Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Llywodraethu Da: Cod i'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Tachwedd 2011

Mae llywodraethu yn ymwneud â sicrhau bod eich sefydliad yn rhedeg yn effeithiol ac yn dilyn arferion da. Mae codau llywodraethu eu hunain gan y sector preifat a'r sector cyhoeddus; mae cod ar gyfer y Sector Gwirfoddol a Chymunedol hefyd, gan gynnwys elusennau.

Mae Llywodraethu Da: Cod i'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol ('y Cod') wedi cael ei ysgrifennu gan y sector, ar gyfer y sector. Mae'n ganllaw ymarferol, hawdd ei ddefnyddio i helpu elusennau i ddatblygu arferion da. Rydym yn cefnogi'r Cod ac yn annog pob elusen - o bob lliw a llun - i'w ddefnyddio.

Mae Grŵp Llywio annibynnol gan gynnwys cynrychiolwyr o ACEVO, Sefydliad Ysgrifenyddion a Gweinyddwyr Siartredig (ICSA), NCVO a'r Small Charities Coalition (SCC) yn gyfrifol am ddatblygu'r Cod, gyda chymorth gan y Comisiwn Elusennau. Cyhoeddwyd ail argraffiad yn Hydref 2010, a chyhoeddwyd fersiwn i sefydliadau llai yn Nhachwedd 2011.

Mae'r Cod yn seiliedig ar chwe phrif egwyddor sy'n disgrifio sut mae bwrdd effeithiol yn darparu dulliau llywodraethu ac arweinyddiaeth dda:

  1. deall eu rôl;
  2. sicrhau bod pwrpas y sefydliad yn cael ei gyflawni;
  3. gweithio'n effeithiol fel unigolion ac fel tîm;
  4. arfer rheolaeth effeithiol;
  5. ymddwyn yn onest;
  6. bod yn agored ac yn atebol.

Mae'r Cod yn esbonio pam mae pob egwyddor yn bwysig, ac mae'n rhoi enghreifftiau sy'n dangos sut i'w dilyn yn ymarferol.

Edrychwch ar y Fersiwn HTML neu lawrlwythwch gopi o'r Cod (PDF):

Fersiwn Llawn | Fersiwn Hawdd ei Argraffu

Fersiwn Cryno

Fersiwn i sefydliadau llai | Rhestr Termau

Ble alla i gael copïau caled o'r Cod?

Nid oes unrhyw gyllid gan Grŵp Llywio'r Cod ar hyn o bryd ar gyfer argraffu'r Cod, ond mae'n gobeithio cael rhagor o gyllid yn y dyfodol. Am y tro mae'r Cod ar gael i'w lawrlwytho yn unig. I gael rhagor o wybodaeth gweler Gwefan Cod Llywodraethu Da.

Brig y dudalen

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd