Mae'r term 'gwaddol parhaol' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at unrhyw dir, buddsoddiad neu ased arall na all ymddiriedolwyr ei wario oherwydd cyfyngiad yn nogfen lywodraethol yr elusen.
Weithiau bydd cyfyngiad yn bodoli, hyd nes bod sefyllfa arbennig yn codi, sy'n cynnig modd i'r ymddiriedolwyr werthu gwaddol parhaol a defnyddio'r enillion heb wahaniaethu rhwng cyfalaf ac incwm. Enghraifft gyffredin yw pan fydd tir ac adeiladau'n cael eu dal at ddiben arbennig, gyda'r amod os nad oes ei angen mwyach ar gyfer y diben hwnnw gall gael ei werthu a gall yr elw gael ei wario ar ddibenion elusennol eraill.
Ond bydd cyfyngiadau yn gymwys yn barhaol yn aml. Er enghraifft, gallai elusen gael ei sefydlu gyda chyfalaf sy'n cael ei gadw am byth a'i fuddsoddi er mwyn cynhyrchu incwm i'w ddefnyddio at ddiben elusennol.
Mae'r gyfraith yn caniatáu i nifer o elusennau wario'r cyfan neu ran o'u gwaddol parhaol. Fodd bynnag, gall y pŵer gael ei ddefnyddio dim ond os yw'r ymddiriedolwyr yn penderfynu drwy ddefnyddio gwaddol parhaol eu helusen, yn ogystal ag unrhyw incwm, y bydd yn gallu cyflawni ei dibenion yn fwy effeithiol.
Mae enghreifftiau o'r sefyllfaoedd lle y gall fod angen i ymddiriedolwyr wneud penderfyniad o'r fath yn cynnwys:
- mae incwm yr elusen yn fach iawn erbyn hyn, ac nid yw'r ymddiriedolwyr yn gallu cyflawni ei dibenion, ac felly dod â'r elusen i ben drwy wario ei gwaddol parhaol, ac unrhyw asedau eraill, yw'r cam mwyaf effeithiol y gallant eu cymryd
- gall fod angen i elusen fwy ddefnyddio gwaddol parhaol ar gyfer prosiect costus, ond angenrheidiol, megis gwella neu ailddodrefnu ei hadeiladau
Os ydych chi am wario gwaddol parhaol eich elusen darllenwch ein canllaw, a fydd yn dweud wrthych os oes angen ein cymeradwyaeth arnoch neu beidio.
Os oes angen ein cymeradwyaeth arnoch cwblhewch ein ffurflen ar-lein.
Gweler hefyd: