Dogfennau Llywodraethol Enghreifftiol

(Fersiwn Mehefin 2011)

Os ydych chi'n ffurfio elusen, bydd defnyddio un o'n dogfennau llywodraethol enghreifftiol yn arbed amser ac yn cyflymu'ch cais i gofrestru. Mae pob un yn cynnwys y darpariaethau sylfaenol y mae nifer o elusennau yn eu defnyddio.

Os ydych chi'n diweddaru dogfen lywodraethol mae'n bosib y bydd y rhain yn ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer darpariaethau enghreifftiol. Fodd bynnag, efallai na fyddwch chi'n gallu mabwysiadu cymal sy'n caniatáu i'ch ymddiriedolwyr elusen gael budd ariannol neu fudd arall heb ein caniatâd. Gweler Treuliau a thaliadau ymddiriedolwyr (CC11).

Os ydych chi'n paratoi eich dogfen lywodraethol eich hun, neu'n dewis un gan ddarparwr gwahanol, dylech fod yn arbennig o ofalus (a cheisio cyngor os oes angen) i sicrhau bod ei darpariaethau yn cyfateb â statws elusennol. I gael rhagor o wybodaeth gweler Dewis a Pharatoi Dogfen Lywodraethol (CC22).

Y dogfennau enghreifftiol sydd ar gael yw:

GD1
GD2
Ymddiriedolaethau Elusennol: Gweithred Ymddiriedolaeth Enghreifftiol
GD3
Cymdeithasau Elusennol: Cyfansoddiad Enghreifftiol
Cyfansoddiad Elusen Fach

I ddefnyddio unrhyw un o'r rhain, bydd rhaid i chi argraffu'r ddogfen a'i chwblhau â llaw. Rydym yn darparu'r dogfennau enghreifftiol mewn fformat PDF nad oes modd ei olygu yn unig oherwydd mae unrhyw newidiadau i'r testun yn golygu na fyddai'n ddogfen enghreifftiol mwyach.

Yna bydd rhaid i chi lofnodi'r fersiwn gwreiddiol. Dylai'r ymddiriedolwyr gadw'r gwreiddiol ac anfon copi atom.

© Hawlfraint y Goron

© 2012 Hawlfraint y Goron          Hysbysiad Hawlfraint, Ymwadiad a Datganiad Preifatrwydd