Bydd elusennau'n buddsoddi er mwyn iddynt allu hyrwyddo eu nodau elusennol.
Gallant fuddsoddi mewn sawl ffordd i gyflawni eu nodau, ac mae dyletswyddau cyfreithiol a phrosesau gwneud penderfyniadau penodol yn gysylltiedig â phob math o fuddsoddi.
Yn ein canllaw wedi'i ddiweddaru, Buddsoddi Cronfeydd Elusennol (CC14), rydym yn canolbwyntio ar fuddsoddiad ariannol a buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen. Erbyn hyn mae'r canllaw yn cynnwys ychydig o arweiniad ar fuddsoddiad 'cymhelliad cymysg' hefyd. Mae hon yn ymagwedd arall at fuddsoddi ac mae'n faes diddordeb newydd i rai elusennau.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr allu dangos sut mae buddsoddiad er lles gorau'r elusen. Mae rheolau gwahanol yn gymwys yn dibynnu ar yr hyn y mae'r elusen yn ei wneud.
Nid yw ymddiriedolwyr yn debygol o gael eu beirniadu am eu penderfyniadau neu am fabwysiadu polisi buddsoddi arbennig os gallant dangos eu bod nhw wedi:
- ystyried y materion perthnasol
- ceisio cyngor os yw'n briodol
- gwneud penderfyniad rhesymol
Gweler hefyd: