Diben y Ffurflen Gwybodaeth Gryno (SIR) yw cynnig gwybodaeth well i'r cyhoedd am waith yr elusennau mwy.
Mae'r SIR yn ffurfio rhan C o'r Ffurflen Flynyddol y mae'n rhaid i elusennau gydag incwm dros £1 miliwn ei chwblhau a'i chyflwyno i ni. Gall y cyhoedd weld SIR elusen o ddolen i'w chofnod ar y Gofrestr.
Mae'r SIR wedi'i lunio i elusennau allu darparu crynodeb hylaw o'u nodau, gweithgareddau a chyflawniadau allweddol. Gall roi gwybodaeth am y ffactorau sydd wedi effeithio ar berfformiad a hefyd arwain darllenwyr at ffynonellau gwybodaeth fwy manwl, megis Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a chyfrifon neu wefan yr elusen.
Dylai roi gwybodaeth am yr elusen ei hun ac unrhyw is-gwmïau masnachu sydd wedi'u cofnodi o fewn cyfrifon grwp.
Cwblhau'r ffurflen
Ar y ffurflen ar-lein, mae'r botymau
yn rhoi canllawiau ar sut i gwblhau'r Ffurflen Flynyddol, gan gynnwys yr adran Rhan C. Mae hefyd ar gael mewn fformat PDF o'r dudalen Ffurflenni Blynyddol a chanllawiau. I gael gwybodaeth bellach, ewch i Gwestiynau Cyffredin.
Pan fyddwch yn cwblhau'r SIR, dylech geisio creu dogfen sy'n helpu'r cyhoedd i ddeall yr hyn y mae'ch elusen yn ei wneud a sut y mae wedi perfformio. Cofiwch mai'r cyhoedd yw'ch prif gynulleidfa, felly defnyddiwch iaith sydd mor glir a syml â phosibl.
Crynodeb ydyw, felly mae cyfyngiadau ar faint o destun y gallwch ei gofnodi. Dangosir y cyfyngiadau o ran nodau wrth ymyl pob cwestiwn ar y ffurflen.
Sut i'w hanfon
Y ffordd hawsaf, gyflymaf a mwyaf diogel yw anfon yr wybodaeth hon ar-lein. Os ydych yn cwblhau'r SIR ar-lein, rhaid i chi anfon Rhannau A a B y Ffurflen Flynyddol yn gyntaf. Os ydych am argraffu copi o SIR gwag i'ch helpu i baratoi'r cynnwys, gallwch wneud hyn o'r dudalen Ffurflenni Blynyddol a chanllawiau.
i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu anfon eich TAR a chyfrifon.