Ein gwaith gwrthderfysgaeth

Yn yr un modd â mathau eraill o sefydliadau, gall elusennau gael eu camddefnyddio gan derfysgwyr a throseddwyr. Yn ein profiad ni, mae achosion sicr o gyfranogiad terfysgwyr neu gysylltiad terfysgwyr â'r sector elusennol yn anarferol iawn. Fodd bynnag, mae unrhyw gamddefnydd o'r fath yn hollol annerbyniol ac mae'n rhaid i elusennau sicrhau nad ydynt mewn perygl.

Cyhoeddwyd Strategaeth Wrthderfysgaeth y Comisiwn yng Ngorffennaf 2008. Mae pedair elfen yn y strategaeth ar gyfer adnabod a chadw i'r lleiaf posibl y risg o derfysgwyr yn camfanteisio ar elusennau.

1. Ymwybyddiaeth

Rydym yn cydweithio'n agos â'r sector er mwyn adeiladu ar fesurau diogelu presennol elusennau i gadw i'r lleiaf posibl y risg o derfysgwyr yn camddefnyddio'r sector. Rydym yn cyhoeddi Diogelu elusennau rhag niwed, sef pecyn cymorth ar-lein sy'n ceisio rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar ymddiriedolwyr i reoli risgiau a diogelu eu helusen rhag niwed a rhag cael ei chamddefnyddio.

2. Goruchwylio

Mae ymagwedd fwy rhagweithiol gennym at fonitro'r sector er mwyn adnabod yr elusennau hynny a allai fod yn wynebu problemau. Gallwn eu rhybuddio, yn gynnar yn y broses, am y risgiau a rhoi cyngor a chymorth rheoleiddio iddynt.

3. Cydweithredu

Yn ogystal â chynnal cysylltiadau agos â'r sector elusennol, rydym yn cydweithio'n agos â rheoleiddwyr eraill y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith er mwyn amharu ar y rhai sy'n ceisio camfanteisio ar elusennau yn enw terfysgaeth.

4. Ymyrryd

Rydym yn gweithredu'n rhagweithiol ac yn gadarn os oes tystiolaeth neu amheuon difrifol gennym fod terfysgwyr yn camddefnyddio elusennau.

Dolenni Perthnasol

  • Diogelu elusennau rhag niwed - ein pecyn cymorth ar-lein i ymddiriedolwyr a staff ar y mathau o risg y mae elusennau'n eu hwynebu a sut y gallan nhw weithredu fframwaith ymarferol ar gyfer adnabod, rheoli ac adrodd am risg
  • Strategaeth wrthderfysgaeth y Comisiwn Elusennau - mae'n esbonio ein strategaeth wrthderfysgaeth a sut y bwriadwn godi ymwybyddiaeth elusennau o sut y gallan nhw ddiogelu eu hunain rhag y math hwn o risg
  • Elusennau yn ôl y trywydd iawn - adroddiadau blynyddol y Comisiwn ar y themâu a'r materion ehangach sy'n codi o'i waith cydymffurfio.

© Hawlfraint y Goron

© 2011 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd