Fel rheol bydd y Ffurflen Flynyddol ar gael ar-lein y diwrnod ar ôl diwedd blwyddyn ariannol yr elusen. Os nad ydych wedi'i hanfon o fewn yr ychydig fisoedd cyntaf, byddwn yn eich atgoffa bod eich ffurflen yn barod i'w chwblhau. Caiff ei hanfon drwy'r e-bost os ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost i ni gysylltu â chi, fel arall caiff ei hanfon atoch drwy'r post.
Os yw diwedd eich blwyddyn ariannol wedi newid ac nid ydych wedi dweud wrthym ar y ffurflen flaenorol, rhaid i chi roi gwybod i ni. Bydd hyn yn golygu bod y ffurflen gywir ar gael ar yr adeg iawn ac ni chaiff nodiadau atgoffa eu hanfon atoch pan nad oes angen i chi gyflwyno'ch ffurflen. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r cyfleuster Gweld/Newid Manylion Elusen pan fyddwch wedi mewngofnodi drwy ddefnyddio'r botwm isod.
Mae'r adran hon yn esbonio pryd y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr anfon eu Ffurflenni Blynyddol atom ac mae'n rhoi canllawiau ar yr wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi mewn gwahanol rannau o'r ffurflen:
Anfon eich Ffurflen Flynyddol atom
Pan fyddwch yn barod i anfon eich Ffurflen Flynyddol atom, y ffordd symlaf a mwyaf diogel i wneud hyn yw drwy ei hanfon ar-lein.
i gwblhau eich Ffurflen Flynyddol a/neu anfon eich TAR a chyfrifon.