyflymaf i gysylltu â ni. Mae'n cymryd 8 diwrnod ar gyfartaledd i brosesu gohebiaeth a anfonwyd drwy'r post, o'i gymharu â 2 ddiwrnod ar gyfer e-bost. Os na allwch ddefnyddio'r e-bost fe gewch ein cyfeiriad post yma.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd