Trosglwyddo asedau o un elusen i'r llall

Mewn rhai achosion, gall elusennau bach drosglwyddo eu hasedau gwaddol parhaol i elusen arall neu elusennau eraill. Mae'r term 'gwaddol parhaol' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at unrhyw dir, buddsoddiad neu ased arall na all ymddiriedolwyr ei wario oherwydd cyfyngiad yn nogfen lywodraethol yr elusen.

Mae'r pŵer i drosglwyddo gwaddol parhaol yn gymwys yn gyffredinol dim ond i elusennau sydd:

  • ag incwm blynyddol o £10,000 neu lai
  • heb unrhyw dir y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gyflawni rhai neu bob un o ddibenion yr elusen
  • heb fod yn gwmnïau elusennol

Os yw elusen yn bodloni'r gofynion hyn gall ei hymddiriedolwyr benderfynu trosglwyddo ei holl eiddo i un elusen neu ragor, ar yr amod eu bod yn:

  • credu ei fod er lles hybu dibenion eu helusen i drosglwyddo ei holl eiddo i elusen arall neu elusennau eraill
  • nid oes pŵer ganddynt yn eu dogfen lywodraethol sy'n cynnig modd iddynt ei drosglwyddo

Rhaid i chi hysbysu'r Comisiwn o'ch bwriad i drosglwyddo'r asedau hyn. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Gweler hefyd:

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd