Gallwch weld fersiwn PDF lliw llawn o Elusennau a Materion Buddsoddi: Canllaw i ymddiriedolwyr (CC14) hefyd.
Cynnwys
A. Cyflwyniad
A1. Beth yw'r canllaw hwn?
Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i wneud penderfyniadau am fuddsoddi cronfeydd elusen.
Gall pob elusen fuddsoddi, a gall buddsoddiadau fod yn brif ffynhonnell cyllid iddynt. Fodd bynnag, mae buddsoddi hefyd yn golygu bod elusennau yn agored i risgiau, ac os nad yw'r risgiau hynny'n cael eu rheoli'n briodol, gall effeithio ar yr elusen ei hun a hefyd ffydd a hyder y cyhoedd yn y sector yn gyffredinol. Oherwydd hynny, mae'n bwysig bod elusennau'n rheoli'r risgiau hyn ac yn gweithredu o fewn y gyfraith.
Fel rheoleiddiwr elusennau Cymru a Lloegr, rydym wedi cynhyrchu'r canllaw hwn i helpu elusennau a'u hymddiriedolwyr i wneud penderfyniadau hyderus am fuddsoddiadau sy'n cydymffurfio â'u dyletswyddau.
A2. Pam mae elusennau'n buddsoddi?
Ar un lefel, mae'r ateb yn weddol syml - maent yn buddsoddi er mwyn cael enillion er mwyn iddynt allu hyrwyddo nodau eu helusen. Fel arfer, mae hyn yn golygu'r enillion ariannol gorau o fewn lefel y risg yr ystyrir ei bod yn dderbyniol - yn y canllaw hwn cyfeiriwn at hwn fel 'buddsoddiad ariannol'.
Fodd bynnag, mae diddordeb cynyddol gan elusennau mewn buddsoddi i hyrwyddo eu nodau'n uniongyrchol yn ogystal â chynhyrchu enillion ariannol - cyfeiriwn at hwn fel 'buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen' yn y canllaw hwn.
Os nad yw'r buddsoddiad yn cyfateb yn llwyr â'r naill gategori neu'r llall, gall elusennau wneud 'buddsoddiadau cymhelliad cymysg' os yw eu hymddiriedolwyr yn penderfynu bod hyn er lles gorau'r elusen.
Mae'r rhain i gyd yn ymagweddau buddsoddi dilys i elusennau, er bod gwahanol ystyriaethau a dyletswyddau cyfreithiol yn gymwys.
A3. Am beth mae'r canllaw hwn?
Mae'r canllaw hwn yn amlinellu'r fframwaith cyfreithiol ac arfer da ar gyfer buddsoddi cronfeydd elusen. Mae'n ymdrin â'r canlynol:
- buddsoddiad ariannol - buddsoddi i gynhyrchu'r enillion ariannol gorau o fewn lefel o risg y mae'r elusen yn ei hystyried yn dderbyniol
- y camau allweddol i wneud buddsoddiadau ariannol
- buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen - defnyddio asedau i hyrwyddo nodau'r elusen yn uniongyrchol gyda'r posibilrwydd o gynhyrchu enillion ariannol yr un pryd
- y camau allweddol wrth wneud buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen
- buddsoddiadau cymhelliad cymysg - buddsoddi i hyrwyddo nodau'r elusen a chynhyrchu enillion ariannol.
A4. I bwy mae'r canllaw hwn?
Dylai ymddiriedolwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar ran ymddiriedolwyr am fuddsoddiadau ac asedau elusen ddefnyddio'r canllaw hwn i'w helpu i wneud penderfyniadau hyderus, gwybodus a llunio adroddiadau cyhoeddus ar y penderfyniadau hynny.
Mae'r dyletswyddau a nodir yn y canllaw hwn yn seiliedig ar ddeddfwriaeth y Gyfraith Ymddiriedolaeth, ond mae cyfarwyddwyr cwmnïau elusennol (sy'n ymddiriedolwyr elusen) yn debygol o gael dyletswyddau tebyg wrth fuddsoddi asedau eu helusen.
Mae Adran B 'Crynodeb gweithredol' yn rhoi trosolwg byr o fuddsoddi cronfeydd elusennol a'r gofynion cyfreithiol a'r argymhellion arfer da sy'n gymwys.
Mae elusennau sydd dim ond yn buddsoddi arian parod, elusennau sy'n derbyn eu holl incwm drwy grantiau efallai, yn debygol o gael adran B ac adran Ff 'Adneuon arian parod' o gymorth. Mae adrannau eraill yn y canllaw hwn yn rhoi manylion i elusennau sydd â diddordeb mewn ystod ehangach o fuddsoddiadau.
A5. 'Rhaid' a 'dylai': beth ydym yn ei olygu
Yn y canllaw hwn, pan ddefnyddiwn 'rhaid', golygwn ei fod yn ofyniad rheoleiddio penodol sy'n effeithio ar ymddiriedolwyr neu elusen. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r gofynion hyn. Er mwyn eich helpu i adnabod yr adrannau hynny sy'n cynnwys gofyniad cyfreithiol, defnyddiwyd y symbol
o dan y cwestiwn ar frig yr adran.
Defnyddiwn 'dylai' ar gyfer eitemau sy'n cael eu hystyried yn arfer da, ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol penodol ar eu cyfer. Dylai ymddiriedolwyr ddilyn y canllawiau arfer da oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Hefyd cynigiwn gyngor llai ffurfiol ac argymhellion a all fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr.
A6. Beth yw statws y canllaw hwn?
Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am fuddsoddiadau eu helusen. Rydym wedi ysgrifennu'r canllaw hwn i helpu ymddiriedolwyr i wneud y penderfyniadau hyn er mwyn iddynt allu cydymffurfio â'u dyletswyddau. Er nad yw'n gallu cyngor penodol ar fuddsoddi neu faterion cyfreithiol, dylai ymddiriedolwyr sy'n dilyn y canllaw hwn allu cefnogi'r penderfyniadau y maent yn eu gwneud.
Mae'r canllaw hwn wedi'i ategu gan Seiliau cyfreithiol: Elusennau a materion buddsoddi, sy'n esbonio yn fwy manwl y gyfraith a'r gyfraith achosion ar faterion buddsoddi i elusennau.
A7. Sut mae'r canllaw wedi newid?
Mae'r canllaw hwn yn cymryd lle ein cyhoeddiadau blaenorol Buddsoddi Cronfeydd Elusennol: egwyddorion sylfaenol (CC14) (Chwefror 2004), Buddsoddi Cronfeydd Elusennol: Canllaw manwl (Chwefror 2003) ac Elusennau a Buddsoddiad Cymdeithasol (2003). Mae wedi cael ei ailysgrifennu'n llwyr mewn fformat newydd.
B. Crynodeb gweithredol
Mae elusennau'n buddsoddi er mwyn iddynt allu hyrwyddo eu nodau elusennol.
Gallant fuddsoddi mewn sawl ffordd i gyflawni eu nodau, ac mae dyletswyddau cyfreithiol a phrosesau gwneud penderfyniadau penodol yn gysylltiedig â phob math o fuddsoddi.
Os yw'r ymddiriedolwyr wedi ystyried y materion perthnasol, wedi ceisio cyngor lle y bo'n briodol ac wedi gwneud penderfyniad rhesymol, nid ydynt yn debygol o gael eu beirniadu am eu penderfyniadau neu am fabwysiadu polisi buddsoddi arbennig.
Yn y canllaw hwn rydym wedi canolbwyntio ar fuddsoddiadau ariannol a buddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen. Rydym hefyd wedi cynnwys ychydig o ganllawiau ar fuddsoddiadau cymhelliad cymysg (adran Ng). Mae hon yn ymagwedd arall at fuddsoddi ac mae'n faes o ddiddordeb cynyddol i rai elusennau.
Buddsoddiad ariannol
Pwrpas buddsoddiad ariannol yw cael yr enillion ariannol gorau o fewn y lefel o risg yr ystyrir ei bod yn dderbyniol - gall yr enillion hyn gael eu gwario ar nodau'r elusen.
Er mwyn gweithredu o fewn y gyfraith, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr:
- wybod pa bwerau buddsoddi sydd gan eu helusen, a gweithredu o fewn y pwerau hynny

- arfer gofal a sgil wrth wneud penderfyniadau buddsoddi

- dewis buddsoddiadau sy'n addas i'w helusen. Mae hyn yn golygu ystyried:
- pa mor addas y mae unrhyw fuddsoddiad i'r elusen
- yr angen i amrywio buddsoddiadau

- ceisio cyngor gan rywun sydd â phrofiad mewn materion buddsoddi oni bai bod rheswm da ganddynt dros beidio â gwneud hynny

- dilyn rhai gofynion cyfreithiol os ydynt yn bwriadu defnyddio rhywun i reoli buddsoddiadau ar eu rhan

- adolygu buddsoddiadau yn achlysurol

- esbonio eu polisi buddsoddi (os oes un) yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr.

Hefyd argymhellwn y dylai ymddiriedolwyr:
- benderfynu ar bolisi ac amcanion buddsoddi cyffredinol yr elusen
- cytuno ar y cydbwysedd rhwng risg ac enillion sy'n briodol i'w helusen. Gall hyn gynnwys ystod eang o ffactorau a fydd yn cael effaith ar enillion gan gynnwys ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu
- ystyried ffactorau eraill a fydd yn dylanwadu ar lefel yr enillion, megis effaith amgylcheddol a chymdeithasol y cwmnïau y buddsoddir ynddynt ac ansawdd eu dulliau llywodraethu
- bod yn ymwybodol y gall rhai buddsoddiadau greu goblygiadau treth i'r elusen
- buddsoddi unrhyw gronfeydd gwaddol parhaol mewn ffordd sy'n eu helpu i fodloni eu nodau yn y tymor byr a'r tymor hir
- penderfynu p'un ai i fabwysiadu ymagwedd foesegol, gymdeithasol gyfrifol neu gysylltiedig â chenhadaeth at fuddsoddi a sicrhau bod modd ei chyfiawnhau.
|
Enghraifft o fuddsoddiadau ariannol
Mae elusen y celfyddydau sy'n gweithio'n lleol ac yn ganolig ei maint yn cael ei hincwm drwy grantiau a gwerthu tocynnau yn bennaf. Mae cronfeydd dros ben sydd heb eu hangen yn y tymor byr neu ganolig yn cael eu buddsoddi mewn cronfa fuddsoddi gyffredin sydd wedi'i bwriadu ar gyfer buddsoddiad tymor hwy, tra bo grantiau sy'n cael eu derbyn ymlaen llaw yn cael eu buddsoddi yn y farchnad arian. Mae'r elusen hefyd yn berchen ar floc o fodurdai y mae'n eu rhentu ar gyfradd y farchnad. Mae peth neu'r cyfan o'r enillion ar y buddsoddiadau hyn yn cael eu gwario bob blwyddyn ar fuddiolwyr yr elusen.
|
Buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen (BCRh)
Nod BCRh yw defnyddio asedau elusen yn uniongyrchol i hyrwyddo ei nodau mewn ffordd a all hefyd gynhyrchu ychydig o enillion ariannol i'r elusen. Mae BCRh yn wahanol i fuddsoddiadau ariannol oherwydd y cyfiawnhad dros wneud BCRh yw hyrwyddo nodau'r elusen: mae hyn yn golygu nad yw elusennau wedi ymrwymo gan yr egwyddorion neu'r gyfraith buddsoddi (gweler adran G).
Er mwyn cyflawni eu dyletswyddau a gweithredu o fewn y gyfraith, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr:
- allu dangos bod y BCRh yn hyrwyddo nodau'r elusen yn gyfan gwbl

- dylent sicrhau bod unrhyw fudd a roddir i unigolion preifat yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen
- dylent ystyried ffyrdd rhesymol ac ymarferol i adael BCRh os nad yw'n hyrwyddo nodau'r elusen mwyach.
|
Enghraifft o BCRh
Fel arfer bydd elusen sy'n gweithio i helpu a chynghori'r di-waith yn rhoi grantiau i elusennau a sefydliadau eraill sy'n helpu pobl ddi-waith i ddychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, penderfynwyd mewn rhai achosion i wneud benthyciadau yn hytrach na grantiau. Disgwylir i fenthyciadau gael eu had-dalu, gyda rhywfaint o log o bosib, gan alluogi'r elusen i ledaenu'r gwaith a wna i fwy o fuddiolwyr.
|
Buddsoddiad cymhelliad cymysg
Os nad oes modd cyfiawnhau buddsoddiad yn gyfan gwbl fel naill ai buddsoddiad ariannol neu BCRh, gall fod modd ei gyfiawnhau fel buddsoddiad cymhelliad cymysg. Dylai ymddiriedolwyr ystyried y canlynol:
- y cyfiawnhad dros wneud y buddsoddiad cymhelliad cymysg y bydd rhaid ei sefydlu cyn gwneud y buddsoddiad
- addasrwydd buddsoddiad cymhelliad cymysg i'r elusen
- a oes angen ceisio cyngor proffesiynol cyn buddsoddi
- a fydd unrhyw fudd preifat a ddaw o'r buddsoddiad yn dderbyniol.
C. Y fframwaith cyfreithiol ar gyfer buddsoddi ariannol
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â rhai gofynion a dyletswyddau cyfreithiol pan fyddant yn buddsoddi asedau eu helusen i gael enillion ariannol. Mae'r adran hon yn esbonio beth ydynt a sut y gall elusennau weithio o fewn y gofynion a'r dyletswyddau hynny, ac mae hefyd yn nodi rhai materion arfer da.
C1. All pob elusen wneud buddsoddiadau ariannol?
Yr ateb byr
Gall. Gall pob elusen wneud buddsoddiadau ariannol. Efallai y bydd pwerau buddsoddi penodol elusen yn dibynnu ar ei ffurf gyfansoddiadol (er enghraifft, a yw'r elusen yn anghorfforedig neu'n gwmni). Yn ogystal, gall dogfen lywodraethol elusen bennu rhai amodau neu gyfyngiadau ar ei gallu i ddefnyddio unrhyw bŵer buddsoddi.
Yn fwy manwl
Mae gan y rhan fwyaf o elusennau anghorfforedig 'bŵer buddsoddi cyffredinol'. Mae hyn yn cynnig modd i ymddiriedolwyr fuddsoddi cronfeydd yr elusen mewn unrhyw ased sydd â'r bwriad penodol o gynnal a chynyddu ei werth a/neu gynhyrchu enillion ariannol. Wrth ddefnyddio'r pŵer hwn, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â'r dyletswyddau a ddisgrifir yn adran C2.
Gall y ddogfen lywodraethol bennu darpariaethau ychwanegol, cyfyngiadau neu waharddiadau ar y mathau o fuddsoddiadau y gall elusen eu gwneud; mae'r rhain yn cymryd blaenoriaeth dros y pŵer buddsoddi cyffredinol neu'n effeithio arno.
I gael rhagor o wybodaeth am bwerau buddsoddi, cyfyngiadau a gwaharddiadau, gweler Seiliau cyfreithiol: Elusennau a materion buddsoddi (rhan 1).
Fel rheol mae'r pwerau buddsoddi sydd ar gael i ymddiriedolwyr cwmnïau elusennol wedi'u nodi yn erthyglau cymdeithasu'r cwmni ac fel arfer byddant yn debyg i'r pŵer buddsoddi cyffredinol y cyfeirir ato uchod. Pan fydd cwmni elusennol yn gweithredu fel ymddiriedolwr elusen anghorfforedig, mae'r 'pŵer buddsoddi cyffredinol' yn gymwys.
C2. Beth yw rôl ymddiriedolwyr wrth wneud penderfyniadau am fuddsoddiadau ariannol?
Yr ateb byr
Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyffredinol am fuddsoddi cronfeydd elusen. Mae hyn yn golygu bod rôl hanfodol ganddynt i'w chwarae wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i ddefnyddio asedau'r elusen i gyflawni ei nodau. Fodd bynnag, gall ymddiriedolwyr ddewis dirprwyo penderfyniadau bob dydd am fuddsoddiadau i drydydd parti.
Yn fwy manwl
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr:
- ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn ffordd sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau ('y ddyletswydd gofal'). Er enghraifft, dylai ymddiriedolwr sydd â phrofiad buddsoddi ddefnyddio ei sgiliau a'i wybodaeth o fuddsoddiadau wrth wneud penderfyniadau
- ystyried a yw unrhyw fuddsoddiad yn addas i'r elusen. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod:
- y math neu'r dosbarth o fuddsoddiad yn briodol ar gyfer yr elusen (er enghraifft, cyfranddaliadau)
- y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys o fewn y math neu'r dosbarth hwnnw yn briodol ar gyfer yr elusen (er enghraifft, cyfranddaliadau mewn banc penodol)
- ystyried yr angen i amrywio buddsoddiadau (er enghraifft, bod yn berchen ar gyfranddaliadau mewn nifer o gwmnïau gwahanol)
- ceisio cyngor gan rywun sydd â phrofiad mewn materion buddsoddi os ydynt yn teimlo bod angen cyngor arnynt; ac
- adolygu buddsoddiadau (a'u rheolwr buddsoddi) o bryd i'w gilydd, a'i newid os oes angen.
Os yw'r ymddiriedolwyr yn gallu dangos eu bod nhw wedi ystyried y materion perthnasol, wedi ceisio cyngor lle y bo'n briodol ac wedi gwneud penderfyniad rhesymol, nid ydynt yn debygol o gael eu beirniadu am eu penderfyniadau, neu am fabwysiadu polisi arbennig.
Nid yw'r gofynion cyfreithiol hyn yn gymwys i ymddiriedolwyr cwmnïau elusennol. Fodd bynnag, dylent fabwysiadau'r egwyddorion hyn fel arfer da wrth wneud penderfyniadau buddsoddi.
I gael rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau ymddiriedolwyr, gweler Seiliau cyfreithiol: Elusennau a materion buddsoddi (Rhan 1, adran 3).
C3. All elusen benderfynu gwneud buddsoddiadau moesegol?
Yr ateb byr
Gall. Gall ymddiriedolwyr unrhyw elusen benderfynu buddsoddi'n foesegol, hyd yn oed os gallai'r buddsoddiad ddarparu cyfradd enillion is na buddsoddiad arall. Mae buddsoddiad moesegol yn golygu buddsoddi mewn ffordd sy'n adlewyrchu gwerthoedd ac ethos elusen ac sydd heb fod yn groes i'w nodau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr elusen allu cyfiawnhau pam ei fod er lles gorau'r elusen i fuddsoddi fel hyn. Mae'r gyfraith yn caniatáu'r rhesymau canlynol:
- buddsoddiad arbennig sy'n groes i nodau'r elusen; neu
- gallai'r elusen golli cefnogwyr neu fuddiolwyr os nad yw'n buddsoddi'n foesegol; neu
- nid oes unrhyw golled ariannol arwyddocaol.
Yn fwy manwl
Mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr sicrhau bod modd cyfiawnhau o fewn y meini prawf uchod unrhyw benderfyniad y maent yn ei gymryd am fabwysiadu ymagwedd buddsoddiad moesegol. Mae'n rhaid iddynt fod yn glir am y rhesymau pam y mae rhai cwmnïau neu sectorau wedi'u gwahardd neu eu cynnwys. Hefyd dylai ymddiriedolwyr werthuso effaith unrhyw bolisi arfaethedig ar enillion buddsoddi posibl a chydbwyso unrhyw risg o enillion llai yn erbyn y risg o ddieithrio cefnogaeth neu niwed i'w henw da. Ni all fod yn gyfrifiad manwl ond bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr asesu'r risg i'w helusen.
Gall ymagwedd buddsoddiad moesegol gynnwys un neu gyfuniad o'r ymagweddau canlynol:
- Sgrinio negyddol: mae hyn yn golygu osgoi buddsoddi mewn cwmnïau neu sectorau neu gwmnïau sy'n ymgymryd â gweithgaredd arbennig neu sy'n gweithredu mewn ffordd a allai fod yn niweidiol i fuddiannau'r elusen
- Sgrinio cadarnhaol: mae hyn yn golygu buddsoddi'r cyfan neu ran o bortffolio buddsoddi mewn cwmnïau neu sectorau sy'n adlewyrchu gwerthoedd elusen mewn meysydd fel gwarchod yr amgylchedd, iechyd, cyflogaeth neu hawliau dynol, neu mewn ystod ehangach o gwmnïau sy'n dangos cyfrifoldeb a llywodraethu cymdeithasol corfforaethol da. Er enghraifft, gallai sgrinio cadarnhaol gynnwys dim ond buddsoddi mewn cwmnïau sydd â thargedau/hanes llwyddiannus o leihau eu hôl troed carbon
- Gweithredu fel rhanddeiliad: yn yr achos hwn mae'r elusen, fel rhanddeiliad, yn arfer ei hawliau pleidleisio er mwyn dylanwadu ar bolisïau cwmni mewn ffordd sy'n adlewyrchu ei gwerthoedd a'i hethos. Gallai hyn olygu y gallai elusen fuddsoddi mewn cwmnïau sydd â pholisïau amgylcheddol nad yw'r elusen yn eu cymeradwyo er mwyn annog arferion busnes mwy cyfrifol o fewn y cwmnïau hynny. Mae hefyd modd gweithredu fel rhanddeiliad ar ffurf buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen neu fuddsoddiad cymhelliad cymysg. (Gweler F9)
|
Enghreifftiau o strategaethau buddsoddi moesegol
1. Mae elusen amgylcheddol sy'n ceisio gwarchod bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn penderfynu mabwysiadu polisi buddsoddi moesegol. Mae'n penderfynu osgoi buddsoddi mewn cwmnïau sydd â hanes amgylcheddol gwael (er enghraifft, rhybuddion neu ddedfrydau diweddar am droseddau llygredd).
(Byddai'r ymagwedd hon yn cael ei disgrifio fel sgrinio negyddol).
2. Mae elusen a sefydlwyd gyda'r nod o addysgu'r cyhoedd am achosion ac atal clefyd y galon yn penderfynu mabwysiadu ymagwedd foesegol at fuddsoddi ei chronfeydd drwy ddewis buddsoddi mewn cwmnïau sy'n hybu byw'n iach drwy eu cynhyrchion a'u gwasanaethau. Gallai hyn gynnwys rhedeg campfeydd, cynhyrchu cyfarpar chwaraeon neu gynhyrchu bwydydd iach.
(Byddai'r ymagwedd hon yn cael ei disgrifio fel sgrinio cadarnhaol).
|
I gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddi moesegol, gweler Seiliau cyfreithiol: Elusennau a materion buddsoddi (rhan 1, adran 4).
Ch. Gosod amcanion buddsoddi eich elusen
Dylai ymddiriedolwyr fod yn glir ynghylch beth yn union y mae'r elusen yn ceisio ei gyflawni drwy fuddsoddi ei chronfeydd. Bydd hyn yn wahanol i bob elusen, a bydd yn dibynnu ar ei nodau, ei model gweithredu, ei hamserlenni a'i hadnoddau. Er enghraifft, efallai mai'r amcan buddsoddi yw cael yr incwm mwyaf posibl, gwarchod cyfalaf neu sicrhau incwm sefydlog.
Ch1. Sut dylai elusen osod ei hamcanion buddsoddi?
Yr ateb byr
Yn syml, mae'n rhaid i elusen fod yn glir ynghylch beth y mae am ei wneud, sut y mae'n bwriadu gwneud hynny a beth yw'r amserlen ar gyfer ei gyflawni. Bydd yr ystyriaethau hyn yn llywio sut mae'n penderfynu beth fydd ei hamcanion buddsoddi. Os oes gwaddol parhaol gan yr elusen, bydd rhaid iddi ystyried cydbwyso twf cyfalaf ac enillion incwm er mwyn i'r elusen allu cyflawni ei nodau ac anghenion ei buddiolwyr yn awr ac yn y dyfodol.
Yn fwy manwl
Efallai y bydd o gymorth i ymddiriedolwyr adolygu sefyllfa ariannol gyffredinol yr elusen a sut y maent yn defnyddio asedau'r elusen i gyflawni ei nodau wrth bennu'r amcanion buddsoddi. Bydd hyn yn golygu ystyried ymrwymiadau ariannol yn y tymor byr a'r tymor hir, yn ogystal ag incwm arfaethedig yr elusen.
Er enghraifft, efallai eu bod nhw am ystyried:
- anghenion ariannol uniongyrchol - er enghraifft, arian parod sydd ei angen i'w ddefnyddio yn y dyfodol agos sy'n rhaid bod yn ddigonol ac yn hawdd cael gafael ynddo
- ymrwymiadau gwario yn y dyfodol - dylent fod yn hapus bod digon o arian parod ar gael i ateb yr anghenion hynny
- a oes cronfeydd cyfyngedig gan yr elusen - mae hyn yn golygu bod cyfyngiadau ar sut y gellir defnyddio'r cronfeydd
- amcanion sefydliadol yn y tymor hwy - er enghraifft, prosiectau, mentrau, newidiadau mewn strategaeth neu wariant arall y mae'r elusen yn ei gynllunio a sut y bydd yn darparu ar gyfer hyn
- patrymau gwariant yn y gorffennol a'r galw disgwyliedig am gymorth yr elusen fel arwydd o dueddiadau yn y dyfodol
- newidiadau annisgwyl mewn gweithgareddau neu ddigwyddiadau a allai gael effaith ar yr elusen. Mae hyn yn cynnwys y rhagolygon economaidd ac ariannol ehangach - er enghraifft a yw chwyddiant neu ddadchwyddiant yn debygol, neu newidiadau mewn cyfraddau llog
Yna dylai'r ymddiriedolwyr allu adnabod cronfeydd:
- sydd rhaid bod ar gael drwy fynediad rhwydd
- y gellir eu defnyddio ar gyfer buddsoddiadau tymor byr
- y gallant fforddio eu hymrwymo am gyfnodau hwy
- a gaiff eu defnyddio i ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl
Ch2. Pa risgiau ddylai elusen eu hystyried wrth fuddsoddi?
Yr ateb byr
Mae risg yn rhan o'r broses fuddsoddi ac mae nifer o risgiau y dylai'r ymddiriedolwyr eu hystyried - esbonnir y rhain yn fwy manwl isod. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau buddsoddi, dylai ymddiriedolwyr ystyried beth yw'r lefel briodol o risg y maent am ei derbyn, neu maent yn gallu ei derbyn. Fel rhan o'u dyletswydd gofal, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain fod lefel gyffredinol y risg yn briodol i'w helusen a'i buddiolwyr.
Yn fwy manwl
Nid yw gosod amcanion buddsoddi yn ymwneud ag osgoi risg, ond yn hytrach cydnabod a rheoli risg. Os yw risg yn cael ei wireddu ac yn creu colled i'r elusen, bydd gwell ddiogelwch gan ymddiriedolwyr os ydynt wedi cyflawni eu dyletswyddau'n briodol ac wedi adnabod ac ystyried sut i reoli'r risg. Gallai colled olygu enillion isel ar fuddsoddiad neu golli ychydig, neu'r cyfan, o'r swm a fuddsoddwyd, ond gall hefyd ymwneud â cholli enw da, efallai drwy fuddsoddi mewn cwmni amhoblogaidd neu sydd wedi colli hygrededd. Fel unrhyw golled neu anffawd, dylai'r ymddiriedolwyr adolygu amgylchiadau'r golled, eu harchwaeth risg a sut y maent yn adnabod ac yn rheoli'r risg yn gyffredinol. Dylent hefyd achub ar y cyfle i ddysgu o'u profiadau er mwyn cynnig budd i'r elusen yn y dyfodol.
Dylai cronfeydd a fuddsoddir yn y tymor byr a'r tymor canolig fod yn weddol rydd o risg oherwydd bydd elusennau am osgoi gollyngiadau sydyn mewn gwerthoedd cyfalaf a allai leihau'r cyllid sydd ar gael iddynt. Mae gostyngiad mewn gwerth cyfalaf i gronfeydd a fuddsoddwyd yn y tymor hwy yn llai arwyddocaol oherwydd gall buddsoddiadau o'r fath gael eu dal hyd nes bod eu gwerth wedi adfer.
Er y gallai fod yn anodd i ymddiriedolwyr gyfiawnhau polisi buddsoddi sy'n golygu bod yr elusen yn cymryd lefel uchel o risg cyffredinol, gall fod yn briodol i gynnwys rhai buddsoddiadau risg uchel yn y portffolio cyffredinol.
Mae rhai o'r prif risgiau sy'n gysylltiedig â buddsoddiadau a sut y gellir eu rheoli wedi'u hamlinellu isod. Dylai elusennau ystyried y rhain wrth benderfynu pa fuddsoddiadau sy'n addas i'w helusen.
Risg cyfalaf
|
Mae dau brif risg i gyfalaf:
-
Colli cyfalaf: Y prif risg i elusennau sy'n codi'n uniongyrchol o fuddsoddiadau yw y gallent golli cyfalaf a/neu incwm wrth i werth y buddsoddiadau hynny newid. Mae pob buddsoddiad yn cynnwys rhywfaint o risg oherwydd gall y gwerth ostwng yn ogystal â chodi. Yn gyffredinol mae risg ac enillion yn mynd law yn llaw. Y mwyaf o risg sydd i'r buddsoddiad, mwyaf yr enillion posibl, ond hefyd mwyaf y posibilrwydd o golli arian.
-
Risg o anwadalrwydd: Ystyr hwn yw'r amrywiaeth ym mhris ased megis cyfranddaliad. Mae rhai mathau o asedau yn fwy anwadal nag eraill, ac mae angen ystyried hyn wrth ddewis buddsoddiad ac ystyried portffolio buddsoddi cyffredinol yn lle hynny.
Rheoli risgiau cyfalaf
Gellir lliniaru risg cyfalaf drwy gael portffolio amrywiol o asedau - os yw'r enillion buddsoddi o un dosbarth o asedau yn gostwng, gall y colledion gael eu gwrthbwyso gan enillion buddsoddi gwell mewn gwahanol ddosbarth o asedau. Gall portffolio amrywiol helpu i:
- leihau'r risg y gallai'r golled o un buddsoddiad, neu un math o fuddsoddiad, wneud niwed sylweddol i hyfywedd yr elusen
- diogelu buddsoddiadau'r elusen rhag newidiadau sydyn yn y farchnad drwy gydbwyso lefelau risg ac enillion yn y portffolio, a
- sicrhau bod anghenion yr elusen am incwm a thwf cyfalaf yn cael eu bodloni, yn enwedig yn achos gwaddol parhaol.
|
Risg hylifedd
|
Rhaid ystyried a fydd yr elusen yn gallu codi'r arian i fodloni ei rhwymedigaethau pan fyddant yn ddyledus neu ar fyr rybudd. Mae rhai mathau o fuddsoddiadau yn llai hylif o'u hanfod nag eraill: er enghraifft, fel arfer ni all tir gael ei droi'n arian parod mor gyflym â chyfranddaliadau rhestredig. Gall mathau eraill arddangos lefelau gwahanol o hylifedd ar adegau gwahanol; mae hyn yn arbennig o wir pan nad oes modd rhagweld amodau'r farchnad.
Rheoli risg hylifedd
Mae rhai dosbarthiadau o asedau yn fwy addas fel buddsoddiadau tymor byr ac mae eraill yn well ar gyfer y tymor canolig neu'r tymor hir. Dylai elusennau ystyried eu hamserlen ar gyfer buddsoddi a nodweddion gwahanol fathau o fuddsoddiadau.
|
Risg y farchnad
|
Mae gwahanol fathau o risg y farchnad ac mae'r rhain yn cynnwys:
- Risg chwyddiant: Os nad yw'r buddsoddiad o leiaf yn cadw i fyny â chwyddiant, bydd ei werth yn gostwng mewn termau real
- Risg cyfradd llog: Gall buddsoddiadau sy'n talu cyfradd llog sefydlog yn rheolaidd fod yn anneniadol os cânt eu cadw am gyfnod hir os yw cyfraddau llog sydd ar gael mewn rhywle arall yn uwch na'r gyfradd sefydlog
- Risg cyfradd cyfnewid: Bydd asedau sy'n seiliedig mewn gwledydd eraill yn cael eu prisio mewn gwahanol arian cyfred fel arfer. Os yw'r arian cyfred yn gostwng mewn gwerth o'i gymharu â sterling, gall y buddsoddiad fod yn werth llai, hyd yn oed os yw gwerth yr arian cyfred yn y wlad honno wedi cynyddu
- Risgiau rheoleiddio a llywodraethu: Nid yw rhai buddsoddiadau yn cael eu rheoleiddio neu'n seiliedig mewn gwledydd lle mae'r rheoliadau yn llai llym. Mae rhai buddsoddiadau wedi'u rheoleiddio hefyd yn buddsoddi mewn cronfeydd neu asedau heb eu rheoleiddio. Nid yw'r cronfeydd hyn yn gronfeydd prif ffrwd ac mae risg llywodraethu yn codi o'r herwydd. Mae risg y bydd y buddsoddiad yn mynd o'i le neu'n gostwng mewn gwerth, a hynny'n sylweddol weithiau, o ganlyniad i reoli gwael a diffyg rheolaethau rheoleiddio.
Rheoli risg y farchnad
Dylai ymddiriedolwyr:
- fod yn ymwybodol o'r newidiadau tebygol mewn cyfraddau chwyddiant, cyfraddau llog a chyfraddau cyfnewid
- ystyried buddsoddi dim ond mewn marchnadoedd, neu fuddsoddi'n sylweddol mewn marchnadoedd lle mae gwasanaethau ariannol yn cael eu rheoleiddio'n fanwl, ac mae cynlluniau digolledu yn weithredol.
I gael rhagor o wybodaeth ar gynlluniau digolledu'r DU, gweler Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol
|
Risg prisio
|
Nid yw rhai buddsoddiadau megis eiddo yn cael eu prisio'n annibynnol yn ddyddiol. Bydd gwir werth y buddsoddiadau hyn yn dibynnu ar y pris y gellir ei realeiddio adeg gwerthu. Mae risg y gall yr amcangyfrif o'r prisiad hyd at yr adeg hon fod yn anghywir. Os oes angen realeiddio'r cyfalaf ar frys, efallai y bydd rhaid derbyn pris is er mwyn cael hyd i brynwr yn gyflym.
Rheoli risg prisio
Dylai ymddiriedolwyr:
- fod yn ymwybodol o risg prisio a sut y gall y risg hwn gael ei effeithio gan risgiau eraill
- ystyried risg prisio ynghyd â sefyllfa ariannol gyffredinol yr elusen yn gyson. Gallai hyn olygu ystyried, er enghraifft, ei harchwaeth risg, ei hanghenion hylifedd ac amrywio ei phortffolio buddsoddi
- deall y risg prisio a allai fod yn rhan hanfodol o rai buddsoddiadau a thrafod hyn gyda rheolwyr buddsoddi
|
Risg parti i gontract
|
Mae risg y bydd cwmni y mae'r elusen yn gwneud busnes buddsoddi ag ef (er enghraifft, banc, brocer stoc neu reolwr buddsoddi) yn methu â bodloni rhwymedigaethau'r contract.
Rheoli risg parti i gontract
Dylai ymddiriedolwyr:
- ystyried a yw'r busnes wedi'i reoleiddio
- ystyried a oes unrhyw gynllun digolledu sy'n cwmpasu'r holl golled neu ran o unrhyw golled y gallai'r elusen ei hwynebu
- sicrhau cyn belled â bosibl bod buddsoddiadau'n cael eu dal mewn cwmni sydd ag enw da
- cytuno ar fesurau perfformiad er mwyn i bob parti wybod beth a ddisgwylir ganddynt
- sefydlu trefniadau monitro ac adolygu i sicrhau bod yr elusen yn parhau i fod yn fodlon â pherfformiad
- adolygu cytundebau dan gontract yn achlysurol er mwyn sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn briodol i anghenion yr elusen.
|
Risgiau treth
- Er nad yw deddfwriaeth treth yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn y gall elusen fuddsoddi ynddo, gall rhai buddsoddiadau gael eu trin fel gwariant anghymwys, gan esgor ar ganlyniadau treth. Gall yr elusen golli eithriad rhag talu treth ar swm yr incwm neu enillion sy'n hafal i'r swm a fuddsoddwyd.
- O ran buddsoddiadau dramor, os nad oes unrhyw ostyngiadau treth cyfwerth ar gyfer elusennau o'r DU yn y gwledydd dan sylw, gall yr enillion buddsoddi gael eu lleihau gan drethi dramor.
Rheoli risg treth
Dylai ymddiriedolwyr:
|
Risg amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol (ACLl)
|
Wrth ystyried pa gwmnïau a sefydliadau i'w fuddsoddi ynddynt, mae elusennau yn rhoi ystyriaeth gynyddol i ffactorau megis effaith ar hinsawdd, arferion cyflogaeth, cynaliadwyedd, hawliau dynol, effaith ar y gymuned, digolledu gweithredol ac atebolrwydd bwrdd. Mae'r rhain i gyd yn enghraifft o feysydd risg ACLl a all gael effeithiau hirdymor ac a all effeithio ar werth cyfranddaliadau'r cwmni yn gadarnhaol neu'n negyddol yn dibynnu ar sut mae'r meysydd risg yn cael eu rheoli.
Rheoli risg amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu corfforaethol
Gall ymddiriedolwyr:
- benderfynu ar bwysigrwydd a graddfa'r meini prawf ACLl yn eu polisi buddsoddi
- ystyried y risg i enw da'r elusen a allai godi o'u polisi ACLl (neu'r ffaith nad oes un ganddynt)
- sicrhau bod unrhyw reolwr buddsoddi a ddefnyddiant yn ymwybodol o'u polisi ACLl ac yn barod i weithredu yn unol â'r polisi hwnnw
- cydnabod y gall y ffordd y mae cwmni yn rheoli risg ACLl gael effaith ar yr enillion y gall eu cynnig a'i hyfywedd hirdymor
- ystyried a yw cwmni yn datgelu ei brosesau rheoli ACLl a sut y mae'n dilysu'r datgeliad hwnnw
|
Ch3. Beth ddylai polisi buddsoddi ei gwmpasu?
Yr ateb byr
Dylai polisi buddsoddi elusen amlinellu'n ysgrifenedig beth yw ei hamcanion buddsoddi a sut y mae'n bwriadu eu cyflawni.
Yn fwy manwl
Fel arfer bydd polisi buddsoddi elusen yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- hyd a lled ei phwerau buddsoddi (gweler C1)
- amcanion buddsoddi'r elusen (gweler Ch1)
- agwedd yr elusen at risg (gweler Ch2)
- faint sydd ar gael i'w fuddsoddi, amseriad enillion ac anghenion hylifedd yr elusen
- y mathau o fuddsoddiad y mae am eu gwneud; gallai hyn gynnwys ystyriaethau moesegol (gweler C3)
- pwy all wneud penderfyniadau buddsoddi (er enghraifft, ymddiriedolwyr, swyddog gweithredol, cynghorydd neu reolwr buddsoddi)
- sut bydd buddsoddiadau'n cael eu rheoli a'r meincnodau a'r targedau a osodwyd ar gyfer barnu perfformiad yn eu herbyn
- y gofynion adrodd i reolwyr buddsoddi.
D. Penderfynu beth i'w fuddsoddi ynddo
Mae'r adran hon yn amlinellu rhai o'r mathau sylfaenol o fuddsoddiadau ariannol sydd ar gael i elusennau. Pan fydd yr ymddiriedolwyr wedi sefydlu polisi buddsoddi eu helusen, gallant (neu eu rheolwyr buddsoddi) benderfynu ar y math a'r ystod o asedau a fydd yn cyflawni eu hamcanion buddsoddi.
D1. Beth all elusen fuddsoddi ynddo?
Yr ateb byr
Gall ymddiriedolwyr wneud buddsoddiadau ariannol mewn unrhyw ased sydd â'r nod penodol o gynnal a chynyddu ei werth a/neu gynhyrchu enillion ariannol.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr fod yn glir hefyd ynghylch y gwahaniaeth rhwng buddsoddi a masnachu (gweler D2 isod a Seiliau Cyfreithiol: Elusennau a materion buddsoddi (Rhan 1).
Yn fwy manwl
Gall ymddiriedolwyr fuddsoddi mewn unrhyw fath o fuddsoddiad gan ddilyn yr egwyddorion a nodwyd yn y canllaw hwn. Mae mathau posibl o fuddsoddiad yn cynnwys:
- adneuon arian parod sy'n cynhyrchu llog mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu (gweler adran Ff)
- cyfranddaliadau mewn cwmni rhestredig (cwmnïau ecwiti rhestredig)
- benthyciadau sy'n cynhyrchu llog i gwmni neu'r llywodraeth (bondiau neu giltiau)
- adeiladau neu dir
- cronfeydd buddsoddi cyffredin a chynlluniau buddsoddi cyfunol eraill (gweler D3)
- ecwiti heb ei fasnachu mewn cwmnïau preifat
- cronfeydd rhagfantoli
- nwyddau
- deilliadau
Ym mhob achos mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ystyried:
- pa mor addas yw unrhyw fuddsoddiad i'w helusen - caiff ei ddylanwadu gan agwedd yr elusen at risg ar draws ei phortffolio buddsoddi
- yr angen i gael cymysgedd o asedau yn eu portffolio - gall hyn ddiogelu buddsoddiadau'r elusen rhag amrywiadau sydyn yn y farchnad a lleihau risg o golled
Mae rhai mathau o asedau, er enghraifft, deilliadau a nwyddau, yn debygol o fod yn addas dim ond fel rhan o bortffolio buddsoddi amrywiol iawn oherwydd y risg uwch sydd iddynt. Dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol lle y bo'n briodol wrth ddewis ac adolygu'r mathau hyn o fuddsoddiad.
D2. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng masnachu a buddsoddi?
Os yw ymddiriedolwr yn prynu ased gyda'r bwriad o'i werthu i wneud elw ar ôl cyfnod byr, mae'n debygol o gael ei ystyried yn fath o fasnachu. Mae bod yn glir ynghylch y gwahaniaeth yn bwysig oherwydd:
- gall elusen ei hun ymgymryd â gweithgaredd masnachu dim ond os yw'n hyrwyddo neu'n cefnogi ei nodau'n uniongyrchol; ac
- nid yw'r elw sy'n cael ei wneud o'r masnachu bob amser yn amodol ar gael gostyngiad yn y dreth.
Mae'r gwahaniaeth hwn yn arbennig o bwysig yn achos deilliadau, eiddo, nwyddau a chyfleoedd eraill y gellir eu hystyried fel naill ai'n fuddsoddiad neu'n fath o fasnachu, yn dibynnu ar y cyd-destun. Dylai ymddiriedolwyr allu dangos eu bwriad drwy'r penderfyniadau a wnânt.
I gael rhagor o wybodaeth am:
D3. Cynlluniau buddsoddi cyfunol (cronfeydd cyfun) - beth yw'r manteision i elusennau sy'n buddsoddi?
Yr ateb byr
Gall y math hwn o fuddsoddiad helpu elusennau i amrywio eu buddsoddiadau ac felly lleihau eu risg buddsoddi mewn ffordd fwy cost-effeithiol na buddsoddi'n uniongyrchol mewn buddsoddiadau wedi'u dewis yn unigol. Gall cynlluniau o'r fath ffurfio rhan, neu'r cyfan, o'u portffolio buddsoddi, yn dibynnu ar bolisi buddsoddi'r elusen.
Yn fwy manwl
Mae cynlluniau buddsoddi cyfunol yn ddulliau buddsoddi lle mae asedau buddsoddwyr unigol yn cael eu cronni â rhai buddsoddwyr eraill i gael lefelau priodol o amrywiaeth. Maent yn galluogi elusennau i leihau risg buddsoddi drwy ledaenu eu buddsoddiadau yn fwy eang na fyddai wedi bod yn bosibl fel rheol pe byddent yn buddsoddi'n uniongyrchol yn yr asedau unigol a ddelir gan y cynllun. Fel arfer bydd buddsoddi'n uniongyrchol mewn asedau arbennig yn golygu costau uwch, o ran arian a gwaith gweinyddol, i'r elusen. Mae hyn yn golygu y bydd y math hwn o fuddsoddiad yn arbennig o ddeniadol i elusennau sydd â symiau llai i'w buddsoddi.
|
Enghraifft o gynllun buddsoddi cyfunol
Cynllun buddsoddi cyfunol y bydd nifer o elusennau'n ei ddefnyddio yw Cronfa Fuddsoddi Gyffredin. Mae Cronfeydd Buddsoddi Cyffredin yn elusennau wedi'u rheoleiddio yn eu rhinwedd eu hunain a dim ond elusennau a sefydlwyd yn y Deyrnas Unedig sy'n gallu buddsoddi ynddynt. Drwyddynt mae elusennau o bob lliw a llun yn gallu buddsoddi mewn ffordd dreth effeithlon mewn amryw o fuddsoddiadau er mwyn cael portffolio cytbwys, amrywiol, wedi'i reoli'n broffesiynol.
|
Fodd bynnag, nid yw amrywio drwy gronfeydd cyfun yn dileu'r holl risgiau buddsoddi. Bydd rhai cronfeydd yn creu mwy o risg nag eraill, yn dibynnu'n aml i ba raddau y maent wedi'u hamrywio ymysg dosbarthiadau gwahanol o asedau, gwahanol sectorau a gwahanol wledydd neu ranbarthau.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ystyried addasrwydd ac amrywio'r buddsoddiadau sylfaenol mewn unrhyw gronfa gyfun, yn ogystal ag addasrwydd rheolwr y gronfa. Nod cronfeydd arbennig fydd ystyried gwahanol strategaethau buddsoddi, er enghraifft buddsoddiadau moesegol, incwm tymor byr neu dwf tymor hir. Mae hyn yn rhoi cyfle i elusennau ddewis un neu ragor i gyd-fynd â'u polisi buddsoddi.
Bydd pob cronfa gyfun yn cynhyrchu dogfennaeth a ddylai gynnwys manylion fel:
- ei nodau cyffredinol
- ei safle moesegol (os oes)
- manylion adrodd am berfformiad
- y cymysgedd o asedau
- amrywio asedau
- yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r gronfa.
Cyn buddsoddi, dylai ymddiriedolwyr adolygu'r dogfennau hyn a'u hadolygu'n gyson ar ôl buddsoddi, er mwn sicrhau bod pob cronfa gyfun a ddewisir yn parhau i ateb anghenion yr elusen.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cronfeydd buddsoddi cyffredin: Canllaw sylfaenol i'w rheoleiddio
Dd. Pwy all reoli a gwneud penderfyniadau am fuddsoddiadau?
Mae'r adrannau blaenorol yn canolbwyntio ar yr hyn y mae angen ei ystyried wrth wneud penderfyniadau am fuddsoddiadau. Mae'r adran hon yn ymwneud â phwy all wneud y penderfyniadau a, phan na fydd yr ymddiriedolwyr yn gwneud y penderfyniadau, beth ddylent ei wneud i sicrhau arolygiaeth a rheolaeth.
Dd1. Pa drefniadau ddylai fod gan elusen i wneud penderfyniadau am fuddsoddiadau?
Yr ateb byr
Bydd y trefniadau ar gyfer gwneud y penderfyniadau hyn yn wahanol ar gyfer pob elusen yn dibynnu ar:
- ei hadnoddau mewnol a'i harbenigedd
- pwysigrwydd cymharol ei buddsoddiadau o ran ei gallu i gyflawni ei nodau.
Beth bynnag fo'r trefniadau, dylai'r ymddiriedolwyr allu dangos eu bod nhw wedi cadw rheolaeth gyffredinol dros wneud penderfyniadau ac wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau.
Yn fwy manwl
Mae gan ymddiriedolwyr elusen gyfrifoldeb cyffredinol dros benderfyniadau buddsoddi. Gallai fod yn ddefnyddiol iddynt ystyried y pwyntiau canlynol:
- Er nad oes rhaid i ymddiriedolwyr gael gwybodaeth fuddsoddi arbenigol eu hunain, bydd yn ddefnyddiol i elusennau sydd wedi buddsoddi, neu sydd am fuddsoddi cronfeydd sylweddol, gael ymddiriedolwr sydd â gwybodaeth arbenigol am fuddsoddiadau ar ei bwrdd.
- Gall fod o gymorth i rai elusennau sefydlu pwyllgorau buddsoddi mewnol neu is-bwyllgor o ymddiriedolwyr a/neu swyddogion i gynghori'r bwrdd ymddiriedolwyr ar agweddau mwy manwl ar y polisi buddsoddi (er enghraifft, dyrannu asedau). Dylai'r ymddiriedolwyr fod yn glir ynghylch cylch gorchwyl unrhyw is-bwyllgorau, pa benderfyniadau y gallant eu gwneud, pa derfyniadau ariannol a therfynau eraill sydd ar eu gallu i wneud penderfyniadau a sut a pha mor aml y mae'r penderfyniadau hynny'n cael eu hadrodd i'r ymddiriedolwyr.
- Dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod manylion eu hymagwedd at fuddsoddi a'r penderfyniadau allweddol yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig. Bydd hyn yn eu galluogi i ddangos eu bod nhw wedi ystyried y materion perthnasol, wedi ceisio cyngor os yw'n briodol a gwneud penderfyniadau rhesymol.
- Dylai ymddiriedolwyr gytuno pa mor aml ac ar ba lefel y byddant yn adolygu buddsoddiadau eu helusen.
Dd2. Pa gyngor y mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ei geisio?
Yr ateb byr
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr geisio ac ystyried cyngor gan rywun sydd â phrofiad ym materion buddsoddi cyn buddsoddi ac wrth eu hadolygu, oni bai bod rhesymau da ganddynt dros beidio â gwneud hynny. Gallant benderfynu peidio â cheisio cyngor os ydynt yn dod i'r casgliad ei fod yn ddiangen neu'n amhriodol yn yr amgylchiadau. Gallant benderfynu peidio â cheisio cyngor allanol os oes digon o brofiad ganddynt o fewn yr elusen.
Yn fwy manwl
Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i gynghorydd buddsoddi fod yn rhywun sydd ym marn resymol yr ymddiriedolwyr yn gymwys i'w roi ar sail ei allu a'i brofiad ymarferol o faterion ariannol a materion eraill sy'n ymwneud â'r buddsoddiad arfaethedig.
Y dewisiadau mwyaf arferol i ymddiriedolwyr yw:
- rheolwr buddsoddi
- cynghorydd buddsoddi (a allai fod yn annibynnol neu'n gysylltiedig â chwmni, gweler isod)
- cyd-ymddiriedolwr, os oes gan un o'r ymddiriedolwyr brofiad a gallu ariannol addas
- rhyw unigolyn arall sy'n bodloni'r meini prawf uchod.
Mae'n rhaid i gynghorwyr ariannol annibynnol gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i roi cyngor. Gallant werthu cynnyrch nifer o wahanol gwmnïau. Mae cynghorwyr sy'n gysylltiedig â chwmni, megis y rhai sy'n gweithio i fanciau a chymdeithasau adeiladau, yn gallu cynnig cynnyrch eu cwmni eu hunain yn unig.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr fod yn ofalus i sicrhau eu bod yn cael cyngor diduedd. Os oes gan unrhyw ymddiriedolwr gysylltiad a allai gael budd uniongyrchol neu anuniongyrchol o unrhyw gyngor ariannol a roddir i'r elusen, dylid adnabod hyn a'i reoli fel gwrthdaro buddiannau.
Mae ymddiriedolwyr sy'n rhoi cyngor buddsoddi yn gyfrifol am ansawdd y cyngor y maent yn ei gynnig. Fel unrhyw gynghorydd arall, gallant fod yn atebol i'r elusen os yw'n gwneud colled o ganlyniad i'w gyngor gwael neu esgeulus. Mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr eraill hefyd ystyried unrhyw gyngor gan gyd-ymddiriedolwr mewn modd gwrthrychol a gweithredu er lles gorau'r elusen.
Dd3. A ddylai elusen reoli buddsoddiadau ei hun neu ddefnyddio gwasanaethau cynghorydd neu reolwr buddsoddi?
Yr ateb byr
Dylai'r ymddiriedolwyr elusen benderfynu a fyddai'n fwy effeithlon i reoli eu buddsoddiadau drwy:
- reoli eu buddsoddiadau eu hunain os yw'r arbenigedd angenrheidiol ganddynt (neu gan staff yr elusen)
- defnyddio rheolwr buddsoddi neu frocer stoc i'w cynghori ar sut i reoli eu buddsoddiadau (rheolwyr buddsoddi cynghorol)
- rhoi rhai pwerau i reolwyr buddsoddi i wneud penderfyniadau am eu buddsoddiadau ar eu rhan (rheolwyr buddsoddi dewisol)
Yn fwy manwl
Wrth benderfynu ar yr ymagwedd fwyaf priodol ar gyfer eu helusen, efallai y bydd ymddiriedolwyr am ystyried:
- a oes ganddynt (neu staff yr elusen, os oes) y sgiliau penodol sydd eu hangen i reoli buddsoddiadau
- y swm y gallant ei ymrwymo i'w fuddsoddi yn y tymor hir neu'r tymor byr
- cost penodi cynghorydd neu reolwr buddsoddi - mae hyn yn cynnwys costau'n gysylltiedig â'r penodiad cychwynnol a'r holl gostau parhaus
Hefyd bydd rhaid iddynt ystyried a ydynt yn defnyddio gwasanaethau rheolwr buddsoddi:
- yn rhinwedd cynghorol - bydd rhaid i'r rheolwr buddsoddi gysylltu ag ymddiriedolwyr i gael cadarnhad cyn gwneud unrhyw drafodion; neu
- yn rhinwedd dewisol - maent yn rhoi pwerau i'r rheolwyr buddsoddi wneud penderfyniadau am eu buddsoddiadau ar eu rhan.
Dd4. Beth ddylai elusen ei ystyried cyn dewis rheolwr buddsoddi?
Yr ateb byr
Os yw elusen yn penderfynu defnyddio rheolwr buddsoddi, dylai ei hymddiriedolwyr:
- fodloni eu hunain y gall rheolwr buddsoddi berfformio'n effeithiol yn unol â'i amcanion a'i bolisi buddsoddi
- ystyried sut y mae'r gwasanaethau a gynigir gan nifer o wahanol reolwyr yn ateb yr anghenion hynny, a'u cymharu o ran cost, ymagwedd fuddsoddi a lefel y gwasanaeth.
Yn fwy manwl
Fel arfer bydd y rhan fwyaf o elusennau sy'n penderfynu defnyddio rheolwr buddsoddi yn mynd trwy broses dendro ffurfiol ac yn cwrdd â nifer o gwmnïau ar restr fer. Mae'r broses hon yn rhoi cyfle i'r ymddiriedolwyr ddysgu mwy am y darpar reolwr buddsoddi a sut y bydd yn gweithredu polisi buddsoddi'r elusen.
Dylai elusennau ystyried:
- A yw'r ymateb i'r tendr yn ateb eu hanghenion
- Enw da'r cwmni a'i hanes gan gynnwys perfformiad yn y tymor byr a'r tymor hir, y math a'r nifer o bortffolios sydd ganddo a gwerth yr asedau y mae'n eu rheoli. Dylai ymddiriedolwyr hefyd ystyried nad yw hanes o berfformiad da yn gwarantu perfformiad da yn y dyfodol o reidrwydd.
- Pa brofiad sydd gan y rheolwr buddsoddi ym maes buddsoddiadau elusennau gan gynnwys:
- gwybodaeth am fuddsoddi ar gyfer y sector elusennol
- gwybodaeth am reoliadau sy'n gymwys yn benodol i elusennau
- a oes gan y cwmni gleientiaid sy'n elusennau
- Natur y buddsoddiad a'r broses adolygu risg megis sut y caiff y buddsoddiadau eu dewis a'u rheoli a beth yw'r strwythur gwneud penderfyniadau
- Dadansoddiad realistig o'r holl ffioedd a thaliadau a all gael eu codi ar bortffolio yn y tymor byr a'r tymor hir
- Y trefniadau adrodd - pa mor aml fydd adroddiadau ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb yn cael eu llunio, a chynnwys yr adroddiadau hynny. Gallai'r elusen ofyn am enghraifft o adolygiadau a'u hadolygu er mwyn asesu perfformiad yn y maes hwn yn y gorffennol
- Hyblygrwydd - gallu a pharodrwydd y rheolwr buddsoddi i addasu ei hymagwedd er mwyn gweddu i'r elusen
- Gallu'r rheolwr buddsoddi i ymdrin ag unrhyw ofynion moesegol. Ydy'r rheolwr buddsoddi yn deall polisi moesegol yr elusen ac a yw'n gallu ymateb i ofynion yr elusen? Pa brofiad arall sydd ganddo o ran ymagweddau buddsoddi megis buddsoddi moesegol neu genhadaeth sy'n gysylltiedig â strategaethau i elusennau?
Dd5. All elusen benodi mwy nag un rheolwr?
Gall. Gall elusennau benodi mwy nag un rheolwr buddsoddi, er enghraifft i reoli portffolio wedi'i amrywio neu ddosbarth o asedau unigol, neu gynnig mynediad i farchnad arbenigol. Dyma'r achos yn aml os oes portffolios mawr oherwydd gall helpu i ledaenu rhywfaint o'r risg sy'n gysylltiedig â'r rheolwr a pherfformiad y portffolio.
Dd6. Beth yw cyfrifoldebau ymddiriedolwyr a'r rheolwr buddsoddi?
Yr ateb byr
Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyffredinol am fuddsoddi cronfeydd elusen.
Os yw rheolwr buddsoddi yn rheoli buddsoddiadau'r elusen, rhaid cael:
- cytundeb ysgrifenedig neu gontract gydag unrhyw reolwr buddsoddi a benodwyd
- polisi buddsoddi ar gyfer yr elusen sy'n egluro cyfrifoldebau a chylch gorchwyl y rheolwr buddsoddi. Mae'n rhaid i'r rheolwr buddsoddi ddewis buddsoddiadau yn unol â'r cyfarwyddiadau hyn, oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.
Yn fwy manwl
Cytundeb ysgrifenedig
Mae'n rhaid cael contract ysgrifenedig ffurfiol rhwng yr elusen a'r rheolwr buddsoddi. Dylai'r elusen ei adolygu yn achlysurol (gan geisio cyngor os yw'n briodol).
Bydd y cytundeb rheoli buddsoddiadau yn wahanol yn ôl y dull rheoli, boed yn ddewisol neu'n gynghorol. Gall fod yn ffurflen gais syml. Mae'n rhaid i'r cytundeb â'r rheolwr buddsoddi fynnu bod y rheolwr yn dilyn polisi buddsoddi yn unol â pholisi buddsoddi'r elusen, a allai gael ei gynnwys yn y cytundeb.
Os ydynt yn rhoi pwerau dewisol i'r rheolwr buddsoddi, ni all yr ymddiriedolwyr lunio cytundeb sy'n:
- caniatáu i'r rheolwr buddsoddi benodi dirprwy neu ddewis ei olynydd ei hun
- lleihau dyletswydd gofal arferol y rheolwr buddsoddi, neu roi terfyn ar ei atebolrwydd os yw'n torri'r contract
- caniatáu i'r rheolwr buddsoddi weithredu mewn sefyllfaoedd a allai greu gwrthdaro buddiannau
oni bai ei bod yn rhesymol angenrheidiol iddynt wneud hynny.
Polisi buddsoddi
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ymddiriedolwyr sy'n rhoi pwerau dewisol i reolwr buddsoddi gael polisi buddsoddi ysgrifenedig (Adran Ch3) sy'n cwmpasu:
- cylch gorchwyl a chyfrifoldebau unrhyw reolwr buddsoddi
- yr egwyddorion y mae'n rhad i unrhyw reolwr buddsoddi eu dilyn wrth wneud penderfyniadau buddsoddi ar ran yr elusen.
Dylai'r polisi buddsoddi egluro y bydd y swyddogaethau sy'n cael eu dirprwyo i unrhyw reolwr buddsoddi yn cael eu cyflawni er lles gorau'r elusen. Os yw elusen yn buddsoddi mewn cronfeydd cyfun, dylai'r ymddiriedolwyr a'r rheolwr buddsoddi sicrhau eu bod yn buddsoddi mewn cronfeydd sydd wedi'u cynnwys o fewn cylch gorchwyl polisi buddsoddi'r elusen yn unig.
Ni ellir dirprwyo'r gwaith o baratoi'r datganiad polisi i'r rheolwr buddsoddi, ond gall ymddiriedolwyr geisio cyngor arbenigol annibynnol ar ei gynnwys. Gallai fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr ei baratoi drwy ymgynghori â'r rheolwr buddsoddi arfaethedig er mwyn sicrhau bod ei delerau yn ymarferol a bod modd eu gwireddu.
Dyletswydd gofal ymddiriedolwyr
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn y ddyletswydd gofal wrth ddirprwyo'r gwaith o wneud penderfyniadau i reolwr buddsoddi a pharatoi eu polisi buddsoddi.
Mae ymddiriedolwyr bob amser yn parhau'n gyfrifol am:
- amlinellu ac adolygu polisi buddsoddi eu helusen yn rheolaidd
- penderfynu i bwy ac ar ba delerau y dylid dirprwyo'r gwaith o reoli buddsoddiadau elusen
- adolygu addasrwydd a pherfformiad rheolwyr buddsoddi yn gyson
- os oes angen, terfynu penodiadau.
Dd7. All ymddiriedolwyr fod yn atebol am weithredoedd y rheolwr buddsoddi?
Nid yw ymddiriedolwr yn atebol am unrhyw weithredu neu fethiant ar ran y rheolwr buddsoddi oni bai ei fod heb gydymffurfio â'i ddyletswydd gofal wrth:
- ddewis yr unigolyn neu'r cwmni
- pennu telerau cytundeb yr elusen â'r rheolwr buddsoddi
- paratoi'r datganiad polisi y bydd y rheolwr buddsoddi yn gweithredu oddi dano; neu
- ymgymryd â dyletswyddau adolygu.
Dd8. Beth ddylai elusen ei ystyried wrth asesu taliadau rheolwr buddsoddi?
Yr ateb byr
Dylai elusen:
- fod yn glir pa daliadau neu fuddion y mae'r rheolwr neu'r partïon eraill yn eu cael o dan y cytundeb
- bodloni ei hun fod y taliadau neu'r buddion hyn yn cynrychioli gwerth da am arian ar gyfer yr elusen.
Yn fwy manwl
Dylai ymddiriedolwyr wneud cais am amlinelliad o'r holl ffioedd a all fod yn gymwys i bortffolio a sicrhau nad oes unrhyw ffioedd annisgwyl (er enghraifft, ffioedd y gall y rheolwr buddsoddi eu talu i drydydd parti am waith ymchwil). Mae'r mathau mwyaf arferol o ffioedd yn cynnwys:
- ffi reoli
- comisiwn ar drafodion
- taliadau sy'n ymwneud â chronfeydd cyfun ar gyfer rheoli buddsoddiadau, a ffioedd cysylltiedig eraill
- taliadau gweinyddol
- ffioedd perfformiad (cyfran o'r enillion ar gronfa)
- didyniadau llog banc
- ffioedd gweithredu
- ffioedd gwarchodaeth
- ffioedd trydydd parti gan gynnwys y rhai ar gyfer ymchwil pellach neu wasanaethau a roddir i gwmnïau allanol
Dylai ymddiriedolwyr hefyd ystyried unrhyw oblygiadau treth. Er enghraifft, efallai y bydd rhaid talu TAW ar y ffioedd a godir gan reolwyr buddsoddi.
Os yw elusen yn penodi rheolwr buddsoddi drwy broses dendro, gall yr ymddiriedolwyr ddefnyddio hyn i fodloni eu hunain bod y ffioedd yn cynrychioli gwerth da am arian a'u bod er lles yr elusen.
Fel arall, gall yr ymddiriedolwyr ystyried ceisio cyngor proffesiynol annibynnol ynghylch a yw'r elusen yn cael y gwerth gorau am arian o'r trefniadau gyda'i rheolwr buddsoddi. Gallai hyn gynnwys trefniadau un-tro adeg adolygiad strategol neu berthynas barhaus â chynghorydd.
Dd9. Yn gyfreithiol, pwy all ddal buddsoddiadau ariannol i elusen?
Mae hunaniaeth gyfreithiol gan gwmnïau elusennol a gallant ddal buddsoddiadau yn eu henw eu hunain. Mae hyn yn symleiddio'r gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â phrynu a gwerthu buddsoddiadau.
Nid oes hunaniaeth gyfreithiol ar wahân gan elusennau anghorfforedig ac mae hyn yn golygu bod rhaid i ymddiriedolwyr ddal buddsoddiadau yn eu henwau eu hunain ar ran yr elusen. Gall hyn olygu costau gweinyddol ychwanegol wrth brynu a gwerthu buddsoddiadau. Am y rheswm hwn, mae'n aml yn fwy cyfleus i benodi enwebai/ceidwad i ddal buddsoddiadau ar ran y corff ymddiriedolwyr.
Yr ymddiriedolwyr sy'n penderfynu p'un ai i benodi enwebai/ceidwad neu beidio ac a fydd yn dal rhywfaint neu'r cyfan o asedau a buddsoddiadau'r elusen.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw Penodi Enwebeion a Cheidwaid: Canllawiau o dan adran 19 o Ddeddf Elusennau 2000.
E. Monitro buddsoddiadau a pherfformiad
E1. Beth mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ei wneud i asesu perfformiad buddsoddiadau eu helusen?
Yr ateb byr
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr adolygu eu portffolio buddsoddi yn gyson. Mae'n rhaid i adolygiadau ystyried:
- sut mae buddsoddiadau'n perfformio
- y gwasanaeth a ddarparwyd gan y rheolwr buddsoddi, os defnyddir un.
Dylent hefyd fonitro ac adolygu eu trefniadau mewnol ar gyfer rheoli buddsoddiadau'r elusen.
Yn fwy manwl
Gellir crynhoi'r meysydd allweddol y dylai ymddiriedolwyr eu hystyried wrth fonitro ac adolygu perfformiad portffolio buddsoddi eu helusen fel a ganlyn:
- mesur perfformiad buddsoddi
- penderfynu pwy fydd yn cynnal yr adolygiad
- adolygu'r gwasanaeth a gynigir gan reolwr buddsoddi
- amlder adolygiadau
- y meini prawf ar gyfer ymyrryd
|
Mesur perfformiad buddsoddi
Dylai ymddiriedolwyr benderfynu ar system o bennu targedau ar gyfer enillion (er enghraifft, meincnodau) y gallant fesur perfformiad portffolio ariannol yr elusen yn eu herbyn dros gyfnod penodol. Bydd union natur y meincnodau a'r targedau yn amrywio ar gyfer pob elusen. Efallai y bydd ymddiriedolwyr am geisio cyngor arbenigol gan sefydliad annibynnol.
Os ydynt yn penodi rheolwr buddsoddi, dylai'r ymddiriedolwyr gytuno ar feincnodau a thargedau priodol y gellir barnu perfformiad yn eu herbyn dros gyfnod o amser. Bydd hyn yn cynnig modd asesu mewn ffordd effeithiol a theg perfformiad cyffredinol y rheolwr buddsoddi, a hefyd ei berfformiad yn erbyn meincnod arbennig. Efallai y bydd yr ymddiriedolwr am ystyried a chymharu perfformiad eu cronfeydd yn erbyn y rhai y mae elusennau eraill sydd ag amcanion buddsoddi tebyg yn berchen arnynt.
Os nad yw cronfeydd yn perfformio'n ddigonol, dylai ymddiriedolwyr geisio deall a oes rheswm rhesymol dros hyn. Yn yr un modd, os yw cronfeydd yn perfformio'n well na'r cyfartaledd, dylai ymddiriedolwyr sicrhau nad yw hyn wedi'i briodoli i'r ffaith bod yr elusen yn agored i fwy o risg nag y mae'n barod i'w dderbyn.
|
|
Pwy ddylai gynnal yr adolygiad?
Gall yr adolygiad o berfformiad buddsoddi'r elusen gael ei gynnal ar y cyd â'r rheolwr buddsoddi.
Ar y llaw arall, dylai'r adolygiad o'r gwasanaeth a ddarperir gan y rheolwr buddsoddi gael ei gynnal yn annibynnol ar y rheolwr buddsoddi. Os na all yr ymddiriedolwyr gynnal asesiad priodol heb rywfaint o gymorth arbenigol, gallant gyflogi rhywun sy'n annibynnol ar y rheolwr buddsoddi i roi'r cymorth hwnnw.
|
|
Adolygu'r gwasanaeth a ddarparir gan y rheolwr buddsoddi
Mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ystyried:
- a yw telerau gwaith y rheolwr buddsoddi yn addas
- pa mor dda mae'r rheolwr yn ei wneud
- a yw'r rheolwr yn parhau i fod yn rhywun addas i ymgymryd â'r gwaith hwn
- a yw telerau'r penodiad yn parhau i fod yn briodol
- a yw'r rheolwr yn cydymffurfio â'r datganiad polisi.
|
|
Amlder adolygiadau
Efallai y bydd yr ymddiriedolwyr yn penderfynu cynnal adolygiadau yn gyson neu gynnal un mewn ymateb i ddigwyddiadau eraill, er enghraifft:
- os oes tystiolaeth o berfformiad annigonol
- os oes newid yn y rhagolygon economaidd
- os yw amgylchiadau ariannol yr elusen yn newid yn sylweddol.
|
|
Ymyrryd
Dylai ymddiriedolwyr ystyried a oes angen iddynt ymyrryd, er enghraifft, drwy roi cyfarwyddiadau i'r rheolwr buddsoddi, neu adolygu neu derfynu eu cytundeb a'r rheolwr buddsoddi. Dylent fod yn barod i ymyrryd os oes angen.
|
F. Cwestiynau eraill am fuddsoddiadau ariannol
F1. Beth mae'n rhaid ei gynnwys yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr?
Os oes rhaid i elusennau gyflwyno adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a chynnal archwiliad statudol, dylai'r adroddiadau gynnwys amlinelliad o unrhyw bolisïau y mae eu hymddiriedolwyr wedi'u mabwysiadu wrth ddewis buddsoddiadau ariannol.
Dylai'r adroddiad hefyd gynnwys datganiad am berfformiad buddsoddiadau'r elusen yn ystod y flwyddyn. Os yw ymagwedd buddsoddiad moesegol wedi cael ei mabwysiadu, dylid ei hesbonio hefyd.
Mae elusennau nad yw'n ofynnol iddynt gael archwiliad statudol yn gorfod paratoi adroddiad blynyddol ond nid oes rhaid iddynt roi gwybodaeth ariannol mor fanwl. Er enghraifft, efallai na fydd gan elusen fach bolisi buddsoddi, yn enwedig os yw'n dibynnu ar gyllid grant ar gyfer ei gweithrediadau yn bennaf.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw Cyfrifon ac adroddiadau elusennau
F2. Beth yw goblygiadau treth buddsoddiadau ariannol?
Yr ateb byr
Gall elusennau elwa o gael eu heithrio rhag talu treth ar eu hincwm buddsoddi/enillion pan gânt eu defnyddio i hyrwyddo eu nodau.
Fodd bynnag, os yw HMRC yn penderfynu nad yw rhai buddsoddiadau yn 'fuddsoddiadau elusennol cymeradwy', gall hyn arwain at gyfyngiad ar ostyngiadau treth yr elusen.
Yn fwy manwl
Mae rhai buddsoddiadau penodol yn gymwys yn awtomatig i fod yn 'fuddsoddiadau elusennol cymeradwy'. Gall buddsoddiadau sydd heb fodloni'r meini prawf a osodwyd yn y gyfraith dreth gael eu trin fel 'gwariant anelusennol'.
Gellir cael canllawiau pellach ar hyn ar wefan HMRC HMRC Elusennau: canllawiau manwl. Atodiad III: Buddsoddiadau a benthyciadau elusennol cymeradwy.
Dylai elusennau sy'n ystyried buddsoddiadau a all gael eu trin fel gwariant anelusennol gofio y bydd rhaid iddynt fodloni HMRC.
- bod y buddsoddiadau'n cael eu gwneud er lles yr elusen; ac
- nid ydynt er mwyn osgoi talu treth, boed gan yr elusen neu gan unrhyw un arall.
Os yw buddsoddiad yn cael ei drin fel gwariant anelusennol gall yr elusen golli ei hawl i gael ei heithrio rhag talu treth ar incwm sy'n hafal i'r swm a fuddsoddwyd. Gall hyn olygu bod cyfanswm yr enillion buddsoddi yn is na phan nad oes rhaid talu treth ar yr enillion, ond nid dyma fydd yr achos bob tro. Dylai ymddiriedolwyr ystyried beth sydd er lles gorau'r elusen.
Yn achos buddsoddiadau dramor, dylai elusennau fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd na fydd gostyngiadau treth cyfatebol ar gyfer elusennau o'r DU yn y gwledydd dan sylw, a gall yr enillion buddsoddi gael eu lleihau gan drethi dramor. Fodd bynnag, dylai elusennau geisio cyngor os yw'n briodol, i weld a oes gostyngiadau treth dramor eraill.
F3. Beth ddylai elusennau sydd â gwaddol parhaol ei ystyried wrth wneud buddsoddiadau ariannol?
Mae'n rhaid i elusennau sydd â gwaddol parhaol gadw'r gronfa gyfalaf wedi'i buddsoddi. Dim ond yr incwm a enillwyd o fuddsoddi'r gronfa cyfalaf all gael ei wario ar nodau'r elusen. Dylai elusennau sydd â gwaddol parhaol fod yn ymwybodol y gall rhai asedau fod yn fwy tebygol o ddarparu twf cyfalaf dros gyfnod hir tra gallai eraill ddarparu gwell enillion incwm. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n bwysig, wrth lunio portffolio o fuddsoddiadau, i bwyso a mesur:
- yr angen am ddigon o arian i ateb anghenion presennol yr elusen; a'r
- angen i gynyddu gwerth y buddsoddiad ('twf cyfalaf') i gynhyrchu lefel ddigonol o incwm i fuddiolwyr y dyfodol
Drwy wneud hyn, gall yr ymddiriedolwyr geisio sicrhau y bydd eu portffolio buddsoddi yn gallu ateb anghenion buddiolwyr presennol a buddiolwyr y dyfodol.
F4. All elusen sydd â gwaddol parhaol fabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddi?
Yr ateb byr
Gall, ond cyn gwneud hynny, bydd rhaid iddi gael cydsyniad y Comisiwn Elusennau.
Gall elusennau sydd heb waddol parhaol fabwysiadau ymagwedd cyfanswm enillion heb ein cydsyniad.
Yn fwy manwl
Mae cyfanswm enillion yn disgrifio ymagwedd fuddsoddi y gall elusennau ei mabwysiadu er mwyn rheoli eu buddsoddiadau. O dan yr ymagwedd hon, nid yw'r modd y derbynnir yr enillion buddsoddi (er enghraifft, incwm, difidend neu dwf cyfalaf) yn bwysig. Yn hytrach, mae buddsoddiadau'n cael eu rheoli i wneud y mwyaf o'r cyfanswm enillion buddsoddi y maent yn eu cynhyrchu.
Fodd bynnag, oni bai bod eu dogfen lywodraethol yn caniatáu hynny'n benodol, mae'n rhaid i elusennau sydd â gwaddol parhaol gael gorchymyn gan y Comisiwn Elusennau cyn y gellir defnyddio'r ymagwedd hon ar gyfer y buddsoddiad hwnnw.
Gall ymagwedd cyfanswm enillion roi mwy o hyblygrwydd i elusennau gyflawni eu hamcanion buddsoddi. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar fuddsoddiadau y disgwylir iddynt roi'r perfformiad gorau o ran cyfanswm enillion, yn hytrach nag ar fuddsoddiadau a fydd yn rhoi'r cydbwysedd 'cywir' rhwng twf cyfalaf ac incwm (gweler F3 uchod).
Gall yr ymddiriedolwyr ddyrannu pa bynnag cyfran o'r cyfanswm enillion sy'n briodol yn eu barn nhw fel incwm - a gellir ei wario ar hyrwyddo nodau'r elusen. Mae'r gweddill sy'n aros yn cael ei gario ymlaen fel cyfanswm enillion heb ei ddefnyddio a'i fuddsoddi fel cyfalaf.
Os yw elusen â gwaddol parhaol am fabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion, dylai ei hymddiriedolwyr:
- sicrhau bod gwerth eu buddsoddiadau yn parhau'n fwy na gwerth eu cyfalaf cychwynnol (cyfanswm enillion cadarnhaol). Os yw gwerth eu buddsoddiad yn gostwng yn is na gwerth eu cyfalaf cychwynnol (cyfanswm enillion negyddol), wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant, ni fyddai'r ymddiriedolwyr yn gallu dosbarthu incwm hyd nes eu bod nhw'n cael cyfanswm enillion cadarnhaol
- rhoi ystyriaeth deg i fuddiolwyr presennol a buddiolwyr y dyfodol wrth wneud penderfyniadau
I gael rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn, gweler Elusennau â gwaddol parhaol: Ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddiadau.
F5. All elusen wneud buddsoddiad ariannol mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Gall, ond mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr allu cyfiawnhau cymorth ariannol ar gyfer yr is-gwmni masnachu fel ffordd addas o fuddsoddi adnoddau'r elusen.
Weithiau bydd elusennau'n sefydlu is-gwmni masnachu i ymgymryd â'u nodau yn hytrach nag i gynhyrchu incwm. Nid yw hyn yn cael sylw yn y canllaw hwn - i gael rhagor o wybodaeth gweler Ymddiriedolwyr, Masnachu a Threth (CC35).
Yn fwy manwl
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddefnyddio'r meini prawf arferol (gweler C2 uchod) i asesu a fyddai buddsoddi mewn is-gwmni masnachu yn briodol i'r elusen. Mae'n rhaid iddynt:
- ystyried a yw er lles yr elusen i fuddsoddi mewn is-gwmni masnachu ar ôl gwneud cymhariaeth deg rhwng y math hwn o fuddsoddiad â'r mathau eraill o fuddsoddiadau sydd ar gael. Dylai hyn gynnwys asesiad gwrthrychol o ragolygon busnes y cwmni (addasrwydd y math neu'r dosbarth o fuddsoddiad)
- bodloni eu hunain bod cwmni arbennig yn hyfyw yn ariannol yn seiliedig ar ei gynllun busnes, rhagolygon llif arian, rhagolygon elw, dadansoddiad risg a'r wybodaeth arall sydd ar gael (addasrwydd y buddsoddiad o fewn y math neu'r dosbarth o ased)
- ceisio cyngor priodol ar y buddsoddiad a hyfywedd ariannol yr is-gwmni masnachu. Bydd yr hyn sy'n 'briodol' yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae'r gost o geisio'r cyngor yn ffactor perthnasol, a dylai fod yn gymesur â maint y buddsoddiad arfaethedig (gan ystyried a cheisio cyngor os yw'n briodol)
- penderfynu ar natur y buddsoddiad yn yr is-gwmni masnachu, gan geisio cyngor proffesiynol fel y bo angen (dyletswydd gofal yr ymddiriedolwyr)
- ystyried o bryd i'w gilydd a ddylai'r buddsoddiad yn yr is-gwmni masnachu gael ei gadw (adolygu ac amrywio buddsoddiadau).
Dylai ymddiriedolwyr hefyd:
- ystyried y cyfnod y gallai'r cronfeydd gael eu hymrwymo mewn buddsoddiad yn yr is-gwmni masnachu, oherwydd mae'n bosib na fydd yn hawdd realeiddio cronfeydd a fuddsoddwyd felly pe bai galw amdanynt yn y tymor byr i ganolig
- ystyried, a cheisio cyngor addas, ar y posibilrwydd o gael cyllid o ffynhonnell arall, fel dewis arall i gyllido gan yr elusen.
Ni fyddai buddsoddi mewn cwmni nad yw'n economaidd hyfyw, ac sydd heb unrhyw wir obaith o fod yn economaidd hyfyw, yn bodloni'r meini prawf a restrir uchod. Dyma fyddai'r achos os yw'r buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i dalu dyledion cwmni ansolfent cyn iddi gael ei ddiddymu, dim ond er mwyn ei atal rhag cael ei drin fel cwmni ansolfent.
Weithiau gall is-gwmni masnachu gael ei sefydlu i hyrwyddo nodau'r elusen a chynhyrchu enillion ariannol. Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr yn gallu cyfiawnhau'r buddsoddiad naill ai ar sail yr enillion ariannol neu i ba raddau y mae'n hyrwyddo ei nodau. Os yw'r cwmni yn gwneud y ddau beth, mae'n fuddsoddiad cymhelliad cymysg ac mae'r meini prawf yn adran Ng yn gymwys.
Treth
Dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol y gall fod goblygiadau treth ar gyfer buddsoddiadau a benthyciadau i is-gwmnïau masnachu sy'n cael eu gwneud gan elusen os yw'r is-gwmni masnachu wedi'i gysylltu â'r elusen. Nid yw elusennau yn debygol o gael anhawster os yw'r buddsoddiad yn yr is-gwmni yn cael ei wneud i gynhyrchu cronfeydd sy'n cael eu defnyddio wedi hynny gan yr elusen i gyflawni ei nodau elusennol. Ni all buddsoddiadau a benthyciadau sy'n cael eu gwneud i gefnogi cwmni masnachu cysylltiedig sy'n methu gael eu hystyried yn rhai sydd er lles yr elusen a gallent gael effaith ar eithriadau treth yr elusen.
Mae HMRC yn debygol o edrych yn feirniadol ar fuddsoddiadau'r elusen mewn cwmnïau masnachu os yw'n ymddangos nad yw'r elusen yn fwy nag ategiad wedi'i gysylltu â busnes yn wahanol i gwmni sy'n bodoli i godi arian i'r elusen.
Mae'n bwysig sicrhau nad yw unrhyw fuddsoddiad gan elusen mewn is-gwmni masnachu yn cael ei drin fel gwariant anelusennol. Os yw'n cael ei drin felly, gall fod atebolrwydd i dalu treth.
I gael rhagor o wybodaeth:
F6. All elusen wneud buddsoddiad ariannol mewn cwmnïau y mae gan ymddiriedolwyr elusen, neu bobl sy'n gysylltiedig â nhw, fudd preifat ynddynt?
Yr ateb byr
Gall, ond mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr allu cyfiawnhau'r buddsoddiad fel un sy'n briodol i'r elusen ac mae'r pŵer angenrheidiol gan yr elusen i'w wneud.
Yn fwy manwl
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr fod yn ofalus i beidio ag ymrwymo eu hunain i gefnogi cwmni lle mae gan yr ymddiriedolwyr, neu bobl sy'n gysylltiedig â nhw, fudd preifat ynddo, heb roi ystyriaeth lawn i'r canlynol:
- a yw'r buddsoddiad yn briodol i'r elusen ac yn unol â'i pholisi buddsoddi
- a yw unrhyw wrthdaro buddiannau wedi cael eu hadnabod a'u rheoli; ac
- a yw unrhyw fudd preifat yn dderbyniol - yn y canllaw hwn, ystyr budd preifat yw unrhyw fuddion y mae unigolyn neu sefydliad yn eu cael gan elusen heblaw fel buddiolwr.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddefnyddio'r meini prawf arferol (gweler C2 uchod) i asesu a fyddai buddsoddi mewn cwmni lle mae gan yr ymddiriedolwyr, neu bobl sy'n gysylltiedig â nhw, fudd preifat ynddo yn briodol i'r elusen. Mae'n rhaid iddynt:
- ystyried a yw er lles yr elusen i fuddsoddi ar ôl gwneud cymhariaeth deg rhwng y math hwn o fuddsoddiad â'r mathau eraill o fuddsoddiadau sydd ar gael. Dylai hyn gynnwys asesiad gwrthrychol o ragolygon busnes y cwmni (addasrwydd y math neu'r dosbarth o fuddsoddiad)
- bodloni eu hunain bod cwmni yn hyfyw yn ariannol yn seiliedig ar ei gynllun busnes, rhagolygon llif arian, rhagolygon elw, dadansoddiad risg a'r wybodaeth arall sydd ar gael (addasrwydd y buddsoddiad o fewn y math neu'r dosbarth hwnnw)
- ystyried ceisio cyngor priodol ar y buddsoddiad a hyfywedd ariannol y cwmni. Bydd yr hyn sy'n briodol yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae'r gost o geisio'r cyngor yn ffactor perthnasol, a dylai hynny fod yn gymesur â maint y buddsoddiad arfaethedig (gan ystyried a cheisio cyngor os yw'n briodol)
- ystyried o bryd i'w gilydd a ddylai buddsoddiad presennol gael ei gadw (adolygu ac amrywio buddsoddiadau).
I gael rhagor o wybodaeth ar reoli gwrthdaro buddiannau, gweler Canllaw i wrthdaro buddiannau i ymddiriedolwyr elusennau.
Treth
Dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol y gall fod oblygiadau treth ar gyfer buddsoddiadau y mae elusen yn eu gwneud mewn cwmni sy'n gysylltiedig â'i hymddiriedolwyr, neu y mae ganddyn nhw neu swyddogion cyswllt fudd personol sylweddol ynddynt. Bydd rhaid i HMRC ystyried a yw'r buddsoddiadau'n cael eu gwneud er budd yr elusen ac nid er mwyn osgoi talu treth. Gall buddsoddi mewn cwmni sy'n gysylltiedig â rhoddwyr sylweddol, gan gynnwys ymddiriedolwyr, hefyd fod yn amodol ar reolau Rhoddwyr Sylweddol a gall gael effaith ar eithrio elusen rhag talu treth. Gall buddsoddiadau fod yn amodol ar reolau Rhoddion Elusennau Llygredig a gyflwynwyd yn 2011. Tra bo'r rheolau hyn yn effeithio'n bennaf ar y rhoddwr, gallant godi tâl treth ar elusennau hefyd mewn rhai amgylchiadau. Gall gwneud buddsoddiadau at ddibenion eraill gael canlyniadau o ran talu treth.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler tudalen we HMRC Elusennau.
F7. All elusen wneud buddsoddiad ariannol mewn cyllid seiliedig ar ganlyniadau?
Yr ateb byr
Gall, mae'n bosib y gallai'r math hwn o fuddsoddiad gael ei ystyried yn fuddsoddiad ariannol os yw'r enillion ariannol tebygol yn cyfiawnhau hynny. Bydd rhaid i elusennau geisio cyngor lle y bo'n briodol ar hyn.
Yn fwy manwl
Mae buddsoddwyr mewn strwythurau cyllid seiliedig ar ganlyniadau yn cael enillion ariannol sydd wedi'u cysylltu'n gyfan gwbl neu'n rhannol â'r canlyniadau cymdeithasol a/neu amgylcheddol sy'n cael eu cynhyrchu gan y gwasanaethau sy'n cael eu darparu drwy ddefnyddio'r buddsoddiad. Mae Bond Effaith Gymdeithasol yn enghraifft ac mae'n disgrifio contract sy'n cael ei lunio fel arfer rhwng corff sector cyhoeddus a buddsoddwyr lle mae'r cyntaf yn ymrwymo i dalu am ganlyniad cymdeithasol gwell. Defnyddir cronfeydd buddsoddwyr i dalu am amryw o ymyriadau i wella'r canlyniad cymdeithasol.
Fel arall, gallai elusennau ystyried hyn fel Buddsoddiad Cysylltiedig â Rhaglen - gweler adran G - neu fel Buddsoddiad Cymhelliad Cymysg (adran Ng).
F8. All elusen gadw rhoddion o fuddsoddiadau ariannol?
Yr ateb byr
Gall, ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr o'r farn ei fod yn unol â'u dyletswyddau buddsoddi. Er enghraifft, mae'n rhaid iddynt ystyried:
- pa mor addas yw'r buddsoddiad; a'r
- angen i amrywio buddsoddiadau
Yn fwy manwl
Mae deddfwriaeth treth yn cynnig cymhellion i roddwyr sy'n rhoi buddsoddiadau, gan gynnwys tir, i elusen. Yr ymddiriedolwyr sy'n penderfynu p'un ai i werthu neu gadw'r buddsoddiad. Drwy wneud hynny, mae'n rhaid iddynt ofyn:
- Ydy'r buddsoddiadau a roddwyd yn addas i'r elusen?
- Oes angen mwy o amrywiaeth ym mhortffolio buddsoddi cyffredinol yr elusen?
- Oes angen mwy o amrywiaeth yn y buddsoddiadau a roddwyd?
Mae cwestiynau eraill hefyd y bydd yr ymddiriedolwyr am eu gofyn efallai megis:
- Fyddai gwerthu rhan, neu'r cyfan, o'r rhodd yn annog rhoddwyr i beidio â gwneud rhoddion pellach i'r elusen?
- Pa mor ymarferol fyddai newid y buddsoddiadau a roddwyd?
- Fyddai gwir werth y buddsoddiadau'n cael eu realeiddio pan fyddent yn cael eu gwaredu, neu a fyddai hyn yn cael ei wireddu dim ond drwy ddal y buddsoddiadau am gyfnod hwy?
Os yw'r elusen wedi derbyn rhodd o fuddsoddiad gydag amodau sy'n datgan bod rhaid i'r rhoddwr gydsynio i unrhyw newid yn y buddsoddiad hwnnw, ni ddylai rhoddwyr beidio â chydsynio oherwydd bod gwneud hynny er lles eu buddion personol nhw, yn hytrach dylent weithredu er lles yr elusen.
Ystyriaethau treth
Dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol bod y gostyngiadau ar gyfer rhoi buddsoddiadau wedi cael eu camddefnyddio mewn rhai achosion fel rhan o gynlluniau i osgoi talu treth. Yn y cynlluniau hyn, nid yw'r buddsoddiadau sy'n cael eu rhoi yn cynnig llawer o fudd fel arfer i'r elusen neu mae'r elusen wedi derbyn enillion bach iawn am ganiatáu i'w hun gael ei defnyddio fel cyfrwng ar gyfer trosglwyddo buddsoddiadau gwerthfawr. Dylai elusennau osgoi ymwneud â threfniadau o'r fath. Mewn rhai amgylchiadau, gallai'r rheolau Rhoddion Elusennau Llygredig osod tâl treth os yw'r rhodd dan sylw yn cael ei wneud o dan Rodd Gymorth Rhodd.
Gallai ymwneud ag osgoi talu treth gael ei ystyried yn dor-ymddiriedolaeth neu'n weithgaredd anelusennol. Os yw ymddiriedolwyr elusen yn pryderu bod buddsoddiad neu fuddsoddiadau wedi cael eu rhoi iddynt fel rhan o drefniadau osgoi talu treth dylent ystyried hysbysu HMRC.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler wefan HMRC Elusennau.
F9. All elusen weithredu fel rhanddeiliad?
Yr ateb byr
Gall. Gall elusen yn ei rhinwedd fel rhanddeiliad wneud busnes â sefydliad y mae ganddi fudd ynddo neu y gall ei weithgareddau effeithio ar ei gwaith ar sawl lefel. Gall ofyn am wybodaeth neu fynegi barn, neu gall arfer unrhyw hawliau pleidleisio er mwyn dylanwadu ar bolisïau'r sefydliad mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n well ei werthoedd a'i hethos ei hun.
Gall gweithredu fel rhanddeiliad hefyd gael ei ddefnyddio at ddiben ymwneud â llywodraethu corfforaethol y cwmnïau y mae'r elusen yn buddsoddi ynddynt. Gwneir hyn er mwyn diogelu ei buddsoddiad a sicrhau bod y cwmnïau y mae'n buddsoddi ynddynt yn cael eu rheoli er budd hirdymor rhanddeiliaid. Gellir ei ddefnyddio hefyd at ddibenion Buddsoddiad Cysylltiedig â Rhaglen (adran G) neu Fuddsoddiad Cymhelliad Cymysg (adran Ng).
Gall elusennau ofyn i'w rheolwr buddsoddi bleidleisio ar eu rhan.
Yn fwy manwl
Efallai y bydd elusen yn ei rhinwedd fel rhanddeiliad mewn busnes arbennig am arfer ei hawliau pleidleisio er mwyn dylanwadu ar bolisïau cwmni mewn ffordd sy'n adlewyrchu ei gwerthoedd a'i hethos arbennig ei hun.
Pan fydd elusen yn dewis gweithredu'n uniongyrchol fel rhanddeiliad, mae rhai pwyntiau pwysig i'w hystyried:
- mae'n rhaid i'r camau sy'n cael eu cymryd fel rhanddeiliad gael eu cysylltu â'i nodau, ac mae'n rhaid i'r elusen ystyried a rheoli unrhyw risg o golled ariannol arwyddocaol
- pan fydd yn arfer pleidlais fel rhanddeiliad, dylai'r holl safbwyntiau gael eu hystyried - yn benodol, yr effaith bosibl ar werth buddsoddiad yr elusen
- mae gweithredu fel rhanddeiliad yn fwy effeithiol os yw'n cael ei wneud gyda rhanddeiliaid eraill
- dylai unrhyw amser ac adnoddau a dreuliwyd ar weithredu fel rhanddeiliad fod yn gymesur â'r budd i'r elusen
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd elusen am gaffael buddsoddiadau sy'n gysylltiedig â'i gwerthoedd a'i hethos yn bennaf er mwyn gweithredu fel rhanddeiliad.
Os yw elusen wedi dirprwyo cyfrifoldebau pleidleisio i'w rheolwr buddsoddi (dewisol), dylai'r elusen sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r athroniaeth a'r prosesau sy'n sail i bolisi pleidleisio ei rheolwr buddsoddi. Mae'r elusen yn debygol o ofyn am adroddiadau rheolaidd sut mae ei chyfranddaliadau wedi cael eu pleidleisio.
Dylai rheolwyr buddsoddi bleidleisio a gwneud busnes â rheolwyr y cwmni fel mater o arfer. Fodd bynnag, yn gyffredinol byddant yn pleidleisio gyda chanlyniadau ariannol tymor hir mewn golwg, mewn geiriau eraill ceisio'r enillion ariannol hirdymor gorau i'r elusen. Dylent roi eu datganiad llywodraethu corfforaethol i'r elusen ac adrodd yn gyson ar eu gweithgareddau. Mae gan rai rheolwyr buddsoddi bolisïau gweithredu gan randdeiliad y gellir eu dilyn ar ran nifer o gleientiaid, gan sicrhau mwy o effaith gyda llai o ymdrech.
Ff. Adneuon arian parod
Ff1. Beth ddylai ymddiriedolwyr ei ystyried wrth fuddsoddi mewn cynilion ac adneuon arian parod?
Yr ateb byr
Mae cynilion ac adneuon arian parod yn fathau o fuddsoddiadau ac mae'r gofynion cyfreithiol a nodwyd yn adran C2 yn gymwys. Fel rheol mae arian parod mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn ennill llog y gall yr elusen ei ddefnyddio i gynhyrchu incwm hyd nes bod angen ei wario ar nodau'r elusen neu ei roi mewn buddsoddiadau tymor hwy.
Mae nifer o ffyrdd eraill o fuddsoddi arian parod, yn enwedig yn achos elusennau mwy, a dylai elusennau geisio cyngor pan fydd yn briodol. Dylent geisio adnabod a chynllunio ar gyfer rheoli unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â buddsoddi arian parod.
Yn fwy manwl
Mae arian parod sydd ei angen ar gyfer rhedeg yr elusen o ddydd i ddydd yn cael ei ddal mewn cyfrif cyfredol neu gyfrif adnau mynediad rhwydd fel arfer. Gall elusennau sydd am gloi arian i ffwrdd am gyfnodau hwy, er enghraifft, i gyllido prosiect ar adeg benodol yn y dyfodol, adneuo arian parod mewn cyfrif cyfnod penodol neu gyfnod rhybudd a all gynnig cyfraddau llog uwch, ond fel arfer bydd cyfyngiadau ar gael mynediad i'r arian.
Gan gydymffurfio â'u dyletswyddau (a nodwyd yn adran C2), dylai ymddiriedolwyr gael:
Dylai hyn nodi ble ac am faint y gall arian gael ei adneuo a'r uchafswm i'w roi mewn un sefydliad. Os oes angen, dylai'r datganiad cynnwys y polisi ar gyfer adneuon tymor byr, tymor canolig a thymor hir.
- Ystyried yn drwyadl pa sefydliadau i'w fuddsoddi ynddynt:
Dylai arian parod gael ei adneuo gyda sefydliadau ag enw da yn unig, megis y rhai sydd wedi'u hawdurdodi gan yr FSA yn y DU neu gan y rheoleiddiwr ariannol perthnasol mewn unrhyw wlad arall.
- Ymchwilio i'r buddion a gynigir gan gyfrif adnau arbennig:
Dylai adneuon arian parod gael eu rhoi mewn cyfrif sy'n cynhyrchu llog, oni bai bod yr ymddiriedolwyr yn bwriadu defnyddio'r arian ar adnau yn y tymor byr neu ei fuddsoddi mewn man arall yn y tymor hwy. Dylai ymddiriedolwyr ystyried:
- y cyfraddau llog a gynigir. Mae cyfraddau llog yn amrywio ar draws sefydliadau ac ar gyfrifon arbennig dros amser. Dylai elusennau adolygu cyfrifon yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfraddau cystadleuol. Yn hytrach na chael y gyfradd uchaf bob tro, efallai y byddai'n well gan ymddiriedolwyr adneuo arian mewn sefydliad sy'n cynnig cyfraddau llog da yn gyson
- amseriad taliadau llog, er enghraifft, a ydynt yn daliadau misol neu flynyddol
- yr amodau ar gyfer cael mynediad i'r arian, gan gynnwys unrhyw daliadau neu gosbau sy'n codi o gael mynediad tymor byr neu derfynu'r cyfrif yn gynnar
- a yw llog yn cael ei dalu fel swm gros neu'n glir o dreth
- safle moesegol yr elusen.
Mae ystyriaethau anariannol, megis lleoliad y sefydliad, yn bwysig ond dod yn ail i'r rhai a restrir uchod.
- Ymchwilio i'r mesurau diogelu ar gyfer adneuon:
Dylai elusennau geisio sicrwydd bod sefydliadau wedi'u diogelu lle bynnag y bo'n bosibl a dylai ymddiriedolwyr fod yn hollol fodlon â'r trefniadau diogelu cyn adneuo arian gyda'r sefydliad hwnnw, boed yn y DU neu dramor. I gael rhagor o wybodaeth, gweler:
- Terfyn ar y swm sy'n cael ei adneuo mewn unrhyw sefydliad arbennig:
Dylai ymddiriedolwyr bwyso a mesur y budd o gael cyfradd llog uwch ar gyfer adneuo un swm mawr yn erbyn y risgiau sy'n gysylltiedig ag adneuo gydag un sefydliad. Dylai elusennau sy'n adneuo symiau mawr ystyried sefydlu polisi ar gyfer yr uchafswm sydd i'w roi gydag unrhyw un sefydliad er mwyn lleihau'r risg o golli adneuon. Drwy rannu adneuon mawr rhwng sefydliadau bancio, mae ymddiriedolwyr yn lleihau'r risg o golledion mawr o ganlyniad i fethiant y sefydliad.
- Ceisio cyngor proffesiynol lle y bo'n briodol:
Mae'n rhaid i elusennau geisio cyngor gan rywun sydd â phrofiad mewn materion buddsoddi os ydynt yn teimlo bod angen cyngor arnynt.
- Sicrhau bod yr holl adneuon wedi'u hawdurdodi'n briodol:
Dylai agor neu gau cyfrifon banc cael ei awdurdodi gan y corff ymddiriedolwyr cyfan, ond gall gael ei ddirprwyo lle y bo'n briodol yn amodol ar derfynau rhesymol. Argymhellwn fod yr holl adneuon dilynol yn cael eu hawdurdodi gan o leiaf dau unigolyn wedi'i awdurdodi. Yn achos y rhan fwyaf o elusennau, yr ymddiriedolwyr fydd yr unigolion hyn. Yn amodol ar gyfyngiadau wedi'u gosod gan ddogfen lywodraethol yr elusen, argymhellir bod ymddiriedolwyr yn penodi mwy na dau lofnodwr, er mwyn i ddau unigolyn fod ar gael bob amser os oes angen. Mae pob un o'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu'r buddsoddiad cyn gwneud trefniadau i adneuo arian yr elusen.
Mae nifer o gyfrifon adnau ar gael, ac mae rhai ohonynt wedi'u sefydlu'n benodol ar gyfer elusennau, sy'n talu llog gros yn glir o dreth. Fodd bynnag, os yw'r cyfrif a ffafrir gan yr ymddiriedolwyr yn talu llog ar adnau'r elusen yn glir o dreth, dylai'r ymddiriedolwyr sicrhau eu bod nhw'n gallu adennill y dreth.
- Ystyried a fyddai Cronfeydd Adnau Cyffredin yn briodol:
Mae Cronfeydd Adnau Cyffredin (CAC) yn gynlluniau adneuon sy'n dreth effeithlon, yn cael eu gweinyddu'n syml ac yn gost effeithlon. Nid ydynt wedi'u cynnwys o fewn Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol. Mae ganddynt yr un statws treth ag elusennau eraill. Mae CAC yn derbyn adneuon gan elusennau sy'n adneuo ac yn rhoi'r arian ar adnau yn y farchnad arian. Drwy gronni cronfeydd (fel arfer am gyfnod byr) ar adnau, gall CAC gynnig cyfradd llog uwch ar gyfer elusennau sy'n adneuo nag y byddai pob elusen yn ei chael fel arall drwy adneuo ar wahân.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cronfeydd adnau cyffredin - Canllaw sylfaenol i'w rheoleiddio
- Adolygu'r trefniadau yn gyson:
Dylai ymddiriedolwyr adolygu'n gyson eu trefniadau ar gyfer rheoli arian parod a chostau a buddion cyfrifon arian parod eu helusen er mwyn sicrhau bod eu hadneuon wedi'u diogelu ac mae'r taliadau a'r cyfraddau llog yn gystadleuol.
G. Buddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen (BCRh)
G1. Beth yw BCRh?
Yr ateb byr
Mae BCRh yn caniatáu i elusen hyrwyddo ei nodau yn uniongyrchol ac, ar yr un pryd, gynhyrchu enillion ariannol. Drwy wneud BCRh, nid yw'r ymddiriedolwyr wedi'u hymrwymo gan y fframwaith cyfreithiol ar gyfer buddsoddiadau ariannol (gweler C2 uchod), oherwydd mae eu penderfyniad yn ymwneud â defnyddio asedau'n uniongyrchol i hyrwyddo nodau'r elusen.
Yn fwy manwl
Mae BCRh yn defnyddio adnoddau elusennol i hyrwyddo sefydliadu elusennol a sefydliadau eraill mewn ffordd sy'n:
- hyrwyddo nodau datganedig yr elusen yn gyfan gwbl
- er budd y cyhoedd yn hytrach na budd preifat; a
- disgwylir iddo gynhyrchu rhywfaint o enillion ariannol i'r elusen (ond nid dyma'r prif reswm dros wneud hyn).
|
Enghraifft
Gall elusen sy'n gweithio i leddfu tlodi roi benthyciad i elusen arall sy'n helpu pobl ddi-waith i ddychwelyd i'r gwaith.
Bydd hyn yn:
- lleddfu tlodi (yn hyrwyddo nodau'r elusen yn gyfan gwbl)
- er budd y cyhoedd
- disgwylir cael ad-daliad o'r benthyciad ac enillion ariannol o'r taliadau llog ar y benthyciad.
|
Gall BCRh llwyddiannus alluogi elusennau i:
- gynyddu'r cymorth y gallant ei roi. Os yw'r buddsoddiad yn cael ei adennill a/neu'n cynhyrchu enillion i'r elusen, gall yr adnoddau gael eu hailddefnyddio i gefnogi mwy o brosiectau.
- defnyddio ystod ehangach o ddulliau cyllido. Er enghraifft, weithiau bydd benthyciadau ac ecwiti yn well ar gyfer prosiectau arbennig na grantiau
- gwneud buddsoddiad hyblyg, tymor hir sy'n hyrwyddo nodau'r elusen yn uniongyrchol h.y. ar gyfraddau llog isel, di-log neu sy'n cynnwys ad-daliad (rhannol) trwy wasanaethau mewn nwyddau
- gwella'r telerau a gynigir i elusennau am gyllid, gan eu galluogi i gael cyllid am gost is.
|
Y gwahaniaeth rhwng buddsoddiadau ariannol, BCRh a grantiau
Mae BCRh yn wahanol i fuddsoddiad ariannol neu grant er bod ei ffurf efallai'n edrych yn debyg.
Mae'r gwahaniaeth rhwng buddsoddiad ariannol a BCRh yn seiliedig ar brif fwriad y buddsoddiad. Y prif reswm dros wneud BCRh yw hyrwyddo nodau'r elusen, nid i gynhyrchu enillion ariannol. Y prif reswm dros wneud buddsoddiad ariannol yw cynhyrchu enillion a allai gael eu defnyddio i hyrwyddo nodau'r elusen. Fel arfer bydd yr elusen yn ceisio'r enillion ariannol gorau ar eu buddsoddiadau o fewn lefel y risg sy'n briodol yn eu barn nhw ar gyfer yr elusen. Mae'r bwriad yn bwysig oherwydd mae'n caniatáu i'r ymddiriedolwyr ddangos sut y maent yn gweithredu er lles yr elusen.
Mae BCRh hefyd yn wahanol i roi grantiau oherwydd mae grant yn cael ei roi i hyrwyddo nodau'r elusen ac ni ddisgwylir unrhyw enillion ariannol. Fodd bynnag, gallai rhai elusennau ddewis rhoi grant ochr yn ochr â BCRh, er enghraifft, i helpu i adeiladu gallu rheoli sefydliad gan felly helpu i sicrhau bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu.
|
|
Buddsoddiad ariannol gan dargedu'r gyfradd orau o enillion ariannol yn wyneb lefel y risg sy'n cael ei hystyried yn briodol
|
BCRh sy'n hyrwyddo nodau'r elusen, gyda rhywfaint o enillion ariannol disgwyliedig
|
Grantiau uniongyrchol sy'n hwyluso nodau'r elusen
|
G2. Beth allai fod ffurf BCRh?
Yr ateb byr
Gall fod ystod eang o fathau o BCRh a gall elusennau a mathau eraill o sefydliad eu derbyn. Gallant amrywio o:
- symiau gweddol fach o arian wedi'u darparu ar ffurf benthyciadau i sefydliad neu unigolyn arall, er enghraifft adnau tai, prynu offer newydd neu adnewyddu eiddo, i
- symiau mawr wedi'u buddsoddi mewn prosiectau proffil uchel cymhleth, er enghraifft prosiectau adfywio
Yn fwy manwl
Yn aml bydd BCRh ar ffurf benthyciadau, buddsoddiadau ecwiti neu gronfeydd cyfun sydd wedi'u cysylltu'n fwy cyffredin â buddsoddiad ariannol. Gall BCRh gael eu gwneud trwy gyfryngwyr hefyd.
Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys:
Benthyciadau
Un o brif nodweddion benthyciad yw y dylai'r benthyciwr ad-dalu swm y benthyciad heb neu gyda llog.
Os yw elusen yn rhoi benthyciad, dylai sicrhau bod telerau'r benthyciad yn nodi:
- sut y caiff ei ddefnyddio i hyrwyddo nodau'r elusen
- cyfradd llog. Dylai ymddiriedolwyr ystyried yr effaith a gaiff y benthyciad ar eu nodau elusennol a'r gyfradd y gallai'r benthyciwr allu ei thalu ac yn fodlon ei thalu
- amserlen a thelerau'r ad-daliad. Gall yr ymddiriedolwyr fod yn hyblyg wrth ystyried y trefniadau hyn
Gall elusen hefyd warantu benthyciadau ar ran sefydliadau neu unigolion a fydd yn hyrwyddo nodau'r elusen. Yn achos gwarantu benthyciadau, mae ymddiriedolwyr yn addo i drydydd parti eu bod nhw'n gyfrifol am ymrwymiadau'r derbynnydd os nad yw'n gallu bodloni'r ymrwymiadau hynny. Dylai'r ymddiriedolwyr sicrhau bod ganddynt, neu eu bod yn gallu cael gafael ar ddigon o adnoddau i fodloni unrhyw gais a wneir o dan y warant. Yn y cyfamser maent yn cadw'r defnydd o gronfeydd eu sefydliad.
Buddsoddiadau ecwiti
Mewn achos eithriadol, gall BCRh fod ar ffurf buddsoddiad ecwiti lle mae'r elusen yn prynu cyfranddaliadau mewn cwmni ac yn rhoi cyfalaf dechrau busnes iddo. Fel arfer bydd perchnogaeth yn rhoi hawl i ddifidend os yw'n cael ei dalu a hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Fodd bynnag, dylai ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol bod risgiau arbennig i hyn. Bydd rhaid iddynt ystyried pa brosesau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau y bydd y cyllid yn parhau i gael ei ddefnyddio i hyrwyddo nodau'r elusen. Er enghraifft, gallai hyn fod ar ffurf cytundebau cyfranddalwyr, sefyllfaoedd prynu yn ôl a stoc benthyciadau trosglwyddadwy.
I gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiadau ecwiti mewn cwmnïau anelusennol, gweler G9.
Gall elusennau hefyd ymwneud â'r canlynol:
Cyfranogiad refeniw neu led-ecwiti
Ystyr hyn yw bod yr elusen fel buddsoddwr yn cael enillion ariannol yn seiliedig ar y gyfran o'r refeniw/elw a wneir gan sefydliad yn gyfnewid am ddarparu cyfalaf ar gyfer datblygu menter arbennig. Mae'n rhaid i'r fenter hyrwyddo nodau'r elusen er mwyn iddi fod yn BCRh. Mae'r enillion a gaiff y buddsoddwr yn gysylltiedig â llwyddiant ariannol y fenter. Nid yw buddsoddiadau o'r fath yn cynnwys rhoi cyfranddaliadau ac nid ydynt yn rhoi perchnogaeth i'r buddsoddwr fel arfer.
Cyllid seiliedig ar ganlyniadau
Mae buddsoddwyr mewn strwythurau cyllid seiliedig ar ganlyniadau yn cael enillion ariannol sydd wedi'u cysylltu'n gyfan gwbl neu'n rhannol â'r canlyniadau cymdeithasol a/neu amgylcheddol sy'n cael eu cynhyrchu gan y gwasanaethau sy'n cael eu darparu drwy ddefnyddio'r buddsoddiad. Mae Bond Effaith Gymdeithasol yn enghraifft, ac mae'n disgrifio contract sy'n cael ei lunio rhwng corff sector cyhoeddus a buddsoddwyr fel arfer lle mae'r cyntaf yn ymrwymo i dalu am ganlyniad cymdeithasol gwell. Defnyddir cronfeydd buddsoddwyr i dalu am amryw o ymyriadau i wella'r canlyniad cymdeithasol. Mae'n rhaid i'r canlyniadau cymdeithasol a/neu amgylcheddol hyrwyddo nodau'r elusen er mwyn iddo fod yn BCRh.
Gallai'r math hwn o fuddsoddiad gael ei ystyried yn fuddsoddiad ariannol os yw'r enillion ariannol tebygol yn cyfiawnhau hynny. Gallai fod ar ffurf buddsoddiad cymhelliad cymysg hefyd. Bydd rhaid i elusennau geisio cyngor lle y bo'n briodol ar hyn.
G3. Beth yw rôl ymddiriedolwyr wrth wneud BCRh?
Yr ateb byr
Wrth wneud BCRh, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr weithredu er lles gorau eu helusen a sicrhau bod:
- cronfeydd eu helusen yn cael eu defnyddio i hyrwyddo eu nodau datganedig yn unig
- unrhyw fudd preifat a ddaw o'r buddsoddiad yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen (gweler G8 isod).
Cyn gwneud BCRh dylent:
- fod yn glir ei fod yn cyfrannu at nodau strategol yr elusen
- cymharu BCRh â dulliau eraill o hyrwyddo nodau'r elusen o ran effeithiolrwydd a risg
- ystyried a oes angen iddynt geisio cyngor, yn wyneb lefel y risg i'r elusen, ac unrhyw wybodaeth neu arbenigedd sydd ganddynt yn yr elusen.
Nid yw ymddiriedolwyr yn debygol o gael eu beirniadu am eu penderfyniadau os ydynt wedi ystyried y materion perthnasol, wedi ceisio cyngor priodol lle y bo'n briodol a dod i benderfyniad synhwyrol. Mae'r rhestr wirio BCRh yn atodiad 2 yn ceisio arwain ymddiriedolwyr drwy'r broses gwneud penderfyniad.
Yn fwy manwl
Mae gan yr ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyffredinol dros benderfyniadau BCRh. Dylent roi trefniadau llywodraethu priodol ar waith ar gyfer rheoli eu BCRh. Bydd strwythur llywodraethu a'r lefel dirprwyo yn wahanol ar gyfer pob elusen yn dibynnu ar ei hadnoddau mewnol a'i harbenigedd a dylent ystyried y pwyntiau canlynol:
- Nid oes rhaid i ymddiriedolwyr gael gwybodaeth arbenigol am brosiectau a materion ariannol eu hunain. Fodd bynnag, gall fod yn ddefnyddiol i elusennau sydd â chronfeydd sylweddol wedi'u buddsoddi i gael ymddiriedolwr ar eu bwrdd, neu wedi'i gyfethol ar eu bwrdd, sydd â gwybodaeth arbenigol am brosiectau a materion ariannol.
- Gall fod o gymorth i elusennau sydd â symiau sylweddol wedi'u buddsoddi mewn BCRh neu sydd wedi buddsoddi mewn BCRh cymhleth neu broffil uchel sefydlu pwyllgor BCRh mewnol neu is-bwyllgor o ymddiriedolwyr a staff i gynghori'r bwrdd ar agweddau mwyaf manwl BCRh
- Gall ymddiriedolwyr ddirprwyo penderfyniadau am BCRh unigol i drydydd parti neu staff yn yr elusen os oes ganddynt y pŵer i wneud hynny yn eu dogfen lywodraethol. Fodd bynnag, bydd rhaid iddynt:
- sicrhau eu bod nhw'n rhoi cyfeiriad clir, yn ysgrifenedig, ynghylch natur y BCRh a'r math o BCRh fydd yn hyrwyddo nodau'r elusen yn eu barn nhw
- sicrhau bod gweithdrefnau ganddynt ar waith ar gyfer monitro ac adolygu perfformiad BCRh.
G4. Pa risgiau ddylai ymddiriedolwyr eu hystyried mewn perthynas â BCRh?
Dylai ymddiriedolwyr ystyried y risgiau canlynol a gwneud penderfyniadau ar gyfer eu rheoli fel y bo'n briodol yn ôl maint a gweithgareddau eu helusen a dylai fod yn gymesur â graddfa'r BCRh o'i gymharu â gweithgareddau'r elusen:
- A fydd y BCRh yn cael ei ddefnyddio i gyllido nodau heblaw'r rhai a fwriadwyd, er enghraifft os yw'r derbynnydd wedi gwneud newid mawr i'w weithgareddau neu os yw amcanion y BCRh wedi cael eu cyflawni'n gynharach na'r disgwyl?
- A fydd lefel annerbyniol o fudd preifat i'r derbynnydd neu i fuddsoddwyr eraill (gweler G8 isod)?
- A oes risgiau i enw da'r elusen, er enghraifft, o fudd preifat?
- Beth fydd yn digwydd os nad yw'r prosiect yn llwyddiannus?
- Beth fydd yn digwydd os yw'r elusen yn dibynnu ar enillion ariannol nad yw'n cael ei adennill?
- Beth os yw lefelau gwir enillion yn is na'r disgwyl oherwydd newidiadau mewn chwyddiant neu gyfraddau cyfnewid?
G5. Ddylai ymddiriedolwyr geisio cyngor wrth wneud BCRh?
Yr ateb byr
Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i geisio cyngor. Bydd llawer yn dibynnu ar yr ymddiriedolwyr ac a ydynt yn teimlo'n hapus ac yn ddigon cymwys i wneud penderfyniadau ynghylch BCRh.
Yn fwy manwl
Y materion a allai ddylanwadu ar yr angen am gyngor yw:
- maint a graddfa'r BCRh a lefel y risg dan sylw
- cymhlethdod y materion cyfreithiol ac ariannol
- a oes angen cael gwerthusiad proffesiynol arbennig
ac a oes gan yr elusen arbenigedd mewnol ym maes:
- asesu prosiectau
- cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy
- pennu'r lefelau priodol o enillion
- asesu rhagolygon hyfywedd
G6. All elusen wneud BCRh mewn prosiect sydd heb ei gynnwys yn ei nodau elusennol?
Yr ateb byr
Na all, gall elusen wneud BCRh sy'n hyrwyddo ei nodau elusennol yn unig. Fodd bynnag, gall ymddiriedolwyr ymchwilio i ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio BCRh i hyrwyddo eu nodau gan gofio'r egwyddorion a nodwyd yn y canllaw hwn.
Yn fwy manwl
Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr yn deall hyd a lled nodau eu helusen a'u bod yn gallu dangos sut y bydd canlyniadau arfaethedig y BCRh yn eu hyrwyddo.
Mae rhai elusennau mawr, ymddiriedolaethau a sefydliadau neu gyfryngwyr elusennol yn aml sy'n darparu cymorth ariannol i elusennau eraill, wedi cael eu sefydlu gyda nodau elusennol cyffredinol ac felly byddant yn gallu gwneud ystod eang o BCRh o'u hincwm a'u gwaddol parhaol sy'n cefnogi unrhyw ddiben elusennol a ddewisir.
G7. Beth os nad yw'r BCRh yn hyrwyddo nodau'r elusen mwyach?
Yr ateb byr
Dylai elusennau ystyried ar y cychwyn sut y byddent yn rheoli sefyllfaoedd lle mae gweithgareddau wedi'u cyllido gan BCRh yn peidio â hyrwyddo ei nodau. Dylai telerau cytundeb y BCRh adlewyrchu beth sy'n bosibl ac yn ymarferol i derfynu'r BCRh ac, os yw'n bosibl, ddychwelyd y cyllid nad oes modd ei ddefnyddio mwyach i hyrwyddo nodau'r elusen.
Yn fwy manwl
Benthyciadau
Os yw BCRh ar ffurf benthyciad uniongyrchol o'r elusen i'r sefydliad y mae'n ei gyllido, gall y cytundeb gynnwys amod sy'n mynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu neu droi'n benthyciad i delerau masnachol os nad yw'r buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio mwyach i hyrwyddo nodau'r elusen.
Buddsoddiadau ecwiti
Mae'r sefyllfa yn fwy cymhleth os yw'r BCRh ar ffurf buddsoddiadau ecwiti oherwydd gofynion y gyfraith cwmnïau ynghylch lleihau cyfalaf cwmnïau. Fodd bynnag, mae'n bosibl rhoi trefniadau eraill ar waith. Er enghraifft, gallai cwmni gytuno'n amodol i brynu ei gyfranddaliadau ei hun, neu gyhoeddi cyfranddaliadau y gellir eu hadbrynu mewn amgylchiadau o'r fath.
Cyfryngwyr
Os yw BCRh yn cael ei wneud trwy gyfryngwr, gall hyrwyddo nodau'r elusen gael ei gymhlethu gan berthynas y cyfryngwr â'r derbynnydd. Er bod rhaid i'r egwyddor bod angen i'r BCRh hyrwyddo nodau'r elusen yn llwyr yn parhau'n gymwys, dylai'r ymddiriedolwyr wybod y gall ystyriaethau ymarferol gyfyngu ar allu'r cyfryngwr i gytuno ar sut i derfynu'r trefniadau gyda'i fuddsoddwyr elusennol.
Rheoli risg
Bydd rhaid i'r elusen ystyried, pan fydd y buddsoddiad yn cael ei gynnig gyntaf, y risg y gallai'r elusen ei wynebu os yw wedi'i ymrwymo i BCRh sydd yn colli unrhyw gysylltiad â'i nodau. Gall yr ymddiriedolwyr benderfynu, os yw'r risg yn fach, bod y budd a ddaw drwy wneud y buddsoddiad yn cyfiawnhau cymryd y risg hwnnw. Fodd bynnag, os yw'r swm a fuddsoddwyd yn cynrychioli rhan sylweddol o adnoddau'r elusen, daw'r risg yn fwy a bydd yn fwy anodd i'r ymddiriedolwyr gyfiawnhau cymryd y risg hwnnw.
G8. Pryd mae ychydig o fudd preifat yn dderbyniol?
Yr ateb byr
Mae ychydig o fudd preifat i fuddsoddwyr eraill yn dderbyniol os yw'r ymddiriedolwyr yn fodlon bod y budd preifat:
- yn angenrheidiol yn yr amgylchiadau
- yn rhesymol o ran ei swm; ac
- er lles yr elusen.
Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ystyried ein canllaw ar fudd preifat yn Elusennau a Budd Cyhoeddus pan fyddant yn gwneud BCRh.
Yn fwy manwl
Rhaid i nodau'r elusen fod er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, weithiau, bydd y ffordd orau y gall elusen helpu ei buddiolwyr yn golygu bod unigolion neu fusnesau yn gwneud budd preifat. Os oes lefel annerbyniol o fudd preifat gall effeithio ar statws elusennol.
Bydd rhaid i ymddiriedolwyr ddefnyddio eu barn i bennu a yw'r budd preifat yn dderbyniol. Mae'n rhaid iddynt weithredu er lles gorau'r elusen bob amser. Gallant gynnwys gallu cynyddol yr elusen i hyrwyddo ei nodau (oherwydd gall benthyciad wedi'i ad-dalu gael ei fenthyg i eraill) yn eu hasesiad o fudd cyhoeddus y prosiect. Mewn rhai achosion bydd yr asesiad gofynnol yn weddol syml, mewn achosion eraill bydd yn gymhleth, yn seiliedig ar ffactorau amrywiol, a bydd yn anodd dod i benderfyniad. Dylai ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn sy'n rhesymol i'w wybod adeg gwneud y BCRh a sicrhau bod cofnod ganddynt o'u penderfyniadau.
Pan fydd ymddiriedolwyr yn ystyried bod unigolion neu fusnesau yn gwneud enillion preifat mewn BCRh sydd y tu hwnt i'r hyn y maent yn teimlo sy'n angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen, dylent sicrhau bod modd i'r elusen adennill y budd preifat drwy ryw ddull arall. Er enghraifft, gall y sawl sy'n derbyn y budd preifat ddewis ei dalu i'r elusen. Os oes budd preifat annerbyniol parhaus, dylai'r elusen ystyried ei dewisiadau ar gyfer gadael y BCRh.
G9. Beth yw dyletswyddau ymddiriedolwyr os ydynt yn buddsoddi mewn cyfalaf ecwiti cwmni anelusennol er mwyn hyrwyddo nodau'r elusen?
Yn gyffredinol, bydd buddsoddi yn ecwiti cwmni preifat yn golygu bod enillion ariannol i'r cyfranddalwyr neu bydd yn hyrwyddo rhai dibenion anelusennol eraill y cwmni. Fel arfer bydd hyn yn golygu nad yw buddsoddiad yr elusen yn hyrwyddo nodau elusennol yn llwyr, ac felly gall elusen wneud BCRh mewn cwmni o'r fath mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Mae'r amgylchiadau hyn yn debygol o godi dim ond os oes cydberthynas glir rhwng y dibenion cymdeithasol y bydd y cwmni yn eu cyflawni a nodau'r elusen.
Felly, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod:
- cydberthynas rhwng nodau'r elusen a chenhadaeth gymdeithasol y sefydliad anelusennol yr hoffai'r ymddiriedolwyr fuddsoddi ynddo
- bod unrhyw fudd preifat a ddaw o'r BCRh yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen
- ni fydd unrhyw fudd preifat yn ormodol ac mae'r buddsoddiad yn amlwg ar gyfer budd y cyhoedd.
Os oes posibilrwydd y bydd y cwmni yn cael budd economaidd sylweddol, dylai'r ymddiriedolwyr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr elusen yn elwa o'r budd hwnnw. Fel arall, ni allent ddangos bod unrhyw fudd preifat yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen. Dylai fod mesurau diogelu digonol ar waith i sicrhau nad yw unrhyw fudd preifat annerbyniol yn codi. I gael rhagor o wybodaeth gweler Seiliau Cyfreithiol: Elusennau a materion buddsoddi (adran 5).
|
Enghraifft
Buddsoddiad ecwiti mewn sefydliad masnachol
Efallai fod elusen a sefydlwyd i helpu pobl ag anableddau i gael hyd i gyflogaeth yn awyddus brynu cyfranddaliadau newydd eu cyhoeddi mewn sefydliad masnachol sy'n cael ei redeg gan bobl anabl ac yn eu cyflogi. Bydd llwyddiant y cwmni yn cynnig buddion i'r cyfranddalwyr. Po fwyaf llwyddiannus yw'r cwmni, y mwyaf o bobl ifanc gaiff eu cyflogi a'u hyfforddi.
Pwyntiau i'w hystyried
- Y cwestiwn allweddol yma yw'r gyfatebiaeth rhwng nodau'r elusen a gweithgareddau cyffredinol y sefydliad anelusennol. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau wrth ddarparu benthyciadau cyffredinol neu brynu cyfranddaliadau mewn sefydliad masnachol, bod gweithgareddau cyffredinol y sefydliad masnachol yn hyrwyddo nodau'r elusen yn uniongyrchol.
- Dylai ymddiriedolwyr ystyried yn ofalus ar y cychwyn sut y byddent yn rheoli sefyllfa lle mae'r sefydliad masnachol yn newid ei weithgareddau neu bolisi cyflogaeth. Yn arbennig, dylent sicrhau y byddent yn gallu gadael y BCRh mewn amgylchiadau o'r fath.
- Byddai'n rhaid i ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod y buddion preifat (gan gynnwys i'r cyfranddalwyr) yn dderbyniol.
|
|
Enghraifft
Benthyciad i sefydliad masnachol ar gyfer nod penodol.
Mae sefydliad masnachol sy'n darparu hyfforddiant galwedigaethol yn gwneud cais am fenthyciad i'w alluogi i ddarparu cyfleusterau hyfforddi i'r di-waith mewn ardal ddifreintiedig. Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn cynnig modd i'r cwmni hyfforddi hanner cant o bobl ddi-waith leol bob blwyddyn o dan gontract gyda'r awdurdod lleol.
Mae elusen leol a sefydlwyd i leddfu diweithdra yn ystyried gwneud y benthyciad ar y sail ei fod yn hyrwyddo ei nodau elusennol. Mae'r contract a gynigir gan yr awdurdod lleol yn cynnig modd i'r sefydliad masnachol dalu costau a gwneud elw bach. Fodd bynnag, nid yw'r maint yn ddigonol i gefnogi benthyciad ar gyfraddau'r farchnad.
Mae angen y benthyciad hwn ar y sefydliad masnachol i ddatblygu a darparu adnoddau ar gyfer adeilad hyfforddi. Ni allai weithredu yn yr ardal ddifreintiedig heb fenthyciad yr elusen sy'n cael ei gynnig ar gyfraddau is na chyfraddau'r farchnad. Gallai benthyciad yr elusen wneud cyfraniadau anuniongyrchol i broffidioldeb y cwmni oherwydd gallai, er enghraifft, ennill mwy o gontractau o'r fath gyda meintiau mwy.
Pwyntiau i'w hystyried
- Mae'r math hwn o dystiolaeth o fethiant y farchnad i gyflenwi cyflogaeth, nwyddau neu wasanaethau i bobl ddifreintiedig yn sail weithiau dros gyfiawnhau BCRh mewn sefydliadau anelusennol.
- Mae dyletswydd ar ymddiriedolwyr i ddefnyddio eu hasedau elusennol i hyrwyddo nodau'r elusen. Dylai'r benthyciad gael ei wneud ar y sail y caiff ei ddefnyddio gan y sefydliadau masnachol dim ond i ymgymryd â gweithgaredd a fydd yn hyrwyddo nodau'r elusen yn uniongyrchol. Ni ellid defnyddio'r benthyciad i gyllido unrhyw weithgaredd arall. Byddai'n rhaid i'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod unrhyw fudd preifat yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen.
- Dylai'r telerau y cytunir arnynt ganiatáu i'r benthyciad gael ei ad-dalu'n llawn pe byddai'r sefydliad masnachol yn peidio â chyflawni'r gweithgareddau penodol hynny.
|
G10. All elusen fuddsoddi mewn cyfryngwyr a thrwy gyfryngwyr?
Yr ateb byr
Gall. Os yw ymddiriedolwyr yn buddsoddi mewn cyfryngwyr a thrwy gyfryngwyr, dylent sicrhau fod:
- cronfeydd yr elusen yn cael eu defnyddio i hyrwyddo nodau datganedig yr elusen yn unig
- unrhyw fudd preifat a ddaw o'r buddsoddiad yn dderbyniol
Yn fwy manwl
Mae rhai elusennau a sefydliadau anelusennol yn arbenigo mewn BCRh ac yn gweithredu fel cyfryngwyr. Maent yn cyllido, neu'n hwyluso cyllido elusennau eraill a busnesau anelusennol. Gall yr ymagwedd hon:
- leihau costau trafodion sy'n gysylltiedig â benthyciadau neu brynu ecwiti
- darparu arbenigedd weithiau wrth asesu a rheoli'r risgiau ariannol sy'n gysylltiedig â'r prosiectau y maent yn eu cefnogi
- darparu gwybodaeth am y cymunedau a'r marchnadoedd y maent yn buddsoddi ynddynt a lliniaru'r risg
- caniatáu i elusennau gronni risg ar draws nifer fawr o fuddsoddiadau gan felly lleihau'r risg
- gwneud hi'n haws i elusennau adennill eu buddsoddiadau.
|
Enghreifftiau
1. Prynu cyfranddaliadau mewn cronfa fuddsoddi
Gallai elusen sy'n ceisio gwarchod yr amgylchedd drwy gefnogi datblygiad ffynonellau ynni adnewyddadwy fuddsoddi mewn cronfa fenthyciad a sefydlwyd i gyllido technolegau gwyrdd newydd. Gall y gronfa wneud benthyciadau'n barhaus, felly bydd y buddsoddiad gan yr elusen yn cael effaith sylweddol ar nifer y technolegau gwyrdd newydd sy'n cael eu cefnogi.
Pwyntiau i'w hystyried
- Gall y BCRh gael ei wneud dim ond ar y sail y caiff ei ddefnyddio i ymgymryd â gweithgaredd a fydd yn hyrwyddo nodau'r elusen yn uniongyrchol.
- Mae'n rhaid i'r budd preifat a ddaw i'r rhai sy'n cael y cyllid dechrau busnes gael ei ystyried yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen yn yr achos hwnnw.
2. Buddsoddi mewn Bond Effaith Gymdeithasol
Fel arfer mae Bond Effaith Gymdeithasol yn disgrifio contract rhwng corff sector cyhoeddus a buddsoddwyr lle mae'r cyntaf yn ymrwymo i dalu am ganlyniad cymdeithasol gwell. Defnyddir cronfeydd buddsoddwyr i dalu am amryw o ymyriadau i wella'r canlyniad cymdeithasol.
Gallai elusen sy'n gweithio i helpu'r di-waith i ddychwelyd i'r gwaith fuddsoddi mewn bond effaith gymdeithasol sy'n cyllido prosiect neu brosiectau amrywiol sy'n ceisio gwella cyfle unigolyn i ddod o hyd i waith. Gallai fod yn fuddsoddiad uniongyrchol yn y prosiect neu gael ei reoli drwy gyfryngwr. Ar ôl cwblhau'r prosiect, os yw'r targedau a nodwyd wedi cael eu bodloni, bydd yr elusen yn adennill ei buddsoddiad ac yn cael enillion. (Gall rhai elusennau ddewis gwneud y math hwn o fuddsoddiad fel buddsoddiad ariannol).
Pwyntiau i'w hystyried
- gall BCRh gael ei wneud dim ond ar y sail y caiff ei ddefnyddio i ymgymryd â gweithgareddau sy'n ceisio helpu'r di-waith i ddychwelyd i'r gwaith.
- rhaid i unrhyw fudd preifat gael ei ystyried yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen yn yr achos hwnnw.
|
G11. All elusennau ddefnyddio eu gwaddol parhaol i wneud BCRh?
Yr ateb byr
Yn gyffredinol, mae gwaddol parhaol yn cynnwys cronfeydd sy'n cael eu dal ar ymddiriedolaeth i'w buddsoddi i ddarparu incwm ariannol y gellir ei wario ar hyrwyddo nodau'r elusen. Fel arfer ni fydd yn caniatáu defnyddio cronfeydd gwaddol parhaol ar gyfer BCRh.
Yn fwy manwl
Gallai elusen ddefnyddio ei gwaddol parhaol ar gyfer BCRh drwy:
Defnyddio'r incwm
Gall elusen ddefnyddio rhan neu'r cyfan o'r incwm o'r gwaddol parhaol i wneud BCRh.
Ei gyfiawnhau fel buddsoddiad ariannol
Yn achos BCRh nid yr enillion ariannol yw'r prif reswm dros wneud y buddsoddiad. Gall ymddiriedolwyr ddefnyddio'r gwaddol parhaol sy'n cael ei ddal ar ymddiriedolaeth ar gyfer buddsoddiad ariannol os yw'r proffil risg a'r enillion ariannol a geisir yn golygu y gellir ei gyfiawnhau fel buddsoddiad.
Gall ymddiriedolwyr ystyried ystyriaethau buddsoddi moesegol neu wneud buddsoddiad cysylltiedig â chenhadaeth wrth fuddsoddi gwaddol parhaol.
Weithiau gellir cyfiawnhau buddsoddiad sy'n cynhyrchu llai nag enillion y farchnad oherwydd y graddau y mae'r buddsoddiad yn hyrwyddo nodau'r elusen. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid dangos bod y graddau y mae nodau'r elusen yn cael eu hyrwyddo yn cyfateb yn fras â'r lleihad yn yr incwm. Mae hwn yn un fath o fuddsoddiad cymhelliad cymysg (gweler adran Ng).
Mabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion
Gall ymddiriedolwyr sy'n rheoli gwaddol parhaol ystyried mabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion. Mae hyn yn golygu bod modd dyrannu rhan o'r twf cyfalaf ar y gwaddol i'w cronfa incwm a'i wario ar nodau'r elusen. Gellir gwario hyn ar y BCRh. Fodd bynnag, bydd rhaid i elusen sydd â gwaddol parhaol ac sydd am fabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddiad gysylltu â'r Comisiwn Elusennau i gael ei ganiatâd ymlaen llaw.
Dileu cyfyngiadau ar waddol parhaol
Efallai y bydd ymddiriedolwyr yn gallu dileu'r cyfyngiadau o rai neu'r holl waddolion parhaol sydd gan yr elusen. Gallant wneud hyn os ydynt yn penderfynu y bydd yn caniatáu iddynt gyflawni nodau'r elusen yn fwy effeithiol.
Bydd rhaid i'r ymddiriedolwyr basio penderfyniad ffurfiol sy'n datgan y dylai'r cyfyngiadau ar y gwaddol parhaol gael eu dileu o'r cyfan neu ran o'r gronfa dan sylw. Os yw gwerth y farchnad y gwaddol parhaol dros £10,000, bydd angen ein cymeradwyaeth ni hefyd. Byddai hynny'n golygu bod modd i'r ymddiriedolwyr ddefnyddio'r cyfalaf mewn unrhyw gynllun BCRh sy'n hyrwyddo nodau'r elusen dan sylw.
Mae rhagor o wybodaeth am waddol parhaol i'w gweld yn y canllaw Gwaddol Parhaol: Beth ydyw a phryd ellir ei ddefnyddio?
G12. Sut dylai BCRh gael ei gofnodi yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon blynyddol elusen?
Os oes rhaid i ymddiriedolwyr baratoi adroddiad blynyddol a chael archwiliad statudol, mae'n rhaid i'r adroddiad gynnwys esboniad o bolisi'r elusen dros wneud BCRh a sut y mae unrhyw BCRh sylweddol wedi perfformio yn erbyn yr amcanion a osodwyd iddo.
Yn y cyfrifon blynyddol, mae'n rhaid i'r fantolen ddangos buddsoddiadau sy'n cael eu dal yn bennaf i ddarparu enillion ariannol ar gyfer yr elusen (buddsoddiadau ariannol) a'r BCRh ar wahân. Yn gyffredinol dylai BCRh gael ei gynnwys am y swm a fuddsoddwyd llai unrhyw amhariad ac, yn achos benthyciadau, unrhyw symiau a ad-dalwyd. Dylai amhariadau gael eu codi fel traul ar weithgareddau elusennol yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol. Os yw enillion yn cael eu gwneud ar waredu BCRh dylid naill ai ei wrthbwyso yn erbyn unrhyw golled amhariad flaenorol neu ei gynnwys fel enillion ar waredu asedau sefydlog at ddefnydd yr elusen ei hun a'i gofnodi o dan 'adnoddau gweithredu eraill' yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau, SORP 2005.
G13. Sut gall elusen roi cyfrif am BCRh nad yw'n bodloni nodau'r elusen mwyach?
Os nad yw BCRh yn hyrwyddo nodau'r elusen mwyach neu os yw cymhelliad yr ymddiriedolwyr dros ddal y buddsoddiad wedi newid ac erbyn hyn mae'n cael ei ddal yn bennaf i wneud enillion ariannol, bydd rhaid ailddosbarthu'r buddsoddiad fel buddsoddiad ariannol ar fantolen yr elusen.
Un o nodweddion allweddol BCRh yw y disgwylir iddo gael ei ad-dalu a/neu gynhyrchu enillion ariannol i'r elusen, ond prif nod BCRh yw hyrwyddo nodau'r elusen. Felly mae BCRh yn ased ond yn un a all, fel unrhyw ased arall, leihau mewn gwerth. Os nad yw'r BCRh yn werth ei bris ar y fantolen mwyach, dylid ei gynnwys am swm adferadwy. Fel arall, ar yr amod bod nodau'r elusen yn parhau i gael eu hyrwyddo gan y buddsoddiad, gall yr elusen ddewis droi'r BCRh yn grant.
G14. Sut dylai ymddiriedolwyr fonitro ac adolygu BCRh?
Bydd rhaid i ymddiriedolwyr adolygu BCRh eu helusen yn rheolaidd. Bydd yr ymagwedd at yr adolygiad hwn, ac amlder adolygu yn dibynnu ar natur a maint BCRh yr elusen a'i hangen am adnoddau a allai newid dros gyfnod o amser. Bydd rhaid i ymddiriedolwyr ystyried:
- y defnydd y mae'r derbynnydd yn ei wneud o'r adnoddau y mae'r elusen wedi'u darparu er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio i hyrwyddo nodau'r elusen
- dulliau newydd o gofnodi effaith neu 'enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad' i fesur, rheoli a chyfleu sut mae'r BCRh yn hyrwyddo nodau'r elusen
- pa mor debygol yw cael ad-daliad a/neu enillion ar y BCRh. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y math o BCRh. Er enghraifft, yn achos benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti gallai hyn gynnwys adroddiadau parhaus ar gynnydd y prosiectau gydag asesiad rheolaidd o'r rhagolygon o adennill y benthyciad a chael enillion ariannol. Dylai'r telerau perthnasol gael eu cynnwys mewn unrhyw gytundeb cyllido.
G15. Beth yw goblygiadau treth BCRh?
Gall fod goblygiadau treth i BCRh yn dibynnu ar strwythur y buddsoddiad a'r ffordd y caiff unrhyw enillion eu trethu - dylai elusennau fod yn ymwybodol o hyn a cheisio cyngor pan fydd yn briodol. Ar yr amod bod elusennau'n defnyddio'r incwm a'r enillion sy'n codi o BCRh mewn modd elusennol, fel rheol byddant wedi'u heithrio rhag talu treth y DU.
Mae elusennau mewn perygl o golli eu hawl i gael eu heithrio rhag talu treth os yw gwariant anelusennol yn codi. Gall hyn gynnwys gwneud buddsoddiadau neu fenthyciadau sydd heb fod yn fuddsoddiadau neu'n fenthyciadau 'elusennol cymeradwy'. Mae rhai categorïau o fenthyciadau a buddsoddiadau yn cael eu trin yn awtomatig fel benthyciadau a buddsoddiadau 'elusennol cymeradwy'. Bydd HMRC yn ystyried ceisiadau i fenthyciadau a buddsoddiadau eraill gael eu trin fel rhai 'elusennol cymeradwy' ar yr amod y cânt eu gwneud er budd yr elusen ac nid er mwyn osgoi talu treth. Fel rheol bydd HMRC yn derbyn ceisiadau i BCRh gael eu trin fel 'buddsoddiadau elusennol cymeradwy'.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan HMRC Elusennau
Ng. Buddsoddiadau cymhelliad cymysg
Mae'r adrannau blaenorol wedi canolbwyntio ar ddau wahanol fath o fuddsoddiad - buddsoddiadau ariannol a buddsoddiadau cysylltiedig â rhaglen. Fodd bynnag, ni fydd rhai cyfleoedd buddsoddi newydd a datblygol wedi'u cynnwys yn gyfan gwbl o fewn un o'r categorïau hyn, ond gellir eu cyfiawnhau serch hynny fel rhai sydd er lles yr elusen. Cyfeiriwn at y rhain fel buddsoddiadau cymhelliad cymysg.
Cydnabyddwn y gallai'r ymagwedd newydd hon at fuddsoddi fod yn ffordd briodol i rai elusennau ymateb i'r amgylchedd newidiol y maent yn gweithio ynddo. Mae'r fframwaith arferion cyfreithiol ac arfer da sylfaenol hwn yn ceisio helpu elusennau i ystyried a allai buddsoddiadau cymhelliad cymysg fod yn ddewis iddyn nhw a disgrifio'r penderfyniadau sy'n rhaid eu gwneud.
Ng1. Beth yw buddsoddiad cymhelliad cymysg?
Yr ateb byr
Mae buddsoddiad cymhelliad cymysg yn un y bydd ymddiriedolwyr yn ei wneud ar y sail bod ynddi elfennau o fuddsoddiad ariannol a buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen. Ni ellir cyfiawnhau'r buddsoddiad yn gyfan gwbl fel y naill neu'r llall.
Yn fwy manwl
Yn gyffredinol, mae'n rhaid i ymddiriedolwyr allu dangos bod y buddsoddiadau a wnânt er lles gorau'r elusen. Gwnânt hyn drwy eu cyfiawnhau fel naill ai:
- buddsoddiad ariannol - gan geisio'r enillion ariannol gorau yn wyneb lefel y risg yr ystyrir ei bod yn briodol; neu
- fuddsoddiad cysylltiedig â rhaglen (BCRh) - hyrwyddo nodau'r elusen yn uniongyrchol mewn modd a allai gynhyrchu enillion ariannol.
Mae gofynion cyfreithiol ar wahân yn gymwys i'r ddau.
Fodd bynnag, weithiau bydd ymddiriedolwyr am fuddsoddi mewn ffordd sydd er lles eu helusen yn eu barn nhw, ond nid yw wedi'i chyfiawnhau'n gyfan gwbl ar un o'r seiliau hyn yn unig. Yn y sefyllfa hon, efallai y gallant gyfiawnhau'r buddsoddiad fel buddsoddiad cymhelliad cymysg os ydynt yn fodlon â'r canlynol:
- gellir cyfiawnhau'r buddsoddiadau oherwydd natur ddeuol yr enillion - rhannol ariannol a rhannol wedi'i gyfiawnhau gan gyfraniad y buddsoddiad at nodau'r elusen; ac
- nid oes unrhyw reswm arall dros wneud y buddsoddiad, gan gynnwys:
- creu budd preifat diawdurdod i rai neu bob un o'r ymddiriedolwyr neu'r bobl sy'n gysylltiedig â nhw; a
- chreu buddion preifat annerbyniol i unigolion eraill.
Mae buddsoddiadau cymhelliad cymysg yn faes sy'n datblygu, felly mae'n bosib y bydd angen ceisio cyngor proffesiynol ar gynigion penodol.
Ng2. Pam byddai elusen am wneud buddsoddiad cymhelliad cymysg?
Os nad oes modd cyfiawnhau buddsoddiad yn gyfan gwbl naill ai fel buddsoddiad ariannol neu BCRh, ond mae'r ymddiriedolwyr yn parhau i deimlo ei fod yn debygol o fod er lles gorau'r elusen, efallai y bydd modd ei gyfiawnhau fel buddsoddiad cymhelliad cymysg. Fodd bynnag, dylai ymddiriedolwyr gofio:
- dylent fodloni eu hunain cyn gweithredu bod modd cyfiawnhau'r buddsoddiad cymhelliad cymysg drwy gyfuno'r enillion ariannol disgwyliedig a'r cyfraniad y bydd y gweithgareddau sy'n cael eu cyllido yn eu gwneud i nodau'r elusen; ac
- mae'n rhaid i unrhyw fudd preifat a ddaw o'r buddsoddiad fod yn briodol.
Weithiau gall is-gwmni masnachu gael ei sefydlu i hyrwyddo nodau'r elusen a chynhyrchu enillion ariannol. Mae'n bwysig bod ymddiriedolwyr yn gallu cyfiawnhau'r buddsoddiad naill ai ar sail yr enillion ariannol neu'r graddau y mae'n hyrwyddo ei nodau. Pan fydd is-gwmni masnachu yn gwneud y ddau beth, mae'n fuddsoddiad cymhelliad cymysg a bydd y meini prawf yn yr adran hon yn gymwys hefyd.
Yn achos elusennau sydd â gwaddol parhaol, weithiau gellir cyfiawnhau buddsoddiad sy'n cynhyrchu llai nag enillion y farchnad oherwydd y raddfa y mae'r buddsoddiad yn hyrwyddo nodau'r elusen. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid dangos bod y graddau y mae nodau'r elusen yn cael eu hyrwyddo yn cyfateb yn fras â'r lleihad yn yr incwm.
Ng3. Beth ddylai'r ymddiriedolwyr ei ystyried wrth wneud buddsoddiad cymhelliad cymysg (BCC)?
Yr ateb byr
Dylent ystyried yn ofalus eu rhesymau dros gyfiawnhau'r buddsoddiad cymhelliad cymysg cyn ei wneud a bodloni eu hunain ei fod er lles gorau'r elusen. Hefyd dylai gadw cofnod o'r penderfyniad a'r rheswm drosto.
Yn fwy manwl
Dylai elusen ofyn y cwestiynau canlynol wrth ystyried gwneud buddsoddiad cymhelliad cymysg:
- Fyddwn ni'n ystyried i ba raddau y mae'r buddsoddiad cymhelliad cymysg yn cefnogi ein nodau elusennol neu'r agwedd ar fuddsoddiad ariannol yn gyntaf? Gallai'r ddau fod yn ddulliau priodol o ystyried buddsoddiad cymhelliad cymysg (gweler Seiliau Cyfreithiol: Elusennau a materion buddsoddi (adran 6)).
- Ydym ni'n gwybod faint o'n buddsoddiad y gellid ei gyfiawnhau gan gyfraniad y BCRh at ein nodau a faint y gellid ei gyfiawnhau gan yr enillion ariannol? Mae'n bosib na fydd yn hawdd meintioli hyn, ond gallai geisio gwneud hynny fod yn ymarfer dadansoddol defnyddiol i gyfiawnhau'r buddsoddiad cymhelliad cymysg cyn iddo gael ei wneud.
- Sut ydym ni'n cynnig monitro'r buddsoddiad cymhelliad cymysg?
- Ydym ni'n fodlon bod modd i'r buddsoddiad cymhelliad cymysg, o'i gymryd fel un buddsoddiad, gael ei gyfiawnhau fel un sydd er lles yr elusen?
- Fydd y buddsoddiad hwn yn addas ar gyfer ein helusen o ystyried ei gweithgareddau a'i sefyllfa ariannol gyfan? Dylai hyn gynnwys ystyried maint y buddsoddiad cymhelliad cymysg mewn perthynas â phortffolio buddsoddi cyffredinol ein helusen, ac ymagwedd ein helusen at risg.
- Ydym ni wedi cymhwyso'r meini prawf gwneud penderfyniadau i'r buddsoddiad ariannol a'r BCRh?
- Ydym ni wedi ystyried a yw unrhyw fudd preifat sy'n codi o'r buddsoddiad cymhelliad cymysg yn dderbyniol yn wyneb y cyfraniad y mae'r gweithgareddau a gyllidwyd yn ei wneud at nodau'r elusen (gweler adran G8)?
- Ydym ni wedi ystyried y risg o adnoddau'r elusen yn cael eu defnyddio at ddibenion sy'n anghyson â statws elusennol a'r gyfraith ar fuddsoddi cronfeydd elusennol?
- Oes rhaid i ni geisio cyngor proffesiynol ar y buddsoddiad arfaethedig? Efallai y bydd angen ceisio cyngor ar y canlynol:
- sut mae'n cyd-fynd â chynllun busnes cyffredinol yr elusen
- a yw'r buddsoddiad yn cyfrannu at nodau'r elusen
- y materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad arfaethedig cyfan
- unrhyw oblygiadau treth i'r elusen
Ng4. Pryd na fydd buddsoddiad cymhelliad cymysg wedi'i gyfiawnhau?
Nid yw buddsoddiad cymhelliad cymysg wedi'i gyfiawnhau:
- os yw'n cael ei wneud at ddibenion heblaw hyrwyddo nodau'r elusen a sicrhau enillion ariannol
- os bydd un neu ragor o'r ymddiriedolwyr (neu bobl sy'n gysylltiedig â nhw) yn cael budd preifat diawdurdod
- os nad yw lefel y budd preifat i unigolion eraill yn briodol
- nid yw'r risgiau yn cyfiawnhau lefel yr adnoddau sydd i'w buddsoddi.
Ng5. Sut dylai ein helusen fonitro buddsoddiad cymhelliad cymysg?
Dylai buddsoddiad cymhelliad cymysg gael ei fonitro fel buddsoddiad ariannol ac fel un sy'n hyrwyddo nodau'r elusen ac mae meini prawf gwahanol yn gymwys i bob un. Yn ogystal, mae'n rhaid i'r elusen gofio y gall y cydbwysedd rhwng y ddwy elfen newid.
Dylai ymddiriedolwyr fonitro ac adolygu:
- i ba raddau y mae adnodau eu helusen yn cael eu defnyddio i hyrwyddo ei nodau. Gall fod yn ddefnyddiol i'r ymddiriedolwyr ystyried a chymhwyso dulliau newydd o gofnodi effaith neu'r enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad er mwyn mesur, rheoli a chyfleu sut y mae'r buddsoddiad yn hyrwyddo nodau'r elusen
- yr enillion ariannol disgwyliedig ar y buddsoddiad ac a yw'n parhau i fod yn un addas ar gyfer eu helusen.
Ng6. Beth sy'n digwydd os yw buddsoddiad cymhelliad cymysg yn methu?
Os yw gwerth buddsoddiad yn gostwng neu nid oes modd ei adennill bydd colled ariannol. Fodd bynnag, ar yr amod bod yr ymddiriedolwyr wedi gwneud a chofnodi eu penderfyniadau'n briodol, maent yn debygol o allu mynd i'r afael â chwestiynau neu heriau am eu gweithredoedd.
Ng7. Sut dylai buddsoddiadau cymhelliad cymysg gael eu trin yng nghyfrifon blynyddol elusen ac adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr?
Yr ateb byr
Ar hyn o bryd nid yw'r SORP Elusennau yn ystyried yn uniongyrchol dulliau cyfrifyddu ar gyfer datblygiadau diweddar yn y gwahanol fathau o fuddsoddiadau cymhelliad cymysg.
Yn fwy manwl
Os yw buddsoddiadau cymhelliad cymysg yn sylweddol, dylai'r ymddiriedolwyr ystyried eu datgelu ar wahân yn y fantolen neu yn y nodiadau buddsoddi ar y cyfrifon. Dylai'r ymddiriedolwyr esbonio eu polisi buddsoddi o ran asedau o'r fath yn eu hadroddiad blynyddol ac asesu eu perfformiad.
Ar yr amod bod y buddsoddiad yn ceisio enillion ariannol, dylai ymddiriedolwyr ystyried a yw ymagweddau gwerth teg neu gost trafodion yn briodol i'w cyfrifon diwedd blwyddyn ar gyfer asedau o'r fath. Mae hwn yn faes sy'n datblygu, felly rhagwelwn y bydd materion cyfrifyddu yn cael eu hystyried ymhellach wrth i arferion ddatblygu.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifon ar gyfer buddsoddiadau, gweler Cyfrifon ac Adroddiadau Elusennau, SORP 2005.
H. Ffynonellau gwybodaeth bellach
Mae'r Comisiwn Elusennau yn cynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau a chanllawiau gwe sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i ymddiriedolwyr elusen a'r cyhoedd ar nifer o faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith elusennau, rheoliadau ac arferion da. Mae'r rhestr lawn i'w gweld ar ein gwefan www.comisiwnelusennau.gov.uk.
Rydym hefyd wedi rhestru yma rhai sefydliadau a chyhoeddiadau eraill y gellir eu defnyddio fel ffynonellau gwybodaeth.
H1. Canllawiau'r Comisiwn Elusennau
Mae'r rhestr o'n cyhoeddiadau a chanllawiau ar-lein isod yn ddetholiad yn seiliedig ar rai o'r materion a nodwyd yn y canllaw hwn.
H2. Sefydliadau ac adnoddau defnyddiol eraill
CAF Charities Aid Foundation
Mae Charities Aid Foundation yn elusen gofrestredig sy'n gweithio i greu mwy o werth i elusennau a menter gymdeithasol. Gwna hyn drwy drawsnewid y ffordd y mae rhoddion yn cael eu gwneud a'r ffordd y mae cronfeydd elusennol yn cael eu rheoli.
CAF (Charities Aid Foundation) 25 Kings Hill Avenue Kings Hill West Malling Caint ME19 4TA
Ffôn: 03000 123 000 E-bost: enquiries@cafonline.org Cyfeiriad gwe: www.cafonline.org/
Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO)
NCVO yw'r elusen genedlaethol sy'n rhoi cymorth ac ystod eang o wybodaeth i fudiadau gwirfoddol a chymunedol. Mae ei wefan yn cynnig cyngor ar faterion amrywiol sy'n gysylltiedig â rheoli risg yn y trydydd sector.
NCVO Regent's Wharf 8 All Saints Street Llundain N1 9RL
Ffôn: 020 7713 6161 E-bost: ncvo@askncvo.org.uk Gwefan: www.ncvo-vol.org.uk/
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
Mae gwefan HMRC yn cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o faterion sydd o ddiddordeb i elusennau gan gynnwys Cymorth Rhodd, Rhoi Trwy'r Gyflogres, gostyngiadau treth a TAW.
Cyllid a Thollau EM Elusennau St Johns House Merton Road Lerpwl L75 1BB
Llinell gymorth elusennau: 0845 302 0203 E-bost: charities@hmrc.gov.uk Cyfeiriad gwe: www.hmrc.gov.uk/index.htm
The Charity Finance Directors' Group (CFDG)
Sefydliad aelodaeth yw hwn sy'n helpu elusennau i reoli eu cyfrifon, eu materion treth, eu harchwiliadau a swyddogaethau cyllid cysylltiedig eraill.
CFDG CAN Mezzanine 49-51 East Road Llundain N1 6AH
Ffôn: 0845 345 3192 Ffacs: 0845 345 3193 E-bost: info@cfdg.org.uk Cyfeiriad gwe: www.cfdg.org.uk/
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Mae'r rheoleiddiwr yn gweithio i wella hyder mewn pensiynau seiliedig ar waith drwy ddiogelu buddion aelodau a hyrwyddo safonau uchel ac arferion da yn y gwaith o redeg cynlluniau pensiwn.
Y Rheoleiddiwr Pensiynau Napier House Trafalgar Place Brighton BN1 4DW
Ffôn: 01273 811800 E-bost: customersupport@thepensionsregulator.gov.uk Cyfeiriad gwe: www.thepensionsregulator.gov.uk/
Tŷ'r Cwmnïau
Prif swyddogaethau Tŷ'r Cwmnïau yw:
- corffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig
- archwilio a storio gwybodaeth am gwmnïau a ddarparwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 a deddfwriaeth gysylltiedig
- rhoi'r wybodaeth hon i'r cyhoedd
Tŷ'r Cwmnïau Ffordd y Goron Maindy Caerdydd CF14 3UZ
Ffôn: 0303 1234 500 E-bost: enquiries@companies-housegov.uk Cyfeiriad gwe: www.companieshouse.gov.uk/
UKSIF UK Social Investment Forum
Mae UKSIF yn hyrwyddo buddsoddiadau cyfrifol a mathau eraill o gyllid sy'n cefnogi datblygiad economaidd cynaliadwy, gwella ansawdd bywyd a gwarchod yr amgylchedd. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod buddsoddwyr sefydliadol ac unigol yn gallu adlewyrchu eu gwerthoedd yn eu buddsoddiadau.
UKSIF Holywell Centre 1 Phipp Street Llundain EC2A 4PS
Ffôn: +44 (0) 20 7749 9950 E-bost: info@uksif.org Gwefan: www.uksif.org/
Atodiad 1: Termau a diffiniadau
Mae'r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy'r canllaw hwn, a dylid ystyried bod ganddynt yr ystyron penodol a nodir isod.
Budd cyhoeddus yw'r gofyniad cyfreithiol sy'n datgan bod rhaid i bob sefydliad a ffurfiwyd ar gyfer un neu ragor o nodau elusennol allu dangos bod ei nodau er budd y cyhoedd er mwyn iddo gael ei gydnabod a'i gofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr.
Budd(ion) preifat: Yn y canllaw hwn mae budd preifat yn golygu unrhyw fudd y mae unigolyn neu sefydliad yn ei gael heblaw fel buddiolwr elusen. Felly, nid yw'n cynnwys y mathau o fuddion personol y gallai pobl eu cael fel buddiolwr, megis cael addysg, neu driniaeth feddygol, neu grant elusennol er enghraifft.
Buddsoddi: Yn y canllaw hwn defnyddiwn y term buddsoddi yn ei ystyr ehangaf. Mae buddsoddi yn golygu defnyddio asedau yn y ffordd orau bosibl er lles yr elusen mewn modd a allai gynhyrchu enillion.
Buddsoddi moesegol yw dull o wneud buddsoddiadau ariannol sy'n ystyried gwerthoedd ac ethos yr elusen. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddefnyddio eu pŵer buddsoddi er lles gorau'r elusen.
Buddsoddiad cymdeithasol yw'r term a ddefnyddir yn gyffredinol wrth fuddsoddi i gyflawni diben cymdeithasol a hefyd enillion ariannol. Nid oes unrhyw ddiffiniad manwl o fuddsoddiad cymdeithasol ac fe'i ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol. Mae sawl ffordd y gall elusen fuddsoddi i gael enillion cymdeithasol, elusennol ac ariannol a nodir y rhain yn y canllaw hwn.
Buddsoddiad cymhelliad cymysg yw buddsoddiad y gall yr ymddiriedolwyr gyfiawnhau eu bod yn ei wneud ar y sail ei fod yn cyfuno enillion ariannol yn ogystal â chyfrannu at hyrwyddo nodau eu helusen.
Buddsoddiad cysylltiedig â chenhadaeth yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio dull o wneud buddsoddiadau ariannol sydd hefyd yn helpu'r elusen i gyflawni ei nodau yn uniongyrchol. Mae'n rhaid i ymddiriedolwyr ddefnyddio eu pŵer buddsoddi er lles gorau'r elusen.
Buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen (BCRh), a elwir yn fuddsoddiad cymdeithasol weithiau, yw buddsoddiad y mae elusen yn ei wneud i hyrwyddo ei nodau'n gyfan gwbl gyda'r posibilrwydd o gael enillion ariannol. Mae gwahanol reolau yn gymwys ar gyfer BCRh a buddsoddiadau ariannol.
Ceidwad yw rhywun sydd, ar ran yr elusen, yn gofalu am unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth arall o deitl cyfreithiol i fuddsoddiadau - er enghraifft, tystysgrifau cyfranddaliadau a gweithredoedd teitl i dir. Gall ceidwad hefyd ddarparu gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â buddsoddi, megis delio â cheisiadau am ad-daliadau treth sy'n ddyledus mewn perthynas ag incwm buddsoddi. Weithiau mae'r term 'ceidwad' yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at rywun sy'n enwebai ac yn geidwad. Nid oes gan geidwaid unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau rheoli ac mae'n rhaid iddynt weithredu yn ôl cyfarwyddiadau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr.
Cronfeydd anghyfyngedig (gan gynnwys cronfeydd dynodedig) yw incwm neu gronfeydd y gellir eu gwario yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr er mwyn hyrwyddo unrhyw un o nodau'r elusen. Os yw rhan o gronfa incwm anghyfyngedig wedi'i chlustnodi ar gyfer prosiect arbennig gall gael ei dynodi fel cronfa ar wahân, ond mae gan y dynodiad ddiben gweinyddol yn unig, ac nid yw'n cyfyngu'n gyfreithiol ar ddisgresiwn yr ymddiriedolwyr i wario'r gronfa.
Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sy'n amodol ar ymddiriedolaethau penodol sydd wedi'u cynnwys o fewn dibenion ehangach yr elusen. Gall cronfeydd cyfyngedig fod yn gronfeydd incwm cyfyngedig, sy'n cael eu gwario yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr er mwyn hyrwyddo rhyw agwedd(au) arbennig ar ddibenion yr elusen, neu gallant fod yn gronfeydd gwaddol, lle mae gofyn i'r asedau gael eu buddsoddi neu eu cadw i'w defnyddio'n benodol (er enghraifft, adeilad) yn hytrach na'u gwario.
Cronfeydd gwaddol yw eiddo'r elusen (gan gynnwys tir, adeiladau, arian parod neu fuddsoddiadau) y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r ymddiriedolwyr ei fuddsoddi neu ei gadw a'i ddefnyddio ar gyfer nodau'r elusen. Gall gwaddol fod yn wariadwy neu'n barhaol.
- Gwaddol gwariadwy yw'r eiddo a all gael ei fuddsoddi i gynhyrchu incwm. Yn dibynnu ar yr amodau sy'n gysylltiedig â'r gwaddol a natur y gwaddol, bydd pŵer gan yr ymddiriedolwyr i droi'r cyfan neu ran ohono yn gronfa incwm y gellir ei gwario.
- Gwaddol parhaol yw eiddo'r elusen nad oes modd i'r ymddiriedolwyr ei wario fel incwm. Mae'n rhaid iddo gael ei ddal yn barhaol, weithiau i'w ddefnyddio i hyrwyddo nodau'r elusen, weithiau i gynhyrchu incwm i'r elusen. Fel rheol ni all ymddiriedolwyr wario gwaddol parhaol heb awdurdod y Comisiwn Elusennau. Gall telerau'r gwaddol ganiatáu i asedau o fewn y gronfa gael eu gwerthu a'u hail-fuddsoddi, neu gallant ddarparu bod rhai neu'r holl asedau yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol (er enghraifft, ar ffurf adeilad arbennig).
Cronfeydd wrth gefn yw'r adnoddau sydd gan elusen, neu y gall fod ar gael i'r elusen i'w gwario ar unrhyw nodau neu bob un o nodau'r elusen ar ôl iddi fodloni ei hymrwymiadau a darparu ar gyfer ei gwariant arfaethedig arall.
Cwmni elusennol yw elusen sy'n gwmni a ffurfiwyd ac a gofrestrwyd o dan y Ddeddf Cwmnïau.
Cyfryngwyr sy'n cyllido neu'n hwyluso cyllido elusennau eraill a busnesau anelusennol.
Cymorth Rhodd yw'r gostyngiad treth ar gyfer rhoddion arian parod sengl sy'n cael eu rhoi i elusennau gan unigolion (gan gynnwys y rhai sy'n ymgymryd â masnach) a chwmnïau yn y DU.
Cynllun buddsoddi cyfunol yw trefniadau sy'n cynnig modd i nifer o fuddsoddwyr 'gronni' eu hasedau a chael rheolwr annibynnol i'w rheoli'n broffesiynol. Gall yr ystod ehangach o fuddsoddiadau mewn cynllun buddsoddi cyfunol helpu i leihau'r risg o unrhyw effeithiau negyddol y gall un buddsoddiad eu cael ar berfformiad cyffredinol y portffolio. Mae ymddiriedolaethau uned a chronfeydd buddsoddi cyffredin yn enghreifftiau o gynlluniau buddsoddi cyfunol.
Cynlluniau cronni yw trefniadau i hwyluso rheoli buddsoddiadau gan ymddiriedolwr elusen, neu gorff o ymddiriedolwyr elusen, gyda nifer o elusennau gwahanol i'w gweinyddu. Maent yn fath o gronfa fuddsoddi gyffredin.
Deddf Elusennau yw Deddf Elusennau 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2006.
Deddf Trethi yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y ddeddfwriaeth dreth sy'n gysylltiedig â Threth Incwm, Treth Gorfforaeth a Threth Enillion Cyfalaf.
Deddf Ymddiriedolwyr yw Deddf Ymddiriedolwyr 2000.
Dogfen lywodraethol yw unrhyw ddogfen gyfreithiol sy'n pennu nodau'r elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, Cynllun y Comisiwn Elusennau neu'r Llys, neu unrhyw ddogfen arall sy'n disgrifio ymddiriedolaethau'r elusen.
Dosbarth o asedau yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio math neu gategori o fuddsoddiad sydd â nodweddion tebyg, megis ecwiti, adneuon arian parod neu fondiau.
Dyrannu asedau yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r broses o ledaenu buddsoddiadau ymysg dosbarthiadau gwahanol o asedau, yn unol ag anghenion yr elusen.
Elusen anghorfforedig yw elusen sydd heb:
- ei ffurfio a'i chofrestru fel cwmni o dan y Ddeddf Cwmnïau
- ei ffurfio a'i chofrestru fel Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus
- ei sefydlu gan Siarter Frenhinol neu Lythyron Patent
- ei chorffori gan statud.
Enillion elusennol yw enillion sy'n hyrwyddo dibenion yr elusen yn uniongyrchol.
Enwebai yw un neu ragor o unigolion neu gorff corfforaethol a benodir gan ymddiriedolwyr i ddal y teitl cyfreithiol i eiddo'r elusen ar ran yr elusen neu ei hymddiriedolwyr. Bydd enw'r enwebai yn cael ei gynnwys ar gofrestr gyfranddaliadau unrhyw gwmni os yw'r elusen yn berchen ar gyfranddaliadau ynddo. Yn achos tir, mae enw'r enwebai yn cael ei roi ar y gofrestr berchnogaeth. Nid oes gan enwebeion unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau rheoli ac mae'n rhaid iddynt weithredu yn ôl cyfarwyddiadau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr.
FSCS yw Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.
FSMA yw'r Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000.
Hylifedd yw gallu ased i gael ei droi'n arian parod yn gyflym a chyda'r golled leiaf posibl yn ei werth.
Menter gymdeithasol yw'r term cyffredinol a ddefnyddir i olygu busnes sy'n gweithredu at ddiben cymdeithasol, sy'n ail-fuddsoddi ei elw at y diben cymdeithasol hwnnw yn hytrach na'i ailddosbarthu. Mae rhai mentrau cymdeithasol hefyd yn elusennau cofrestredig, ond nid pob un.
Nodau a nodau elusennol yw'r nodau y mae'r elusen wedi'i sefydlu i'w cyflawni. Fel arfer mae'r nodau wedi'u mynegi yn nogfen lywodraethol yr elusen.
Pŵer buddsoddi cyffredinol yw'r pŵer buddsoddi a roddir i ymddiriedolwyr gan adran 3 o'r Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000, ynghyd â'r pŵer i fuddsoddi mewn tir sy'n cael ei roi i ymddiriedolwyr gan adran 8 o'r Ddeddf honno. Nid yw'r darpariaethau hyn yn gymwys i gwmnïau elusennol.
Risg yw'r gair a ddefnyddir yn y canllaw hwn i ddisgrifio'r ansicrwydd ynghylch perfformiad buddsoddiadau. Mae hefyd yn cyfeirio at y risg y gallai cwmni y mae'r elusen yn gwneud busnes buddsoddi ag ef esgeuluso ei rwymedigaethau cytundebol. Gall risg naill ai wella neu lesteirio unrhyw faes gweithredu elusen.
Rheolwr buddsoddiadau yw unigolyn neu gorff corfforaethol a benodir gan ymddiriedolwyr elusen i gynghori a gwneud penderfyniadau buddsoddi ar eu rhan. Bydd y rheolwr buddsoddiad yn gwneud y penderfyniadau hyn yn unol â'r polisi buddsoddi a luniwyd gan yr ymddiriedolwyr.
SOFA yw Datganiad o Gyfrifyddu Ariannol.
Ymddiriedolwr gwarchod yw corfforaeth a benodwyd i ddal gafael ar eiddo ymddiriedolaeth - mae'n gweithredu fel enwebai a cheidwad. Nid oes gan ymddiriedolwyr gwarchod unrhyw rôl i'w chwarae yn rheolaeth yr elusen ac mae'n rhaid iddynt weithredu yn ôl cyfarwyddiadau'r ymddiriedolwyr elusen, oni bai y gofynnir iddynt wneud rhywbeth sydd heb ei ganiatáu yn y ddogfen lywodraethol neu gan y gyfraith elusennau.
Ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw'r unigolion neu'r cyrff corfforaethol sydd, o dan ddogfen lywodraethol yr elusen, yn gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallant gael eu galw'n ymddiriedolwyr, ymddiriedolwyr rheoli, aelodau pwyllgor, llywodraethwyr, aelodau'r cyngor neu'n gyfarwyddwyr, neu gallant ddefnyddio rhyw deitl arall.
Ymddiriedolwyr daliannol yw unigolion sy'n cael eu penodi gan yr ymddiriedolwyr i ddal y teitl cyfreithiol i eiddo'r elusen. Fel arfer bydd y modd y cânt eu penodi ac unrhyw fanylion eraill ynghylch eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau yn cael eu hamlinellu yn nogfen lywodraeth yr elusen - ni chânt eu penodi drwy ddefnyddio'r pwerau yn y Ddeddf Ymddiriedolwyr. Defnyddir ymddiriedolwyr daliannol gan elusennau anghorfforedig yn aml a gallant fod yn aelodau o'r corff ymddiriedolwyr. Nid oes unrhyw swyddogaethau rheoli ganddynt ac mae'n rhaid iddynt weithredu yn ôl cyfarwyddiadau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr elusen.
Atodiad 2: Rhestr wirio BCRh
Wrth ystyried p'un ai i fuddsoddi mewn BCRh, dylai'r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain ei fod er lles gorau'r elusen a bod lefel y risg y maent yn ei chymryd yn briodol.
Mae'r rhestr wirio yn amlinellu'r math o gwestiynau y dylai ymddiriedolwyr ofyn i'w hunain wrth ystyried gwneud BCRh:
- Ydy'r BCRh yn hyrwyddo nodau ein helusen?
- Pa nodau elusennau ydym ni'n eu cyllido? Mae'n rhaid i BCRh gael ei wneud yn gyfan gwbl er mwyn hyrwyddo un neu bob un ohonynt.
- Ai dyma'r ffordd orau y gallwn wasanaethu anghenion ein buddiolwyr yng nghyd-destun gweithrediadau'r elusen gyfan?
- Sut mae'r sefydliad rydym yn buddsoddi ynddo yn rhannu neu'n hyrwyddo nodau'r elusen?
- Pa fudd preifat allai fod?
- Ydym ni wedi ystyried pa fudd preifat y gallai eraill ei gael o ganlyniad i'r BCRh arfaethedig?
- Os oes unrhyw fudd preifat i unigolyn neu sefydliad, a yw'n angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles yr elusen?
- Pa gyngor ddylem ni ei gymryd?
- Oes angen i ni geisio cyngor ynghylch BCRh? Er enghraifft, am hyfywedd prosiect, telerau benthyciad, neu a oes rhaid i ni gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy?
- Ydym ni wedi ystyried telerau'r cytundeb?
- Ydy telerau'r BCRh yn rhesymol cyn belled ag y gwyddwn?
- Pa mor hawdd yw hi i derfynu BCRh os yw amgylchiadau'n newid? Er enghraifft, beth fydd yn digwydd os yw'r sefydliad rydym yn buddsoddi ynddo yn gwneud newid sylweddol i natur ei weithgareddau, mae perfformiad gwael neu mae amcanion y BCRh yn cael eu cyflawni yn gynharach na'r disgwyl.
- Beth yw'r risgiau i'n helusen?
- Pa mor ddibynnol yw ein helusen ar gael enillion ariannol? Gall hyfywedd elusen gael ei fygwth os yw'n dibynnu ar lefel ddisgwyliedig o enillion ariannol nad yw'n dwyn ffrwyth.
- Beth yw cyflwr ariannol y sawl sy'n derbyn y BCRh?
- Pa ffactorau eraill allai gael effaith ar lwyddiant y prosiect neu'r enillion ariannol (er enghraifft, cyfradd chwyddiant neu gyfraddau cyfnewid)?
- Beth yw'r risg y bydd y derbynnydd yn methu â bodloni ei rwymedigaethau cytundebol a sut bydd hyn yn cael ei reoli?
- O dan ba amodau all y BCRh gael ei droi'n grant neu ei ddileu?
- Oes unrhyw risgiau posibl i enw da'r elusen - er enghraifft, drwy fudd preifat i'r rhai nad ydynt yn fuddiolwyr os yw'r BCRh yn cael ei wneud i sefydliad masnachol?
- Beth yw goblygiadau treth y BCRh? Gall rhai buddsoddiadau gael eu trin fel gwariant anelusennol, gyda goblygiadau treth ar gyfer ein helusen.
- Ydym ni wedi ystyried pa drefniadau llywodraethu ddylai fod ar waith?
- Sut mae ein hymddiriedolwyr yn bwriadu rheoli'r berthynas â chyfryngwyr neu'r sawl sy'n derbyn y BCRh?
- Pa drefniadau monitro ac adolygu sydd ar waith i asesu effaith ac enillion ariannol posibl y BCRh?
- Ydy staff yr elusen sy'n ymwneud ag awdurdodi'r BCRh wedi cael hyfforddiant priodol? Sut bydd penderfyniadau'n cael eu goruchwylio a'u monitro?
Brig y dudalen