(Fersiwn Mehefin 2004)
Cynnwys
Atodiad A - Technegau Ymchwil a Chanfyddiadau'r Arolwg
Daeth y data a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn o adolygiad o 200 o Adroddiadau Blynyddol, datganiadau ariannol ac Adolygiadau Blynyddol elusennau o faint sylweddol gyda blwyddyn ariannol yn gorffen ar 31 Mawrth 2003.
Yn ogystal, cynhaliodd cwmni ymchwil annibynnol gyfweliadau â 1000 o aelodau'r cyhoedd i ganfasio eu barn am y lefel a'r math o wybodaeth y mae elusennau yn ei rhyddhau i'w budd-ddeiliaid.
Proffil o'r elusennau a arolygwyd
Tabl 1: Yn ôl y math o elusen
| Math o elusen |
Offeryn Llywodraethol |
Nifer |
% |
| Cwmni cyfyngedig |
Memorandwm ac Erthyglau Cwmni |
147 |
74 |
| Corfforedig dan Siartr Frenhinol |
Siartr Frenhinol |
18 |
9 |
| Ymddiriedolaeth |
Dogfen ymddiriedolaeth |
23 |
11 |
| Ymddiriedolaeth |
Sefydlwyd drwy Gynllun y Comisiwn Elusennau |
8 |
4 |
| Ymddiriedolaeth |
Sefydlwyd drwy Ddeddf Seneddol |
3 |
2 |
| Ymddiriedolaeth |
Sefydlwyd drwy Weithred Newid EnwSail: |
1 |
- |
|
Sail 200 |
Tabl 2: Yn ôl y math o gyfarwyddyd
| Math o gyfarwyddyd a ddilynwyd |
Nifer |
% |
| SORP Elusennau yn unig |
170 |
85 |
| Cyfarwyddyd NHS a SORP Elusennau |
6 |
3 |
| SORP Landlord Cymdeithasol Cofrestredig |
23 |
12 |
| SORP Addysg Uwch a Phellach |
1 |
- |
|
Sail 200 |
Tabl 3: Yn ôl gweithgaredd
| Gweithgaredd |
Nifer |
% |
| Busnes a phroffesiynol |
0 |
- |
| Iawnderau sifil, dinasyddiaeth a chyfraith a threfn |
6 |
3 |
| Cadwraeth a gwarchod |
9 |
5 |
| Diwylliant, chwaraeon a hamdden |
20 |
10 |
| Addysg, hyfforddiant ac ymchwil wyddonol |
24 |
12 |
| Iechyd a meddygol |
41 |
20 |
| Tai a Materion Cymunedol |
28 |
14 |
| Gweithio tramor |
12 |
6 |
| Cyfryngiad dyngarol e.e. rhoi grantiau |
4 |
2 |
| Crefydd |
12 |
6 |
| Gwasanaethau a gofal cymdeithasol |
44 |
22 |
|
Sail 200 |
Tabl 4: Yn ôl prif ffynhonnell incwm
| Prif ffynhonnell incwm |
Nifer |
% |
| Rhoddion, cymynroddion ac incwm tebyg |
39 |
20 |
| Incwm yn deillio o aelodaeth |
2 |
1 |
| Grantiau/ffioedd gan lywodraeth ganolog neu leol |
73 |
37 |
| Incwm yn deillio o fasnach |
76 |
38 |
| Incwm yn deillio o fuddsoddiadau, gan gynnwys llog banc |
5 |
2 |
| Arall: |
5 |
2 |
|
Sail 200 |
Tabl 5: Yn ôl prif fath o wariant elusennol
| Prif fath o wariant |
Nifer |
% |
| Yn darparu cymorth ariannol (e.e. rhoi grantiau i unigolion a/neu sefydliadau) |
40 |
20 |
| Yn darparu adeiladau/cyfleusterau/llecynnau agored |
39 |
20 |
| Yn darparu gwasanaethau (e.e. gofal/cynghori) |
93 |
47 |
| Yn darparu eiriolaeth/cyngor/gwybodaeth/addysg |
14 |
7 |
| Yn gweithredu fel sefydliad ambarél/ffynhonnell adnoddau |
1 |
- |
| Yn noddi neu'n ymgymryd ag ymchwil |
13 |
6 |
|
Sail 200 |
Tabl 6: Yn ôl cyflwyniad Adolygiad Blynyddol
| |
Nifer |
% |
| Adolygiadau Blynyddol ar gael ar gyfer yr astudiaeth hon |
83 |
42 |
|
Sail 200 |
Cyflwyno'r Adroddiadau a'r Cyfrifon
Tabl 7: Pryd gyflwynwyd yr Adroddiadau a'r Cyfrifon?
| |
Derbyniwyd gan y Comisiwn Elusennau |
Llofnodwyd a chymeradwywyd gan yr YmddiriedolwyrNifer |
| |
Nifer |
% |
Nifer |
% |
| Mai 2003 |
- |
- |
1 |
- |
| Mehefin 2003 |
- |
- |
16 |
8 |
| Gorffennaf 2003 |
6 |
3 |
73 |
37 |
| Awst 2003 |
8 |
4 |
19 |
9 |
| Medi 2003 |
21 |
10 |
37 |
19 |
| Hydref 20033 |
17 |
9 |
18 |
9 |
| Tachwedd 2003 |
18 |
9 |
16 |
8 |
| Rhagfyr 2003 |
26 |
13 |
9 |
5 |
| Ionawr 2004 |
91 |
45 |
9 |
5 |
| Chwefror & Mawrth 2004 |
13 |
7 |
1 |
- |
| Dim dyddiad ar lofnod yr Ymddiriedolwyr |
- |
- |
1 |
- |
|
Sail 200 |
Tabl 8: Y camau cyn cyflwyno'r Adroddiadau a'r Cyfrifon
| Cyfnod o: |
Dyddiau cyfartalog |
Cyfnod hiraf |
Cyfnod byrraf |
|
Dyddiau |
Dyddiau |
Dyddiau |
- Ddiwedd y flwyddyn ariannol hyd ddyddiad cymeradwyo'r datganiadau ariannol gan yr ymddiriedolwyr
|
154 |
308 |
52 |
- Gymeradwyaeth yr ymddiriedolwyr hyd ddyddiad llofnodi'r adroddiad gan yr archwilwyr
|
5 |
91 |
0 |
- Lofnodi'r adroddiad gan yr archwilwyr hyd ddyddiad cyflwyno'r adroddiad a'r cyfrifon i'r Comisiwn
|
93 |
234 |
3 |
|
Cyfanswm dyddiau (uchafswm cyfreithiol 306) |
253 |
|
|
* Ni chynhwyswyd elusennau na chyflwynodd gyfrifon wedi'u lofnodi
Yr Adroddiad Blynyddol
Tabl 9: Cyflwyniad yr Adroddiadau Blynyddol
| |
Ydy |
|
Nac ydy |
|
|
Nifer |
% |
Nifer |
% |
| A ydy'r Adolygiad Blynyddol yn rhwydd ei ddarllen a'i ddefnyddio? |
191 |
96 |
9 |
5 |
| A ydy'r Adolygiad Blynyddol yn cynnwys y canlynol: |
|
- Graffiau hunan eglurhaol?
|
17 |
9 |
183 |
92 |
|
|
34 |
17 |
166 |
83 |
|
|
20 |
10 |
180 |
90 |
|
Sail 200 |
Tabl 10: Datgelu manylion am yr elusen
| A ddatgelwyd y canlynol yn yr Adroddiad Blynyddol: |
Do |
|
Naddo |
|
|
Nifer |
% |
Nifer |
% |
|
|
199 |
100 |
1 |
1 |
|
|
190 |
95 |
10 |
5 |
- Math o ddogfen lywodraethol
|
171 |
86 |
29 |
15 |
- Diwedd y flwyddyn ariannol
|
196 |
98 |
4 |
2 |
|
Sail 200 |
Tabl 11: Datgeliadau yn unol â gofynion ac arfer da
| Pa mor dda oedd y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol ynglŷn â'r canlynol: |
Manylion da a hygyrch |
Rhywfaint o wybodaeth |
Ychydig o fanylion |
Dim manylion |
Amherthnasol |
|
Nifer |
Nifer |
Nifer |
Nifer |
Nifer |
| a) Nodau ac amcanion (datgeliadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Datganiad o amcanion statudol yr elusen |
161 (81%) |
19 (10%) |
8 (4%) |
12 (6%) |
- |
| Esboniad o amcanion a chenhadaeth yr elusen |
152 (76%) |
28 (14%) |
15 (8%) |
5 (3%) |
- |
| (b) Trefniadaeth (datganiadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Rhestr o ymddiriedolwyr ar ddiwedd y flwyddyn ac a wasanaethodd yn ystod y flwyddyn |
188 (94%) |
9 (5%) |
0 |
3 (2%) |
- |
| Manylion am y modd yr apwyntir ymddiriedolwyr |
78 (39%) |
43 (22%) |
35 (18%) |
44 (22%) |
- |
| Manylion am unrhyw gorff neu berson â'r hawl i apwyntio ymddiriedolwyr |
63 (32%) |
44 (22%) |
30 (15%) |
63 (32%) |
- |
| Disgrifiad o'r strwythur cyfundrefnol |
74 (37%) |
64 (32%) |
47 (24%) |
15 (8%) |
- |
| (c) Trefniadaeth (datgeliadau am arfer da) |
|
|
|
|
|
| Manylion am bwyllgorau, eu cyfansoddiad a'u meysydd gweithgaredd? |
56 (28%) |
51 (26%) |
38 (19%) |
53 (27%) |
2 (1%) |
| (ch) Perthnasau (datgeliadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Datganiad o'r berthynas â phartïon perthynol |
58 (29%) |
38 (19%) |
30 (15%) |
35 (18%) |
39 (20%) |
| Manylion am berthnasau ag elusennau a chyrff eraill |
49 (25%) |
37 (19%) |
45 (23%) |
62 (31%) |
7(4%) |
| (d) Adolygiad o weithgareddau'r elusen a'i his-gwmnïau (datgeliadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Cyflawniadau yn ystod y flwyddyn |
126 (63%) |
46 (23%) |
15 (8%) |
13 (7%) |
- |
| Cynlluniau ar gyfer y dyfodol |
66 (33%) |
47 (24%) |
58 (29%) |
29 (15%) |
- |
| Naratif am effeithiolrwydd codi arian |
61 (31%) |
33 (17%) |
42 (21%) |
43 (22%) |
21 (11%) |
| Adroddiad yn ymwneud â chyfraniad gwirfoddolwyr |
31 (16%) |
34 (17%) |
33 (17%) |
82 (41%) |
20 (10%) |
| Gwybodaeth a roddir am is-gwmnïau |
40 (20%) |
22 (11%) |
23 (12%) |
55 (28%) |
60 (30%) |
| (dd) Cyllid (datgeliadau am arfer da) |
|
|
|
|
|
| Sylw ar brif ffynonellau incwm a gwariant |
71 (36%) |
69 (35%) |
35 (18%) |
25 (13%) |
- |
| Sylwadau ar sefyllfa ariannol yr elusen |
61 (31%) |
63 (32%) |
54 (27%) |
22 (11%) |
- |
| Sylwadau ar eitemau anghyffredin (e.e. diffyg ariannol sylweddol mewn perthynas â chynllun pensiwn budd-dal diffiniedig) |
46 (23%) |
17 (9%) |
15 (8%) |
70 (35%) |
52 (26%) |
| Sylwadau ar bolisïau cyfrifo ac unrhyw newidiadau i'r polisïau |
27 (14%) |
26 (13%) |
26 (13%) |
121(61%) |
- |
| (e) Perfformiad (am arfer da) |
|
|
|
|
|
| a) A yw'r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys cymarebau defnyddiol? |
72 (36%) |
58 (29%) |
44 (22%) |
26 (13%) |
- |
| A roddir esboniad o berfformiad cymarebau allweddol? |
62 (31%) |
58 (29%) |
44 (22%) |
36 (18%) |
- |
| (f) Cronfeydd wrth gefn (datgeliadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Esboniad o bolisi cronfeydd wrth gefn yr elusen |
131 (66%) |
33 (17%) |
17 (9%) |
19 (10%) |
- |
| Sylwadau ar gyflawniadau'r polisi a'r camau i'w cymryd |
77 (39%) |
49 (25%) |
33 (17%) |
41 (21%) |
- |
| Esboniad o ddiffyg ariannol |
17 (9%) |
8 (4%) |
8 (4%) |
60 (30%) |
107 (54%) |
| (ff) Buddsoddiadau (datgeliadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Crynodeb o bwerau buddsoddi penodol |
41 (21%) |
19 (10%) |
34 (17%) |
106 (53%) |
- |
| Esboniad o bolisi buddsoddi'r elusen |
70 (35%) |
28 (14%) |
25 (13%) |
61 (31%) |
16 (8%) |
| Sylwadau am berfformiad buddsoddiadau |
37 (19%) |
24 (12%) |
22 (11%) |
95 (48%) |
22 (11%) |
| (g) Grantiau (datgeliadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Esboniad o bolisïau ynglŷn â rhoi grantiau |
33 (17%) |
8 (4%) |
10 (5%) |
97 (49%) |
52 (26%) |
| (ng) Rheoli risg (datgeliadau gofynnol) |
|
|
|
|
|
| Datganiad ynglŷn ag adolygu risgiau |
147 (74%) |
24 (12%) |
22 (11%) |
7 (4%) |
- |
| (h) Rheoli risg (datgeliadau am arfer da) |
|
|
|
|
|
| Esboniad o'r prif risgiau |
15 (8%) |
12 (6%) |
28 (14%) |
145 (73%) |
- |
| Esboniad o ddulliau monitro/rheoli |
95 (48%) |
42 (21%) |
42 (21%) |
21 (11%) |
- |
| (i) Prosesau mewnol (datgeliadau am arfer da) |
|
|
|
|
|
| Sylwadau ar staff a lefelau staffio? |
60 (30%) |
44 (22%) |
44 (22%) |
49 (25%) |
3 (2%) |
| Sylwadau ar asedau (eiddo) |
33 (17%) |
25 (13%) |
41 (21%) |
96 (48%) |
5 (3%) |
| Sylwadau ynglŷn â TG a systemau'r elusen? |
10 (5%) |
20 (10%) |
18 (9%) |
152 (76%) |
- |
|
Sail 200 |
Tabl 12: Canlyniadau ac effeithiau a ddisgrifiwyd yn yr Adroddiad Blynyddol
| I ba raddau y mae'r Adroddiad Blynyddol yn disgrifio'r canlynol: |
Manylion a esboniwyd |
|
Gwybodaeth gyfyngedig |
|
Dim manylion |
|
|
Nifer |
% |
Nifer |
% |
Nifer |
% |
| Beth wnaeth yr elusen er mwyn cyflawni ei hamcanion? |
130 |
65 |
55 |
28 |
15 |
8 |
| Manylion am y modd y mae ei chyflawniadau yn cymharu â'I chynlluniau? |
30 |
15 |
88 |
44 |
82 |
41 |
| Esboniad o'r modd y bu gweithgareddau'r flwyddyn o fudd i ddefnyddwyr? |
73 |
37 |
71 |
36 |
56 |
28 |
| Esboniad o'r modd y bu gweithgareddau'r flwyddyn o fudd i'r gymdeithas yn gyffredinol? |
31 |
16 |
67 |
34 |
102 |
51 |
Tabl 13: Cysylltiad rhwng yr Adroddiad Blynyddol a dulliau eraill o gyfathrebu
| |
Elusennau sy'n darparu'r datganiadau ychwanegol hyn/yn defnyddio gwefannau |
Adroddiadau Blynyddol yn croesgyfeirio at y datganiadau/gwefannau eraill |
| Nifer (sail) |
Nifer - Ydy |
% |
Nifer - Nac ydy |
% |
| Os ydy'r llyfryn Adolygiad Blynyddol a Chyfrifon yn cynnwys datganiadau eraill (er enghraifft, adroddiad y Cadeirydd) a ydy'r Adroddiad Blynyddol yn cyfeirio atynt? |
49 |
24 |
49 |
25 |
51 |
| Os ydy'r elusen yn darparu Adolygiad Blynyddol, a ydy'r Adroddiad Blynyddol yn croesgyfeirio ato? |
83 |
20 |
24 |
63 |
76 |
| Os oes gan yr elusen wefan, a ydy'r Adolygiad Blynyddol yn cyfeirio ato? |
188 |
39 |
21 |
149 |
79 |
Tabl 14: Sylwadau eraill ar yr Adolygiadau Blynyddol
| |
Nifer yr elusennau |
| Llyfryn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn cynnwys llawer o fanylion, ond mewn adroddiadau eraill yn hytrach na'r Adroddiad Blynyddol ei hun |
9 |
| Adroddiad trefnus, cryno a defnyddiol |
15 |
| Adroddiad byr, nad yw'n dweud llawer |
15 |
| Adroddiad yn cynnwys manylion rhagorol am amcanion, cynlluniau, polisïau a strategaeth |
8 |
| Adroddiad yn cynnwys gwybodaeth dda iawn am effaith a chyflawniadau |
15 |
| Adroddiad yn cynnwys gwybodaeth dda am faterion ariannol |
12 |
| Adroddiad yn brin o wybodaeth am faterion ariannol |
7 |
| Adroddiad yn brin o wybodaeth am effaith gweithgareddau elusennol |
6 |
| Rhywfaint o fanylion gonest am broblemau |
9 |
| Manylion arbennig o dda am strwythur a threfniadaeth yr elusen |
14 |
| Prinder manylion am strwythur a threfniadaeth yr elusen |
9 |
Y Datganiadau Ariannol
Tabl 15: Gwybodaeth allweddol yn y datganiadau ariannol
| Gwybodaeth allweddol am dryloywder ac atebolrwydd |
Oes |
Nac oes |
Amherthnasol |
|
Nifer |
Nifer |
Nifer |
| A oes polisi cyfrifo ar gyfer pob prif ffynhonnell incwm (cyfunol/cyfnerthol), gwariant ac eitem ar y fantolen? |
143 (72%) |
57 (29%) |
- |
| A oes nodyn yn esbonio cyfansoddiad pob un o'r prif ffigurau yn y SoFA (cyfunol/cyfnerthol) a'r fantolen? |
125 (63%) |
75 (38%) |
- |
| A oes nodyn yn dangos swm unrhyw daliadau a wnaed i'r ymddiriedolwyr, a natur a swm unrhyw dreuliau a ad-dalwyd iddynt yn ystod y flwyddyn? |
187 (94%) |
13 (7%) |
- |
| A oes datgeliad digonol o bartïon perthynol, a'r trafodion ariannol a mantolau mewn perthynas â nhw, yn enwedig treuliau a fyddai'n cael eu talu fel rheol gan sefydliad ond na chyfeirir atynt yn y SoFA? |
130 (65%) |
17 (9%) |
53 (27%) |
|
Sail 200 |
Tabl 16: Y polisïau cyfrifo sy'n annigonol neu'n eisiau amlaf
| |
Nifer yr elusennau |
| Adnoddau yn dod i mewn: |
|
- Incwm o weithgareddau elusennol
|
10 |
- Rhoddion a gwerthiant nwyddau a roddwyd
|
5 |
|
|
3 |
- Ffioedd/ grantiau derbyniadwy
|
10 |
|
|
3 |
| Adnoddau yn mynd allan: |
|
|
|
27 |
|
|
3 |
- Costau gweithredu/gwariant masnachol
|
10 |
- Dyrannu costau i gategorïau'r SoFA
|
69 |
- Polisi ynglŷn â dyrannu costau i gategorïau'r SoFA yn annigonol
|
5 |
Tabl 17: Nodiadau i'r datganiadau ariannol sy'n annigonol neu'n eisiau amlaf
| |
Nifer yr elusennau |
| Adnoddau yn dod i mewn: |
|
- Incwm o weithgareddau elusennol
|
17 |
|
|
16 |
- Ffioedd/ grantiau derbyniadwy
|
28 |
|
|
11 |
| Adnoddau yn mynd allan: |
|
|
|
14 |
|
|
4 |
- Treuliau siop/ gwariant masnachol
|
8 |
|
|
3 |
- Dim dadansoddiad yn ôl math o wariant, neu ddadansoddiad annigonol
|
20 |
- Dim datgeliad o faint treuliau ymddiriedolwyr
|
4 |
| Arall: |
|
- Esboniad annigonol o bwrpas cyllid
|
4 |
Tabl 18: Sylwadau eraill ar y Cyfrifon
| |
Nifer yr elusennau |
| Incwm heb ei gategoreiddio'n briodol yn y SoFA |
10 |
| Gwariant heb ei gategoreiddio'n briodol yn y SoFA |
2 |
| Camgymeriadau mathemategol yn y cyfrifon |
3 |
| Mantolen ac adroddiad yr archwiliwr heb eu llofnodi |
9 |
Adolygiadau Blynyddol
Tabl 19: Pa mor ddiddorol yw'r Adolygiadau Blynyddol o safbwynt gweledol?
| |
Ydy |
Nac ydy |
|
Nifer |
Nifer |
| A ydy'r Adolygiad Blynyddol cyfredol wedi'i ysgrifennu mewn dull sy'n rhwyddach ei ddarllen na'r Adroddiad Blynyddol? |
69 (83%) |
14 (17%) |
| A ydy'r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys y canlynol: |
|
|
- Graffiau a thablau hunan eglurhaol?
|
65 (78%) |
18 (22%) |
- Dyfyniadau gan fuddiolwyr?
|
55 (66%) |
28 (34%) |
|
|
80 (96%) |
3 (4%) |
|
Sail: 83 |
Tabl 20: Gwybodaeth sylfaenol yn yr Adolygiadau Blynyddol
| |
Ydy |
Nac ydy |
|
Nifer |
Nifer |
| A ydy'r Adolygiad Blynyddol cyfredol wedi'i ysgrifennu mewn dull sy'n rhwyddach ei ddarllen na'r Adroddiad Blynyddol? |
69 (83%) |
14 (17%) |
| A ydy'r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys y canlynol: |
- Graffiau a thablau hunan eglurhaol?
|
65 (78%) |
18 (22%) |
- Dyfyniadau gan fuddiolwyr?
|
55 (66%) |
28 (34%) |
|
|
90 (96%) |
3 (4%) |
|
Sail 83 |
Tabl 21: Faint o wybodaeth oedd yn yr Adolygiad Blynyddol?
| A ydy'r Adolygiad Blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am: |
Gwybodaeth ychwanegol at yr hyn a geir yn yr Adroddiad Blynyddol |
Gwybodaeth yn dyblygu'r hyn a geir yn yr Adroddiad Blynyddol |
Dim gwybodaeth |
|
Nifer |
Nifer |
Nifer |
| Gymarebau ariannol |
29 (35%) |
32 (39%) |
22 (27%) |
| Ffigurau mewn pennawd |
50 (60%) |
26 (31%) |
7 (8%) |
| Gwybodaeth er mwyn creu effaith |
78 (94%) |
4 (5%) |
1(1%) |
| Gwybodaeth am ganlyniadau |
77 (93%) |
5 (6%) |
1 (1%) |
| Cynlluniau ar gyfer y dyfodol |
59 (71%) |
9 (11%) |
15 (18%) |
|
Sail 83 |
Tabl 22: Beth oedd pwrpas ymddangosiadol yr Adolygiad Blynyddol?
(Sylwer: I bob golwg roedd gan rai o'r Adolygiadau Blynyddol fwy nag un pwrpas)
|
Pwrpas ymddangosiadol yr Adolygiad Blynyddol |
Ie |
Na |
|
Nifer |
Nifer |
| Codi arian |
35 |
48 |
| Cyhoeddusrwydd cyffredinol |
64 |
19 |
| Ychwanegiad at yr Adroddiad Blynyddol |
37 |
46 |
|
Sail 83 |
Tabl 23: Canfyddiadau a sylwadau cyffredinol
|
Nifer yr elusennau |
| Adolygiad Blynyddol yn llawer rhwyddach ei ddarllen na'r Adolygiad Blynyddol |
8 |
| Mwy o wybodaeth yn yr Adolygiad Blynyddol na'r Adroddiad Blynyddol |
12 |
| Adolygiad Blynyddol yn llenwi bylchau'r Adroddiad Blynyddol |
15 |
| Adolygiad Blynyddol yn hir iawn/ anodd ei ddarllen |
4 |
| Defnydd da o achosion unigol er mwyn esbonio gweithgareddau/allbwn |
7 |
| Yn peri dryswch am fod yr Adolygiad Blynyddol yn dwyn yr enw "Adroddiad Blynyddol" er bod Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr yn bodoli ar wahân |
4 |
| Adolygiad Blynyddol yn hir iawn ac yn anodd iawn ei ddarllen |
4 |
| Adolygiad Blynyddol ar y gwefan yn cyfeirio at flwyddyn wahanol i'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon |
10 |
Dulliau eraill o hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd
Tabl 24: Dulliau eraill a ddefnyddiwyd i hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd
| Cyfeiriad a wnaed gan yr elusen at y canlynol yn ei Hadroddiad Blynyddol neu ei Hadolygiad Blynyddol: |
Nifer yr elusennau |
| Gwefan |
57 (29%) |
| Taflen newyddion |
23 (12%) |
| Llinell gymorth, canolfan gwasanaethau cwsmeriaid, mini-cam, e-bost, gwasanaeth ffôn, negeseuon testun |
12 (6%) |
| Argaeledd cyhoeddiadau, ffeithlenni, papurau ymchwil |
8 (4%) |
| Dogfennau megis Cynllun Corfforaethol, a'r Adolygiad ar CD, ar gael pan wneir cais |
8 (4%) |
| Cyfarfodydd cyson â gwirfoddolwyr, grwpiau ymgynghorol, tenantiaid ayyb |
3 (2%) |
|
Sail 200 |
Canlyniadau arolwg o'r cyhoedd
Tabl 25: Gofynnwyd i atebwyr ddweud pa mor bwysig, yn eu barn hwy, oedd y ffaith bod elusennau yn darparu'r wybodaeth ganlynol. Defnyddiodd atebwyr raddfa o 1 - 5 lle'r oedd 5 yn dynodi pwysig iawn, 1 yn dynodi nad oedd yn bwysig o gwbl a 3 yn dynodi nad oedd yn bwysig nac yn ddibwys. Dangosir canlyniadau cymedrig 1000 o ymatebion isod.
| Sgôr gymedrig |
Gwybodaeth |
| 4.43 |
Y gweithgareddau elusennol y gwariodd yr elusen ei harian arnynt |
| 4.41 |
Yr hyn mae'r elusen wedi'i gyflawni (h.y. effaith y gwaith a wnaed ganddi ar y gymdeithas) |
| 4.14 |
Swm yr arian y mae'r elusen yn ei wario ar godi arian (gan gynnwys cost staff a gyflogir i godi arian) |
| 4.10 |
Cost gweinyddu'r elusen (gan gynnwys costau staffio) |
| 3.95 |
Polisïau ariannol yr elusen (e.e. polisïau buddsoddi a chronfeydd wrth gefn) |
| 3.87 |
Y modd y gwneir penderfyniadau o fewn yr elusen a'r sawl sy'n eu gwneud |
| 3.80 |
Ffynhonnell incwm yr elusen (e.e. rhoddwyr/grantiau/buddsoddiadau/ffioedd ayyb) |
| 3.40 |
Rhif cofrestru'r elusen |
SYLWER: Mewn rhai achosion mae cyfanswm y canrannau'n fwy na 100% o ganlyniad i dalgrynnu.
Atodiad B - Rhestr termau
Tryloywder ac Atebolrwydd: At bwrpas yr adroddiad hwn, mae tryloywder ac atebolrwydd yn ôl ein dehongliad ni yn golygu rhoi gwybodaeth berthnasol a dibynadwy i fudd-ddeiliaid yn brydlon, sef gwybodaeth sy'n ddiduedd, yn gymaradwy, yn ddealladwy a chyda ffocws pendant ar anghenion budd-ddeiliaid. Mae hyn yn golygu bod modd i'r wybodaeth a ddarperir gael ei deall gan ddefnyddwyr gyda rhywfaint o ddealltwriaeth o fusnes, gweithgareddau economaidd a chyfrifo ac sy'n barod i astudio'r wybodaeth gyda mesur o ddiwydrwydd.
Adolygiad Blynyddol: Adolygiad o weithgareddau'r flwyddyn a gynhyrchir gan elusen yn ychwanegol at ei Hadroddiad Blynyddol. Yn aml maent yn fwy hyrwyddol eu natur ac weithiau maent yn fwy disgrifiadol, gan ganolbwyntio llai ar adrodd am berfformiad a chysylltu â gwybodaeth ariannol. Gall eraill gynnig gwybodaeth fwy manwl am berfformiadau yn ymwneud â gwasanaethau penodol a gallant gynnwys crynodebau ariannol.
At bwrpas y project hwn, mae 'Adolygiad Blynyddol' yn golygu unrhyw ddogfen a:
- luniwyd er mwyn edrych yn gyffredinol ar weithgareddau'r elusen, fel rheol crynodeb o wybodaeth ariannol, cyflawniadau a newidiadau ayyb (h.y. nid yw'n adrodd am un maes yn unig, megis ymchwil neu effeithiolrwydd codi arian);
- gyhoeddwyd yn ychwanegol at y dogfennau a gynhyrchwyd i gwrdd â rhwymedigaethau statudol yr elusen (er y gall fod yr adolygiad yn cynnwys detholiadau o'r wybodaeth honno);
- ac y mae'n rhwydd i'r cyhoedd gael gafael arni.
Adroddiad Blynyddol: Adroddiad a gynhyrchir yn flynyddol gan ymddiriedolwyr yr elusen, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y SORP Elusennau, i ddarparu manylion cyfreithiol a gweinyddol ynglŷn â'r elusen ac i ddisgrifio'r hyn y mae'n ceisio ei wneud a'r modd y mae'n gwneud hynny.
Allbynnau: y gweithgareddau, gwasanaethau a'r nwyddau a ddarperir ar gyfer defnyddwyr. Mae'r rhain yn dangos maint y gwaith a wnaed, gan gynrychioli cynnyrch uniongyrchol yr elusen yn sgil ei gweithgareddau.
Amcanion: yn disgrifio'r newidiadau mae'r elusen yn gobeithio'u cyflawni, neu'r gwahaniaeth y mae'n gobeithio ei wneud.
Amcanion: y camau ymarferol y bydd yr elusen yn eu cymryd er mwyn cyflawni'i hamcanion.
Budd-ddeiliad: unrhyw berson, grŵp, neu sefydliad a chanddynt ddiddordeb yn, neu sy'n disgwyl rhywbeth gan yr elusen.
Buddiolwyr: personau, pobl neu gyrff a allai gael budd o ymddiriedolaethau elusennol.
Canlyniadau: y newidiadau, buddion, dysg neu effeithiau eraill sy'n digwydd o ganlyniad i wasanaethau neu weithgareddau'r elusen.
Cyflawniadau: rhywbeth a gyflawnwyd gan yr elusen.
Cyfrifon: y datganiad o gyfrifon a gynhyrchir yn flynyddol gan elusen yn unol â gofynion Deddf Elusennau 1993 neu Ddeddf Cwmnïau 1985 a'r SORP Elusennau. Fel rheol maent yn cynnwys Datganiad o Weithgareddau Ariannol, Mantolen, datganiad o Lif Arian (lle bo gofyn), datganiad o bolisïau cyfrifo a nodiadau eraill. Os ydynt wedi cael eu harchwilio, bydd adroddiad archwiliwr ynghlwm wrthynt.
Cynllun: disgrifiad ysgrifenedig o'r camau y bydd elusen yn eu cymryd i gyflawni pethau penodol.
Cynllun strategol: yn cwmpasu'r weledigaeth ar gyfer dyfodol yr elusen ac yn amlinellu'r camau y mae angen eu cymryd er mwyn cyflawni hyn dros gyfnod o amser, yn aml tair i bum mlynedd.
Dangosyddion: gwybodaeth glir-ddiffiniedig, rhwydd ei mesur, sy'n dangos pa mor dda yw perfformiad yr elusen.
Datganiad o genhadaeth: datganiad byr o bwrpas yr elusen, a elwir weithiau'n amcan cyffredinol.
Defnyddwyr: unrhyw un sy'n defnyddio neu'n cael budd o wasanaethau neu gyfleusterau elusen, boed y rheiny gan wirfoddolwyr neu wasanaeth contract.
Effaith: effeithiau cyffredinol, hirdymor gwaith yr elusen.
Gwasanaethau: y nwyddau, gwybodaeth a gweithgareddau y mae'r elusen yn eu darparu ar gyfer ei defnyddwyr.
Gweithgareddau: unrhyw beth a wnaed gan ddefnyddio adnoddau yn perthyn i'r elusen neu o dan ei rheolaeth, a chan gynnwys ei holl waith a'i gwasanaethau.
Mewnbynnau: yr adnoddau a'r gweithgareddau a ddefnyddir gan yr elusen i ddarparu'r gwasanaethau a gynigir, er enghraifft, amser staff a gwirfoddolwyr, defnydd o gyfarpar ayyb.
Polisïau cyfrifo: yr egwyddorion, seiliau, confensiynau a'r rheolau y gellir eu defnyddio at bwrpas adnabod, mesur a chyflwyno gweithrediadau masnachol yn y cyfrifon.
Rheoli perfformiad: y defnydd o wybodaeth mesur perfformiad er mwyn helpu i osod nodau perfformiad ac adrodd amdanynt.
Strategaeth: dull wedi'i gynllunio ar gyfer cyflawni amcanion tymor hir.
Tueddiadau: yn dangos newidiadau dros amser; gellir eu defnyddio i gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.
Atodiad C - Gofynion ar gyfer paratoi a ffeilio Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon
Paratoi
Mae'n ofynnol bod pob elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru yn cynhyrchu adroddiadau ariannol blynyddol ac Adroddiad Blynyddol ac yn eu cyflwyno i'r Comisiwn Elusennau, ac eithrio yn achos yr elusennau hynny sy'n rhy fach i gyfateb i'r meini prawf sy'n dynodi lleiafswm maint elusen, a geir yn Neddf Elusennau 1993 - elusennau a chanddynt incwm gros a chyfanswm gwariant o £10,000 neu lai. Yn ogystal, rhaid i unrhyw elusen sy'n gwmni cyfyngedig ddarparu a chyflwyno adroddiad cyfarwyddwr a datganiadau blynyddol i Dŷ'r Cwmnïau. Fel rheol, rhaid i elusen sydd o fewn cwmpas rheolydd arall (er enghraifft Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, a reoleiddir gan y Gorfforaeth Letya) gydymffurfio â gofynion y rheolydd hwnnw i baratoi a chyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Pa bynnag gategori y mae elusen yn perthyn iddo, felly, oni bai ei bod yn fach iawn, rhaid iddi gydymffurfio â gofyniad cyffredinol drwy baratoi a chyflwyno adroddiad cyfarwyddwr / ymddiriedolwyr a datganiadau ariannol yn flynyddol.
Terfynau amser ar gyfer cyflwyno
Yn ogystal, mae terfynau amser rheolyddion ar gyfer cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn debyg iawn i'w gilydd. Rhaid i elusennau cofrestredig gyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol a datganiadau ariannol i'r Comisiwn Elusennau o fewn deg mis o ddiwedd eu blwyddyn ariannol. Mae terfyn amser tebyg yn bodoli ar gyfer cyflwyno'r dogfennau hyn i Dŷ'r Cwmnïau, yn achos elusennau sy'n gwmnïau. 31 Mawrth 2003 oedd diwedd blwyddyn ariannol pob un o'r 200 o elusennau a arolygwyd fel rhan o'r project hwn, ac felly'r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno'r dogfennau oedd 31 Ionawr 2004.
Ffurf a Chynnwys
Pennir lleiafswm cynnwys Adroddiadau Blynyddol Ymddiriedolwyr ar gyfer elusennau yn Lloegr a Chymru gan Reoliadau Deddf Elusennau 1993. Mae'r SORP Elusennau ('Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer Adrodd a Chadw Cyfrifon Elusennau') yn gwneud rhai argymhellion ychwanegol. Yn ogystal, rhaid i Gwmnïau Elusennol gynhyrchu adroddiad cyfarwyddwr, er bod modd cyfuno hwn ag Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr er mwyn ceisio lleihau maint yr wybodaeth a ddyblygir.
Pennir ffurf a chynnwys datganiadau ariannol elusen yn ôl y ddeddfwriaeth y sefydlwyd yr elusen yn unol â hi. Rhaid i elusennau sy'n gwmnïau gydymffurfio â gofynion cyfrifo Deddf Cwmnïau 1985, ac i raddau pell, rhaid i elusennau nad ydynt yn gwmnïau gydymffurfio â gofynion Deddf Elusennau 1993 a Rheoliadau Adroddiadau a Chyfrifon cysylltiol.
Rhaid i'r elusennau sy'n gwmnïau a'r rhai nad ydynt yn gwmnïau fel ei gilydd baratoi cyfrifon croniadol sy'n rhoi darlun gwir a theg. Er mwyn gwneud hyn rhaid i'r cyfrifon gydymffurfio â safonau cyfrifo perthnasol ac unrhyw ddatganiad o arferion cymeradwy (SORP) sy'n berthnasol i'r elusen. Mae SORP yn ddogfen sy'n cynnig y dehongliad priodol o safonau cyfrifo ar gyfer y math o sefydliad sy'n ei geisio. Mae gofyn i'r mwyafrif o elusennau gydymffurfio â'r SORP Elusennau, er bod SORPau'n bodoli ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Cyllid Awdurdodedig (ymddiriedolaethau unedol) a Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch.
Yn unol â hynny, mae'r Comisiwn Elusennau yn disgwyl y bydd elusennau'n cadw at y SORP sy'n berthnasol i'w hamgylchiadau.
Cwmpas
Mae'r gofynion uchod yn berthnasol i Adroddiadau Blynyddol a datganiadau ariannol elusennau, ac i bob pwrpas yn darparu lleiafswm safon ofynnol. Ond prin fod unrhyw ofyniadau o gwbl mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd ychwanegol a gynhyrchir gan elusen er mwyn adrodd am ei pherfformiad, megis Adolygiad Blynyddol "sgleiniog" neu ddeunydd ar y gwefan, oni bai ei fod yn cynnwys datganiadau ariannol crynodedig. Pan ddigwydd hynny, mae 'r SORP yn cynnig arweiniad ynglŷn â ffurf a chynnwys y datganiadau ariannol crynodedig, ac mae'r Bwrdd Arferion Archwilio wedi cyhoeddi Bwletinau o'r enw "The auditors' statement on the summary financial statements (Bwletin 1999/6) a "The electronic publication of auditors' reports" (Bwletin 2001/1).
Atodiad Ch - Llyfryddiaeth
CaritasData, The Top 3000 Charities 2003.
Y Comisiwn Elusennau, Accounting and Reporting by Charities, Statement of Recommended Practice. HMSO 2000.
Y Comisiwn Elusennau, Accounting and Reporting by Charities, Statement of Recommended Practice Update Buletin 1. HMSO 2003.
Y Comisiwn Elusennau, Accounts aren't optional, Newyddion y Comisiwn Elusennau, Rhifyn 19, Hydref, 2003.
Y Comisiwn Elusennau, Charity Reserves. (RS3), 2003.
Y Comisiwn Elusennau, Tell it like it is, Newyddion y Comisiwn Elusennau, Rhifyn 18, Haf, 2003.
Y Comisiwn Elusennau, Charities and Risk Management, 2003.
Grŵp Cyfarwyddwyr Arian Elusennau, Inputs Matter - Improving the quality of reporting in the charity sector, 2003.
Y Swyddfa Gartref, The Charities (Accounts and Reports) Core Guide, HMSO, 2000.
Y Swyddfa Gartref, The Charities (Accounts and Reports) Regulations 1995, HMSO, 1995.
Y Swyddfa Gartref, Charities Act 1993 c. -10. HMSO, 1993.
Y Swyddfa Gartref, Charities and Not-for Profits, a modern legal framework. The Government's response to "Private Action, Public benefit", HMSO 2003.
PricewaterhouseCoopers, Value Reporting review 2003 - Transparency in corporate reporting, 2003.
Scott, N. Valuing Volunteers - the hidden asset, CIPA Spectrum, rhifyn 4, Mawrth, 2004.
Uned Strategaeth, Private Action, Public Benefit - a review of Charities and the wider not-for profit sector, Swyddfa'r Cabinet, 2002.
Cydnabyddiaethau
Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at gynhyrchu'r adroddiad hwn.
Rhaid diolch yn arbennig i aelodau Grŵp Elusennol PricewaterhouseCoopers LLP am eu cymorth ac i Paul Bussy (FCA) am ei gymorth a'i fewnwelediadau gwerthfawr wrth greu fframwaith ar gyfer yr astudiaeth a dadansoddi'r canlyniadau.