Yn yr adran hon...

Beth sy'n newdd?

Uno llwyddiannus: Eich helpu chi i lwyddo

Medi 2009

Gallwch weld y fersiwn lliw argraffedig o'r cyhoeddiad hwn hefyd: Uno Llwyddiannus: Eich helpu chi i lwyddo

Cynghorion ar gyfer uno llwyddiannus

1. Dylai'r uno fod er lles gorau buddiolwyr yr elusennau

2. Dylai'r elusennau sy'n rhan o'r uno gael amcanion, diwylliant a gwerthoedd cydnaws

3. Mae cyfathrebu effeithiol â phob rhanddeiliad o'r cychwyn cyntaf yn hanfodol - dylai'r prosesau a'r canlyniadau fod yn glir i bawb

4. Dylai ymddiriedolwyr elusennau fod yn unedig eu cred mai uno yw'r ffordd orau ymlaen

5. Adnabod y rolau a'r cyfrifoldebau allweddol yn y broses uno

6. Cyfathrebu a thrafod mewn ffordd sy'n adlewyrchu buddiannau pob parti

7. Cysylltu â'r Comisiwn Elusennau yn gynnar yn y broses os oes angen cyngor

Mae ein gwefan yn cynnig ystod eang o wasanaethau, offer, gwybodaeth a chanllawiau hawdd eu cyrchu ar-lein. Cyn cysylltu â ni am gyngor neu gymorth efallai yr hoffech chwilio ein cronfa ddata ar-lein o gwestiynau cyffredin. Gall y rhan fwyaf o bobl gael hyd i'r ateb y mae ei angen arnynt heb ffonio neu ysgrifennu e-bost. Fel arall, ceir dolen i'n tudalen Cysylltu â ni ar frig ac ar waelod pob tudalen we.

Dylid darllen y pecyn cymorth hwn ochr yn ochr â chyhoeddiad y Comisiwn Elusennau Cydweithio a Chyfuniadau: Cyflwyniad (CC34)

Cynnwys

Blychau

Blwch 1: Rhwystrau i lwyddiant
Blwch 2: Proses gwneud penderfyniad i uno nodweddiadol
Blwch 3: Enghreifftiau o amcanion cydnaws
Blwch 4a: Strwythur: Defnyddio strwythur sefydliad presennol
Blwch 4b: Strwythur: Creu elusen newydd
Blwch 5: Corffori elusen
Blwch 6a: Materion y mae angen cael cyngor y Comisiwn Elusennau arnynt
Blwch 6b: Materion i'r elusennau sy'n uno eu hystyried
Blwch 7: Elusennau sy'n gweithredu yn yr Alban
Blwch 8: Eiddo a freiniwyd yn y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

1. Cyflwyniad

1.1 Uno wedi'i esbonio

Mae uno elusennau yn golygu bod dwy elusen wahanol neu fwy yn dod ynghyd i ffurfio un sefydliad. Bydd naill ai elusen newydd yn cael ei ffurfio i barhau â'r gwaith neu gymryd asedau'r elusennau gwreiddiol, neu bydd un elusen yn dod o dan reolaeth y llall.

Rhaid i'r ymddiriedolwyr weithredu yn unol â'r pŵerau yn nogfen lywodraethol eu helusen neu'r pŵerau a roddir iddynt gan y gyfraith er mwyn sicrhau bod unrhyw uno yn gyfreithiol gadarn. Os nad yw'r pŵerau hyn yn ddigonol, mae'n bosibl y bydd angen i'r ymddiriedolwyr gysylltu â ni i geisio cael pŵerau ychwanegol.

Sonnir am uno a chydweithredu ar yr un gwynt yn aml. Er y gall cydweithredu ragflaenu neu fod yn gam cyntaf uno, maent yn wahanol iawn o ran cymhwysiad ymarferol ac ystyriaethau cyfreithiol. Rydym wedi cynhyrchu Dewis cydweithredu: Helpu elusennau i lwyddo i gynorthwyo elusennau sydd â diddordeb mewn cydweithio ag eraill yn y ffordd hon.

1.2 Y Comisiwn Elusennau ac uno

Mae'r Comisiwn Elusennau yn annog elusennau ac ymddiriedolwyr i ystyried yn gyson ac yn greadigol yr hyn y gallant ei gyflawni i fuddiolwyr eu helusen drwy weithio gydag eraill. Efallai y bydd rhai elusennau yn penderfynu mai uno ag elusennau eraill yw'r ffordd orau o ateb anghenion eu buddiolwyr yn awr ac yn y dyfodol.

Fodd bynnag, nid yw'n rhan o'n hagenda i roi pwysau ar elusennau i uno. Mae amrywiaeth ac annibyniaeth yn gryfderau pwysig yn y sector elusennol a chydnabyddwn fod gan bob elusen ei chyfraniad unigryw ei hun i'w wneud i gymdeithas.

Mae rôl y Comisiwn o ran hwyluso uno elusennau yn canolbwyntio ar yr agweddau cyfreithiol a chyfansoddiadol. Nid oes angen ein cydsyniad ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau uno. Fel arfer bydd dogfen lywodraethol elusen yn cynnwys y pŵerau y mae eu hangen i alluogi elusen i uno ag elusen arall. Fodd bynnag, rhaid i ni fod yn rhan o'r broses os nad oes gan elusen y pŵer y mae ei angen arni neu os yw ei dogfen lywodraethol yn pennu bod angen ein cydsyniad. Ar ddiwedd y broses uno, rhaid i ni gael gwybod am yr uno er mwyn cadw'r Gofrestr Elusennau Ganolog yn gyfoes. Hefyd rydym yn barod i gynnig cyngor arfer da i elusennau ar agweddau cyffredinol ar uno.

Rydym yn annog elusennau i gysylltu â ni yn gynnar yn y broses uno os hoffent gael cyngor neu os oes angen awdurdod cyfreithiol arnynt. Mae Atodiad 1 Cysylltu â'r Comisiwn am uno yn esbonio sut i gysylltu â ni a'r wybodaeth y bydd ei hangen arnom.

1.3 Defnyddio'r pecyn cymorth hwn

Mae Uno llwyddiannus: Eich helpu chi i lwyddo yn ceisio bod o gymorth ymarferol i bob elusen sy'n ystyried, cynllunio neu sydd wrthi'n uno.

Mae'r pecyn cymorth yn tynnu sylw at y meini tramgwydd cyffredin ac yn cynnig cyngor arfer da a ddylai helpu elusennau sy'n uno, o ystyried y penderfyniad i werthuso'r broses. Mae'n canolbwyntio ar rai o'r agweddau cyfreithiol a phroses pwysicaf ar uno, yn ogystal â mynd i'r afael â nifer o'r materion sy'n codi'n aml yn ein gwaith achos. Rydym hefyd yn cyfeirio elusennau at gymorth ac adnoddau eraill sy'n rhoi gwybodaeth fwy penodol.

Bydd gweithio drwy'r pecyn cymorth yn cynnig modd i elusennau adnabod y gwahanol gamau a'r camau ymarferol sy'n hanfodol i uno llwyddiannus. Bydd yn eu helpu i benderfynu hefyd a fydd angen ein cymorth arnynt neu beidio a phryd y dylent ystyried ceisio cyngor proffesiynol. Rydym wedi nodi gwybodaeth ddefnyddiol o ffynonellau eraill trwy'r pecyn cymorth a rhown fanylion cyswllt y sefydliadau hyn yn adran 6.2.

'Rhaid' a 'dylai'

Pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn fod gofyniad cyfreithiol neu reoleiddio penodol. Rhaid i ymddiriedolwyr a'r elusen gydymffurfio â'r gofynion hyn. Mae'r adrannau hyn wedi'u hamlygu gan y symbol Symbol cyfreithiol.

Defnyddiwn 'dylai' pan fyddwn yn argymell bod ymddiriedolwyr yn dilyn canllawiau arfer da oni bai fod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

2. Ystyried uno

Cwestiynau allweddol i ymddiriedolwyr

1. Ydy uno er lles gorau ein helusen a'i buddiolwyr? Fydd uno yn gwella ansawdd y gwasanaeth a gynigiwn drwy, er enghraifft, greu arbedion cost, cynyddu incwm neu wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau?

2. Ydy ein helusen/elusennau partner arfaethedig yn gydnaws o ran amcanion, gweledigaeth strategol, diwylliant, gwerthoedd, trefniadau llywodraethu, strwythurau sefydliadol a sylfaen ariannu?

3. Ydym ni wedi cysylltu â'n rhanddeiliaid a'n buddiolwyr i geisio eu barn? Os nad ydym, sut a phryd fyddwn yn gwneud hynny?

4. Pa risgiau a manteision fydd uno ffurfiol yn eu cynnig i'n helusen? Ydym ni wedi ystyried yr effeithiau ehangach ar ein helusen?

5. Oes unrhyw fath arall o gydweithredu y gallem ei ystyried a allai gynnig yr un manteision?

6. Ydym ni wedi amcangyfrif cost lawn yr uno? Dylai hyn gynnwys materion megis amser staff, ail-frandio, ffioedd proffesiynol, costau adleoli a chostau annisgwyl.

7. Oes aelodau gan ein helusen? Os oes, ydy ein dogfen lywodraethol yn ei gwneud hi'n ofynnol i gael cydsyniad yr aelodau er mwyn uno?

8. Ydym ni'n cynnal ymarfer diwydrwydd dyladwy, allwn ni ei gynnal yn fewnol neu oes angen cyngor proffesiynol arnom?

2.1 Adnabod eich sefydliad

Dylai pob elusen adolygu eu nodau a sut y maent yn gweithredu yn gyson, gan gynnwys ffyrdd o weithio ac iechyd sefydliadol. Gall hyn helpu i adnabod a fyddai'n fanteisiol neu beidio i'r sefydliad ystyried cydweithredu neu uno â sefydliad arall i wella gwasanaethau i fuddiolwyr.

Am wybodaeth bellach: 

  • Tools for Success (Cass Business School): cyfres o ganllawiau a thempledi ac offeryn hunanasesu ar-lein sy'n galluogi sefydliadau i adnabod meysydd o gryfder a bylchau mewn gallu.
  • Testun Trafod (Comisiwn Elusennau): rhestr gyfeirio sy'n helpu byrddau ymddiriedolwyr i adolygu sut y maent yn gweithredu yn sgîl y dirywiad economaidd.

2.2 Deall yr hyn sy'n ysgogi uno

Dylai elusennau a'u hymddiriedolwyr fod yn glir iawn bob amser am y ffactorau sy'n dylanwadu ar eu penderfyniad i uno. Gall deialog agored rhwng partneriaid o'r cychwyn osgoi cymhlethdodau nes ymlaen.

Gallai uno fod yn ddewis iawn am sawl rheswm gan gynnwys:

  • Cynyddu gwasanaethau: Gall elusennau gyrraedd nifer ac ystod ehangach o fuddiolwyr.
  • Lleihau costau a dyblygu: Gall elusennau wella effeithiolrwydd eu sefydliad, lleihau dyblygu, elwa ar fwy o bŵer prynu a gwneud defnydd gwell o adnoddau, ee rhannu gwasanaethau cefn swyddfa.
  • Mwy o gyllid: Mae mwy o gyllidwyr yn ystyried gweithio mewn partneriaeth yn ffordd o gael gwerth am arian gwell, a bydd nifer o gyllidwyr grantiau bach yn cynnig cyllid sy'n galluogi elusennau i archwilio'r posibilrwydd o gydweithio neu uno.
  • Ansicrwydd neu anawsterau ariannol: Gall elusennau oresgyn sialensiau ariannol drwy uno ag elusen arall.
  • Manteision graddfa: Gall sefydliadau mwy elwa ar gysylltiadau â sefydliadau llai neu wybodaeth ac arbenigedd sefydliadau llai. Gall sefydliadau llai elwa ar broffil a gallu sefydliadau mwy.
  • Gwella proffil cyhoeddus: Gall elusennau gael at sylfaen cefnogwyr ehangach, cynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwella hygrededd gyda phenderfynwyr. Gall uno hefyd gynnig manteision cynyddu ffydd a hyder y cyhoedd oherwydd bydd elusennau'n cael eu gweld yn gyrff sy'n dangos synnwyr o gydweithredu yn hytrach na bod yn rhy gystadleuol.
  • Gwella dysgu a sgiliau: Gall elusennau rannu profiadau a dysgu ffyrdd newydd a gwell o weithio.

2.3 Cael hyd i bartneriaid

Bydd nifer o elusennau sy'n uno yn adnabod neu wedi gweithio â'u partner uno o'r blaen. Yn achos elusennau sydd heb ddarpar bartner uno, mae gwefannau a sefydliadau a all helpu. Rhestrir mannau cychwyn defnyddiol isod.

Er mwyn uno, rhaid i sefydliadau gael amcanion cydnaws. Mae'r broses uno yn symlach os yw sefydliadau yn debyg mewn meysydd eraill hefyd. Mae'r ystyriaethau sylfaenol eraill wrth chwilio am unrhyw bartner posibl, hyd yn oed os ydynt yn bartner rydych yn ei adnabod yn dda ac yn ymddiried ynddo, yn cynnwys:

  • gwerthoedd a nodau;
  • diwylliant a dulliau gweithio;
  • adnoddau a hyfywedd ariannol;
  • ffynonellau ariannu;
  • polisïau;
  • gweithgareddau;
  • anghenion rhanddeiliaid;
  • cryfderau a gwendidau sefydliadol;
  • meysydd sy'n anghydnaws neu os ceir anghytundeb.

Gellir archwilio'r meysydd hyn yn fwy manwl fel rhan o'r ymarfer diwydrwydd dyladwy ffurfiol (gweler Atodiad 3).

Am wybodaeth bellach: 

  • Cofrestr Elusennau (Comisiwn Elusennau): mae'n rhoi manylion cyswllt unrhyw elusen gofrestredig a hefyd ffeithiau perthnasol eraill megis ei hamcanion. Gellir ei defnyddio i chwilio am elusennau sy'n gweithio mewn ardal arbennig neu sydd wedi'u sefydlu at ddibenion arbennig.
  • Small Charities Coalition (Small Charities Coalition): mae'n paru elusennau bach â sefydliadau eraill i gynyddu adnoddau neu wella gwybodaeth a sgiliau.
  • Funding Central (Partner Zone): gall defnyddwyr chwilio am sefydliadau y gallant gydweithredu â nhw ar brosiectau a datblygu cynigion ar y cyd.
  • Gallai cyrff mantell lleol megis Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth, a hefyd Partneriaethau Strategol Lleol.

2.4 Deall yr effeithiau ar eich elusen

Dylai elusennau ac ymddiriedolwyr fod yn glir o'r cychwyn cyntaf hefyd ynghylch yr effaith a gaiff yr uno arfaethedig ar eu sefydliad a'u buddiolwyr. Gellir gwneud hyn drwy ystyried yr effeithiau uniongyrchol ac ehangach ar y buddiolwyr, staff ac enw da'r elusen a thrwy asesu'r hyn y gallai'r elusen ei ennill neu ei golli yn y tymor byr, canolig a hir.

Dylai elusennau ymgynghori â rhanddeiliaid i gael asesiad llawn o'r manteision a risgiau tebygol.

Am wybodaeth bellach:

2.5 Prisio a chael adnoddau ar gyfer uno

Ni ddylai elusennau ddiystyru cost uno. Dylent neilltuo lefelau digonol o gyllid ac adolygu'r costau gwirioneddol a'r costau a ragwelir yn gyson. Gellir cyfrifo rhai costau ymlaen llaw, megis:

  • ail-strwythuro, newid neu ddatblygu gwasanaethau;
  • integreiddio technoleg a systemau gwybodaeth;
  • ffioedd proffesiynol;
  • hysbysebu ac ail-frandio;
  • amser staff;
  • costau adleoli;
  • costau llywodraethu, megis cyfarfodydd cyffredinol arbennig, neu newidiadau i gofnodion aelodaeth neu fuddiolwyr;
  • ymgynghori â rhanddeiliaid a'u cynnwys.

Gallai'r costau annisgwyl y dylid eu hystyried gynnwys:

  • methu manteisio ar fentrau newydd, cyfleoedd neu ffynonellau incwm oherwydd yr amser a dreulir ar yr uno;
  • amhariad posibl, er enghraifft, drwy adleoli swyddfa, neu drwy brosesau diswyddo;
  • amharu ar gyflawni nodau ac amcanion; a
  • cholli cyllid presennol (er enghraifft, os yw noddwr yn rhoi cyllid i'r ddwy elusen ar hyn o bryd ond mae ei bolisi yn datgan y gall roi i un sefydliad yn unig).

Yn y tymor byr gall fod mwy o gostau na manteision. Os yw'r ymddiriedolwyr yn ystyried uno, rhaid iddynt fod yn hyderus bod y manteision a ragwelir yn y tymor hir yn cyfiawnhau'r costau hynny.

Mae rhai cyrff cyllido yn rhoi grantiau i elusennau archwilio uno a'i weithredu ac mae'n werth ystyried y rhain.

Rhwystrau i lwyddiant

Dylai elusennau neilltuo amser i ystyried y rhwystrau posibl i lwyddiant yr uno. Gall rhwystrau fod yn ddiwylliannol, strwythurol, ariannol, proffesiynol neu wleidyddol.

Bydd adnabod y rhain yn gynnar yn y broses ac ystyried a oes modd eu datrys yn helpu i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r uno neu beidio. Mae'r rhwystrau mwyaf problematig a nodwyd gan elusennau yn cynnwys:

  • diffyg cyfathrebu digonol â rhanddeiliaid;
  • personoliaethau yn gwrthdaro;
  • diwylliant yn gwrthdaro;
  • dim amcanion penodedig neu ddulliau gwerthuso ar gyfer yr uno;
  • integreiddio staff o wahanol sefydliadau;
  • integreiddio systemau TG;
  • diffyg cynllunio prosiect/rheoli proses;
  • rhuthro'r broses neu dargedau afrealistig ar gyfer uno

Blwch 1: Rhwystrau i lwyddiant

2.6 Gwneud penderfyniad i uno

Yr ymddiriedolwyr elusen sy'n rhaid penderfynu p'un ai i weithredu ar unrhyw gynnig i uno neu beidio. Wrth wneud hyn gallant ystyried safbwyntiau, cynigion neu awgrymiadau staff, defnyddwyr gwasanaeth, cyrff ariannu a chynghorwyr proffesiynol, ond yr ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol yn y pen draw am y penderfyniad i uno. Dylai elusennau hefyd ystyried a yw mathau eraill o weithio mewn partneriaeth yn fwy priodol.

Wrth benderfynu uno, dylai ymddiriedolwyr gofio mai prif ddiben uno yw ateb anghenion buddiolwyr neu ddefnyddwyr yr holl elusennau yn well, a gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'u cronfeydd elusennol.

Bydd gallu elusennau i uno yn dibynnu ar eu dogfen lywodraethol ac a yw'n cynnwys pŵerau y gellid eu defnyddio i uno. Y pŵer mwyaf cyffredin yw un sy'n caniatáu i ymddiriedolwyr ddiddymu neu ddirwyn yr elusen i ben a throsglwyddo asedau'r elusen i elusen arall neu elusennau eraill sydd â diben neu ddibenion tebyg. Bydd pŵer diamwys gan rai elusennau i uno. Os na sonnir am uno neu os yw elusennau yn ansicr dylent geisio ein cyngor.

Amlinellir proses gwneud penderfyniad i uno nodweddiadol ym mlwch 2 a rhoddir mwy o wybodaeth am y materion cyfreithiol yn adran 3.

Os oes aelodaeth gan elusen, efallai y bydd hawl gan yr aelodau i bleidleisio dros neu yn erbyn cynnig i uno sy'n cael ei roi ger eu bron mewn cyfarfod cyffredinol. Mae hyn yn golygu, os yw'r ymddiriedolwyr wedi penderfynu mai uno yw'r ffordd orau ymlaen bydd rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw gynnig i uno yn cael ei gefnogi gan yr aelodau yn gynnar yn y broses. Bydd cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddangos sut y mae unrhyw gynnig i uno er lles gorau buddiolwyr elusen yn hanfodol er mwyn bwrw ymlaen â'r broses. Bydd adborth cynnar gan yr aelodau a rhanddeiliaid eraill yn rhan bwysig o'r broses o wneud penderfyniad.

2.7 Diwydrwydd dyladwy a sut y'i defnyddir

Mae 'diwydrwydd dyladwy' yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio'r camau y mae sefydliadau yn eu cymryd i sicrhau eu hunain fod cyfuniad er eu lles gorau nhw. Canlyniadau ymarfer diwydrwydd dyladwy yw bod gan elusen wybodaeth lawn am y sefydliad y mae'n bwriadu uno ag ef. Mewn geiriau eraill, nid oes unrhyw beth annisgwyl.

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am benderfynu ar y lefel briodol o ddiwydrwydd dyladwy sy'n ofynnol wrth ystyried uno ag elusen arall. Mae costau comisiynu gwaith diwydrwydd dyladwy yn ddefnydd priodol o gronfeydd elusennol, ond dylid eu rhagweld ar y cychwyn a'u hadolygu'n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur â'r risgiau.

Os hoffai elusennau ystyried uno, dylai dadansoddiad risg sy'n canolbwyntio ar bob agwedd ar y cynigion i uno helpu i sefydlu'r blaenoriaethau ar gyfer yr ymarfer diwydrwydd dyladwy.

Mae gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn rhannu'n dri phrif gategori;

  • ariannol;
  • masnachol;
  • cyfreithiol

Yn Atodiad 3 rydym wedi atodi rhestr gyfeirio sy'n rhoi syniad i chi o'r hyn y dylid ei gynnwys mewn ymarfer diwydrwydd dyladwy. Nid yw'n rhestr gyflawn ac mae wedi'i chynnwys fel canllaw yn unig. Yr ymddiriedolwyr fydd yn penderfynu ar y math o wiriadau diwydrwydd dyladwy a dyfnder y gwiriadau, gan fanteisio ar gyngor proffesiynol.

Am wybodaeth bellach:

Proses gwneud penderfyniad i uno nodweddiadol

 

Astudiaeth achos: Theatre Royal Bristol a Bristol Old Vic

Mae'r theatr hynafol Theatre Royal ym Mryste wedi cael ei rheoli gan ddau gwmni elusennol ar wahân ers sawl blwyddyn. Cysylltodd yr ymddiriedolwyr â'r Comisiwn am gymorth gyda chynlluniau i uno'r Bristol Old Vic (y cwmni cynhyrchu) â'r Theatre Royal Bristol (y cwmni sy'n gofalu am adeilad y theatr). Roedd y Comisiwn yn gallu cynghori ar y strwythur arfaethedig a darparu awdurdod cyfreithiol drwy gyfrwng Cynllun i warchod adeilad y theatr ar gyfer y dyfodol.

Bydd y strwythur newydd yn golygu bod gweinyddu a rheoli yn llawer haws a chost-effeithiol i'r ymddiriedolwyr.

Dywedodd cynrychiolydd o'r elusen

"Dros amser, daeth yn amlwg i ymddiriedolwyr y Theatre Royal, Bristol a'r Bristol Old Vic Trust Limited, fel elusennau gwahanol, er eu bod yn ategu ei gilydd, y byddent yn wynebu mwy o wrthdaro wrth ddilyn eu hamcanion elusennol unigol. Y cam cyntaf oedd cydnabod hynny. Yr ail gam oedd cymryd y naid dychymyg oedd ei hangen i ystyried mabwysiadu amcanion newydd sy'n fwy addas i'r byd modern heb golli pwrpas craidd y naill elusen neu'r llall - ac uno gweithrediadau i blannu'r amcanion hynny mewn un elusen a bwrdd llywodraethu. Yn y fan yma fe gysyllton ni â thîm uno'r Comisiwn Elusennau am gymorth. Bydd uno yn crisialu ac yn atgyfnerthu ein cenhadaeth ar y cyd, ein helpu i godi arian a denu ymddiriedolwyr dawnus i'r dyfodol."

Am wybodaeth bellach:

3. Materion ariannol a chyfreithiol

Cwestiynau allweddol i ymddiriedolwyr

1. Oes gennym ni'r pŵerau cyfreithiol perthnasol i gyflawni ein cynllun neu a fydd angen cymorth y Comisiwn Elusennau arnom?

2. Ydym ni wedi penderfynu ar strwythur cyfreithiol ar gyfer yr elusennau sydd wedi uno?

3. Ydym ni'n cymryd y cyngor proffesiynol priodol ac ym mha feysydd?

4. Oes unrhyw broblemau cyflogaeth y mae angen i ni eu hystyried? Gallai'r rhain gynnwys materion fel gofynion TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)), rhwymedigaethau pensiwn a chydymffurfio â'r gyfraith cyflogaeth.

5. Oes cyfyngiadau ar ffynonellau incwm ein helusen? Gallai'r rhain gynnwys ymddiriedolaethau arbennig, cronfeydd cyfyngedig neu waddolion parhaol.

3.1 Gwirio bod amcanion yn gydnaws

Os oes gan elusennau amcanion hollol wahanol yna nid yw uno'n bosibl fel rheol. Er enghraifft, nid yw'n debygol y byddai elusen a sefydlwyd i hyrwyddo crefydd arbennig yn gallu uno ag elusen sy'n ceisio hyrwyddo chwaraeon amatur. Os oes gan elusennau sy'n cynnig uno amcanion elusennol gwahanol neu anghydnaws, ond mae'r ymddiriedolwyr yn teimlo bod achos cryf dros uno, yna byddai'n rhaid iddynt esbonio hynny i'r Comisiwn. Efallai y gall y Comisiwn helpu drwy ddarparu awdurdod i newid neu ehangu'r amcanion.

Er mwyn newid amcanion fel hyn, byddai'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ddangos i ni fod ymddiriedolaethau eu helusen wedi peidio â bod yn ddefnydd effeithiol o gronfeydd elusennol naill ai oherwydd nid oes modd iddynt gael eu hyrwyddo mwyach neu oherwydd eu bod yn rhy gyfyngol i ganiatáu i gronfeydd yr elusen gael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl.

Enghreifftiau o amcanion cydnaws

  • Os oes gan ddwy elusen amcanion i leddfu tlodi dramor yna nid yw'n debygol y byddai unrhyw broblem gyfreithiol pe byddent am uno. Mae'n amlwg bod amcanion y ddwy elusen yn gydnaws, er eu bod efallai'n hyrwyddo eu hamcanion mewn ffyrdd gwahanol.

  • Os yw amcanion elusen yn pennu lleoliad arbennig, er enghraifft lleddfu tlodi yn Affrica, ac mae'n dymuno uno drwy drosglwyddo ei chronfeydd i elusen sydd ag amcanion ehangach, er enghraifft, lleddfu tlodi dramor yn gyffredinol, gallai'r uno fynd rhagddo gyda'r cronfeydd ar gyfer elusen Affrica yn cael eu cyfrif amdanynt a'u defnyddio fel cronfa gyfyngedig. Ni fyddai modd i'r elusen sydd â'r amcanion ehangach drosglwyddo ei chronfeydd i elusen Affrica oherwydd byddai'n cyfyngu'r defnydd o'i hasedau ac felly o bosibl yn eithrio rhai o'r buddiolwyr y cafodd ei sefydlu i'w helpu.
  • Gall dwy elusen fodoli i hyrwyddo addysg ond gall un ohonynt bennu yn ei hamcanion y dylid dilyn egwyddor addysgol benodol neu y dylid defnyddio cronfeydd mewn ardal ddaearyddol benodol. Os mai dyma yw'r achos, bydd rhaid i'r Comisiwn gynghori'r ymddiriedolwyr p'un a yw uno yn bosibl ac a allwn helpu i'w hwyluso.

Blwch 3 Enghreifftiau o amcanion cydnaws

3.2 Strwythurau cyffredin ar gyfer uno

Y mathau mwyaf cyffredin o uno yw:

  • Defnyddio sefydliadau sy'n bod: bydd un elusen yn cymryd arni holl ymrwymiadau ac asedau elusen arall. Mae elusen A yn dirwyn i ben ac yn trosglwyddo ei heiddo i elusen B. Mae elusen A yn cael ei dileu o'r Gofrestr Elusennau Ganolog. Yna efallai y bydd elusen B yn dymuno achub ar y cyfle i ad-drefnu, ail-strwythuro ac ehangu ei gweithgareddau. (Blwch 4a)

  • Creu sefydliad newydd: pob elusen yn dirwyn i ben ac yn trosglwyddo eu heiddo i sefydliad newydd ei greu sydd ag amcanion tebyg. Mae elusennau A a B yn rhoi eu hasedau sy'n weddill i elusen C sydd newydd ei ffurfio. Defnyddir y dewis hwn yn aml i osgoi rhoi'r argraff bod yr uno yn drosfeddiant a gall gynnig modd i'r sefydliad newydd 'ddechrau o'r newydd'. (Blwch 4b)


Bydd y strwythur a ddewisir yn dibynnu ar ffurfiau cyfreithiol yr elusennau sy'n rhan o'r uno a'r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn nogfen lywodraethol pob elusen.

  • Elusennau anghorfforedig: gellir eu sefydlu drwy ddefnyddio ystod eang o strwythurau cyfreithiol ac mae eu dogfennau llywodraethol yn cynnwys gweithredoedd ymddiriedolaeth, cyfansoddiadau, rheolau, ewyllysiau, trawsgludiadau neu Gynlluniau'r Comisiwn. Drwy eu natur, gall uno rhwng elusennau anghorfforedig fod yn fwy cymhleth oherwydd fel arfer bydd eu dogfennau llywodraethol yn cynnwys ystod eang o ddarpariaethau ac ni fyddant bob amser yn cynnwys y pŵerau sy'n ofynnol i uno, er enghraifft, cymal diddymu. Bydd amcanion rhai dogfennau llywodraeth wedi dyddio o ran y ffordd y cânt eu geirio ac efallai y bydd ymddiriedolwyr yn gweld bod yr amcanion yn rhy gyfyngol i fod yn ddefnydd effeithiol o gronfeydd elusennol.

  • Cwmnïau elusennol: bydd dogfen lywodraethol cwmni elusennol, sef memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, yn cynnwys amryw o bŵer au fel arfer a fydd yn ei alluogi i uno ag un elusen neu fwy. Mae uno cwmnïau elusennol yn tueddu i fod yn symlach yn weinyddol oherwydd mae eu dogfennau llywodraethol yn debygol o gynnwys y pŵerau gofynnol i uno. Rhaid i gwmnïau elusennol roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am newid i'w memorandwm ac erthyglau cymdeithasu neu eu diddymiad.

Rhaid i holl asedau cwmni elusennol fod yn asedau y gellir eu defnyddio ar gyfer ei ddibenion cyffredinol ei hun a allai fod yn ehangach na'r dibenion y rhoddwyd y cronfeydd ar eu cyfer (mae hyn yn cynnwys talu credydwyr yn achos diddymu). Mae hyn yn golygu ni all cwmni elusennol ddal gwaddol parhaol fel rhan o'i eiddo corfforaethol cyffredinol. Fodd bynnag, gall gwaddol parhaol gael ei ddal gan gwmni elusennol mewn ymddiriedolaeth (os yw'n ymddiriedolwr corfforaethol).

Bydd y Comisiwn yn gallu rhoi cyngor i'r ymddiriedolwyr ar y ffordd orau o hwyluso uno ar gyfer y mathau o elusennau a ddisgrifir uchod ac efallai y byddwn yn gallu defnyddio ein pŵerau rheoleiddio i helpu.

Corffori elusen

Bydd rhai elusennau'n defnyddio uno fel cyfle i newid eu strwythurau cyfreithiol. Enghraifft gyffredin yw pan fydd elusen anghorfforedig yn penderfynu ei bod am newid ei statws cyfreithiol i fod yn gorff corfforaethol (cwmni elusennol). Gelwir hyn yn 'gorffori' fel arfer.

Mae manteision i strwythur cwmni o'i gymharu â strwythurau elusen cyffredin eraill, megis ymddiriedolaethau a chymdeithasau, oherwydd mae'r gyfraith yn ei ystyried yn berson yn yr un ffordd ag unigolyn. Felly, gall cwmni, fel unigolyn, berchen ar dir a llunio contractau yn ei enw ei hun. Mae rhai manteision gweithredol: er enghraifft, os yw'r elusen yn dal cyfrannau, gellir eu dal yn yr enw corfforaethol, a hefyd y teitl cyfreithiol i eiddo'r elusen.

Bydd 'atebolrwydd cyfyngedig' gan y cwmni hefyd sy'n golygu, yn achos cwmni elusennol nodweddiadol, bod ei aelodau yn atebol am ddyledion y cwmni yn unig fel rheol i'r graddau y maent wedi ymrwymo i'w gwarantu. Fel arfer swm nominal yw hwn a gaiff ei nodi yn y memorandwm cymdeithasu. Mae corffori yn fanteisiol oherwydd ei fod yn rhoi rhyw fath o ddiogelwch i'r cyfarwyddwyr a'r aelodau yn erbyn atebolrwydd personol posibl gan gynnwys hawliadau torri contract. Mewn unrhyw achos cyfreithiol y cwmni fydd yn cael ei erlyn yn hytrach na'r ymddiriedolwyr neu'r aelodau yn bersonol.

Disgwylir i fath newydd o elusen gorfforedig gael ei chyflwyno cyn bo hir o'r enw'r Sefydliad Corfforedig Elusennol. Mae hwn yn fath cyfreithiol newydd o gorffori sydd wedi'i lunio'n benodol ar gyfer elusennau. Am wybodaeth bellach, gweler ein gwefan.

Mae modd cofrestru corfforiad ar y Gofrestr Uno Elusennau oherwydd mae wedi'i gynnwys o fewn y diffiniad o 'uniad elusen perthnasol' fel y'i diffiniwyd yn Neddf Elusennau 2006. Gweler adran 5 i gael mwy o wybodaeth am y Gofrestr Uno Elusennau.

.Blwch 5: Corffori elusen

Am wybodaeth bellach:

3.3 Cynnwys y Comisiwn Elusennau

Weithiau bydd angen ac weithiau ni fydd angen cyngor neu awdurdod cyfreithiol gan y Comisiwn ar gyfer uno - bydd yn dibynnu ar yr hyn y mae'r ymddiriedolwyr yn ei gynnig ac a yw'r pŵerau sydd wedi'u cynnwys yn nogfennau llywodraethol eu helusennau yn ddigonol neu'n briodol (gweler 2.6).

At hynny, bydd angen ein cydsyniad i wneud unrhyw newidiadau i amcanion elusen fel arfer. Yn achos cwmni elusennol bydd angen ein cydsyniad hefyd ar gyfer unrhyw beth sy'n cyfyngu ar y ffordd y defnyddir ei heiddo neu sy'n cyfeirio'r sut y caiff ei ddefnyddio.

Mae'r tabl isod yn dangos y math o faterion lle y gall y Comisiwn helpu a'r materion y bydd angen i'r elusennau a'u cynghorwyr proffesiynol eu hystyried.

Materion y mae angen cael cyngor y Comisiwn Elusennau arnynt

Materion i'r elusennau sy'n uno eu hystyried

  • ystyriaethau cyfreithiol a chyfansoddiadol;
  • cyngor ar strwythurau uno posibl;
  • a yw'r amcanion yn gydnaws ac achos yr ymddiriedolwyr dros uno;
  • cydsyniad ar gyfer newidiadau i'r amcanion a'r cymalau diddymu;
  • sefydlu cynlluniau a gorchmynion;
  • diwygiadau neu ychwanegiadau i bŵer au a darpariaethau dogfennau llywodraethol.

Blwch 6a: Materion y mae angen cael cyngor y Comisiwn Elusennau arnynt

  • cydymffurfio â mathau eraill o ddeddfwriaeth (ee cyflogaeth/TUPE/pensiynau);
  • trafodaethau contract;
  • yswiriant;
  • cyflawni rhwymedigaethau;
  • defnyddio datganiadau breinio a'u cynnwys;
  • agweddau gweithredol (ee integreiddio cyflawni gwasanaeth elusennau sy'n uno, dwyn ynghyd staff a chyfathrebu â'r aelodaeth);
  • cyfrifyddu;
  • rhwymedigaethau pensiwn;
  • systemau TG;
  • cyfathrebu cyffredinol.

Blwch 6b: Materion i elusennau sy'n uno eu hystyried

Elusennau sy'n gweithredu yn yr Alban  Symbol cyfreithiol

Dylai unrhyw elusen sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau ac sydd hefyd wedi cofrestru gyda Swyddfa Rheolydd Elusennau'r Alban (OSCR) ac mae'n bwriadu uno gysylltu ag OSCR yn gynnar yn y broses oherwydd mae angen ei gydsyniad ar gyfer y newidiadau canlynol:

  • newid enw;
  • diwygio ei dibenion elusennol;
  • cyfuno â chorff arall;
  • dirwyn i ben neu ddiddymu; neu
  • wneud cais i'r llys ar gyfer diwygio ei dibenion, cyfuno neu ddirwyn i ben

.Blwch 7: Elusennau sy'n gweithredu yn yr Alban

Am wybodaeth bellach:

3.4 Cynnwys cyrff cyhoeddus eraill

Dylai elusennau hefyd ystyried, fel rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy, a fydd angen ymgynghori ag unrhyw gorff cyhoeddus arall neu ei gynnwys. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
  • Cyllid a Thollau EM (HMRC) os bydd yr uno newydd yn effeithio ar drefniadau treth neu fasnachu'r elusen;
  • Y Cofrestrydd Cwmnïau os yw cwmni newydd yn cael ei greu, neu os yw cwmni presennol yn cael ei ddiddymu;
  • Swyddfa Masnachu Teg pan y gallai siop elusennol neu weithgareddau masnachu gael ei effeithio adeg uno gan Ddeddf Masnachu Teg 1973;
  • Y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) os yw elusen yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am oruchwylio gwirfoddolwyr neu staff y mae angen eu gwirio;
  • Y Gofrestrfa Tir os yw tir neu eiddo yn cael ei drosglwyddo o un sefydliad i'r llall;
  • Awdurdodau lleol am amryw o resymau, gan gynnwys newid manylion er mwyn cael gostyngiad elusennol ar gyfer taliadau'r dreth gyngor, neu drwyddedau casglu cyhoeddus.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a bydd yn amrywio yn ôl dibenion a gweithgareddau'r elusen. Fe welwch fanylion cyswllt ar gyfer y sefydliadau hyn yn adran 6.2.

3.5 Trosglwyddo a thrin eiddo elusen ar ôl uno

Dulliau trosglwyddo cronfeydd ac asedau

Bydd y dull o drosglwyddo a thrin asedau elusennol yn y cyfrifon ar ôl uno yn dibynnu ar y pŵerau sydd wedi'u cynnwys yn nogfennau llywodraethol pob elusen. Y dulliau mwyaf cyffredin yw:

  • Y cymal diddymu: Mae'r mwyafrif o ddogfennau llywodraethol elusennau yn cynnwys cymal diddymu er mwyn i'r elusen gael ei dirwyn i ben. Fel arfer bydd cymal diddymu yn darparu ar gyfer trosglwyddo asedau'r elusen i elusen arall sydd â'r un amcanion neu amcanion tebyg. Bydd nifer o ymddiriedolwyr yn dibynnu ar y cymal diddymu pan fydd yn uno eu helusen ag elusen arall. Os nad oes pŵer i ddiddymu, gallwn roi cyngor ar y dewisiadau eraill posibl.
  • Grant bloc: Gall yr ymddiriedolwyr ddewis trosglwyddo ei holl asedau treuliadwy i elusen arall sydd â dibenion tebyg. Bydd yn hyrwyddo ei hamcanion drwy roi'r grant a, phan fydd ei holl asedau wedi cael eu talu drosodd bydd, mewn gwirionedd, yn peidio â bodoli. Defnyddir y dull hwn yn aml gan elusennau anghorfforedig llai.
  • Cynllun y Comisiwn: Os yw ymddiriedolaethau'r elusen yn rhy gyfyngol, mae'r ddogfen lywodraethol yn cynnwys darpariaeth sy'n gwahardd uno neu nid yw'n cynnwys cymal diddymu, efallai y byddwn yn gallu gwneud cynllun i addasu'r ymddiriedolaethau er mwyn i'r uno fynd rhagddo.

Cyfrifon terfynol

Pan fydd hyn wedi'i wneud, mae'n rhaid i'r elusen feddwl am ei chyfrifon terfynol.

Os yw uno wedi'i amseru i gyd-ddigwydd â diwedd y flwyddyn ariannol, dylid cyflwyno cyfrifon terfynol yr elusen sy'n dod i ben i'r Comisiwn ynghyd â hysbysiad ffurfiol ei bod yn dirwyn i ben. Os yw uno yn digwydd rhan o'r ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, nid oes unrhyw ofyniad i dalu'r gost o baratoi'r cyfrifon terfynol. Yn lle hynny gall ymddiriedolwyr yr elusen sy'n dod i ben gwblhau ein ffurflen CSD-1077, sy'n ffurflen datganiad i elusennau sy'n dirwyn i ben. Fodd bynnag, os yw cyfrifon terfynol yn cael eu paratoi, dylid cyflwyno copi i ni ynghyd â hysbysiad ffurfiol bod yr elusen yn dirwyn i ben.

Yn ystod y broses o wneud cynllun fel rheol bydd gwybodaeth ddigonol am y cronfeydd a'r asedau sy'n trosglwyddo. Fodd bynnag, os yw uno wedi'i amseru i gyd-ddigwydd â diwedd y flwyddyn ariannol, dylid cyflwyno'r cyfrifon terfynol ar gyfer yr elusen sy'n dod i ben.

Cronfeydd arbennig

Rhaid trin rhai dosbarthiadau o gronfeydd ac asedau pan gânt eu trosglwyddo yn unol â'r rheolau sy'n llywodraethu'r defnydd ohonynt a bydd rhaid eu trin yn wahanol i'r cronfeydd cyffredinol. Mae'r enghreifftiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • Gwaddol parhaol: Os oes gwaddol parhaol, bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr ei nodi ar wahân mewn unrhyw benderfyniad i ddiddymu. Mewn rhai achosion, gall y gwaddol parhaol gael corff gwahanol o ymddiriedolwyr i weddill eiddo'r elusen. Mae'n amlwg y byddai'n rhaid iddyn nhw roi eu sêl bendith i'r cynigion. Bydd rhaid i'r elusen sy'n drosglwyddai gofnodi'r gwaddol parhaol ar wahân. Fodd bynnag, os yw'r trosglwyddai yn gwmni, ni fydd yn gallu dal y gwaddol parhaol fel rhan o'i eiddo corfforaethol cyffredinol. Yn lle hynny byddai'n cael ei ddal fel ymddiriedolaeth arbennig, hollol ar wahân i weddill eiddo'r elusen. Byddai'r cwmni yn ymddiriedolwr yr ymddiriedolaeth arbennig.
  • Cronfeydd cyfyngedig neu ymddiriedolaethau arbennig: Rhaid dilyn yr un drefn ag ar gyfer gwaddol parhaol.
  • Cronfeydd dynodedig: Mae'r cronfeydd hyn yn dreuliadwy oherwydd nid oes unrhyw gyfyngiad cyfreithiol ar eu gwario. Fodd bynnag, gall fod yn ddoeth i gyd-drafod y gallu i gadw cronfeydd wedi'u dynodi ar gyfer dibenion penodol, ar ôl uno, os yw hyn er lles gorau'r elusen a'i buddiolwyr.

Datganiadau breinio

Os yw un elusen yn trosglwyddo tir, adeiladau, dodrefn, gosodiadau a ffitiadau i elusen arall, gall ddefnyddio datganiad breinio. Gweithred yw hon sy'n trosglwyddo teitl cyfreithiol eiddo un elusen i elusen arall ar ddyddiad penodedig. Os defnyddir datganiadau breinio, rhaid cofrestru'r uno gyda ni (gweler adran 5 y Gofrestr Uno Elusennau).

Bydd rhaid i ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol ar gwmpas a goblygiadau dibynnu ar ddatganiad breinio. Er enghraifft, gall fod angen trosglwyddo'r budd cyfreithiol yn yr eiddo cyn defnyddio datganiad breinio. Hefyd efallai y bydd angen i'r ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol ar y graddau y mae defnyddio datganiad breinio yn effeithio ar ddarpariaethau statudol eraill, er enghraifft trosglwyddiad o dan TUPE a threfniadau pensiwn.

Ni allwn roi cyngor ar ddefnyddio datganiadau breinio.

Eiddo a freiniwyd yn y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

Bydd gan rai elusennau eiddo wedi'i freinio yn y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau (CSE). Mae'r CSE yn swyddog y Comisiwn a'i brif rôl yw dal tir ar gyfer ymddiriedolwyr elusen. Yn achos uno lle mae datganiad breinio wedi cael ei ddefnyddio i drosglwyddo teitl eiddo elusen i ymddiriedolwyr yr elusen sy'n drosglwyddai, ni fydd angen i'r CSE gael ei ryddhau'n ffurfiol gan y Comisiwn.

Yn achos uno lle na ddefnyddiwyd datganiad breinio, bydd rhaid newid y teitl cyfreithiol i eiddo os yw unrhyw elusennau sy'n barti i'r uno wedi peidio â bodoli. Gall y teitl i'r eiddo gael ei freinio yn enw'r elusen sy'n derbyn os yw'r ymddiriedolwyr yn dymuno gwneud hynny.

Blwch 8: Eiddo a freiniwyd yn y Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau

3.6 Cofnodi'r uno yn y cyfrifon

Gall ymddiriedolwyr elusen benderfynu, mewn cydweithrediad â'u cynghorwyr proffesiynol yn ôl pob tebyg, a hoffent gofnodi'r uno fel uniad neu gaffaeliad yn y cyfrifon. Sylwedd yr hyn sydd wedi digwydd yw'r ystyriaeth bwysicaf. Mae manylion pellach ar ba ateb cyfrifyddu fydd yn briodol wedi'u cynnwys yn Atodiad 4.

Astudiaeth achos: Pennoyers

Gallai ymddiriedolwyr tair elusen yn Norfolk weld y potensial ar gyfer uno ac roeddent wedi ceisio cyngor ynghylch sut i fynd ati i wneud hyn. Roedd gan bentref Pulham St Mary neuadd bentref wedi'i chondemnio ac ysgol adfeiliedig yn ei chanol (oedd yn cynnwys capel o'r 15fed ganrif) a oedd yn eiddo ymddiriedolaeth addysgol. Drwy frwdfrydedd a gwaith caled yr ymddiriedolwyr a'r gwirfoddolwyr, fe gawson nhw grant Treftadaeth y Loteri o £934,000 tuag at y prosiect £1.5m i droi'r hen ysgol yn ganolfan i'r pentref. Aeth y Comisiwn i ymweld â'r safle gan gynghori mai cwmni elusennol newydd gydag un corff o ymddiriedolwyr ac amcanion sy'n cynnwys dibenion neuadd bentref â dibenion cadwraeth addysgol a threftadaeth fyddai ffordd orau ymlaen o bosib. Gan fod y capel yn destun ymddiriedolaethau gwaddol parhaol nid oedd modd ei gofnodi fel rhan o eiddo corfforaethol y cwmni elusennol yn y cyfrifon felly roedd y Comisiwn wedi paratoi Cynllun i ganiatáu i'r cwmni weithredu fel ymddiriedolwr y capel.

"Roedd pobl yn teimlo bod calon y pentref wedi mynd pan gaeodd yr hen ysgol a gyda'r neuadd bentref wedi'i chondemnio roedd pethau'n edrych yn dywyll", dywedodd yr ymddiriedolwr Pat Whiteside. Mae'r cynlluniau newydd a'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo'n dda ac yng ngwanwyn 2010 bydd yn creu canolfan ffyniannus i bawb yn y pentref.

Dywedodd Sheila King, rheolwr prosiect gwirfoddol y prosiect,

"Roedd yr un llinell honno ar ein cynllun prosiect, sef 'Uno Elusennau' yn rhoi'r argraff ei fod yn fater syml, ond wrth gwrs, doedd e ddim. Mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y prosiect yn bobl leol gyffredin, ac mae delio â chymhlethdodau gweithredoedd ymddiriedolaeth, gwaddolion parhaol, strwythurau elusennol posibl a'r tebyg, y tu hwnt i'n profiad. Roedd cyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau yn ddefnyddiol iawn, ac mae'r cymorth uniongyrchol a gawsom gan ein gweithiwr achos dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn amhrisiadwy o ran cael hyd i ffordd i'r ddwy elusen gydweithredu i greu'r cyfleuster cymunedol gwych hwn. A phan eisteddon ni i lawr gyda'r Comisiwn i edrych ar y strwythur arfaethedig, roedd yn teimlo fel bod rhywun wedi cynnau'r golau o'r diwedd - roedd y cyfan yn gwneud synnwyr perffaith."

Am wybodaeth bellach:

4. Cynllunio a chyfathrebu

Cwestiynau allweddol i ymddiriedolwyr

1. Ydym ni wedi penodi unigolyn i reoli'r broses gyfan?

2. Oes cynllun prosiect gennym gyda cherrig milltir i reoli'r broses?

3. Ydym ni wedi sefydlu bwrdd prosiect, pwyllgor neu grŵp i arolygu'r prosiect a chysylltu â'r cyrff ymddiriedolwyr?

4. Pa drefniadau llywodraethu dros dro ddylem ni eu rhoi ar waith yn ystod y broses uno?

5. Ydym ni wedi cynnal dadansoddiad rhanddeiliaid ac wedi sefydlu cynllun cyfathrebu sy'n cwmpasu pob rhanddeiliad a chynulleidfa bresennol a newydd? Dylai hyn gynnwys cyfathrebu'r uno â chyllidwyr a staff presennol.

6. Ydym ni wedi adnabod y risgiau sy'n gysylltiedig â'r uno, megis risgiau i enw da neu risgiau gweithredol, a rhoi systemau ar waith i leddfu'r risgiau hynny?

7. Ydym ni wedi adnabod ffyrdd o fonitro llwyddiant yr uno a sut y caiff ei werthuso?

4.1 Cynllunio a rheoli prosiectau

Mae risgiau, sialensiau a chyfleoedd yn gysylltiedig ag uno ac mae angen i elusennau fuddsoddi amser i gynllunio'n briodol. Fel rhan o'r asesiad dichonoldeb cychwynnol gan yr ymddiriedolwyr, dylai elusennau ystyried:

  • y rhesymau dros uno;
  • amcanion;
  • yr effaith ar fuddiolwyr a rhanddeiliaid;
  • costau;
  • risgiau a rhwystrau;
  • pŵerau sydd ar gael iddynt uno, trosglwyddo asedau, derbyn asedau.

Ni ellir pwysleisio ddigon pwysigrwydd trefniadau rheoli prosiect da a gwneud penderfyniadau clir. Mae'r camau arferol mewn gwneud penderfyniad i uno wedi'u nodi ym mlwch 2. Ar ôl gwneud y penderfyniad, dylai elusennau ddatblygu cynllun prosiect ac amserlen gaeth gyda cherrig milltir. Dylent geisio rhagweld ymlaen llaw lle y gall fod oedi neu anghytuno.

Hyd yn oed mewn achosion lle mae uno yn syml yn weinyddol, gall fod yn gymhleth yn aml o ran newid sefydliadol a diwylliannol. Gall fod yn ddefnyddiol i ystyried cyngor annibynnol arbenigol a chymorth drwy'r broses gyfan neu rannau o'r broses. Fel unrhyw gontract o bwys, dylai ymddiriedolwyr ystyried tendro am y gwasanaethau proffesiynol hyn i'w helpu i uno.

Bydd rôl allweddol gan uwch reolwyr ac ymddiriedolwyr i'w chwarae yn yr uno:

  • Bwrdd prosiect neu grŵp llywio: Dylai elusennau sefydlu bwrdd prosiect lefel uchel gydag uwch reolwyr a chynrychiolwyr ymddiriedolwyr o bob elusen i arolygu'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r uno a gwneud unrhyw benderfyniadau perthnasol. Bydd prif weithredwyr y sefydliadau yn cymryd rhan yn aml ynghyd â chynrychiolydd o'r bwrdd a chynghorwyr cyfreithiol.

    Gall hyn gael ei adlewyrchu ar lefel weithredol gyda chynrychiolwyr staff o'r ddwy elusen sy'n cynnal y busnes bob dydd sy'n gysylltiedig ag uno.
  • Rheolwr prosiect: Dylai unigolyn neu reolwr prosiect gael ei benodi i reoli, arolygu a chydlynu'r broses gyfan. Gallai'r unigolyn hwn gael ei gyflogi gan un sefydliad ac ymgymryd â rôl rheolwr prosiect neu gall fod yn hwylusydd allanol.
  • Trefniadau llywodraethu: Weithiau bydd elusennau'n dewis cael trefniadau llywodraethu dros dro nes bod yr elusennau wedi uno'n llawn ac mae penderfyniad wedi cael ei wneud gan yr ymddiriedolwyr ynghylch trefniadau llywodraethu priodol y sefydliad newydd.

  • Rôl y prif weithredwr: Bydd rôl y prif weithredwr yn yr uno yn amrywio. Mewn sawl achos mae cyfraniad y prif weithredwr yn hanfodol. Fodd bynnag, er y gall chwarae rôl allweddol, rhaid i ymddiriedolwyr barhau i reoli'r broses gyffredinol. Weithiau gall ymddiriedolwyr elusen ymwneud â phroses uno ac o ganlyniad ni fydd unrhyw rôl i'r prif weithredwr yn y dyfodol. Yn yr achosion hyn, bydd angen i'r ymddiriedolwyr fod yn rhagweithiol o ran ysgogi'r uno a hefyd bod yn arbennig o ymwybodol o reoli cyfathrebu â'r prif weithredwr, staff a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Am wybodaeth bellach:

Charity Mergers: Tackling the Issues in Practice (KPMG)

4.2 Cyfathrebu'n effeithiol

Mae cyfathrebu da yn hanfodol i lwyddiant uno. Rhaid i'r elusennau ystyried eu rhanddeiliaid, pa wybodaeth y mae angen ei chyfleu a phryd.

Mae dadansoddiad rhanddeiliaid yn cynnig modd i elusennau adnabod pwy gaiff ei effeithio gan yr uno neu pwy fydd efallai am gynnig sylwadau ar y cynigion, neu sydd â diddordeb ynddynt. Er enghraifft:

  • defnyddwyr gwasanaeth/buddiolwyr;
  • aelodau'r elusen;
  • staff a allai gael eu heffeithio;
  • sefydliadau ariannu neu awdurdodau lleol.

Mewn rhai achosion efallai na fydd er lles yr elusen i ymgynghori'n eang ar yr uno. Penderfyniad i'r ymddiriedolwyr fydd hwn.

Dylai'r cynllun cyfathrebu gael ei gysylltu â'r dadansoddiad rhanddeiliaid ac ystyried pob cynulleidfa. Dylai amlinellu sut a phryd i gyfathrebu â rhanddeiliaid a phartneriaid gwahanol. Er enghraifft, bydd yr ymagwedd at ddefnyddwyr gwasanaeth yn wahanol i'r ymagwedd at staff elusennau, cyrff ariannu ac ati. Dylai'r cynllun cyfathrebu gysylltu ag amcanion yr uno oherwydd bydd yn helpu pob rhanddeiliad i gofio'r ffaith bod yr uno er lles gorau'r elusen a'i buddiolwyr.

Enwau elusennau: Fel rhan o gynllunio cyfathrebu, efallai y bydd elusennau am ystyried brandio. Dylai ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus enw'r elusen newydd. Weithiau mae teimlad o hanes neu frand yn gysylltiedig ag elusen arbennig, a gall fod yn niweidiol, yn enwedig o ran codi arian os yw'r enw yn cael ei golli. Am y rheswm hwn bydd ymddiriedolwyr yn dewis cyfuniad o hen enwau'r elusennau yn aml. Gall hyn greu teimlad o ddod at ei gilydd neu uno yn hytrach na throsfeddiant.

Pan fydd enw elusen yn cael ei ystyried yn rhy werthfawr i'w golli gall barhau i gael ei ddefnyddio, ar ôl uno, fel enw gweithredol os yw'r ymddiriedolwyr yn dymuno. Enghraifft dda o hyn oedd uno NSPCC/Childline. Mae Childline yn parhau i gael ei ddefnyddio fel enw gweithredol er bod yr elusen ei hun wedi uno â'r NSPCC. Mae buddiolwyr Childline wedi derbyn gwasanaeth di-dor trwy gydol y broses uno. Mae'r enw gweithredol yn ymddangos ar y Gofrestr Elusennau Ganolog wrth ochr yr enw cofrestredig.

4.3 Rheoli risgiau

Dylai elusennau ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â'r uno a'r ffordd orau i'w rheoli. Mae risgiau cyffredin yn cynnwys:

  • adnoddau'n cael eu gwyro o waith presennol i dalu costau'r uno;
  • effaith negyddol ar broffil cyhoeddus os yw'r elusen yn uno â sefydliad y mae ei amcanion, dibenion, dulliau trafod busnes neu enw da yn groes i rai'r elusen;
  • ansicrwydd ymysg buddiolwyr a staff a all fod yn bryderus am y rhesymau dros uno neu'r effeithiau arnynt yn y tymor hwy.

Fel pob maes risg, mae gallu rheoli, lleihau neu ddileu problemau posibl yn dibynnu ar adnabod y materion a chael hyd i'r dulliau priodol.

Dylai elusennau fod yn ymwybodol hefyd o'r prif rwystrau i uno llwyddiannus. Yn aml iawn y ffactorau personol a diwylliannol yn hytrach na'r agweddau cyfreithiol neu dechnegol sy'n creu problemau.

Am wybodaeth bellach:

4.4 Gwerthuso'r uno

Dylai elusennau gynllunio sut a phryd y caiff yr uno ei werthuso. Mae'n faes sy'n cael ei ddiystyru'n aml pan fydd elusennau'n cynllunio ar gyfer uno. Dylai mesurau llwyddiant clir gael eu hadnabod o'r cychwyn a'u defnyddio i fonitro cyflawniadau'r uno yn erbyn ei amcanion gwreiddiol. Dylai'r gwerthuso ganolbwyntio ar effaith ac amcanion cyffredinol yr uno a chysylltu'n ôl â rhesymau gwreiddiol yr elusen dros gymryd rhan. Gall hyn ynddo'i hun helpu i sicrhau bod yr uno yn parhau ar y trywydd iawn o ran cyflawni ei amcanion a gall elusennau ddysgu gwersi ar gyfer gwaith a chynllunio yn y dyfodol. Gall gwerthuso fod yn ddefnyddiol hefyd o ran cyfiawnhau'r penderfyniad gwreiddiol.

Am wybodaeth bellach:

5. Cofrestr Uno Elusennau

5.1 Pwrpas y Gofrestr

Mae'r Comisiwn Elusennau yn cadw cofrestr gyhoeddus o elusennau sydd wedi uno er mwyn sicrhau y bydd cymynroddion a rhoddion eraill sy'n cael eu gadael i unrhyw elusennau sy'n 'diflannu' ar ôl uno yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i'r elusen sydd newydd uno. Gall elusennau gofrestru'r uno gyda ni er mwyn i hyn ddigwydd. Fodd bynnag, mae eithriad pwysig y mae angen iddynt fod yn ymwybodol ohono (gweler adran 5.2).

5.2 Oes rhaid cofrestru pob uniad?

Mae cofrestru uniad yn orfodol os yw datganiad breinio yn cael ei ddefnyddio. Mewn achosion eraill, mae'n wirfoddol.

Os nad yw'ch elusen yn dibynnu ar incwm cymynroddion ac mae'r ymddiriedolwyr yn teimlo na fydd byth yn debygol o dderbyn cymynroddion, nid oes rhaid cofrestru'r uniad (oni bai fod datganiad breinio wedi cael ei ddefnyddio).

Os yw elusen yn derbyn neu'n disgwyl derbyn incwm cymynroddion sylweddol, dylai ystyried cofrestru'r uniad ond dylai geisio cyngor cyfreithiol cyn penderfynu gwneud hynny. Gall rhai cymynroddion gael eu geirio mewn ffordd sy'n pennu y dylai rhywun arall dderbyn y gymynrodd os yw'r elusen wreiddiol yn peidio â bodoli. Yn yr achosion hyn, ni fyddai'r rhodd yn cael ei throsglwyddo'n awtomatig i'r elusen newydd ond byddai'n mynd i'r unigolyn neu'r sefydliad a nodwyd yn yr ewyllys. Dim ond elusennau sydd wedi trosglwyddo eu cronfeydd ac felly peidio â bodoli sy'n gallu cofnodi eu huniad yn y Gofrestr Uno Elusennau.

5.3 Sut i gofrestru uniad gyda'r Comisiwn

Mae'r elusen sy'n derbyn eiddo gan elusen arall neu elusennau eraill (y trosglwyddai) yn gyfrifol am roi gwybod i ni am yr uno. Gallwch anfon y manylion atom drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. Bydd rhaid i'r hysbysiad roi'r wybodaeth ganlynol i ni:

  • enwau'r elusennau sy'n rhan o'r uno;
  • dyddiad trosglwyddo'r eiddo;
  • cadarnhau bod trefniadau wedi cael eu gwneud ar gyfer rhyddhau unrhyw rwymedigaethau'r elusen neu elusennau sy'n trosglwyddo;
  • manylion unrhyw ddatganiad breinio.

5.4 Y Gofrestr Elusennau Ganolog

Mae'r Comisiwn Elusennau hefyd yn cynnal y Gofrestr Elusennau Ganolog. Ym mhob achos o uno, dylai elusennau roi gwybod i ni am yr uno er mwyn i ni allu cadw'r Gofrestr Elusennau yn gyfoes. Nid yw cofrestru elusen yr un fath â chofrestru uno elusennau.

6. Gwybodaeth arall

6.1 Geirfa

Dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen sy'n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn ewyllys, yn drawsgludiad, yn Siarter Frenhinol neu'n Gynllun y Comisiwn.

Asedau yw tir, adeiladau, arian parod, buddsoddiadau ac unrhyw eiddo arall y mae'r elusen yn berchen arno.

Ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r bobl sy'n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol yn unol â dogfen lywodraethol yr elusen. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gellir eu galw'n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn gyfarwyddwyr, yn aelodau'r pwyllgor neu'n llywodraethwyr neu'n gyfarwyddwyr, neu gellir cyfeirio atynt trwy ddefnyddio rhyw deitl arall.

Weithiau bydd ymddiriedolwyr gwarchod neu ymddiriedolwyr daliannol gan elusen hefyd, ac mae eu rôl wedi'i chyfyngu i ddal ei heiddo. Nid oes gan ymddiriedolwyr gwarchod neu ymddiriedolwyr daliannol unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau rheoli ac mae'n rhaid iddynt weithredu yn ôl cyfarwyddyd cyfreithiol yr ymddiriedolwyr elusen.

Awdurdod cyfreithiol yw'r term cyffredinol ar gyfer y dull a ddefnyddir gan y Comisiwn i awdurdodi newid i'r ffordd y mae elusen yn gweithredu. Gall fod yn Orchymyn, yn Gynllun neu'n fath arall o gydsyniad.

  • Gorchymyn yw dogfen gyfreithiol sy'n cael ei pharatoi gan y Comisiwn a all, er enghraifft, roi pŵerau newydd i gorff ymddiriedolwyr neu benodi neu ddiswyddo ymddiriedolwyr.
  • Cynllun yw dogfen gyfreithiol sy'n cael ei pharatoi gan y Comisiwn a all newid unrhyw agwedd ar ddibenion elusen neu ei darpariaethau gweinyddol.

Gwaddol parhaol yw eiddo elusen (gan gynnwys tir, adeiladau, arian parod neu fuddsoddiadau) nad oes modd i'r ymddiriedolwyr ei ddefnyddio fel pe bai'n incwm. Rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol, weithiau i'w ddefnyddio i hyrwyddo dibenion yr elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Fel rheol ni all yr ymddiriedolwyr ddefnyddio gwaddol parhaol heb ein hawdurdod.

Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sy'n amodol ar ymddiriedolaethau penodol, a all gael eu datgan gan y rhoddwr(wyr), neu gyda'u hawdurdod (ee, mewn apêl gyhoeddus), ond sy'n parhau i ddod o fewn amcanion ehangach yr elusen. Gall cronfeydd cyfyngedig fod yn gronfeydd incwm cyfyngedig, sy'n dreuliadwy yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr er mwyn hyrwyddo rhyw agwedd(au) arbennig ar amcanion yr elusen, neu gallant fod yn gronfeydd cyfalaf, lle mae gofyn i'r asedau gael eu buddsoddi, neu eu cadw i'w defnyddio yn hytrach na'u gwario. Mae gan rai elusennau bŵer i ddatgan ymddiriedolaethau penodol dros gronfeydd anghyfyngedig. Os yw pŵer o'r fath ar gael ac yn cael ei ymarfer, bydd yr asedau yr effeithir arnynt yn ffurfio cronfa gyfyngedig, a bydd disgresiwn yr ymddiriedolwyr i ddefnyddio'r gronfa wedi'i gyfyngu'n gyfreithiol.

SORP - Datganiad o Arferion Cymeradwy: Cyfrifon ac adroddiadau elusennau sy'n pennu fframwaith cyfrifyddu ac adrodd ar gyfer pob elusen yn y DU, heblaw os yw SORP mwy arbenigol yn gymwys.

Ymddiriedolaeth arbennig yw cronfeydd neu eiddo sy'n cael eu dal a'u gweinyddu ar ei hymddiriedolaethau ei hun gan neu ar ran y brif elusen ar gyfer unrhyw ddibenion arbennig yr elusen honno. Mae'n dilyn bod rhaid i amcanion ymddiriedolaeth arbennig fod yn gulach na dibenion y brif elusen.

Rhanddeiliad yw unrhyw unigolyn neu gorff sydd â budd mewn elusen ac yng nghyd-destun y canllaw hwn fel arfer bydd yn cynnwys buddiolwyr elusen, ei staff a'i gwirfoddolwyr, ei haelodau, ei chyllidwyr a'i chefnogwyr.

Datganiad breinio yw gweithred sy'n trosglwyddo'r teitl i eiddo elusen o'r trosglwyddwr i'r trosglwyddai.

6.2 Sefydliadau defnyddiol

The Baring Foundation
Elusen sy'n rhoi arian i elusennau a mudiadau gwirfoddol sy'n hyrwyddo dibenion elusennol. Mae ei wefan yn rhoi cyngor a ffynonellau cymorth ar ystod eang o bynciau sydd o ddiddordeb i'r sector gwirfoddol.

The Baring Foundation
60 London Wall
Llundain
EC2M 5TQ

www.baringfoundation.org.uk
e-bost: baring.foundation@uk.ing.com
ffôn: 020 7767 1348

Bassac
Mae Bassac yn rhedeg y rhaglen Collaboration Benefits sy'n darparu hyfforddiant a chymorth i helpu grŵpiau cymunedol a gwirfoddol i ddatblygu partneriaethau cryf a llwyddiannus.

Bassac
33 Corsham Street
Llundain N1 6DR

www.bassac.org.uk
e-bost: info@bassac.org.uk
ffôn: 0845 241 0375

Cass Centre for Charity Effectiveness
Mae The Cass Centre for Charity Effectiveness (Cass CCE) yn bodoli i sicrhau effeithiolrwydd mwyaf sefydliadau ac unigolion o fewn y sector gwirfoddol a chymunedol.

Cass Business School
106 Bunhill Row
Llundain
EC1Y 8TZ

www.cass.city.ac.uk/cce/
e-bost: CassCCE@city.ac.uk
ffôn: +44 (0)20 7040 8781

Cofrestrfa Tir
Mae'r Gofrestr Tir yn darparu mynediad at fanylion mwy nag 20 miliwn o eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae'r gofrestr teitl yn cynnwys manylion perchnogaeth ac, i'r rhan fwyaf o eiddo sydd wedi newid dwylo ers Ebrill 2000, gwybodaeth am brisiau eiddo.

Prif Swyddfa'r Gofrestrfa Tir
32 Lincoln's Inn Fields
Llundain WC2A 3PH

www.landregisteronline.gov.uk
ffôn: 0844 892 0456
e-bost: landregisteronline@landregistry.gsi.gov.uk

Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO)
Mae NCVO yn darparu gwybodaeth ar arferion da a chyngor ar bob agwedd ar gydweithredu i gymdeithasau gwirfoddol a chymunedol.

NCVO
Regent's Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL

www.ncvo-vol.org.uk/
e-bost: ncvo@ncvo-vol.org.uk
ffôn: 020 7520 2440

Cyllid a Thollau EM
Mae HMRC yn sicrhau bod treth gywir yn cael ei thalu ar yr adeg iawn. Mae'n rhoi gwybodaeth i elusennau a CASCs am Gymorth Rhodd, Rhoi Trwy'r Gyflogres, gostyngiadau treth, TAW a sut i gwblhau ffurflen dreth Cwmni neu Hunanasesiad.

Cyllid a Thollau EM Elusennau
St Johns House
Merton Road
Lerpwl
L75 1BB

www.hmrc.gov.uk
e-bost: charities@hmrc.gov.uk
ffôn: 0845 302 0203

Cymdeithas Genedlaethol Gweithredu Gwirfoddol a Chymunedol (NAVCA)
Mae NAVCA yn gorff cenedlaethol sy'n cefnogi seilwaith trydydd sector lleol yn Lloegr.

NAVCA
The Tower
Furnival Square
Sheffield
S1 4QL

www.navca.org.uk
ffôn: 0114 278 6636

Charities Evaluation Services (CES)
Elusen yw CES sy'n darparu adnoddau, gwasanaeth ymgynghori, gwerthusiadau allanol a chymorth ar systemau ansawdd a gwerthuso i'r sector gwirfoddol.

Charities Evaluation Services
4 Coldbath Square,
Llundain EC1R 5HL

www.ces-vol.org.uk
e-bost: enquiries@ces-vol.org.uk
ffôn: 020 7713 5722

Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
Mae ACAS yn ceisio gwella sefydliadau a bywyd gwaith drwy gysylltiadau cyflogaeth gwell. Mae'n hyrwyddo arferion gorau yn y gweithle drwy gynnig cyngor a gwasanaethau hawdd cael atynt a gwasanaethau annibynnol ar gyfer delio ag anghydfodau.

ACAS National (Prif Swyddfa)
Euston Tower
286 Euston Road
Llundain NW1 3JJ

www.acas.org.uk
ffôn: 0845 47 47 47

Institute for Voluntary Action Research (IVAR)
Mae IVAR yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector i gynnig ymateb arloesol i sialensiau trefnu a rheoli a wynebir gan sefydliadau trydydd sector.

Institute for Voluntary Action Research (IVAR)
26 Russell Square
Bloomsbury
Llundain WC1B 5DQ

ffôn: 020 7631 6608
e-bost enquiries@ivar.org.uk

The Office of the Scottish Charity Regulator (OSCR)
OSCR yw'r rheolydd elusennau ar gyfer yr Alban.

Office of the Scottish Charity Regulator (OSCR)
2nd Floor
Quadrant House
9 Riverside Drive
Dundee
DD1 4NY

www.oscr.org.uk
e-bost: info@oscr.org.uk.
ffôn: 01382 220446

Prifysgol Lerpwl - Uned y Gyfraith Elusennau
Prif ffocws Uned y Gyfraith Elusennau yw ymchwilio i'r gyfraith fel y mae'n effeithio ar y sector elusennol ac mae canlyniadau'r ymchwil hwnnw ar gael i elusennau a'u cynghorwyr.

www.liv.ac.uk/law/clu/index.htm
ffôn: 151 794 2462

Small Charities Coalition
Mae'r Small Charities Coalition yn bodoli i helpu elusennau bach i fanteisio ar y sgiliau, y profiad a'r adnoddau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu hamcanion. Mae hefyd yn paru elusennau bach â sefydliadau eraill er mwyn cynyddu adnoddau neu wella gwybodaeth a sgiliau.

24 Stephenson Way
Llundain, NW1 2DP

www.smallcharities.org.uk
E-bost: info@smallcharities.org.uk
Ffôn: 0207 391 4812

The Social Investment Business - Futurebuilders fund

Mae Futurebuilders yn cynnig ariannu benthyciadau, wedi'i gyfuno'n aml â grantiau a chymorth proffesiynol, i sefydliadau trydydd sector sydd angen buddsoddiad i'w helpu i wneud cais am, ennill a chyflenwi contractau gwasanaeth cyhoeddus.

The Social Investment Business
5th Floor, 6 St Andrew Street
Llundain EC4A 3AE

www.socialinvestmentbusiness.org.uk
e-bost: info@socialinvestmentbusiness.org.uk
ffôn: 0191 261 5200

Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
Mae'r CRB yn helpu i ddiogelu plant ac oedolion agored i niwed drwy ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gynorthwyo sefydliadau sy'n recriwtio pobl sydd â swyddi cyfrifol.
Tîm Cofrestru CRB
Blwch SP 110
Lerpwl
L69 3EF

www.crb.gov.uk
ffôn: 0870 90 90 822

Swyddfa Cymdeithas Sifil

Mae Swyddfa Cymdeithas Sifil yn arwain gwaith ar draws y llywodraeth i gefnogi'r amgylchedd dros drydydd sector ffyniannus, gan alluogi'r sector i ymgyrchu dros newid, cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, hybu mentergarwch cymdeithasol a chryfhau cymunedau.

Swyddfa'r Trydydd Sector
2nd Floor, Admiralty Arch, South Side
The Mall
Llundain SW1A 2WH

www.cabinetoffice.gov.uk/content/big-society-overview
ffôn: 020 7276 6400

Swyddfa Eiddo Deallusol (UK-IPO)
Swyddfa Eiddo Deallusol yw corff swyddogol y llywodraeth sy'n gyfrifol am hawliau Eiddo Deallusol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys patentau, dyluniadau, nodau masnach a hawlfraint.

Swyddfa Eiddo Deallusol (UK-IPO)
Concept House
Cardiff Road
Casnewydd
De Cymru
NP10 8QQ

www.ipo.gov.uk
e-bost: Enquiries@ipo.gov.uk
ffôn: 0845 9500 505

Swyddfa Masnachu Teg
Mae'n gorfodi'r gyfraith diogelu'r defnyddiwr a'r gyfraith cystadleuaeth, yn adolygu cynlluniau arfaethedig ar gyfer uno ac yn cynnal astudiaethau marchnad.
Swyddfa Masnachu Teg
Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
Llundain, EC4Y 8JX.

www.oft.gov.uk
e-bost: enquiries@oft.gsi.gov.uk
ffôn: 08454 04 05 06

Tŷ'r Cwmnïau
Mae Tŷ'r Cwmnïau yn ymgorffori ac yn diddymu cwmnïau cyfyngedig, yn archwilio ac yn storio gwybodaeth am gwmnïau o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig, ac yn sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd.

Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Y Maendy
Caerdydd CF14 3UZ

www.companieshouse.gov.uk
e-bost: enquiries@companies-house.gov.uk
ffôn: 087 0333 3636

Volunteering England
Mae Volunteering England yn elusen sydd wedi ymrwymo i gefnogi a galluogi gwirfoddoli. Mae'n ffynhonnell hynod ddefnyddiol a chynhwysfawr o wybodaeth a chyngor ar bob agwedd ar wirfoddoli.

Volunteering England
Regents Wharf
8 All Saints Street
Llundain N1 9RL

www.volunteering.org.uk
e-bost: volunteering@volunteeringengland.org
ffôn: 0845 305 6979

6.3 Cyhoeddiadau defnyddiol a gwasanaethau ar-lein

Comisiwn Elusennau

Gwasanaethau ar-lein:

Canllawiau ac adnoddau

Ffynonellau eraill o wybodaeth

Gall y cyhoeddiadau, adnoddau, offer ac astudiaethau achos canlynol, sy'n cael eu cyfeirio atynt yn y pecyn cymorth, fod o ddiddordeb i elusennau sy'n bwriadu uno ag elusennau eraill.

Adroddiadau ymchwil:

Adnoddau a modelau ar gyfer uno:

Gwasanaethau ar-lein:

Atodiad 1

Cysylltu â'r Comisiwn Elusennau am uno

Oes angen cydsyniad y Comisiwn Elusennau er mwyn uno?

Nid oes angen cydsyniad y Comisiwn Elusennau ar gyfer uno elusennau yn y rhan fwyaf o achosion. Fel arfer bydd dogfen lywodraethol elusen yn cynnwys y pŵer y mae ei angen i alluogi elusen i uno ag elusen arall. Ond mae'n rhaid i ni fod yn rhan o'r broses os nad oes gan elusen y pŵer y mae ei angen arni i fwrw ymlaen â'r cynnig i uno, neu os yw ei dogfen lywodraethol yn ei gwneud hi'n ofynnol yn benodol i gael ein cydsyniad.

Os mai dyma yw'r achos neu os oes angen ein cyngor arnoch, dylech gysylltu â'r Comisiwn. Er mwyn ystyried cynnig bydd rhaid i ni ddeall yr uno arfaethedig. Mae'r cwestiynau isod yn amlinellu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnom. Efallai yr hoffech anfon dogfennau ategol atom hefyd i gefnogi'r achos dros uno, megis cynlluniau busnes neu brosiect.

Byddai'n ddefnyddiol pe gallech gysylltu â ni ymhell cyn dyddiad targed yr uno er mwyn i ni allu gwirio mewn da bryd a oes angen unrhyw awdurdod cyfreithiol penodol.

Cofiwch i gynnwys enw a rhif cofrestru'r elusen yn eich gohebiaeth ac anfon manylion at: enquiries@charitycommission.gov.uk

Cefndir a manylion cyswllt

1. Enw, rhif(au) cofrestredig, enw cyswllt a rhif ffôn ar gyfer pob elusen.

2. Fydd angen enw gweithredol? Os bydd, rhowch fanylion.

Amcanion elusennol

3. Sut mae amcanion yr elusennau yn gydnaws?

4. Sut byddai pob elusen yn hyrwyddo ei hamcanion elusennol drwy uno? Tynnwch sylw at yr hyn sy'n debyg ac yn gorgyffwrdd mewn gweithgareddau neu wasanaethau i fuddiolwyr.

Gwneud penderfyniadau a chyngor

5. Ydy ymddiriedolwyr pob elusen sy'n rhan o'r uno wedi gwneud penderfyniad ar y cyd i barhau â'r uno? Os ydynt, cadarnhewch hyn a rhowch fanylion.

6. YDŷ'r ymddiriedolwyr wedi dilyn dogfen lywodraethol yr elusen wrth wneud eu penderfyniad?

7. Oes aelodau gan unrhyw elusennau sy'n rhan o'r uno? Os oes, ydy darpariaethau'r ddogfen lywodraethol o ran yr aelodau a phleidleisio wedi cael eu dilyn?

8. YDŷ'r holl elusennau sy'n rhan o'r uno wedi dechrau ymarferion diwydrwydd dyladwy ffurfiol? Ydy hyn wedi codi unrhyw broblemau mawr?

9. YDŷ'r elusennau dan sylw wedi ceisio cyngor proffesiynol? Os ydynt, ydy hyn wedi codi unrhyw broblemau?

10. Oes angen awdurdod cyfreithiol y Comisiwn Elusennau er mwyn i'r uno fynd rhagddo?

Trosglwyddo asedau

11. Oes gan unrhyw elusennau cyfansoddol eiddo wedi'i freinio yn y Ceidwad Swyddogol?

12. Hoffech chi i'r Ceidwad Swyddogol ddal teitl i eiddo yr elusen newydd?

13. Rhowch fanylion unrhyw waddol parhaol.

Am wybodaeth bellach ar gydweithredu ac uno, gweler ein cyhoeddiadau Cydweithio a Chyfuno: Cyflwyniad (CC34) neu Ddewis Cydweithredu: Eich helpu chi i lwyddo.

Atodiad 2

Uno

20 cwestiwn y mae angen i ymddiriedolwyr eu gofyn

Mae uno elusennau yn golygu bod dwy elusen wahanol neu fwy yn dod ynghyd i ffurfio un sefydliad. Mewn achosion o'r fath, bydd naill ai elusen newydd yn cael ei ffurfio i barhau â'r gwaith neu gymryd asedau'r elusennau gwreiddiol, neu bydd un elusen yn dod o dan reolaeth y llall.

Pwrpas y rhestr gyfeirio

Bwriedir i'r rhestr gyfeirio hon fod yn ganllaw syml i'r materion cyffredin y bydd angen i ymddiriedolwyr feddwl amdanynt wrth ystyried uno. Dylent sicrhau mai uno sy'n ateb anghenion buddiolwyr orau a'i fod yn gwneud y defnydd gorau o'u hadnoddau elusennol. Rhaid iddynt weithredu'n ddoeth er lles eu helusen ac yn unol â'r ddogfen lywodraethol a gofynion y gyfraith elusennau a deddfwriaeth arall.

Rydym wedi llunio'r rhestr gyfeirio i fod yn addas i bob elusen. Ni fydd pob cwestiwn yn berthnasol i bob elusen. Dylid ystyried y rhestr gyfeirio hon ochr yn ochr â chyhoeddiadau'r Comisiwn Elusennau:

Rydym yn hapus i gynghori ymddiriedolwyr am uno os nad oes gan elusen bŵer au digonol neu os yw ei dogfen lywodraethol yn ei gwneud hi'n ofynnol i geisio ein cydsyniad. Cyfeiriwch at y ffurflen 'Cysylltu â'r Comisiwn Elusennau am uno' sydd i'w gweld ar ein gwefan www.charitycommission.gov.uk

Ystyried uno

1. Ydy uno er lles gorau ein helusen a'i buddiolwyr? Fydd uno yn gwella ansawdd y gwasanaeth a gynigiwn drwy, er enghraifft, greu arbedion cost, cynyddu incwm neu wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau?

2. Ydy ein helusen/elusennau partner arfaethedig yn gydnaws o ran amcanion, gweledigaeth strategol, diwylliant, gwerthoedd, trefniadau llywodraethu, strwythurau sefydliadol a sylfaen ariannu?

3. Ydym ni wedi cysylltu â'n rhanddeiliaid a'n buddiolwyr i geisio eu barn? Os nad ydym, sut a phryd fyddwn yn gwneud hynny?

4. Pa risgiau a manteision fydd uno ffurfiol yn eu cynnig i'n helusen? Ydym ni wedi ystyried yr effeithiau ehangach ar ein helusen?

5. Oes unrhyw fath arall o gydweithredu y gallem ei ystyried a allai gynnig yr un manteision?

6. Ydym ni wedi amcangyfrif cost lawn yr uno? Dylai hyn gynnwys materion megis amser staff, ail-frandio, ffioedd proffesiynol, costau adleoli a chostau annisgwyl.

7. Oes aelodau gan ein helusen? Os oes, ydy ein dogfen lywodraethol yn ei gwneud hi'n ofynnol i gael cydsyniad yr aelodau er mwyn uno?

8. Ydym ni'n cynnal ymarfer diwydrwydd dyladwy, allwn ni ei gynnal yn fewnol neu oes angen cyngor proffesiynol arnom?

Ystyriaethau ariannol a chyfreithiol Symbol cyfreithiol

9. Oes gennym ni'r pŵerau cyfreithiol perthnasol i gyflawni ein cynllun neu a fydd angen cymorth y Comisiwn Elusennau arnom?

10. Ydym ni wedi penderfynu ar strwythur cyfreithiol ar gyfer yr elusennau sydd wedi uno?

11. Ydym ni'n cymryd y cyngor proffesiynol priodol ac ym mha feysydd?

12. Oes unrhyw broblemau cyflogaeth y mae angen i ni eu hystyried? Gallai'r rhain gynnwys materion fel gofynion TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)), rhwymedigaethau pensiwn a chydymffurfio â'r gyfraith cyflogaeth.

13. Oes cyfyngiadau ar ffynonellau incwm ein helusen? Gallai'r rhain gynnwys ymddiriedolaethau arbennig, cronfeydd cyfyngedig neu waddolion parhaol.

Cynllunio a chyfathrebu

14. Ydym ni wedi penodi unigolyn i reoli'r broses gyfan?

15. Oes cynllun prosiect gennym gyda cherrig milltir i reoli'r broses?

16. Ydym ni wedi sefydlu bwrdd prosiect, pwyllgor neu grŵp i arolygu'r prosiect a chysylltu â'r cyrff ymddiriedolwyr?

17. Pa drefniadau llywodraethu dros dro ddylem ni eu rhoi ar waith yn ystod y broses uno?

18. Ydym ni wedi cynnal dadansoddiad rhanddeiliaid ac wedi sefydlu cynllun cyfathrebu sy'n cwmpasu pob rhanddeiliad a chynulleidfa bresennol a newydd? Dylai hyn gynnwys cyfathrebu'r uno â chyllidwyr a staff presennol.

19. Ydym ni wedi adnabod y risgiau sy'n gysylltiedig â'r uno, megis risgiau i enw da neu risgiau gweithredol, a rhoi systemau ar waith i leddfu'r risgiau hynny?

20. Ydym ni wedi adnabod ffyrdd o fonitro llwyddiant yr uno a sut y caiff ei werthuso?

Mae Symbol Cyfreithiol golygu bod gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol. Rhaid i ymddiriedolwyr a'r elusen gydymffurfio â'r gofynion hyn.

Mae'r rhestr gyfeirio hon yn ffurfio rhan o'r gyfres Testun Trafod.

I gael mwy o wybodaeth gweler ein gwefan www.charitycommission.gov.uk

Atodiad 3

Rhestr gyfeirio diwydrwydd dyladwy

Beth yw 'diwydrwydd dyladwy'?

Fe ddefnyddir 'diwydrwydd dyladwy' i ddisgrifio'r camau y bydd sefydliadau yn eu cymryd i sicrhau eu hunain fod uno neu gydweithredu cymhleth er eu lles gorau nhw. Canlyniad ymarfer diwydrwydd dyladwy yw bod gan elusen wybodaeth lawn am y sefydliad y mae'n bwriadu uno neu gydweithio ag ef (hy, nid oes unrhyw beth annisgwyl).

Mae costau comisiynu gwaith diwydrwydd dyladwy yn ddefnydd priodol o gronfeydd elusennol, ond dylid eu rhagweld ar y cychwyn a'u hadolygu'n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymesur â'r risgiau.

Mae gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn rhannu'n dri phrif gategori:

  • masnachol;
  • ariannol;
  • cyfreithiol

Dylai natur y gwiriadau fod yn gymesur i:

  • faint a natur y cynnig;
  • swm yr incwm a'r gwariant;
  • natur y gweithgareddau presennol ac arfaethedig.

Gall fod angen ymarfer mwy trylwyr os oes gan elusennau un neu fwy o'r canlynol:

  • trefniadau cyflenwi gwasanaeth cymhleth;
  • gwaith proffil uchel neu sensitif;
  • cysylltiadau ag elusennau cyswllt;
  • gweithrediadau mewn sawl lleoliad daearyddol;
  • un is-gwmni masnachu neu fwy;
  • daliadau ac asedau eiddo helaeth;
  • cronfeydd cyfyngedig neu waddolion parhaol.

Rôl yr ymddiriedolwyr

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am benderfynu ar y lefel briodol o ddiwydrwydd dyladwy sy'n ofynnol wrth ystyried uno ag elusen arall/elusennau eraill neu drefniadau cydweithredu cymhleth. Mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i weithredu'n ddoeth. Wrth gynllunio uno arfaethedig neu drefniadau cydweithredu dan gontract, dylent sicrhau eu bod nhw wedi adnabod unrhyw risgiau posibl i'w helusen cyn arwyddo unrhyw gytundeb.

Yn sgîl eu hasesiad cychwynnol, gall fod angen cyngor proffesiynol ar ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau bod lefel briodol o ddiwydrwydd dyladwy.

Am y rhestr gyfeirio hon

Mae'r rhestr gyfeirio ganlynol yn ganllaw i'r meysydd i'w hadolygu mewn ymarfer diwydrwydd dyladwy. Y bwriad yw helpu ymddiriedolwyr i ddeall yr ymarfer diwydrwydd dyladwy.

Masnachol a Strategol

Maes i'w adolygu

Beth i'w wneud?

Sut i ddefnyddio'r wybodaeth / Cwestiynau i'w gofyn

Rhesymau dros uno

Adolygu cofnodion bwrdd priodol ac adnabod manteision uno i'r buddiolwyr.

Beth yw'r rhesymau dros uno? Pa fanteision fydd uno yn eu cynnig i'r buddiolwyr?

Amcanion elusennol

Adolygu amcanion elusennol.

YDŷ'r amcanion elusennol yn gydnaws?

Strategaeth codi arian

Adolygu'r swm a godwyd yn y ddwy flynedd ddiwethaf a'i gymharu â'r gyllideb.

Ydy effeithiolrwydd y strategaeth codi arian yn cael ei adolygu yn erbyn rhaglen a bennwyd ymlaen llaw?

Rhoddwyr a chyllidwyr

Ymgynghori â rhoddwyr a chyllidwyr presennol am uno. Adolygu ffynonellau cyllid a chymorth eraill.

Fyddant yn parhau i gefnogi'r elusen gyfunedig arfaethedig?

Buddiolwyr

Adolygu buddiolwyr presennol a darpar fuddiolwyr.

Yn y tymor hir, o ganlyniad i'r uno, fydd nifer y buddiolwyr yn cynyddu?

Ymddiriedolwyr a rheolwyr

Adolygu CVs a chontractau cyflogaeth prif weithredwyr ac uwch reolwyr. Cael CVs ymddiriedolwyr. Cymharu'r ddarpariaeth bresennol ag anghenion yn y dyfodol.

Oes profiad digonol gan yr ymddiriedolwyr / rheolwyr mewn gwahanol ddisgyblaethau ar gyfer yr elusen gyfunedig?

Strwythur sefydliadol

Adolygu siartiau sefydliadau a llawlyfrau staff.

Ydy strwythurau sefydliadol yr elusennau yn gydnaws?

Llywodraethu

Adolygu dulliau llywodraethu cyfredol.

Pa ddulliau llywodraethu dros dro / yn y dyfodol fydd eu hangen?

Effeithiolrwydd cyfarfodydd bwrdd

Adolygu cofnodion cyfarfodydd bwrdd. Adolygu cofnodion sy'n ymwneud â gwybodaeth ariannol.

Oes materion sy'n ailddigwydd mewn cofnodion bwrdd sy'n awgrymu nad yw problem yn cael ei datrys yn briodol? Ydy cofnodion a phapurau wedi'u cyflwyno'n dda yn enwedig gwybodaeth ariannol? Ydy cyfrifon rheolaeth yn darparu'r wybodaeth berthnasol ac angenrheidiol sydd ar gael i ymddiriedolwyr a rheolwyr gweithredol?

Rheoli risg

Adolygu cofrestri risg a chofnodion bwrdd priodol.

Oes risgiau arwyddocaol y mae angen eu datrys cyn uno?

Technoleg gwybodaeth

Adolygu systemau technoleg gwybodaeth.

YDŷ'r systemau'n gydnaws? Sut gallai systemau TG presennol gael eu defnyddio yn yr elusen gyfunedig? Oes lle i'w cyfnerthu?

Barn rhanddeiliaid

Ymgynghori â rhanddeiliaid am yr uno.

Fyddant yn parhau i gefnogi'r elusen gyfunedig arfaethedig?

Sefyllfa gystadleuol

Adnabod elusennau sydd ag amcanion tebyg.

Fydd yr elusennau hyn yn rhy gystadleuol ac yn atal elusennau cyfunedig rhag cyflawni eu hamcanion?

Dadansoddiad SWOT

Adolygu unrhyw ddadansoddiad SWOT sy'n bod neu gynnal dadansoddiad SWOT.

Pa faterion sy'n codi?

Ariannol

a. Cyfrifon

Maes i'w adolygu

Beth i'w wneud?

Sut i ddefnyddio'r wybodaeth / Cwestiynau i'w gofyn

Datganiadau ariannol blynyddol

Adnabod prif ffynonellau incwm a chategorïau gwariant am y 2/3 blynedd diwethaf.
Adolygu asedau a rhwymedigaethau dros y 2/3 diwethaf.

Beth yw'r tueddiadau am y 2/3 blynedd diwethaf o ran incwm a gwariant ac asedau a rhwymedigaethau?
Bydd hyn yn cadarnhau hyfywedd yr elusen.

Cyfrifon rheolaeth

Cymharu

  • cywirdeb cyfrifon rheoli diwedd blwyddyn â datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer y flwyddyn honno;
  • cyfrifon rheolaeth â'r gyllideb neu ragolwg diweddaraf;
  • cyfrifon rheolaeth a datganiadau ariannol blynyddol ar gyfer y 2 flynedd flaenorol â chyllideb/rhagolwg am y 2 flynedd ddilynol .

Ydy cyfrifon rheolaeth cyfnodol yn ddibynadwy o ran gwneud penderfyniadau? Ydy cyllidebu/rhagolygon cyfredol yn ddibynadwy ac yn realistig? Beth yw'r rhesymau dros unrhyw amrywiadau sydd wedi codi?

Llif arian

Adolygu llif arian a chwilio am dueddiadau sy'n dangos cynaliadwyedd.

Oes unrhyw ddiffygion posibl y mae angen eu monitro sy'n codi o'r gwahaniaeth mewn amseru yn y llif arian yn y dyfodol?

Safonau cyfrifyddu

Cadarnhau cydymffurfiaeth â'r Datganiad o Arferion Cymeradwy, Cyfrifon ac Adroddiadau (SORP) elusennau, Datganiadau Safonol o Arferion Cyfrifyddu (SSAP) a Safonau Adroddiadau Ariannol (FRS).

Oes unrhyw wyro o'r SORP, SSAP a FRS?

Polisïau cyfrifyddu a rheolaethau ariannol mewnol

Cymharu polisïau cyfrifyddu a rheolaethau ariannol mewnol â'ch polisïau a'ch rheolaethau chi.

Oes unrhyw wahaniaeth sy'n golygu bod y sefydliadau yn anghydnaws? Beth sy'n cydweddu'n dda?
Pa mor effeithiol yw rheolaethau ariannol mewnol ac oes angen adolygu unrhyw feysydd?

Llythyron rheoli gan yr archwiliwr

Adolygu copïau archwilwyr o lythyrau rheoli am y tair blynedd diwethaf. Dylai'r rhain gynnwys ymatebion yr elusen.

Oes unrhyw beth o bryder yn sylwadau'r archwilwyr neu elusennau? Oes unrhyw ddiffygion posibl yn y rheolaethau mewnol?

b. Ymrwymiadau ac asedau

Maes i'w adolygu

Beth i'w wneud?

Sut i ddefnyddio'r wybodaeth / Cwestiynau i'w gofyn

Ariannu yn y dyfodol

Adolygu cynlluniau ar gyfer ariannu yn y 2/3 blynedd nesaf.

A fydd ariannu yn debygol o gael ei wireddu yn y dyfodol?

Ariannu prosiectau

Gwirio bod arferion adennill costau llawn yn cael eu dilyn a bod cyllidebau yn caniatáu ar gyfer ychwanegu gwarged bach at gronfeydd wrth gefn.

Beth yw risg ymgymryd â phrosiectau os na ellir adennill costau llawn a beth fydd yr effaith os oes rhaid cymorthdalu'r prosiectau hyn o gronfeydd anghyfyngedig?

Eiddo a dadfeiliadau

Cael rhestr eiddo. Cynnal chwiliad y Gofrestrfa Tir a chael gweithredoedd teitl ar gyfer eiddo rhydd-ddaliad a les-ddaliad. Gwirio a yw costau yn fwy na gwerth y farchnad mewn unrhyw achosion.
Adolygu prydlesi ar gyfer cymalau dadfeilio.

Allai colledion godi os oes rhaid gwaredu â'r eiddo?

Fydd y costau yn uchel iawn os yw unrhyw brydlesi yn cael eu hildio?

Gosodiadau a ffitiadau

Cael cofrestr o asedau sefydlog a chysoni'r ffigurau i'r cyfrifon. Gwirio sampl o osodiadau a ffitiadau.

YDŷ'r gofrestr yn rhoi darlun teg o'r asedau?
Oes asedau a gaiff eu defnyddio yn y sefydliad cyfunedig?
Fydd rhaid gwaredu ar rai asedau am golled?

Buddsoddiadau

Cael rhestr o gostau a gwerth buddsoddiadau.

Allwch chi ddilysu'r teitl cyfreithiol drwy wirio tystysgrifau neu dystiolaeth gyfreithiol arall?

Stociau

Cael rhestr o stoc a gwerthoedd. Mynychu cyfrif stoc diwedd blwyddyn os yw gwerth y stoc yn berthnasol.

Oes stoc sy'n symud yn araf neu'n anarferedig a allai arwain at orbrisio stoc?

Dyledwyr

Cael rhestr o ddyledwyr a'r symiau sy'n ddyledus. Cael dilysiad trydydd parti uniongyrchol ar gyfer symiau perthnasol yn enwedig dyledwyr grantiau.

Oes darpariaethau digonol ar gyfer dyledion amheus?

Rhagdaliadau

Cael rhestr o ragdaliadau. Dilysu sampl o ragdaliadau.

Os yw rhagdaliadau yn ymwneud â chytundebau a chaiff eu terfynu, oes angen lleihau gwerth y rhagdaliad?

Banc

Cael rhestr o weddill(ion) banc a gwirio cysondeb(au) banc.

Ydy gweddillion banc yn gywir? Ydy pob cyfrif banc wedi ei gyfrif amdano?

Credydwyr

Cael rhestr o gredydwyr a'r symiau sy'n ddyledus. Holi ac ystyried cael dilysiadau trydydd parti uniongyrchol ar symiau perthnasol a hir-sefydlog.

Ydy symiau'n daladwy i bob credydwr neu a allai fod problemau gyda'r cofnodion?

Dyled a gwarantau

Cael manylion telerau pob dyled, wedi'i gwarantu a heb ei gwarantu ac unrhyw warantau. Adolygu amseru ad-dalu dyledion fel rhan o ddadansoddiad llif arian.

All unrhyw delerau, cyfamodau a gwarantau barhau yn eu lle yn dilyn uno?

Croniadau

Cael rhestr o groniadau. Dilysu sampl.

Ydy rhwymedigaethau posibl yn cael eu cyfrifo ar sail resymol ac yDŷ'r rhestr yn gyflawn?

Eitemau annirweddol

Cael manylion patentau, trwyddedau, brandiau a hawliau eiddo deallusol eraill ac ewyllys da ynghyd â chopïau o gytundebau perthnasol.

Ydy prisio eitemau annirweddol yn rhesymol?

Cynlluniau pensiwn

Rhaid ceisio cyngor arbenigol gan y darparwr pensiwn a chynghorwyr proffesiynol perthnasol eraill.

Pa fath o rwymedigaethau allai godi os yw aelodaeth o'r cynllun yn cael ei therfynu naill ai gan staff sy'n gadael neu'n trosglwyddo neu os yw'r sefydliad cyfunedig yn peidio â bodoli?

c. Treth

Maes i'w adolygu

Beth i'w wneud?

Sut i ddefnyddio'r wybodaeth / Cwestiynau i'w gofyn

Treth incwm ac yswiriant gwladol

Archwilio'r gyflogres a nodi'r ymrwymiad misol arferol ar gyfer TWE.

YDŷ'r swm sy'n daladwy ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol am fis neu gyfnod hwy? Oes unrhyw ordaliadau posibl ac, os felly, oes modd eu hadennill?

Treth gorfforaeth

Gwiriwch nad oes unrhyw ymrwymiad i dalu treth gorfforaeth ar unrhyw fath o wariant masnachu neu sy'n gysylltiedig â gwariant anelusennol.

Trafod gyda chynghorwyr treth.

TAW

Gwirio a yw'r sefydliad wedi cofrestru ar gyfer TAW neu a ddylai fod wedi cofrestru. Os felly, gwirio ei gweithdrefnau o ran TAW y gellir ei hadennill.

Trafod gyda chynghorwyr treth.

Cymorth Rhodd

Cael rhestr o roddion y mae cymorth rhodd yn cael ei adennill ar ei gyfer. Gwirio sampl i weld a yw'r dogfennau yn gywir er mwyn gallu ei adennill.

Fyddai archwiliad cymorth rhodd HMRC yn datgelu ymrwymiadau ar gyfer cymorth rhodd sy'n cael eu hadennill ar gam?

Cyfreithiol

Maes i'w adolygu

Beth i'w wneud?

Sut i ddefnyddio'r wybodaeth / Cwestiynau i'w gofyn

Pŵer i uno

Cael copïau o ddogfennau llywodraethol cyfredol. Adolygu'r sail gyfreithiol ar gyfer uno.

Oes pŵer i elusennau uno yn y dogfennau llywodraethol?

Cyfranogiad y Comisiwn Elusennau

Ystyried yr angen am gyngor neu awdurdod y Comisiwn.

Oes unrhyw ansicrwydd ynghylch sut i weithredu? Fyddai cyfranogiad y Comisiwn Elusennau yn helpu?

TUPE a chontractau cyflogaeth

Adolygu contractau cyflogaeth a cheisio cyngor proffesiynol.

Beth yw'r goblygiadau o ran trosglwyddo staff gan gynnwys contractau cyflogaeth?

Eiddo

Ystyried cymalau amrywiol prydlesi megis cymalau dadfeilio a cheisio cyngor proffesiynol.

Beth yw goblygiadau'r rhain? Gweithredu ar gyngor proffesiynol.

Eiddo deallusol

Cael manylion patentau, nodau masnach a hawliau eiddo deallusol eraill a cheisio cyngor proffesiynol.

Beth yw goblygiadau'r rhain? Gweithredu ar gyngor proffesiynol.

Contractau cyfreithiol eraill

Adolygu contractau presennol.

Gweithredu ar gyngor proffesiynol.

Cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus

Adolygu contractau presennol a chysylltu ag asiantaeth ddyfarnu. Ceisio barn yr asiantaeth ddyfarnu i uno.

Gweithredu ar gyngor proffesiynol.

Pensiynau

Adolygu cynlluniau ac adnabod unrhyw faterion. Penderfynu a fydd digwyddiad tynnu'n ôl neu ddarfyddiad yn cael ei achosi a chysylltu â'r Rheolydd Pensiynau.

Gweithredu ar gyngor proffesiynol.

Yswiriant

Cael manylion pob polisi yswiriant a chysylltu ag yswirwyr.

Beth yw gofynion yswiriant yr elusen gytunedig?

Gwaddol parhaol

Cael gweithredoedd ymddiriedolaeth perthnasol a dogfennau eraill.

YDŷ'r trefniadau arfaethedig ar gyfer dal gwaddol parhaol yn gyfreithiol gadarn? Gweithredu ar gyngor proffesiynol.

Cymynroddion

Ystyried dibynnu ar incwm cymynroddion yn y dyfodol.

Oes angen cofrestru'r uno gyda'r Comisiwn?

Atodiad 4

Cofnodi'r uno yn y cyfrifon

Gall ymddiriedolwyr elusen benderfynu, mewn cydweithrediad â'u cynghorwyr proffesiynol yn ôl pob tebyg, a hoffent gofnodi'r uno fel uniad neu gaffaeliad yn y cyfrifon.

Mae'r ateb cyfrifyddu a ddewisir yn bwysig oherwydd os yw'r dull caffael yn cael ei ddewis, dangosir yr 'elw' neu'r 'golled' ar gaffael y 'bwndel o asedau a rhwymedigaethau' yn Natganiad o Weithgareddau Ariannol yr elusen adrodd a oedd wedi eu 'caffael'. Yn achos cyfrifyddu uno mae 'mantolen agoriadol' yn cael ei chreu o asedau a rhwymedigaethau cychwynnol y partïon cyfrannol fel pe byddai'r endid cyfunedig wedi bodoli erioed, ac felly ni chydnabyddir unrhyw 'elw' neu golled' gychwynnol.

Dylai ymddiriedolwyr benderfynu ar y math o gyfrifyddu sy'n disgrifio'r trafodiad orau. Ni ddylai telerau cyfrifyddu caffael a chyfrifyddu uno liwio'r penderfyniad hwnnw - sylwedd yr hyn sydd wedi digwydd sydd bwysicaf.

Nid yw'r SORP elusennau yn pennu unrhyw driniaeth benodol ac felly dylai'r cyfrifyddu ddilyn Safon Adrodd Ariannol 6 (FRS6), sy'n amlinellu'r meini prawf ar gyfer pennu cyfrifyddu uno a chyfrifyddu caffael.

Mae'r Bwrdd Safonau Cyfrifyddu yn ei Ddehongliad o'r Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Endidau Di-elw (y Dehongliad) yn datgan os yw elw yn codi o gyfuniad di-elw, dylid ei ddangos fel elw yn y 'datganiad o berfformiad ariannol'. Y datganiad o berfformiad ariannol ar gyfer elusen yw ei Datganiad o Weithgareddau Ariannol. Mae Pennod 8 y Dehongliad hefyd yn datgan:

a. mae caffaeliad yn cael ei adlewyrchu yn y datganiadau ariannol cyfunol fel pe bai'r caffaelwr wedi prynu asedau a rhwymedigaethau'r caffaelai fel bwndel o asedau a rhwymedigaethau ar y farchnad agored; a

b. mae uniad yn cael ei adlewyrchu yn y datganiadau ariannol cyfunol fel pe bai'r endid adrodd newydd, sy'n cynnwys yr holl bartïon i'r trafodiad, wedi bodoli erioed.

Mae tri maen prawf sylfaenol o'r FRS6 yn pennu a oes uno yn achos elusennau, sef:

  • nid yw un o'r elusennau wedi'i phortreadu fel y caffaelwr neu'r caffaelai;
  • mae pob un o'r elusennau yn cymryd rhan wrth sefydlu rheolaeth yr elusen gyfunedig ac wrth ddewis y personél rheoli;
  • nid yw meintiau perthynol yr elusennau cyfunedig mor wahanol fel bod un ohonynt yn llywodraethu ar yr elusen gyfunedig drwy rinwedd ei maint perthynol.

Os yw unrhyw un o'r meini prawf hyn ar gyfer cyfrifyddu uno heb ei fodloni gan yr elusennau perthnasol dylai cyfrifyddu caffael gael ei gymhwyso yn unol â FRS6.

Enghreifftiau o gyfrifyddu uno a chyfrifyddu caffael

  • Os yw Elusen B, sy'n ymylu ar ansolfedd, yn uno ag Elusen A er mwyn achub Elusen B a chynnig modd i'w gwaith barhau, gellir ei ystyried orau fel caffaeliad at ddibenion cyfrifyddu.

  • Os yw dwy elusen o faint gyfartal, sy'n ddiddyled ac yn fusnesau byw, yn cytuno i uno er mwyn bod yn fwy effeithiol ac arbed costau, yna efallai y byddai'n well disgrifio hyn fel uniad at ddibenion cyfrifyddu.

Y gwahaniaeth rhwng cyfrifyddu uno a chyfrifyddu caffael


Cyfrifyddu uno

Cyfrifyddu caffael

  • dylai asedau a rhwymedigaethau'r elusennau cyfunedig gael eu cynnwys yn y cyfrifon cyfunedig gyda'r ffigurau fel y maent yng nghyfrifon yr elusennau unigol (yn amodol ar unffurfedd polisïau cyfrifyddu);
  • rhaid i incwm a gwariant yr elusen gyfunedig gael ei gynnwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan, gan gynnwys y cyfnod cyn yr uno;
  • rhaid i'r cyfrifon cyfunedig ddangos symiau cyfatebol sy'n cyfeirio at y flwyddyn ariannol flaenorol;
  • egwyddor sylfaenol cyfrifyddu uno yw bod cyfrifon yr elusen gyfunedig yn cael eu paratoi fel pe bai'r uniad wedi bodoli erioed;
  • dylai asedau a rhwymedigaethau'r elusennau a gaffaelwyd gael eu cynnwys yn y cyfrifon drwy nodi gwerthoedd teg, fel y pennwyd gan FRS7, ar y dyddiad caffael (gydag unrhyw elw neu golled net yn cael ei gydnabod yn Natganiad o Weithgareddau Ariannol yr elusen adrodd);
  • rhaid i incwm a gwariant yr elusennau a gaffaelwyd gael eu cynnwys o'r dyddiad caffael yn unig;
  • egwyddor sylfaenol cyfrifyddu caffael yw mai'r dyddiad caffael sy'n pennu'r man cyfeirio cyfrifyddu ar gyfer yr elusennau a gaffaelwyd.

Am wybodaeth bellach:

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd