Fel rheol mae swydd ymddiriedolwr yn un wirfoddol. Fodd bynnag, mae'n bosib y byddwch yn gallu rhoi mathau o daliadau i ymddiriedolwyr eich elusen ar yr amod bod y pŵer cyfreithiol gennych i wneud hynny. Weithiau bydd y pŵer hwn wedi'i nodi yn nogfen lywodraethol yr elusen, a gallwch roi taliadau i ymddiriedolwyr os gallwch gydymffurfio â'r telerau ynddi.
Os nad oes unrhyw awdurdod yn eich dogfen lywodraethol mae'n bosib y byddwch yn gallu rhoi taliadau gan ddefnyddio'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Elusennau 2011. Mae'r rhain yn rhoi'r pŵer i ymddiriedolwyr dalu ymddiriedolwr unigol am ddarparu gwasanaeth ychwanegol i'r elusen, heb orfod cysylltu â'r Comisiwn am awdurdod.
Byddai hynny'n cynnwys, er enghraifft:
- defnyddio cwmni ymddiriedolwr ar gyfer gwaith adeiladu
- defnyddio adeiladau neu gyfleusterau'r ymddiriedolwr yn achlysurol
- arwyddo contract cynnal a chadw gyda chwmni'r ymddiriedolwr
- darparu llenni neu ddeunyddiau addurno ar gyfer neuadd
- darparu gwasanaethau arbenigol megis asiantau tai, gwasanaeth ymgynghori cyfrifiaduron, adeiladwyr a thrydanwyr.
Mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod gwneud y math hwn o daliad er lles gorau'r elusen ac mae'n rhaid bodloni rhai amodau eraill hefyd.
Os nad oes unrhyw awdurdod yn nogfen lywodraethol eich elusen - ac ni ellir gwneud y taliadau drwy ddefnyddio'r pwerau a ddisgrifir uchod - bydd rhaid i chi wneud cais am awdurdod y Comisiwn.
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein:
- os oes gennych chi gwestiwn am dreuliau'r ymddiriedolwyr
- rydych am i weithiwr fod yn ymddiriedolwr
- rydych am i ymddiriedolwr, neu rywun sy'n gysylltiedig ag ymddiriedolwr, fod yn weithiwr
- rydych am dalu ymddiriedolwr i gymryd lle, neu i gymryd lle'n rhannol, incwm a gollwyd ('digolledu')
- rydych am dalu ymddiriedolwr am ddarparu gwasanaethau i'r elusen
- rydych am dalu ymddiriedolwr am wasanaethu fel ymddiriedolwr
Gweler hefyd:
Brig y dudalen