Elusennau a Eithrir ac a Esgusodir

Mae rhai elusennau wedi'u 'heithrio' neu eu 'hesgusodi' rhag cofrestru gyda ni.

Nid oes rhaid i elusennau a 'eithrir' gofrestru, ond maent yn cael eu rheoleiddio gennym ni. Mae hyn yn golygu y gallwn fynnu eu bod nhw'n rhoi gwybodaeth i ni am eu gweithgareddau ac ymchwilio iddynt os ydym o'r farn bod achos o bryder. Cânt eu galw'n elusennau a eithrir oherwydd maent wedi cael eu heithrio o'r gofyniad i gofrestru gyda ni, naill ai trwy ddeddfwriaeth neu drwy orchymyn. Mae'r rhan fwyaf o'r elusennau hyn yn:

  • eglwysi a chapeli rhai enwadau Cristnogol (a chronfeydd sy'n gysylltiedig â nhw)
  • cronfeydd gwasanaeth elusennol y lluoedd arfog
  • Grwpiau Sgowtiaid a Geidiaid

Nid yw elusennau y tu allan i'r categorïau hyn yn debygol o gael eu heithrio.

Gweler hefyd Newidiadau i elusennau a eithrir ac a esgusodir o dan Ddeddf Elusennau 2006

Ni all elusennau a 'esgusodir' gofrestru gyda ni ac nid ydym yn eu rheoleiddio oherwydd cânt eu harolygu gan reoleiddiwr arall. Mae'r rhan fwyaf o elusennau a esgusodir wedi'u rhestru yn Atodlen 2 i Ddeddf Elusennau 1993, ond mae rhai elusennau wedi'u hesgusodi gan ddeddfau eraill. Ar hyn o bryd mae elusennau a esgusodir yn cynnwys:

  • y rhan fwyaf o brifysgolion yn Lloegr
  • elusennau wedi'u sefydlu fel Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus
  • nifer o amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol
  • cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a sefydledig

I wybod rhagor am elusennau a esgusodir gweler Elusennau a esgusodir (CC23).

Newidiadau i elusennau a eithrir ac a esgusodir o dan Ddeddf Elusennau 2006

Mae Deddf 2006 yn creu system decach a symlach gyda dulliau rheoleiddio tebyg i bob elusen. Mae'r newidiadau'n cael eu cyflwyno'n raddol. Egwyddorion allweddol y system newydd yw bod:

  • elusennau yn gallu cael eu 'heithrio' dim ond os yw eu hincwm yn llai na £100,000 y flwyddyn - mae elusennau gydag incwm sy'n fwy na £100,000 yn colli eu heithriad ac mae'n rhaid iddynt gofrestru (gall y trothwy incwm hwn gael ei ostwng dros amser)
  • rhaid i elusennau a esgusodir naill ai gael:
    • 'prif reoleiddiwr' i'w rheoleiddio fel elusennau; neu
    • beidio â chael eu hesgusodi mwyach a chael y Comisiwn fel rheoleiddiwr.

Newidiadau i Ddulliau Rheoleiddio Elusennau a Eithrir ac a Esgusodir - mae'n esbonio sut mae'r Llywodraeth yn gwneud y newidiadau, a sut maent yn gweithio.

Rhagor o wybodaeth am y Mathau eraill o elusennau nad oes rhaid iddynt gofrestru

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint | Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd | Cwcis