Elusennau, Etholiadau a Refferenda

Diweddariad i'r canllaw - Ionawr 2011

Gallwch hefyd weld fersiwn PDF lliw llawn o'r Elusennau, Etholiadau a Refferenda

Canllaw ar gyfer elusennau yw hwn i'w ddefnyddio yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddi etholiad a dyddiad cynnal yr etholiad. Mae'n berthnasol i etholiadau cenedlaethol a lleol. Mae adran hefyd sy'n delio â refferenda cenedlaethol. Pwrpas yr adran hon yw cynorthwyo elusennau i benderfynu pa weithgareddau sy'n briodol ac sydd heb fod yn briodol wrth baratoi ar gyfer refferendwm, ac yn ystod ymgyrch y refferendwm ei hun. Dylid darllen y canllaw byr hwn law yn llaw â'n canllaw mwy manwl ar y pwnc ehangach sef Dweud eich Dweud: Canllaw ar ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau (CC9). Mae'r egwyddorion a ddisgrifir yn Dweud eich Dweud yn parhau i fod yn gymwys yn ystod cyfnod etholiad.

Mae'r canllaw hwn yn ategu'r gofynion eraill, megis y gyfraith etholiadol, sy'n gymwys i elusennau a chyrff sydd heb fod yn elusennau.

Rhestrir y prif Ddeddfau Seneddol isod o dan Ragor o Wybodaeth.

Mae natur annibynnol y sector elusennol yn hollbwysig i gymdeithas, ac mae'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y cyhoedd. Prif egwyddor y gyfraith elusennau o ran etholiadau yw y dylai elusennau fod yn annibynnol ar wleidyddiaeth plaid, a chael eu gweld fel cyrff sy'n annibynnol ar wleidyddiaeth plaid. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cyngor cyfreithiol ac arfer da i helpu elusennau i sicrhau eu bod yn gallu:

  • cynnal y nodwedd hanfodol o annibyniaeth
  • defnyddio eu llais yn effeithiol adeg etholiad

Mae sawl ffordd y gall elusen fod mewn perygl o ymhél â gwleidyddiaeth plaid, er bod hynny'n anfwriadol. Fe'u nodir o dan y penawdau canlynol:


Polisïau

  • Gall safle polisi elusen ar bwnc arbennig fod yr un fath â safle un o'r pleidiau gwleidyddol, neu'n debyg i'r safle hwnnw fwy neu lai. Yn yr achos hwn, mae'n hollol dderbyniol i'r elusen barhau i ymgyrchu ar y pwnc hwnnw a dadlau dros ei pholisi ar yr amod ei bod yn egluro ei bod yn annibynnol ar unrhyw blaid wleidyddol sy'n hyrwyddo'r un polisi, ac nid yw'n gwneud dim i geisio cefnogaeth dros unrhyw blaid wleidyddol.

Cyhoeddusrwydd

  • Mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd (gan gynnwys deunydd printiedig, cyfweliadau yn y cyfryngau, a gwefannau) gall elusen hyrwyddo ei safbwyntiau ar faterion sy'n ymwneud â'i hamcanion a'i gweithgareddau. Fodd bynnag, rhaid i'r elusen osgoi cymharu ei safbwyntiau yn benodol (o blaid neu fel arall) â safbwyntiau'r pleidiau gwleidyddol neu'r ymgeiswyr sy'n cymryd rhan yn yr etholiad. Er enghraifft, os yw elusen tai yn cefnogi adeiladu 100,000 o gartrefi newydd, gall amlinellu polisïau tai pob plaid, gan gynnwys sawl cartref newydd y mae pob plaid wedi ymrwymo i'w godi, ond ni all alw ar bobl i bleidleisio dros un blaid neu'r llall. Er y gall elusennau gesio dylanwadu ar farn y cyhoedd ar bwnc arbennig os yw'n hyrwyddo neu'n cefnogi eu hamcanion, y pwynt allweddol yw bod rhaid iddynt adael i'r etholaeth benderfynu dros ei hunan sut i bleidleisio.
  • Gall elusen gyhoeddi safbwyntiau ymgeiswyr mewn etholiadau lleol a chenedlaethol os yw'r safbwyntiau hyn yn ymwneud â dibenion yr elusen a bydd eu cyhoeddi yn cynyddu diddordeb y cyhoedd yn y materion sylfaenol a'r dadlau am y materion hynny. Ni all yr elusen geisio cefnogaeth dros unrhyw bleidiau neu ymgeiswyr arbennig.
  • Bydd rhai elusennau yn cyhoeddi maniffesto er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r materion y maent yn ymgyrchu arnynt, ac yn arbennig y newidiadau y maent yn galw amdanynt ar ran eu buddiolwyr. Unwaith eto, mae hyn yn dderbyniol os yw'r elusen yn ceisio darbwyllo'r pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu'r polisïau y mae'n eu harddel, neu os yw dim ond yn ceisio codi proffil cyhoeddus y materion hynny. Nid yw'n dderbyniol ceisio dylanwadu ar ymddygiad pleidleiswyr. Os yw plaid wleidyddol yn cysylltu ag elusen i geisio caniatâd i gyfeirio at yr elusen yn ei maniffesto, boed mewn perthynas â phlaid wleidyddol neu yn gyffredinol, mae'n rhaid i'r elusen wrthod y cais. Y rheswm am hyn yw'r risg y bydd yr elusen yn cael ei gweld yn un sy'n cefnogi'r blaid wleidyddol ei hun.
  • Ni all awdurdodau lleol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1986, roi cyhoeddusrwydd i unrhyw blaid wleidyddol neu gyhoeddi unrhyw ddeunyddiau sy'n ymddangos fel petaent yn ceisio dylanwadu ar gefnogaeth gyhoeddus o blaid neu yn erbyn plaid wleidyddol. Mae'r cyfyngiadau hyn yn cynnwys unrhyw sefydliadau, gan gynnwys elusennau, sy'n derbyn cyllid gan awdurdod lleol. Felly mae'n bosibl y bydd elusennau sy'n ymddwyn felly yn gweithredu'n groes i ofynion cyfreithiol elusennau a llywodraeth leol, a gall fod risg i'w cyllid. (Mae'r diffiniad o ddeunydd cyhoeddedig yn cynnwys y cyfan neu ran o unrhyw destun mewn unrhyw gyfrwng printiedig neu electronig, a darllediadau teledu a radio, gan gynnwys cyfweliadau).

Mae rheolau gan y gyfraith etholiadol hefyd ynghylch gweithgareddau a all gael eu hystyried yn ymgyrchu cysylltiedig ag etholiad gan bob sefydliad, gan gynnwys elusennau. Felly, hyd yn oed os ydych yn dilyn y canllawiau a nodwyd yn y ddogfen hon ac yn Dweud eich Dweud: Ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau (CC9), os ydych yn defnyddio deunyddiau a allai roi'r argraff i'r cyhoedd fod ymgeiswyr neu bleidiau arbennig yn cefnogi neu'n gwrthwynebu eich polisïau, efallai y bydd angen i chi gofrestru fel trydydd parti gyda'r Comisiwn Etholiadol. Bydd hyn yn dibynnu ar sut rydych yn bwriadu ymgyrchu a faint rydych yn ei wario. Mae canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar y rheolau sy'n effeithio ar ymgeiswyr di-blaid i'w gweld ar ei wefan, ac fe gewch gyngor ar achosion arbennig drwy ffonio 020 7272 0616.

Pleidiau

  • Ni all elusennau gefnogi neu wrthwynebu plaid wleidyddol neu ymgeisydd gwleidyddol. Ni all elusennau roi arian i bleidiau gwleidyddol.
  • Gall elusennau wahodd ymgeiswyr a chynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol i gyfarfodydd cyhoeddus ar faterion y mae'r elusen yn ymgyrchu arnynt, er enghraifft drwy wahodd ymgeiswyr i ddadlau'r materion hynny, neu siarad mewn derbyniad i lansio ymgyrch yr elusen. Ni ddylai ymddiriedolwyr geisio cefnogaeth dros unrhyw blaid wleidyddol. Un ffordd o sicrhau nad yw eu helusen yn gwneud hynny yw gwahodd cynrychiolwyr o sbectrwm gwleidyddol mor eang â phosibl.
  • Fodd bynnag, gall fod yn anodd yn ymarferol i wahodd ymgeiswyr o sbectrwm gwleidyddol eang. Nid yw'n golygu bod rhaid i bob plaid gael ei chynrychioli bob tro y bydd elusen yn gwneud unrhyw waith gyda phleidiau gwleidyddol. Dylai’r ymddiriedolwyr wneud penderfyniad drwy ystyried a fyddai cysylltiad o'r fath yn hyrwyddo neu'n llesteirio buddiannau'r elusen. Er enghraifft, gallai digwyddiad fod yn haws i'w reoli, gyda ffocws gwell, os yw'r holl bleidiau lleiafrifol yn cael eu gwahardd. Os yw'r elusen yn cael ei chynghori (er enghraifft gan yr heddlu) y bydd presenoldeb ymgeisydd arbennig mewn digwyddiad yn creu perygl o anrhefn, byddai hynny'n rheswm da dros beidio â'i wahodd. Hefyd gall elusennau benderfynu peidio â gwahodd cynrychiolydd o blaid wleidyddol sy'n dadlau dros bolisïau sy'n groes i amcanion yr elusen, neu byddai ei bresenoldeb neu farn yn debygol o dramgwyddo cefnogwyr yr elusen. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i elusen gael rhesymau cryf iawn dros benderfynu peidio â gwahodd plaid wleidyddol brif ffrwd.

Ymgeiswyr

  • Gall elusennau gysylltu ag ymgeiswyr yn ystod etholiad, gan esbonio pryderon yr elusen a gofyn am farn yr ymgeiswyr, gyda'r nod o ysgogi dadlau.
  • Fodd bynnag, dylai elusennau fod yn arbennig o wyliadwrus rhag bod yn gysylltiedig, neu fod yn gysylltiedig ym meddyliau'r cyhoedd ag ymgeisydd neu blaid wleidyddol arbennig. Os yw'r elusen yn cefnogi achos poblogaidd, gall ymgeiswyr deimlo bod cefnogi'r elusen yn cynnig budd iddynt, ond dylai'r elusen fod yn ofalus a sicrhau nad yw'n rhoi'r argraff ei bod yn rhoi cefnogaeth debyg.
  • Ni all elusennau gefnogi ymgeiswyr arbennig hyd yn oed os yw'r ymgeiswyr hynny yn aelod o amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol.
  • Os yw'ch elusen yn gweithio ar draws y DU, mae materion ychwanegol i'w hystyried. Er enghraifft, os ydych mewn cysylltiad ag aelod o Senedd yr Alban (MSP) yn ystod cyfnod etholiad yng Nghymru a Lloegr, dylech fod yn ymwybodol o unrhyw risg, a chymryd camau i leddfu unrhyw risg sy'n codi drwy eich cysylltiad â'r MSP ac y gellir rhoi'r argraff eich bod yn cefnogi'r blaid wleidyddol y mae'n ei gynrychioli, hyd yn oed os nad yw'r MSP ei hun yn sefyll fel ymgeisydd.
  • Ni all elusennau gynorthwyo ymgeiswyr gyda'u hymgyrchoedd etholiadol, boed yn ariannol neu fel arall. Wrth gwrs, gall aelodau unigol o elusen ddewis cynorthwyo unrhyw ymgeisydd yn eu rhinwedd personol, ond ni ddylai swyddogion a gweithwyr elusen ddefnyddio eu swydd ar gyfer unrhyw weithgareddau ymgyrchu mewn ffordd a allai roi'r argraff fod yr elusen yn cefnogi unrhyw ymgeisydd.
  • Os yw gweithiwr yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau ymgyrchu elusen, ac mae'n ymwneud yn bersonol ag un blaid wleidyddol arbennig hefyd, er enghraifft, mae'n sefyll fel ymgeisydd, dylai ddatgan hyn i'w gyflogwr. Yna dylai'r ymddiriedolwyr ystyried y gwrthdaro buddiannau posibl hwn ac asesu'r risgiau i'r elusen o ran enw da a'r atebolrwydd cyfreithiol sy'n codi os yw'r unigolyn yn ymgymryd â'r ddwy rôl yr un pryd.

Cyfleusterau

  • Gall fod yn ofynnol i rai elusennau (ee rhai ysgolion) yn ôl y gyfraith etholiadol i gynnig eu hadeilad i ymgeiswyr er mwyn iddynt gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn rhad ac am ddim.
  • Os yw'r achos yn wahanol, ond hoffai ymgeisydd ddefnyddio'r cyfleusterau o fewn safle elusen (ee neuadd bentref neu ganolfan gymunedol) i gynnal cyfarfod cyhoeddus, dylid ei drin fel llogi masnachol arferol, a dylid codi tâl ar y gyfradd a benderfynir gan yr ymddiriedolwyr. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y gyfradd hon, ond dylai fod yn rhesymol a dylid codi cyfradd debyg ar gyfer pob ymgeisydd.
  • Gall elusen wrthod llogi cyfleusterau i ymgeisydd, plaid neu grŵp arall os oes rheswm da gan yr ymddiriedolwyr elusen dros gredu y byddai llogi'r cyfleusterau yn tramgwyddo buddiolwyr yr elusen, eu defnyddwyr neu eu cefnogwyr, neu os cânt eu cynghori gan yr heddlu y byddai gwneud hynny yn creu perygl o anrhefn gyhoeddus.

Refferenda

  • Mae refferendwm yn cael ei gynnal pan ofynnir i etholwyr bleidleisio ar bwnc neu gynnig arbennig (ar ffurf cwestiwn). Mae refferenda cenedlaethol neu ar draws y DU yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
  • Mae'r egwyddorion sy'n rheoli gweithgarwch gwleidyddol elusennau hefyd yn gymwys i refferenda. Mae hyn yn golygu, yn dibynnu ar natur pwnc neu gwestiwn y refferendwm, y gall fod rhai achosion pan fydd yn briodol i elusen amlinellu manteision ac anfanteision pleidlais ie neu na i'w buddiolwyr.
  • Er enghraifft, pe byddai canlyniad refferendwm yn cael effaith arbennig ar bobl hŷn, byddai'n briodol i elusen sy'n gweithio gyda phobl hŷn i esbonio effeithiau'r canlyniadau gwahanol i'w buddiolwyr. Efallai yr hoffai elusen sy'n bodoli i hybu dinasyddiaeth dda annog pobl i gymryd rhan yn y broses.
  • Drwy wneud hynny, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus sut y mae gweithgaredd o'r fath yn cyfateb â'i dibenion elusennol, a sut y byddant yn sicrhau eu bod yn cynnal eu hannibyniaeth a bod yn amhleidiol.
  • Fodd bynnag, mae hyn yn wahanol i elusen sy'n ymgyrchu'n benodol dros bleidlais 'ie' neu 'na'.
  • Os yw elusennau am ymgyrchu dros bleidlais 'ie' neu 'na' mewn refferendwm, dylent ystyried yn ofalus ganllawiau'r Comisiwn (y canllaw hwn a Dweud eich Dweud: Ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau (CC9)). Mewn achosion eithriadol gall elusennau ystyried bod canlyniad refferendwm yn debygol o gael effaith uniongyrchol, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, ar gyflawni eu hamcanion elusennol. Os oes effaith anuniongyrchol neu ansicr iawn ar waith yr elusen, bydd yn anodd i'r ymddiriedolwyr gyfiawnhau ymgyrchu dros ganlyniad arbennig.
  • Hefyd mae'n rhaid i elusennau ystyried yn ofalus pa gyfiawnhad sydd dros ymgyrchu os oes dimensiwn plaid wleidyddol arwyddocaol i'r refferendwm, neu os yw nodau'r elusen yn gulach nag effaith posibl y refferendwm. Y rheswm am hyn yw'r risg y gallai'r elusen ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol neu blaid wleidyddol amhriodol.
  • Ar ôl ystyried y canllaw a'r materion hyn, os yw'r elusen yn ansicr o hyd ynghylch a yw'n weithgarwch priodol i'w elusen ymwneud ag ef, dylent geisio arweiniad gan y Comisiwn.
  • Y cwestiwn allweddol i'r ymddiriedolwyr yw yn union sut y byddai gweithgarwch o'r fath yn ffordd effeithiol o hyrwyddo amcanion yr elusen.

Mae cyfrifoldebau'r Comisiwn Etholiadol dros refferenda cenedlaethol neu ar draws y DU yn cynnwys cofrestru ymgyrchwyr, rheoleiddio gwariant a rhoddion i'r ymgyrch, a dynodi prif grwpiau ymgyrchu. Os ydych yn cyhoeddi deunyddiau a allai roi'r argraff i'r cyhoedd bod canlyniad pleidlais 'ie' neu 'na' mewn refferendwm yn debygol o gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar waith eich elusen, mae'n bosib y bydd rhaid i chi gofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol fel ymgyrchydd.

Mae elusennau sy'n cael eu hariannu'n gyfan gwbl neu'n bennaf gan rai cronfeydd cyhoeddus hefyd yn ddarostyngedig i adran 125 o PPERA sy'n gwahardd cyhoeddusrwydd yn y 28 diwrnod cyn cynnal refferendwm. Mae'r gwaharddiad hwn hefyd yn gymwys i gyhoeddi unrhyw wybodaeth gyffredinol am y refferendwm yn ogystal ag unrhyw weithgarwch ymgyrchu cysylltiedig â refferendwm.

Mae canllawiau pellach ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol , neu gallwch ffonio am gyngor, 020 7271 0616.

Rhagor o Wybodaeth

Dweud eich Dweud: Canllaw ar ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau (CC9)

Deddfau Seneddol www.legislation.hmso.gov.uk

  • Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl, 1983, 1985 a 2000
  • Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda, 2000
  • Deddf Llywodraeth Leol, 1986

Gwefannau defnyddiol

Y Comisiwn Etholiadol www.electoralcommission.org.uk/(neu drwy ffonio 020 7271 0616)

Yr Awdurdod Safonau Hysbysebu www.asa.org.uk

Cymdeithas Llywodraeth Leol www.lga.gov.uk

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol www.ncvo-vol.org.uk.

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwis