Mae amcanion statudol gan y Comisiwn i sicrhau bod ymddiriedolwyr yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol wrth reoli elusennau a chynyddu ffydd a hyder y cyhoedd mewn elusennau. Mae swyddogaeth statudol gennym hefyd i adnabod ac ymchwilio i gamddefnyddio a chamreoli elusennau. Gwnawn hyn mewn sawl ffordd drwy ein gwaith cydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys asesu'r pryderon drwy ein gwaith achos asesu, a all arwain at gynnal ymchwiliadau neu fonitro elusennau. Wrth gynnal asesiadau ac ymchwiliadau cydweithiwn, os yw'n briodol, â rheoleiddwyr eraill, asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac adrannau eraill o'r llywodraeth. Sicrhawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth o ganlyniad y gwaith hwn er budd y sector ehangach.
Byddwn yn dwyn achos gorfodi yn erbyn elusennau mewn sawl ffordd.
Mae hyn yn cynnwys cymryd camau rheoleiddio yn ystod ymchwiliadau i elusennau unigol, gan gynnwys achosion rydym wedi defnyddio ein pwerau i benodi rheolwyr dros dro. Rydym hefyd yn cadw rhestr o unigolion sydd wedi cael eu dileu fel ymddiriedolwr gan yr Uchel Lys neu'r Comisiwn ac o ganlyniad maen nhw wedi'u hanghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen ar y Gofrestr Ymddiriedolwyr Wedi'u Dileu.
Yn ogystal, esboniwn sut yr ydym yn delio ag elusennau sydd heb gyflwyno eu cyfrifon a ffurflenni blynyddol.
Fel unrhyw fath arall o sefydliad, gall elusennau fod yn agored i droseddau a therfysgaeth. Yn ein profiad ni, prin iawn yw'r achosion o derfysgaeth neu gysylltiad â therfysgaeth yn y sector elusennol, ond mae unrhyw gamddefnydd o'r fath yn hollol annerbyniol ac mae'n rhaid i elusennau sicrhau nad ydynt mewn perygl. Mae'r adran hon yn esbonio ein strategaeth wrthderfysgaeth atal terfysgaeth a sut y bwriadwn godi ymwybyddiaeth ymysg elusennau o sut y gallan nhw ddiogelu eu hunain rhag y math hwn o risg. Mae'n amlinellu pa gymorth sydd ar gael i ymddiriedolwyr elusen sicrhau eu bod yn gwarchod eu helusen eu hunain rhag camddefnydd gan derfysgwyr a chamddefnydd arall.
Mae Diogelu elusennau rhag niwed yn becyn cymorth ar-lein sy'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar ymddiriedolwyr i reoli risgiau a diogelu eu helusen rhag niwed a rhag cael ei chamddefnyddio. Mae'r canllaw hwn yn deillio o ymrwymiadau yn y Strategaeth Wrthderfysgaeth. Fodd bynnag, yn ymarferol mae'r canllaw yn ceisio helpu ymddiriedolwyr i ddiogelu eu helusen rhag amrywiaeth o fathau o niwed a chamddefnydd, ac nid yw'n canolbwyntio ar gamddefnydd gan derfysgwyr yn unig. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar ddiwydrwydd dyladwy a dilysu sut y caiff cronfeydd eu defnyddio.
Mae rheoleiddio unrhyw bryderon am gamddefnydd a diffyg cydymffurfio yn y sector yn rôl bwysig i unrhyw reoleiddiwr modern. Y prif bwrpas yw monitro elusennau os oes pryderon gennym fod diffyg cydymffurfio difrifol wedi digwydd, neu os credwn fod risg arwyddocaol o ddiffyg cydymffurfio difrifol o fewn elusen. Mae gwaith goruchwylio a monitro rheolaidd yn cynnwys archwilio cyfrifon yn briodol ac wedi'i dargedu, gan sicrhau bod yr ymddiriedolwyr wedi cymryd y camau y maen nhw wedi addo eu cymryd a chynnal ymweliadau cydymffurfio.
Ceisiwn gydweithio ag ymddiriedolwyr elusen i ddatrys problemau gyda'n gilydd. Fodd bynnag, weithiau bydd ymddiriedolwyr yn gwrthod gweithio gyda ni neu gall fod risg ariannol difrifol neu risg arall i elusen os yw'r bwrdd ymddiriedolwyr yn parhau yn ei le. Yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, gallwn benodi rheolwr dros dro proffesiynol, annibynnol i redeg yr elusen yn lle'r ymddiriedolwyr nes bod y problemau wedi'u datrys. Esboniwn yma ble a sut i wneud hyn.
Pan fydd grwpiau gwahanol o fewn elusen yn anghytuno byddan nhw'n aml yn gofyn i ni gymryd un ochr a chynnig ateb. Fodd bynnag, bydd ymddiriedolwyr elusen yn gyfrifol am redeg eu helusen a byddwn yn ymyrryd dim ond yn y mathau hyn o anghydfodau mewnol, mewn achosion eithriadol. Mae'r adran hon yn esbonio ble y gallwn a ble na allwn ymyrryd. Mae hefyd yn rhoi cyngor i ymddiriedolwyr ar sut i ddatrys y mathau hyn o anghydfodau.
Brig y dudalen