Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i ymateb yn gyflym i faterion mewn ffordd sy'n gefnogol i elusennau a'r cyhoedd. Fel rhan o'i waith cydymffurfio rheoleiddio, sy'n cynnwys cysylltu ag elusennau, cyrff mantell y sector ac asiantaethau eraill, mae'n bosib y daw'r Comisiwn yn ymwybodol o risgiau arbennig neu feysydd agored i newid a allai effeithio ar elusennau a'u gweithrediadau.
Os yw'n briodol byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r risgiau arbennig sy'n wynebu elusennau wrth iddynt ddod at ein sylw. Mae'n bwysig bod yr ymddiriedolwyr elusen yn ymwybodol o'r bobl hynny sydd am gamfanteisio ar elusennau a'u camddefnyddio.
Rhybuddion presennol