Mae ein system sy'n ystyriol o ddefnyddwyr yn rhoi canllawiau ar-lein sy'n eich tywys trwy'r broses o lenwi'r ffurflen. Pan fyddwch wedi cwblhau'r chwe sgrin gyntaf, yn dibynnu ar y math o ddogfen lywodraethol sydd gennych, byddwch yn cael cyfeirnod cais. Pan fyddwch wedi derbyn y rhif hwn gallwch gadw'r ffurflen unrhyw bryd a dychwelyd ati rywbryd arall os dymunwch. Mae enghraifft isod sy'n dangos ble byddwch yn gweld cyfeirnod eich cais ar y Cais Ar-lein.
Cyn dechrau'r broses cais i gofrestru ar-lein argymhellwn y dylech:
Cyn gwneud cais i gofrestru elusen newydd, rhaid i chi ddarllen ein Canllawiau budd cyhoeddus. Bydd yn esbonio sut y dylai'ch cais ddangos bod nodau eich sefydliad yn elusennol er budd y cyhoedd. Ni all gael rhai nodau sy'n elusennol ac eraill sydd heb fod yn elusennol. Mae ein Canllawiau ar ddibenion elusennol yn nodi pa nodau ('dibenion') sy'n cael eu hystyried yn elusennol a pham.
Cais i gofrestru elusen
|
|
Pan fyddwch yn barod gallwch lenwi ac anfon eich cais i gofrestru ar-lein.
Mewngofnodi
Cofiwch, pan fyddwch wedi cael eich cyfeirnod gallwch gadw a mynd yn ôl at eich cais unrhyw bryd cyn clicio'r botwm Anfon.
Hefyd gallwch lenwi a chyflwyno fersiwn electronig yn Gymraeg yma.
|